Arweinyddiaeth mewn Addysg

Cyhoeddwyd 16/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

16 Mai 2017 View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Y prynhawn yma (16 Mai 2017), bydd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, yn gwneud datganiad yn y Senedd ynghylch arweinyddiaeth mewn addysg. Mae adroddiadau Estyn un ar ôl y llall wedi nodi pwysigrwydd arweinyddiaeth gref ac effeithiol i wella safonau addysg. Yn ei adroddiad blynyddol diweddaraf (2015/2016), nododd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru mai arweinyddiaeth yw'r 'ffactor pwysicaf' yng ngwelliant ysgolion. Yn flaenorol, mae Estyn hefyd wedi adrodd:
Lle bydd angen rhoi mesurau arbennig ar waith mewn ysgol, neu lle bydd angen gwelliant sylweddol ynddi, mae arweinyddiaeth wan yn destun pryder bron bob tro. (Adroddiad Blynyddol 2013/14)
Un o'r tri chwestiwn allweddol a ddefnyddir gan Estyn yn ei Fframwaith Arolygu Cyffredin yw 'Pa mor dda yw'r arweinyddiaeth a'r rheolaeth?'. Mae offeryn data ar-lein Estyn yn dangos y gyfran o ysgolion a adolygwyd rhwng mis Medi 2010 a mis Awst 2016, y dyfarnwyd iddynt fod â’r safonau arweinyddiaeth a ganlyn:
  • Ysgolion cynradd: 6% Rhagorol; 68% Da; 22% Boddhaol; 4% Anfoddhaol
  • Ysgolion uwchradd: 14% Rhagorol; 45% Da; 33% Boddhaol; 8% Anfoddhaol
Argymhellodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei adolygiad 2014 (PDF 3.57MB) y dylai Llywodraeth Cymru drin yr angen i ddatblygu system arweinyddiaeth fel prif symbylydd ar gyfer diwygio addysg. Caiff systemau addysg o safon uchel mewn gwledydd eraill, gan gynnwys y rheiny sy'n tueddu i wneud yn dda yn y Rhaglen Asesu Ryngwladol ar gyfer Myfyrwyr (PISA), eu nodweddu i fod yn systemau sy'n 'hunan-wella', a dyma'r model yr hoffai Llywodraeth Cymru ei gael yn y tymor hir. Fodd bynnag, mae'n cadw offer atebolrwydd megis mesurau perfformiad yn seiliedig ar ganlyniadau TGAU a chategorïau cenedlaethol ysgolion, gyda'r categorïau hynny â'r diben datganedig o nodi a chyfarwyddo'r lefel o gymorth ac ymyriadau sydd eu hangen ar ysgolion. Mae un o bedwar amcan strategol cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella addysg, sef Cymwys am Oes (2014-2020), ar gyfer
Arweinwyr addysg ar bob lefel yn cydweithio mewn system hunan-wella, gan helpu a herio ei gilydd er mwyn codi safonau ym mhob ysgol.
Roedd Cymwys am Oes, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2014, yn darparu crynodeb o'r hyn yr oedd Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran gwella arweinyddiaeth hyd at y pwynt hwnnw, a'r hyn yr oedd yn cynllunio ei wneud yn ystod y blynyddoedd i ddod (gweler tudalennau 21-24). Yn fwy diweddar, mae hyn wedi esblygu i gynnwys datblygu Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol, o dan Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Mewn datganiad ar 17 Tachwedd 2016, dywedodd y byddai'r corff newydd yn 'helpu i symud ein hagenda ddiwygio ymlaen a darparu’r cyfleoedd dysgu ar gyfer arweinwyr heddiw ac arweinwyr y dyfodol sydd eu hangen er mwyn creu cymuned lewyrchus o arweinwyr ym myd addysg'. Penodwyd cyn Brif Arolygydd Estyn, Ann Keane, yn gadeirydd y bwrdd cysgodol a osodwyd â'r dasg o asesu’n llawn hyd a lled y gwaith, y strwythur trefniadol, y trefniadau llywodraethu, a’r weledigaeth ar gyfer yr Academi arfaethedig. Roedd yn amlwg o araith Kirsty Williams, Hunan-wella'r System Addysg (12 Gorffennaf 2016), yn y misoedd cyntaf wedi iddi gael ei phenodi, y byddai arweinyddiaeth mewn addysg yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Rwy’n bwriadu datblygu strategaeth gweithlu ac arweinyddiaeth i nodi'n bendant darlun clir a chydlynol o'r ffordd ymlaen ar gyfer y gweithlu a sut y bydd hynny'n cael ei ddatblygu a'i gefnogi drwy'r broses o newid. Bydd y strategaeth hon yn adeiladu ar y cynlluniau presennol a gafodd eu datblygu yn rhan o'r fargen newydd ar gyfer y gweithlu addysg, megis y defnydd o ysgolion arloesol i gefnogi dysgu proffesiynol cymheiriaid i gymheiriaid, cyflwyno pasbort dysgu proffesiynol gwell a chryfhau cynlluniau datblygu ysgolion i gefnogi cynllunio a dewis mwy effeithiol o ddysgu proffesiynol.
Roedd Asesiad Polisi Cyflym y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (PDF 2.91MB) – a gomisiynwyd yn hydref 2016 ac a adroddwyd ym mis Chwefror 2017 – yn ategu bod arweinyddiaeth yn hanfodol i wella addysg a galwyd am sylw pellach o ran polisi, fel a ganlyn:
Making leadership development a prime driver of the Welsh education strategy. Move forward with the establishment of the National Academy of Educational Leadership. Speed up development of leadership standards and the professional learning offer for (aspiring) leaders. Ensure that these policies are aligned with the new teaching standards and the Welsh school as a learning organisation model under development. Promote the use of highly skilled business managers for schools, or group of schools, to reduce the administrative burden on school leaders so they can focus on educational leadership and developing their schools into learning organisations and through this ensure the “readiness” of staff to absorb the new curriculum.
Wrth ymateb i Adolygiad Cyflym y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd 28 Chwefror 2017, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Yn hanesyddol, nid ydym ni wedi rhoi digon o werth ar yr agwedd hollbwysig hon ar godi safonau yn ein hysgolion. Ers ymgymryd â'r swydd, mae wedi bod yn amlwg i mi fod arweinyddiaeth yn faes sy'n mynnu gwaith datblygu sylweddol a brys. Ers i’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ymweld ym mis Tachwedd, mae’r gwaith ar arweinyddiaeth yn datblygu trwy sefydlu’r Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol a gallaf sicrhau’r Siambr hon, y proffesiwn a'r rhieni, y bydd datblygu arweinyddiaeth yn rhan allweddol o’n strategaeth addysg. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen arweinwyr cryf ar Gymru sy'n barod am yr her.
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Kirsty Williams wrth fforwm trafod ar y genhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg - busnes pawb, a gynhaliwyd gan Positif, beth bynnag oedd y mater neu'r broblem a gâi ei drafod mewn addysg, yr ateb bron bob tro yw safon yr addysg a safon arweinyddiaeth'. Yn ddiau, bydd arweinyddiaeth yn rhan amlwg yn y fersiwn ddiweddaraf o'r cynllun Cymwys am Oes, y mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ei gyhoeddi cyn hir. Bydd datganiad Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfle i Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid glywed rhagor am ddull Llywodraeth Cymru o ran gwella arweinyddiaeth mewn addysg, a chraffu ar y dull hwnnw.
Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.   Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Arweinyddiaeth mewn Addysg (PDF, 216KB)