Aros yng Nghymru? Pwyllgor y Senedd yn cadw’r sbotolau ar yr Ewropeaid a arhosodd ar ôl Brexit

Cyhoeddwyd 08/04/2024   |   Amser darllen munud

Roedd yn rhaid i ddinasyddion Ewrop a oedd yn byw yn y DU cyn Brexit wneud cais i aros cyn 30 Mehefin 2021.

Er bod bron tair blynedd ers y dyddiad cau hwnnw, mae Llywodraeth y DU yn dal i gael cannoedd o geisiadau o Gymru bob mis fel rhan o’i Chynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (y Cynllun Preswylio). Ers i'r dyddiad cau fynd heibio ym mis Mehefin 2021, nid yw’r ceisiadau misol wedi gostwng islaw 460, ac roedd rhwng 570 ac 830 bob mis yn 2023. 

Sefydlwyd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd (“y Pwyllgor”) ym mis Mehefin 2021 - yr un mis â dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i’r Cynllun Preswylio. Mae wedi monitro'r Cynllun Preswylio ers hynny, a’i ail adroddiad blynyddol, a gyhoeddwyd ar 8 Ebrill, yw penllanw’r gwaith hwn.

Yr erthygl hon yw’r ddiweddaraf yn ein cyfres ar ystadegau’r Cynllun Preswylio, ac mae’n crynhoi canfyddiadau'r Pwyllgor.

Aros yng Nghymru?

Mae Ewropeaid sy'n gwneud cais i'r Cynllun Preswylio yn cael un o nifer o ganlyniadau posibl. Er mwyn aros, mae angen statws 'sefydlog' (parhaol) neu statws 'cyn-sefydlog' (pum mlynedd) ar ddinasyddion. Caiff ceisiadau aflwyddiannus eu categoreiddio fel rhai a wrthodwyd, rhai annilys, rhai a dynnwyd yn ôl neu'n rhai di-rym.

Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos mai 120,440 o geisiadau a ddaeth o Gymru hyd at 31 Rhagfyr 2023. Roedd 20,570 (17.1%) ohonynt yn geisiadau hwyr, a ddaeth i ar ôl y dyddiad cau, sef 30 Mehefin 2021. 

Penderfynwyd ar 118,990 (98.8%) o geisiadau cyn y trothwy ar gyfer llunio’r ystadegau.

O'r rhain, dyfarnwyd statws preswylydd sefydlog i 65,770 (55.3%) ohonynt, a statws preswylydd cyn-sefydlog i 39,940 (33.6%) ohonynt. Mae hyn yn golygu y gall 105,710 o Ewropeaid aros yng Nghymru, naill ai’n barhaol neu dros dro. Hyd yn hyn, mae hyn 10,710 yn uwch na’r amcangyfrifon gwreiddiol o 95,000 o ddinasyddion cymwys.

Roedd 13,270 (11.2%) o geisiadau yn rhai aflwyddiannus. O'r rhain, cafodd 7,600 (6.4%) eu gwrthod, cafodd 2,750 (2.3%) eu tynnu'n ôl neu eu hystyried yn ddi-rym, ac roedd 2,920 (2.5%) yn annilys.

Ceisiadau i’r Cynllun Preswylio o Gymru yn ôl dyddiad, ceisiadau y penderfynwyd arnynt a chanlyniadau yn ôl y canrannau a’r niferoedd

Ffeithlun yn crynhoi'r ystadegau allweddol a ddisgrifir uchod.

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU Ystadegau chwarterol ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, Rhagfyr 2023 Mae'r niferoedd yn cael eu talgrynnu i'r 10 agosaf felly mae'n bosibl na fydd y ffigurau’n cyfateb i'r cyfansymiau cyffredinol.

Mae'r map isod yn dangos nifer y dinasyddion â statws cyn-sefydlog yn ardal pob awdurdod lleol yng Nghymru. Dangosir cyfanswm y ceisiadau i’r Cynllun Preswylio mewn cromfachau:

Nifer y dinasyddion â statws cyn-sefydlog a chyfanswm y ceisiadau i’r Cynllun Preswylio, fesul awdurdod lleol

Yr awdurdodau lleol â’r nifer uchaf o ddinasyddion â statws cyn-sefydlog oedd Caerdydd (10,430 o 28,600 o geisiadau), Casnewydd (4,520 o 14,750 o geisiadau), Abertawe (4,080 o 11,010 o geisiadau), Sir y Fflint (3,520 o 10,490 o geisiadau), a Wrecsam (3,350 o 10,800 o geisiadau). Roedd yr awdurdodau lleol eraill yn amrywio rhwng 140 a 1,650 o ddinasyddion â statws cyn-sefydlog.

Ffynhonnell: Llywodraeth y DU Ystadegau chwarterol ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, Rhagfyr 2023 Mae'r niferoedd yn cael eu talgrynnu i'r 10 agosaf felly mae'n bosibl na fydd y ffigurau’n cyfateb i'r cyfansymiau cyffredinol.

Materion o bwys i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

Ers ei adroddiad monitro cyntaf ym mis Hydref 2021, mae’r Pwyllgor wedi monitro materion allweddol ar gyfer dinasyddion Ewropeaidd sydd eisiau aros yng Nghymru ar ôl Brexit.

Mynegodd ei adroddiad blynyddol cyntaf bryderon am ddinasyddion yn gwneud ceisiadau hwyr a'r rhai nad ydynt wedi gwneud cais o gwbl ac sydd mewn perygl o gael eu gwrthod am wasanaethau, neu hyd yn oed gael eu halltudio. Nododd siomedigaeth hefyd na chafodd llwybr trwydded teulu y Cynllun Preswylio ei ymestyn i gynnig llwybr arall i'r DU i bobl o Wcráin sy’n ffoi o'r rhyfel.

Mae materion allweddol eraill yn cynnwys:

  • bylchau ystadegol;
  • nifer uchel o geisiadau hwyr;
  • cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cyngor a chymorth am ddim; a
  • sut mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’i gilydd.

Y datblygiadau diweddaraf

Ym mis Tachwedd 2023, gofynnodd y Pwyllgor am farn Llywodraeth Cymru ar y materion diweddaraf. Defnyddiwch y cwymplenni isod i gael rhagor o wybodaeth a gweld yr ymateb gan Jane Hutt, y cyn Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip.

Newidiadau i'r Cynllun Preswylio

Cefndir

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mewn ymateb i ddyfarniad yr Uchel Lys, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref newidiadau i'r Cynllun Preswylio fel bod dinasyddion â statws cyn-sefydlog:

  • yn gweld eu statws yn cael ei ymestyn yn awtomatig gan ddwy flynedd o fis Medi 2023; a
  • bod eu statws yn cael ei uwchraddio’n awtomatig i statws sefydlog, gan ddechrau o 2024 (yn hytrach na gorfod gwneud cais newydd).


Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y 39,940 o ddinasyddion â statws cyn-sefydlog yng Nghymru. Mae newidiadau eraill i’r Cynllun Preswylio yn cynnwys canllawiau cais mwy cyfyng a dileu hawl i benderfyniad gael ei adolygu.

Mae’r cyn Weinidog yn croesawu rhai newidiadau gan eu bod yn lleihau’r baich ar ddinasyddion a’r tebygolrwydd na fydd gan bobl statws sicr. Mae adnoddau Llywodraeth Cymru wedi'u diweddaru i adlewyrchu'r newidiadau.


Fodd bynnag, ni ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ynghylch y newidiadau ac ni chafodd unrhyw rybudd ymlaen llaw gan Lywodraeth y DU. Mae’r cyn Weinidog:

  • yn dweud bod diffyg ymgysylltu yn cael “effaith andwyol”; ac
  • yn galw am well ymgysylltu, a wnaeth wella’n ddiweddarach.


Ceisiadau hwyr

Cefndir

Ymateb Llywodraeth Cymru

Roedd rhwng 570 ac 830 o geisiadau hwyr y mis yn parhau i ddod o Gymru yn 2023.

Nifer y ceisiadau misol o Gymru i'r Cynllun Preswylio

Graff yn dangos nifer y ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE o Gymru fesul mis ers i’r cynllun agor ym mis Mawrth 2019, tan 31 Rhagfyr 2023. Roedd nifer y ceisiadau’n amrywio rhwng 450 a 10,000 ac roedd ar ei uchaf (9,850) ym mis Hydref 2019. Roedd cyfnodau eraill lle cafwyd niferoedd uchel, o gwmpas 6,000 i 7,000 o geisiadau misol, ym mis Ebrill 2019, mis Ionawr 2020, mis Rhagfyr 2020 a mis Mehefin 2021. Roedd ceisiadau hwyr y tu hwnt i'r terfyn amser ar 30 Mehefin 2021 yn llai na 1,000 y mis.

Gweld llun maint llawn

Mae’r cyn Weinidog:

  • yn dweud y bydd ceisiadau hwyr dilys yn dal i gael eu gwrthod oherwydd canllawiau mwy cyfyng;
  • yn dweud bod cymhlethdod achosion yn cynyddu ac yn peri problem; ac
  • mae swyddogion y Swyddfa Gartref yn dweud mai ceisiadau sy'n cael eu hailadrodd ac nid ceisiadau newydd yw’r rhan fwyaf o geisiadau hwyr, sef y rheswm dros wneud y canllawiau’n fwy cyfyng.




Cymorth

Cefndir

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ers 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario dros £2.7 miliwn i ddarparu gwasanaethau cyngor a chymorth am ddim i helpu'r rhai sy'n gwneud cais i'r Cynllun Preswylio, ac mae hyn wedi'i ymestyn yn rheolaidd.

Mae cyllid ar gyfer gwasanaethau cyngor yn cael ei ymestyn eto tan 31 Mawrth 2024 ac mae gwasanaethau cymorth ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael eu haildendro.

Gwall system ar statws digidol y Cynllun Preswylio

Cefndir

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ym mis Mai 2023, adroddodd y Financial Times y bu'n rhaid i oddeutu 141,000 o ddinasyddion Ewropeaidd a oedd wedi cael budd-daliadau a thriniaeth y GIG wrth aros am benderfyniad dalu'r symiau yn ôl. Roedd eu statws digidol yn dangos fel 'yn yr arfaeth' a heb ei ddiweddaru i ddangos penderfyniad i wrthod.

Nid yw’r gwall wedi effeithio ar unrhyw ddinasyddion yr UE yng Nghymru. Dywed y cyn Weinidog fod swyddogion wedi holi pob bwrdd iechyd lleol i gadarnhau hyn.

Wcráin

Cefndir

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae ystadegau ar gyfer y DU gyfan yn dangos nifer y ceisiadau gan bobl o Wcráin ond nid oes dadansoddiadau ar gael fesul pob un o wledydd y DU.

Fodd bynnag, dywedodd Llywodraeth y DU wrth Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2023 y daeth 80 o geisiadau i law gyda chyfeiriad yng Nghymru.

Cafwyd 15,700 o geisiadau gan bobl o Wcráin ledled y DU hyd at 31 Rhagfyr 2023.

Nid oes niferoedd pellach ar gyfer Cymru ar gael ac nid yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o faterion penodol ynghylch y Cynllun Preswylio i bobl o Wcráin yng Nghymru.

Adroddiad plant sy'n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal

Cefndir

Ymateb Llywodraeth Cymru

Fe wnaeth adroddiad gan gorff gwarchod y Cynllun Preswylio yn y DU, sef yr Awdurdod Monitro Annibynnol (AMA) adolygu cymorth y Cynllun Preswylio y mae awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn ei ddarparu i blant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal. Canfuwyd nifer o faterion, megis diffyg prosesau wedi’u dogfennu a gwaith cadw cofnodion cywir.

O ganlyniad i fesurau a gymerwyd gan awdurdodau lleol mewn ymateb, mae'r AMA bellach wedi graddio pob un o'r 22 awdurdod lleol yn 'wyrdd', ac mae Llywodraeth Cymru yn cymeradwyo hynny.

Y camau nesaf

Bron i dair blynedd ers y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, mae’r Cynllun Preswylio yn parhau i fod yn nodwedd allweddol o Gymru ar ôl Brexit. Mae adroddiad y Pwyllgor a'r trafodaethau gyda'r cyn Weinidog yn adlewyrchu llawer o gymhlethdodau sy'n dod i'r amlwg wrth i fwy o amser fynd heibio.

Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi dinasyddion Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru yn y dyfodol, a gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud hyn. Mae'n argymell bod y Llywodraeth yn mynd ati i fonitro'r newidiadau a ddisgrifir uchod i'r Cynllun Preswylio yn agos ac yn parhau i dargedu cymorth at grwpiau sy’n anoddach eu cyrraedd, heb gynrychiolaeth ddigonol ac agored i niwed, gan gynnwys y gymuned Roma.

Wrth iddo aros am ymateb gan Lywodraeth Cymru, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i gyhoeddi adroddiadau rheolaidd sy'n canolbwyntio ar Gymru drwy gydol y Senedd hon. Mae hyn yn golygu y bydd y Senedd yn parhau i gael gwybod am y materion sy’n cal eu trafod yma tan o leiaf etholiad nesaf y Senedd yn 2026.


Erthygl gan Sara Moran, Helen Jones a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru