Aros yng Nghymru: Dinasyddion Ewropeaidd yn gwneud cais i aros ar ôl methu'r dyddiad cau

Cyhoeddwyd 20/01/2022   |   Amser darllen munudau

Roedd angen i ddinasyddion Ewropeaidd a oedd yn byw yng Nghymru cyn Brexit wneud cais i aros erbyn 30 Mehefin 2021. Gwnaed dros 6.3 miliwn o geisiadau i Gynllun Preswylio’n Sefydlog Llywodraeth y DU i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd erbyn 30 Tachwedd 2021.

Mae'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar agor o hyd ar gyfer ceisiadau hwyr. Mae pryderon wedi eu mynegi bod y rhai a fethodd y dyddiad cau yn preswylio’n anghyfreithlon yn y DU yn awtomatig ers 1 Gorffennaf 2021. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi addo diogelu hawliau'r rhai sydd â sail resymol dros fethu'r dyddiad cau.

Mae’r erthygl hon yn cyflwyno’r ystadegau chwarterol diweddaraf hyd at 30 Medi 2021, gan gynnwys faint o geisiadau hwyr a wnaed gan bobl yng Nghymru ar ôl y dyddiad cau. Mae’n darparu ffeithluniau wedi’u diweddaru sy’n olrhain cynnydd y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru ac sy’n crynhoi’r camau diweddaraf a gymerwyd gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd a Llywodraeth Cymru. Mae ein herthygl flaenorol yn trafod y ceisiadau a ddaeth i law cyn y dyddiad cau.

Trosolwg

Mae hawliau dinasyddion yn rhannau allweddol o’r cytundebau rhwng y DU, yr UE a gwledydd Ewropeaidd eraill fel rhan o broses Brexit. Rhaid i Lywodraeth Cymru gydymffurfio â’r cytundebau hyn, ac mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am weithgarwch sy'n gysylltiedig â’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru.

Hyd at 30 Medi 2021, cafwyd 102,170 o geisiadau gan bobl yng Nghymru, gan gynnwys 17,660 o geisiadau ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed. Gwnaed penderfyniad ynghylch 96,620 o geisiadau.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn cael statws naill ai fel 'preswylydd sefydlog' neu 'breswylydd cyn sefydlu'. Mae esboniadau manylach o’r holl dermau perthnasol ar gael yn ein herthygl flaenorol.

Rhoddwyd statws preswylydd sefydlog i 57.2 y cant o ymgeiswyr, a gallant aros yng Nghymru am gyfnod amhenodol; fodd bynnag, maent yn colli eu statws os ydynt yn treulio mwy na phum mlynedd yn olynol y tu allan i'r DU.

Rhoddwyd statws preswylydd cyn sefydlu i 37.5 y cant o ymgeiswyr. Mae hyn yn ddilys am bum mlynedd ac mae’n rhaid ei drosi i statws sefydlog drwy ail gais i aros yn hirach. Mae dinasyddion sydd wedi cael statws preswylydd cyn sefydlu yn colli eu statws os ydyn nhw'n treulio mwy na dwy flynedd yn olynol y tu allan i'r DU.

Mae ein ffeithlun isod yn dangos canran a nifer y ceisiadau gan bobl yng Nghymru. Mae'n dangos a ddaeth y ceisiadau hyn i law cyn/ar ôl y dyddiad cau, a gawsant benderfyniad a chanlyniad y ceisiadau gan ddinasyddion Ewropeaidd yng Nghymru.

Ceisiadau gan bobl yng Nghymru i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yn ôl dyddiad, ceisiadau a gwblhawyd a chanlyniadau yn ôl canran a nifer

Ffeithlun yn dangos canlyniadau 102,170 o geisiadau o Gymru. Gwnaed 97.7 y cant (99,830) o’r ceisiadau hyn cyn y dyddiad cau ac roedd 2.3 y cant (2,340) yn geisiadau hwyr. Mae penderfyniad wedi’i wneud ynghylch 94.6 y cant (96,620) o geisiadau ac mae 5.4 y cant (5,550) ohonynt heb gael penderfyniad eto. O’r ceisiadau y mae penderfyniad wedi’i wneud yn eu cylch, cafodd 57.2 y cant (55,220) statws preswylydd sefydlog, cafodd 37.5 y cant (36,200) statws preswylydd cyn sefydlu a chafodd 2.2 y cant (2,110) eu gwrthod. Roedd 1.6 y cant (1,560) o’r ceisiadau yn annilys a chafodd 1.6 y cant (1,530) ohonynt eu tynnu yn ôl neu roeddent yn ddi-rym.

Dinasyddion sydd â statws preswylydd cyn sefydlu

Rhoddir statws preswylydd cyn sefydlu i ddinasyddion Ewropeaidd sydd wedi byw yn y DU am lai na phum mlynedd, ond a gyrhaeddodd y DU cyn 31 Rhagfyr 2020.

Daw statws preswylydd cyn sefydlu i ben ar ôl pum mlynedd, a rhaid ei drosi i statws preswylydd sefydlog drwy wneud ail gais. Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r 36,200 o ddinasyddion yng Nghymru sydd â statws preswylydd cyn sefydlu wneud ail gais os ydyn nhw am aros am fwy na phum mlynedd.

Mae methu ag ailymgeisio yn arwain yn awtomatig at golli’r hawl i weithio ac i gael mynediad at dai, addysg a budd-daliadau, a gall yr unigolyn dan sylw fod yn agored i gael ei symud o’r DU.

Mae’r corff sy’n gyfrifol am fonitro hawliau dinasyddion Ewropeaidd yn y DU, sef yr Awdurdod Monitro Annibynnol, yn credu bod colli’r hawliau hyn yn awtomatig yn anghyfreithlon oherwydd ei fod yn torri cytundebau rhwng y DU a’r UE a gwledydd Ewropeaidd eraill. Mae’r Awdurdod Monitro Anninbynnol wedi cychwyn adolygiad barnwrol yn erbyn Llywodraeth y DU i herio hyn.

Mae'r map rhyngweithiol isod yn dangos nifer y dinasyddion sydd â statws preswylydd cyn sefydlu ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru fel ar 30 Medi 2021:

Mae nifer y bobl sy'n gwneud cais i drosi eu statws o statws preswylydd cyn sefydlu i statws preswylydd sefydlog wedi'i nodi mewn ystadegau ar ail geisiadau .

Mae Llywodraeth y DU yn nodi bod “y mwyafrif” o ail geisiadau yn geisiadau i drosi statws. Fodd bynnag, ni ddarperir yr union nifer ac ni ddarperir gwybodaeth fesul gwlad y DU. Yn gyfan gwbl, cafwyd 45,700 o ail geisiadau o bob rhan o'r DU.

Mae hyn yn golygu na wyddom faint o geisiadau sydd wedi dod i law gan ddinasyddion sydd â statws preswylydd cyn sefydlu yng Nghymru ac sy’n ceisio trosi eu statws.

Ymgeiswyr hwyr

Roedd ceisiadau yn parhau i ddod i law ar ôl y dyddiad cau a cheir gwybodaeth am y rhain am y tro cyntaf.

Cafwyd 2,340 o geisiadau gan bobl yng Nghymru rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi. Ym mis Gorffennaf, cafwyd 850 o geisiadau hwyr gan bobl yng Nghymru, gyda 670 yn dilyn ym mis Awst ac 820 ym mis Medi.

Dyma yw’r nifer fisol isaf o geisiadau a ddaeth i law ers i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE agor ym mis Mawrth 2019, fel y dangosir isod:

Nifer fisol o geisiadau a ddaeth i law ers i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE agor ym mis Mawrth 2019

Graff yn dangos nifer y ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE gan bobl yng Nghymru fesul mis ers i’r cynllun agos ym mis Mawrth 2019. Roedd nifer y ceisiadau yn amrywio rhwng 1,000 a 10,000, a chafwyd y nifer fwyaf o geisiadau (9,840) ym mis Hydref 2019. Cafwyd rhwng 6,000 a 7,000 o geisiadau misol ym mis Ebrill 2019, mis Ionawr 2020, mis Rhagfyr 2020 a mis Mehefin 2021. Cafwyd llai na 1,000 o geisiadau hwyr y mis yn ystod y tri mis ers y dyddiad cau ar 30 Mehefin 2021.

Mae Llywodraeth y DU yn cynghori y bydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried ar gyfer y rhai sydd â sail resymol am golli'r dyddiad cau, er enghraifft rhiant sydd wedi methu â gwneud cais ar ran plentyn neu rywun sydd â chyflwr meddygol difrifol. Mae Llywodraeth y DU wedi addo diogelu hawliau ymgeiswyr hwyr hyd nes y penderfynir ar eu cais ac unrhyw apêl.

Dim cais

Os nad yw person wedi gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a’i fod yn dod i gysylltiad ag awdurdodau’r DU, bydd yn cael hysbysiad 28 diwrnod i wneud cais.

Yn ôl Llywodraeth y DU, ni fydd pobl nad ydynt wedi gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar ôl y cyfnod rhybudd o 28 diwrnod yn gymwys i gael gwaith, budd-daliadau na gwasanaethau ac ni fyddant yn pasio gwiriadau tenantiaeth. Efallai y byddant yn atebol am gamau gorfodi, er bod Llywodraeth y DU yn pwysleisio na fydd alltudio yn digwydd yn awtomatig. Hefyd, mae’n rhaid i gyflogwyr a landlordiaid roi gwybod i’r Swyddfa Gartref am bobl nad ydynt wedi gwneud cais.

Y Senedd a Llywodraeth Cymru

Ym mis Hydref, cytunodd aelodau o Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd i:

  1. gyhoeddi adroddiadau monitro rheolaidd ar hawliau dinasyddion Ewropeaidd yng Nghymru, sydd ar gael ar y wefan y Senedd.
  2. rhannu eu hadroddiadau â'r Awdurdod Monitro Annibynnol.
  3. gofyn am yr asesiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru o'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru, yn enwedig o ran sut y bydd yn cefnogi ymgeiswyr hwyr a dinasyddion sydd â statws preswylydd ‘cyn sefydlu’ yn y dyfodol.

Mewn ymateb, rhoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fanylion am Grŵp Cydgysylltu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, gan ddisgrifio ei weithgareddau diweddaraf i godi ymwybyddiaeth ac esbonio sut y bydd yn defnyddio ei wasanaethau cyngor a chymorth am ddim sydd wedi’u hymestyn yn ddiweddar tan “o leiaf” mis Mawrth 2022. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan y Gwasanaeth Cyngor Mewnfudo i Ddinasyddion yr UE yng Nghymru.


Erthygl gan Sara Moran, Helen Jones a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru