Ariannu gwasanaethau bysiau

Cyhoeddwyd 11/03/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

11 Mawrth 2014 Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru [caption id="attachment_992" align="aligncenter" width="300"]Llun o Wikipedia. Dan drwydd Creative Commons. Llun o Wikipedia. Dan drwydd Creative Commons.[/caption]

Mae’r blog hwn yn cynnwys gwybodaeth a fydd, efallai, yn ddefnyddiol i’r Aelodau cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Mawrth am wasanaethau bysiau a gallu pobl ifanc i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae’n adeiladu ar y wybodaeth yn y blog a bostiwyd yn ddiweddar am newidiadau i gynllunio ac ariannu trafnidaeth yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2014.

Cymorth i wasanaethau bysiau – ychydig o hanes

Ym mis Ionawr 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ostyngiad yn y Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau a’r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol o £17 miliwn i £8 miliwn, yn ôl eu trefn, o 1 Ebrill 2012 ymlaen. Dywedodd y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr, sy’n cynrychioli’r diwydiant bysiau masnachol, fod hyn yn ostyngiad o 25%.  Cafodd y penderfyniad hwn ei wrthdroi yn y tymor byr nes caiff yr adolygiad o drefniadau ariannu bysiau Cymru ei gwblhau.

Ar 17 Ionawr 2013 cafwyd datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cyhoeddi y byddai Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol, a fyddai’n cael ei weinyddu gan y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol,  yn disodli’r Grant Gweithredwyr Gwasanaethau Bysiau a’r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol ym mis Ebrill 2013.  Y cyfanswm yn 2013-14 oedd £25m at gilydd.

Cymorth i wasanaethau o fis Ebrill 2014 ymlaen

Ar 16 Ionawr 2014, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafniadiaeth y byddai y Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau’n disodli’r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol ac yn cael ei ddyrannu’n uniongyrchol i awdurdodau lleol.

Er nad yw’r arweiniad terfynol wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru eto, mae’r arweiniad drafft diweddaraf yn nodi y bydd £25m ar gael eto ar gyfer 2014-15. Er bod y swm hwn yr un fath ag a ddyranwyd yn 2013-14, mae’n ostyngiad mewn termau real o’r naill flwyddyn i’r llall.

At hyn, er bod 10% o arian Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi’i glustnodi ar gyfer gwasanaethau Trafnidiaeth Gymunedol, mae’r arweiniad drafft i’r Grant Cymorth Gwasanaethau Bysiau’n awgrymu y gellid lleihau’r ganran hon:

Local authorities collectively – at an all-Wales or area level – should allocate at least 5% of BSSG to support provision of services by community transport providers.  The Welsh Government strongly recommends that a figure of 10% is achieved.

Tocynnau teithio rhatach

Caiff gweithredwyr bysiau ad-daliad gan awdurdodau lleol i sicrhau ‘nad ydynt ar eu colled nac ar eu hennill’ wrth gludo teithwyr sy’n cael tocynnau teithio rhatach. Gwneir hyn drwy gymhwyso ‘ffactor addasu’, h.y. gostyngiad canrannol a gymhwysir i docyn unffordd arferol i bob gweithredwr i adlewyrchu’r ffaith bod y cynllun, er enghraifft, yn annog pobl i deithio a bod gweithredwyr yn darparu tocynnau aml-daith sydd, yn y pen draw, yn rhatach na thocyn unffordd.

Er bod tocynnau teithio rhatach yn cael eu hariannu i sicrhau ‘ nad yw gweithredwyr ar eu colled nac ar eu hennill’ wrth gymryd rhan yn y cynllun, mae deiliaid tocynnau consesiynol yn cyfrif am 45% o’r rhai sy’n teithio ar fysiau Cymru, felly mae’r cynllun yn creu refeniw sylweddol i weithredwyr bysiau.

Rhwng 2011-12 a 2013-14 dyrannwyd cyfanswm o £213m  i’r cynllun drwy gytundeb tair blynedd, gan gynnwys cyfraniadau gan awdurdodau lleol. Y ffactor addasu oedd 73.9%.

Ar 17 Chwefror, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at Brif Weithredwyr awdurdodau lleol Cymru yn nodi y bydd y ffactor addasu’n gostwng i 64% yn dilyn adolygiad o’r modd y caiff y cynllun ei ariannu. Byddai cyfanswm o £189m ar gael dros dair blynedd gan ostwng i £65m yn 2014-15 i £61m yn 2016-17, eto’n cynnwys cyfraniadau awdurdodau lleol, sy’n ostyngiad cynyddol o safbwynt arian parod a thermau real.

Fodd bynnag, er bod llai o arian ar gael yn gyffredinol ar gyfer tocynnau teithio rhatach, mae’n ymddangos nad yw cyfraniadau awdurdodau lleol yn gostwng.

Yn y llythyr a anfonodd Llywodraeth Cymru at y Prif Weithredwyr ar 17 Chwefror, rhestrwyd cyfraniadau’r awdurdodau lleol sy’n dangos bod rhai cyfraniadau wedi cynyddu ers 2013-14 ar ôl newid y dull o’u cyfrifo.

Mae gohebiaeth ddilynol ag awdurdodau lleol yn awgrymu bod y dull cyfrifo hwn wedi’i addasu, ac na fydd cyfraniadau o leiaf rhai awdurdodau lleol yn llai na’u cyfraniadau yn 2013-14. Nid yw’n glir ar hyn o bryd beth y mae hyn ei olygu’n ymarferol nac ai dyma’r achos ym mhob awdurdod lleol.

Pwysau ar gyllidebau’r sector cyhoeddus

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ddatblygu gwasanaethau bysiau a rhoi cymorth i’r diwydiant bysiau.

Fodd bynnag, wrth fwrw ymlaen â’r ymrwymiadau hyn mae Llywodraeth Cymru wynebu gostyngiadau sylweddol yn ei chyllideb ei hun ers yr Adolygiad o Wariant yn 2010. Yn benodol, mae papur y Gweinidog Trafnidiaeth ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft ym mis Hydref 2013 yn nodi bod y gyllideb drafnidiaeth ar gyfer 2014-15 yn cynnwys gostyngiad  o £18.7m, neu 6% o safbwynt arian parod, yng nghyfanswm cyllideb refeniw trafnidiaeth,                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                     o’i gymharu â 2013-14 a gostyngiad pellach o £6.5m yn y gyllideb ddangosol ar gyfer 2015-16.

Yn yr un modd, er bod awdurdodau lleol hefyd yn ariannu gwasanaethau bysiau drwy ddefnyddio arian refeniw craidd, mae setliad llywodraeth leol 2014-15 yn dangos gostyngiad arian parod o 3.4% o’i gymharu â 2013-14.