Twr o fflatiau

Twr o fflatiau

Argyfwng tai Cymru: rôl y cyflenwad tai cymdeithasol

Cyhoeddwyd 03/02/2025   |   Amser darllen munudau

Mae Cymru yng nghanol argyfwng tai, ac mae cynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol yn hanfodol i fynd i’r afael â hynny, yn ôl adroddiad Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd.

Ym mis Mawrth 2024, roedd Llywodraeth Cymru lai na hanner ffordd tuag at gyrraedd ei tharged i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu rhwng 2021 a 2026.

Gyda mwy a mwy o arian cyhoeddus yn cael ei wario'n flynyddol ar gadw pobl ddigartref mewn llety dros dro, sydd yn aml o ansawdd gwael, penderfynodd y Pwyllgor graffu ar berfformiad Llywodraeth Cymru o ran cynyddu nifer y cartrefi cymdeithasol.

Mae adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth hirdymor, cynyddu cyllid cyfalaf, a chymryd camau i sicrhau bod mwy o dir ar gael.

O’r 17 argymhelliad yn yr adroddiad, gwrthododd Llywodraeth Cymru dri ohonynt. Roeddent yn cynnwys galwad i sefydlu corfforaeth ddatblygu genedlaethol i arwain y gwaith o ddarparu safleoedd ar raddfa fawr.

Roedd argymhellion eraill a wrthodwyd yn cynnwys gweithredu i gynyddu capasiti’r sector adeiladu, a safon tai ar wahân ar gyfer caffaeliadau fel y gellid prynu mwy o eiddo presennol a’u troi’n gartrefi cymdeithasol parhaol.

“Màs critigol” o dai cymdeithasol

Roedd Llywodraeth Cymru yn cytuno â llawer o farn y Pwyllgor. Roedd yn cydnabod yr angen am strategaeth ar gyfer darparu tai sy’n edrych y tu hwnt i dymhorau unigol y Senedd. Mae ei Phapur Gwyn diweddar yn cynnwys cynigion ar gyfer strategaeth hirdymor.

Roedd yn derbyn hefyd yr angen i gynyddu cyllid cyfalaf. Mae cyllideb ddrafft 2025-26 yn cynyddu gwariant cyfalaf ar gyfer tai fforddiadwy i £437 miliwn, sydd bron i draean yn uwch na’r gyllideb flaenorol.

Cytunodd Llywodraeth Cymru â’r angen am fwy o adnoddau ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol, i helpu i fynd i’r afael â’r oedi a’r cymhlethdod y mae darparwyr tai yn aml yn dod ar eu traws. Mae ei hymgynghoriad diweddar yn cynnig cynyddu ffioedd cynllunio a diwygio'r fframwaith perfformiad cynllunio.

Cytunodd Llywodraeth Cymru hefyd i edrych eto ar ddatrysiad ariannu ar gyfer prosiectau tai a arweinir gan y gymuned, sef cynnig a gafodd ei wrthod yn flaenorol ym mis Tachwedd 2022.

Ac roedd yn derbyn mewn egwyddor y dylai tai cymdeithasol ffurfio canran uwch o stoc dai gyffredinol Cymru. Ar hyn o bryd, mae tai cymdeithasol yn cyfrif am 16% o dai Cymru. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth bod angen “màs critigol” o leiaf 20% ar genhedloedd er mwyn cydbwyso prisiau yn y farchnad breifat.

Ymrwymodd Llywodraeth Cymru i “wneud gwaith dadansoddi er mwyn deall y camau y mae angen eu cymryd i sicrhau canran uwch ac i lywio amserlenni”.

Mae hyn yn arwydd o newid ym meddylfryd polisi Llywodraeth Cymru. Mae'r targed presennol o 20,000 yn darged gros nad yw'n ystyried colledion stoc o ganlyniad i werthu neu ddymchwel. Gwnaeth rhai rhanddeiliaid dynnu sylw at hyn fel gwendid posibl.

Mae'r targed hefyd yn seiliedig ar amcangyfrifon angen tai sydd wedi dyddio – dywedodd Llywodraeth Cymru y byddant yn cael eu hadolygu yn hydref 2025.

Tir

Newid arall yn ymagwedd Llywodraeth Cymru yw ei pholisi tir. Roedd tir yn thema fawr yn yr ymchwiliad, gyda rhai tystion yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i harneisio’r buddion ariannol a gynhyrchir pryd bynnag y bydd gwerth tir yn codi o ganlyniad i fuddsoddi mewn seilwaith neu ail-barthu.

Mae gwahanol ffyrdd i sicrhau’r cynnydd hwn mewn gwerth tir, gan gynnwys trwy drethi a rhwymedigaethau cynllunio adran 106, ond clywodd y Pwyllgor mai un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol yw drwy lywodraethau’n prynu tir.

Yn ystod tystiolaeth lafar i'r ymchwiliad, datgelodd swyddogion Llywodraeth Cymru eu bod yn y camau cynnar o gwmpasu strategaeth tir, gan gydnabod yr angen i fod yn fwy strategol yn y modd y mae Is-adran Tir Llywodraeth Cymru (yr Is-adran Lle erbyn hyn) yn caffael tir.

Yn ogystal ag argymell mwy o sicrhau gwerth tir, galwodd y Pwyllgor am gymorth i awdurdodau lleol i’w helpu i sefyll yn gadarn gyda datblygwyr wrth drafod cyfraniadau adran 106.

Galwodd am fwy o dryloywder o ran perchnogaeth tir, mwy o adeiladu ar “safleoedd mewnlenwi” llai mewn cymunedau presennol, ac i Lywodraeth Cymru ddyblu ei hymdrechion i geisio cael pwerau i gyflwyno Treth ar Dir Gwag.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob un o’r argymhellion hyn yn llawn, neu mewn egwyddor. Fodd bynnag, ni soniwyd am un agwedd ar bolisi tir yn ei hymateb.

Mae prynu gorfodol yn offeryn a all alluogi cyflenwi safleoedd mawr. Mae pwerau yn Neddf Ffyniant Bro ac Adfywio 2023, sydd heb ei eu defnyddio eto, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo bod datblygiadau tai fforddiadwy er budd y cyhoedd. Byddai hyn yn caniatáu prynu tir yn orfodol am lai na'r gwerth gobaith llawn.

Dywedodd rhai tystion y gallai agwedd deg ac effeithiol at brynu gorfodol gael effaith gadarnhaol ar y cyflenwad. Er na wnaeth y Pwyllgor argymhelliad ffurfiol, dywedodd ei fod yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd cyflym ar ei haddewid blaenorol i ymgynghori ar y pwerau hyn.

Argymhellion a wrthodwyd

Dywedodd darparwyr tai wrth y Pwyllgor y gallai caffaeliadau fod yn rhan fwy o’r ateb gyda mwy o hyblygrwydd o ran safonau ynni a gofod. Er nad oedd aelodau’r Pwyllgor am weld safonau’n cael eu gostwng, cawsant eu perswadio gan dystion, gan gynnwys y rhai a oedd yn cynrychioli tenantiaid cymdeithasol, a oedd yn dadlau y byddai mwy o hyblygrwydd yn ymateb rhesymol i faint yr argyfwng tai.

Dywedodd TPAS Cymru, sy’n sefydliad ymgysylltu â thenantiaid, y dylai Llywodraeth Cymru feddwl sut y gellir parhau i ddiwallu anghenion iechyd a diogelwch tenantiaid ond hefyd sut y gellir sicrhau bod tenantiaid yn cael eu cymryd o ystafelloedd gwesty a’u rhoi mewn llety.

Yn ei hymateb i’r Pwyllgor, dywedodd Llywodraeth Cymru na fyddai “am greu sefyllfa lle roedd disgwyliadau o ran ansawdd yn is ar gyfer rhai cartrefi.” Ac yn ystod y gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft ar 15 Ionawr, datgelodd swyddogion fod y rhaglen gaffael gyfredol wedi'i gordanysgrifio i ddwywaith ei chapasiti a bod eiddo eisoes yn cydymffurfio â safonau.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru hefyd wrthod argymhelliad i ddatblygu strategaeth ar gyfer denu mwy o bobol i’r diwydiant adeiladu, gan ddweud bod camau sylweddol eisoes ar waith.

Yn olaf, gwrthododd gynnig y Pwyllgor am gorfforaeth ddatblygu, gan ddweud y gall yr Is-adran Lleoedd sicrhau’r un canlyniadau am gost is.

Roedd hwn yn un o’r cynigion a oedd yn cael ei gefnogi fwyaf gan dystion yr ymchwiliad. Clywodd y Pwyllgor fod corfforaethau o’r fath wedi gweithio’n dda mewn gwledydd eraill ac yn y gorffennol diweddar yng Nghymru.

Dywedodd tystion nad oes angen i gorfforaeth ddatblygu fod yn fawr ond rhaid cael y gymysgedd gywir o sgiliau, pwerau cyfreithiol, a phwrpas.

Rhaid aros i weld a oes gan Is-adran Lleoedd Llywodraeth Cymru yr hyn sydd ei angen arni i alluogi datblygiad ar raddfa fawr.

Cewch gadw i’r funud â'r ddadl ar y sector rhentu preifat ddydd Mercher ar Senedd.tv, ac fe fydd modd ichi edrych ar y trawsgrifiad yn dilyn hynny.


Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru