Daeth deddfwriaeth Cymru ar isafbris am alcohol i rym ym mis Mawrth 2020, wythnosau’n unig cyn y cyfyngiadau symud. Mae’n gosod pris sylfaen ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru, ac yn ei gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu am lai na’r pris hwnnw.
Mae'r swm y gellir gwerthu diod amdano yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio'r fformiwla isod, sy'n seiliedig ar 'isafbris uned'. Yng Nghymru, 50 ceiniog yw hynny ar hyn o bryd.
Isafbris Uned (50c) x cryfder (% alcohol yn ôl cyfaint) x cyfaint (litr) |
Mae'r erthygl hon yn edrych a yw cyflwyno isafbris wedi lleihau'r defnydd o alcohol a niwed cysylltiedig; effaith pandemig COVID-19 ar arferion yfed; a thystiolaeth o’r Alban, wnaeth roi deddfwriaeth debyg ar waith ddwy flynedd cyn Cymru.
Pam wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno isafbris am alcohol?
Yn 2017, roedd 1 ym mhob 5 oedolyn yng Nghymru yn yfwyr peryglus neu niweidiol (yn yfed mwy na chanllawiau'r DU sef 14 uned o alcohol yr wythnos). Amcangyfrifwyd bod derbyniadau i ysbytai sy’n gysylltiedig ag alcohol yn costio £120 miliwn y flwyddyn i GIG Cymru.
Canfu modelu mai cyflwyno isafbris am alcohol fyddai’r polisi mwyaf effeithiol ar gyfer lleihau yfed a’r niwed cysylltiedig yng Nghymru. Arweiniodd hyn at gyflwyno bil yn y Senedd (gweler yr amserlen isod).
Ffigur 1 – Amserlen deddfwriaeth isafbris am alcohol yng Nghymru
Cliciwch ar y saethau i weld y cerrig milltir
Mis Medi 2014
Cyhoeddi model cyntaf isafbris am alcohol yng Nghymru
Yn ôl Llywodraeth Cymru (pwyslais wedi'i ychwanegu):
Yn y pen draw, diben y Bil [ar y pryd] yw mynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, drwy leihau'r defnydd o alcohol ymhlith pobl sy’n yfed mewn ffordd niweidiol a pheryglus. Yn benodol, mae’r Bil [ar y pryd] wedi’i dargedu at warchod iechyd pobl sy’n yfed mewn modd niweidiol a pheryglus (gan gynnwys pobl ifanc), ac sy'n tueddu i yfed mwy o ddiodydd rhad a rhai sy’n cynnwys lefel uchel o alcohol.
Beth ydym yn ei wybod am newidiadau yn y defnydd o alcohol?
Dangosodd ymchwil effaith ar unwaith ar werthiant alcohol mewn siopau ar ôl i isafbris uned gael ei gyflwyno yng Nghymru. Gostyngodd gwerthiant alcohol 8.6% wrth i brisiau godi 8.2%. Daeth y gostyngiad hwn mewn prynu alcohol yn bennaf o aelwydydd a oedd fel arfer yn prynu’r mwyaf o alcohol, sy’n awgrymu bod isafbris uned yn effeithiol o ran targedu yfwyr trymach.
Rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020, roedd yr alcohol a brynwyd o siopau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban wedi cynyddu. Fodd bynnag, wrth i dafarndai, bariau a chlybiau gau yn sgil y cyfyngiadau symud cenedlaethol, roedd gwerthiant alcohol yn gyffredinol yn is na thueddiadau cyn COVID.
Yn ôl yfwyr, nid oedd isafbris uned yn cael fawr o effaith ar eu defnydd o alcohol. Priodolwyd newidiadau i ymddygiad yfed yn bennaf i’r pandemig COVID-19 yn hytrach nag isafbris.
CanfuAlcohol Change UK bod 10% o yfwyr wedi gostwng faint yr oeddent yn ei yfed o ganlyniad i gyflwyno isafbris yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd 23% yn yfed llai oherwydd y pandemig COVID-19, a 29% yn yfed mwy.
Ymhlith y rhesymau a roddwyd dros yfed mwy roedd gorbryder, iselder, diflastod ac unigrwydd. Roedd y rheini a oedd yn yfed llai yn ei briodoli i gymdeithasu llai neu eisiau gofalu am eu hiechyd.
Yn yr Alban, mae gwerthiant alcohol wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn ers cyflwyno isafbrisiau yn 2018. Mae hyn yn awgrymu ymhellach fod isafbris am alcohol yn effeithiol o ran lleihau faint o alcohol sy’n cael ei yfed ar lefel y boblogaeth.
Fodd bynnag, daeth adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus yr Alban i’r casgliad canlynol:
Among those drinking at harmful levels or people with alcohol dependence, the study found no clear evidence of a change in consumption or severity of dependence.
Beth fu'r effaith ar farwolaethau a derbyniadau i'r ysbyty?
Bu cynnydd o 17.8% mewn marwolaethau sy’n ymwneud ag alcohol yn benodol yng Nghymru o 2019 i 2020.
Ym mis Mehefin 2021, cydnabu’r Prif Weinidog y cynnydd mewn marwolaethau sy’n ymwneud ag alcohol yn benodol a dywedodd:
…mae angen mwy o ddata i gadarnhau ac asesu hyn. Gallai'r rhesymau am unrhyw gynnydd fod yn gymhleth a bydd angen eu dadansoddi ymhellach.
Bu cynnydd yn yr Alban hefyd mewn marwolaethau a oedd yn ymwneud yn benodol ag alcohol yn 2020, o 13.5%.
Cyn y pandemig COVID-19, bu gostyngiad yn yr Alban o 10.6% mewn marwolaethau sy’n ymwneud ag alcohol yn benodol o 2018 i 2019. Mae hyn yn awgrymu y gallai fod yn rhy fuan i ddweud a allai isafbris leihau marwolaethau sy’n ymwneud yn benodol ag alcohol yng Nghymru, oherwydd effeithiau dryslyd pandemig COVID-19.
Yng Nghymru, gostyngodd cyfraddau derbyniadau i ysbytai y gellir eu priodoli i alcohol 23% ym mlwyddyn ariannol 2020-21, o gymharu â 2019-20. Fodd bynnag, roedd derbyniadau brys cyffredinol i ysbytai hefyd wedi gostwng 13.2% yn ystod pandemig COVID-19, gan fod llawer o bobl wedi osgoi ceisio gofal iechyd. Mae’r rhesymau dros ostyngiadau ychwanegol mewn derbyniadau i’r ysbyty y gellir eu priodoli i alcohol yn debygol o fod yn amlochrog.
Roedd cyfradd derbyniadau i ysbytai yn ymwneud ag alcohol hefyd yn is yn yr Alban yn 2020-21 o gymharu â 2019-20. Fodd bynnag, mae Iechyd Cyhoeddus yr Alban wedi nodi gostyngiad cyson yng nghyfradd y derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag alcohol ers 2007-08.
Pa ffyrdd eraill yr effeithiwyd ar bobl?
Yn ystod sesiwn graffu gan y Senedd ar y Bil, ar y pryd, mynegwyd pryderon y byddai cynnydd ym mhrisiau alcohol yn achosi i yfwyr newid i gyffuriau anghyfreithlon rhatach.
Canfu adroddiadau gan Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn 2019, 2021 a 2022 bod newid sylweddau ymhlith yfwyr peryglus a niweidiol yn annhebygol, ac eithrio mewn yfwyr â hanes blaenorol o ddefnyddio cyffuriau. Yn yr Alban, ychydig iawn o yfwyr a ddywedodd eu bod wedi newid i gyffuriau anghyfreithlon.
Roedd pryderon hefyd y byddai’r Bil, ar y pryd, yn effeithio’n anghymesur ar grwpiau incwm isel, gan achosi i yfwyr yn y grwpiau hynny dorri’n ôl ar gostau eraill fel bwyd a gwres.
Yn ôl ymchwil i alcohol sy'n cael ei werthu mewn siopau yng Nghymru, cynyddodd gwariant ar alcohol yn gyflymach ar gyfer aelwydydd ar incwm isel, ar ôl cyflwyno isafbris. Ni wnaeth yr aelwydydd ar yr incwm isaf – a oedd fel arfer yn prynu'r mwyaf o alcohol – leihau faint o alcohol a brynwyd ganddynt, ac o ganlyniad cynyddodd eu gwariant ar alcohol.
Yn ôl canfyddiadau o'r Alban, mae grwpiau incwm isel wedi cynyddu eu gwariant ar alcohol. Arweiniodd hyn at rai yfwyr dibynnol yn lleihau eu gwariant ar fwyd a chyfleustodau.
Beth yw dyfodol isafbris?
Bydd isafbris am alcohol yn dod i ben yng Nghymru ym mis Mawrth 2026, oni bai bod Llywodraeth Cymru yn gwneud rheoliadau i’w ymestyn. Bydd gwerthusiad pellach o effeithiolrwydd y polisi – sy’n un o ofynion y ddeddfwriaeth – yn hanfodol i’r penderfyniad hwn.
Yn yr Alban, mae elusennau alcohol wedi galw ar Lywodraeth yr Alban i godi isafbris uned i 65c i adlewyrchu'r cynnydd mewn chwyddiant ers cyflwyno isafbris, ac i sicrhau mwy o fuddion o'r polisi.
Daeth adroddiad Sefydliad Iechyd y Byd ar isafbris am alcohol i’r casgliad ei fod yn bolisi effeithiol i leihau’r defnydd o alcohol a niwed, ond y dylai ategu trethiant ar alcohol.
Erthygl gan Bonnie Evans, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Bonnie Evans gan y Cyngor Ymchwil Feddygol, a alluogodd i’r Erthygl Ymchwil hon gael ei chwblhau.