Yr wythnos hon yw Wythnos Twristiaeth Cymru. Cyn y pandemig, yn 2019, cafwyd 87.3 miliwn o ymweliadau dydd, ychydig o dan 10.7 miliwn o deithiau domestig dros nos, ac ychydig dros 1 miliwn o deithiau rhyngwladol i Gymru. Mae twristiaeth yn bwysig i Gymru. Mae ffigurau cychwynnol ar gyfer 2019 yn dangos bod twristiaeth wedi cynhyrchu Gwerth Ychwanegol Crynswth (GYC) o £3.4 biliwn, gan gyfrannu 5 y cant o GYC i economi Cymru.
Mae'r ardoll twristiaeth arfaethedig yn bwnc llosg yn y sector. Mae ardollau twristiaeth yn gyffredin mewn llawer o gyrchfannau twristiaeth ar draws y byd. Cânt eu defnyddio i dalu am waith cynnal a chadw i gyfleusterau twristiaeth, yn ogystal â gofalu am yr amgylcheddau y mae twristiaid yn ymweld â nhw.
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a'r Cytundeb Cydweithredu ill dau’n addo cyflwyno deddfwriaeth i ganiatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth.
Mae’r erthygl hon yn egluro beth yw’r ardoll twristiaeth, cyd-destun ehangach ardollau twristiaeth yn fyd-eang ac yn y DU, a’r dadleuon sy’n cael eu gwneud o blaid ac yn erbyn cyflwyno ardoll yng Nghymru.
Beth yw’r Ardoll Twristiaeth Leol a pham mae’n cael ei chynnig?
Byddai’r Ardoll Twristiaeth Leol yn cael ei chymhwyso i arosiadau dros nos yng Nghymru. Cyfrifoldeb awdurdodau lleol fyddai’r penderfyniad i godi ardoll, a byddai’r arian sy’n cael ei godi yn cael ei fuddsoddi yn ardal yr awdurdod lleol.
Dywed Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, fod yr ardoll yn gyfle i awdurdodau lleol “fuddsoddi mewn seilwaith a gwasanaethau lleol sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant”, boed hynny drwy lanhau traethau neu gynnal a chadw toiledau a llwybrau troed.
Mae’r ardoll yn cael ei chynnig i gefnogi dyfodol lleoliadau twristiaeth drwy hyrwyddo twristiaeth sy’n fwy cynaliadwy. Nid oes penderfyniad wedi bod eto ynghylch yr union ffi a gaiff ei chodi ar ymwelwyr.
Beth yw cyd-destun rhyngwladol ardollau twristiaeth?
Yn Ewrop, caiff ardollau twristiaeth, neu drethi meddiannaeth, eu codi ar arosiadau tymor byr, fel arfer yn gymwys i bob person (gydag eithriadau ar gyfer plant) fesul noson.
Maent mor isel â €0.10 ym Mwlgaria ac mor uchel â €7.50 yng Ngwlad Belg. Gall ardollau amrywio hefyd yn ôl y math o lety. Ym Mharis, er enghraifft, mae ardollau'n amrywio o €0.20 ar gyfer meysydd gwersylla i €3.00 ar gyfer gwestai pum seren, ynghyd â threthi adrannol a rhanbarthol ychwanegol sy’n cael eu talu ar bob math o lety. Mae hyn yn cymharu â rhywle fel Porto lle codir €2 y person fesul noson waeth ble rydych chi'n aros. Mewn rhai mannau, fel Berlin (5 y cant) a Fienna (3.2 y cant), caiffg ardollau eu codi fel canran o gost y llety.
Nid yw pob ardoll twristiaeth yn cael ei chodi fesul noson. Yn Japan, mae ymwelwyr yn talu cyfradd unffurf o 1,000 yen Japaneaidd (tua £6) i gwmnïau mordeithiau neu gwmnïau hedfan pan fyddant yn gadael y wlad. Mae Ardoll Cadwraeth Ymwelwyr a Thwristiaeth Ryngwladol Seland Newydd yn ffi sengl o NZ$35 (tua £18) sy’n cael ei thalu cyn i ymwelwyr ddod i mewn i'r wlad.
Beth am ardollau twristiaeth yn y Deyrnas Unedig?
Nid yw’r posibilrwydd o godi ardoll twristiaeth yn torri tir newydd yn y DU, ar ôl cael ei drafod yn yr Ymchwiliad Lyons i Lywodraeth Leol gan Lywodraeth y DU yn 2007. Er na chefnogwyd ardoll gyffredinol ar gyfer Lloegr, gwnaed awgrym i Lywodraeth y DU ystyried y costau a’r manteision o ganiatáu i awdurdodau lleol godi treth dwristiaeth. Roedd Llywodraeth Lafur y DU a'r gwrthbleidiau ar y pryd yn gytûn ynglŷn â pheidio â mynd ar drywydd yr argymhellion.
Ers hynny, mae ardollau twristiaeth lleol wedi cael eu hystyried ar gyfer nifer o leoedd yn y DU, gan gynnwys Llundain, Lerpwl, Cernyw, a Chaerfaddon, ond nid oes yr un ohonynt wedi bwrw ymlaen â'r cynigion hyn.
Yn 2019, ymgynghorodd Llywodraeth yr Alban ar egwyddorion ‘ardoll ymwelwyr dros dro’ mewn ymateb i bwysau twristiaeth mewn rhai ardaloedd yn yr Alban. Cafodd y cynnig ei ohirio ym mis Mawrth 2020 ac nid yw'r cynlluniau wedi ailddechrau eto.
Cafodd tâl cysylltiedig â thwristiaeth ei weithredu ar lefel leol yn 2014, sy’n cael ei ystyried fel y cyntaf yn y DU. Lansiodd Bwrdeistref Hackney yn Llundain brosiect gyda chyfraniad gwirfoddol o £1 wedi'i ychwanegu at arosiadau mewn rhai gwestai lleol, hyd at uchafswm o dair noson. Mae rhoddion yn rhan o Gronfa Gymunedol Hackney, sydd wedi’i chlustnodi i gefnogi cynlluniau hyfforddi lletygarwch a digwyddiadau diwylliannol, ac ariannu gwelliannau i fannau cyhoeddus yn y fwrdeistref. Nid yw'n glir beth fu effaith y fenter hon.
Beth yw barn sector twristiaeth Cymru?
Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru (WTA) yn cydnabod y defnydd o ardollau twristiaeth mewn gwledydd eraill, ond mae’n pwysleisio, lle mae ardollau’n cael eu gweithredu, fod cyfraddau TAW fel arfer yn cael eu gostwng ar dwristiaeth a lletygarwch. Gyda’r gyfradd bresennol o TAW ar draws y DU gyfan, mae Cynghrair Twristiaeth Cymru yn awgrymu y byddai cyflwyno ardoll dwristiaeth yn fath o ‘drethiant dwbl’ o gymharu â chyrchfannau eraill. Mae hefyd yn pryderu y gallai'r gost ychwanegol annog ymwelwyr ar incwm is i beidio â dod i Gymru, neu deithio o fewn Cymru ei hun.
Mae UK Hospitality Cymru wedi dweud mai’r ardoll twristiaeth yw’r ‘dreth anghywir ar yr amser anghywir’, o ystyried effeithiau’r pandemig ar y sector. Mae hefyd wedi dweud y gallai prisiau uwch wthio cwsmeriaid tuag at gystadleuwyr, gyda Chymdeithas Lletygarwch Llandudno yn mynegi sylwadau tebyg am yr effaith y gallai ardoll ei chael ar gystadleurwydd Cymru o’i gymharu â chyrchfannau twristiaeth eraill yn y DU.
Mae Cynghrair Twristiaeth Ynys Môn yn cydnabod bod ardollau twristiaeth yn gweithion mewn cyrchfannau eraill, ond yn rhybuddio yn erbyn ‘ymateb difeddwl’ ac yn galw am ymgynghori â’r sector ac ymwelwyr.
Ble ydym ni nawr a beth sy’n digwydd nesaf?
Yn ddiweddar, cymeradwyodd y Gweinidog gyllid ar gyfer tri phrosiect ymchwil i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r ardoll. Dywedwyd y bydd y gwaith ymchwil yn ystyried effeithiau economaidd ardoll twristiaeth; systemau trethiant y gwledydd eraill lle caiff ardollau twristiaeth eu defnyddio; ac asesiad o ddemograffeg y sector llety yng Nghymru.
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar ddeddfwriaeth ddrafft ar gyfer yr ardoll yn hydref 2022.
Erthygl gan Isobel Pagendam, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru