Archwilio’r pwerau sydd newydd eu datganoli dros waith y Comisiwn Etholiadol ar gyfer etholiadau Cymru

Cyhoeddwyd 23/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Cafodd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 ei phasio gan y Senedd yn gynharach eleni. Roedd y Ddeddf yn gwneud y Comisiwn Etholiadol yn atebol i'r Senedd ar gyfer y gwaith y mae'n ei wneud mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig Cymru, ac yn gwneud darpariaethau ar gyfer ariannu gwaith o'r fath o Gronfa Gyfunol Cymru (cyfrif banc Cymru).

Roedd y Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i'r Senedd sefydlu Pwyllgor y Llywydd i gynnal gwaith craffu ar amcangyfrif ariannol y Comisiwn a'i weithgareddau arfaethedig o ran etholiadau a refferenda datganoledig Cymru.

Gallwch ddarllen mwy am ddarpariaethau eraill Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn ein erthygl flaenorol.

Beth oedd canfyddiadau Pwyllgor y Llywydd?

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 20 Tachwedd. Yn gyffredinol, roedd yn fodlon ag amcangyfrif ariannol y Comisiwn ar gyfer 2021-22 a'i gynllun pum mlynedd.

Fodd bynnag, amlygodd yr adroddiad fod amcangyfrif ariannol y Comisiwn Etholiadol yn llai manwl na chyrff eraill sydd eisoes yn cael eu hariannu gan Gronfa Gyfunol Cymru, er enghraifft Swyddfa Archwilio Cymru. Yn ôl yr adroddiad:

Mae'r amcangyfrif a gyflwynwyd yn cynnwys penawdau a chostau eang, gyda rhywfaint o esboniad am y costau penodol ym mhob llinell gyllideb.

Gofynnodd y Pwyllgor am gyflwyno amcangyfrifon manylach yn y dyfodol.

Nododd y Pwyllgor fod cynllun corfforaethol y Comisiwn Etholiadol ar gyfer 2021-25 “wedi cael ei baratoi cyn i’r ddarpariaeth i ddatganoli trefniadau cyllido ac atebolrwydd y Comisiwn Etholiadol ddod i rym ac y bydd cynllun newydd yn cael ei baratoi yn fuan”. Nododd y canlynol:

Nid yw'r cynllun a gyflwynwyd yn cynnwys manylion am y modd y caiff swyddogaethau'r Comisiwn Etholiadol mewn perthynas ag etholiadau a refferenda datganoledig Cymru eu cyflawni.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai cynllun corfforaethol newydd y Comisiwn Etholiadol gynnwys y canlynol:

  • gwybodaeth fanwl am ei weithgareddau arfaethedig yn ymwneud ag etholiadau a refferenda datganoledig Cymru; a
  • mesurau perfformiad, yn benodol i’w weithgareddau yng Nghymru.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd amcangyfrif ariannol y Comisiwn Etholiadol a osodir gan y Pwyllgor yn cael ei gynnwys yng Nghynnig y Gyllideb Flynyddol y bydd y Senedd yn cytuno arno.

At hynny, bydd y Pwyllgor yn mewnbynnu i gynllun corfforaethol newydd y Comisiwn, a fydd yn cael ei gyflwyno yn ystod ail hanner 2021.


Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru