Ar 7 Mawrth 2023, bydd y Senedd yn trafod Cyllideb Derfynol 2023-24, Cyfraddau Treth Incwm Cymru a’r Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer 2023-24.
Cyllideb Derfynol 2023-24
Yn dilyn gwaith craffu a dadl ar y Gyllideb Ddrafft, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Gyllideb Derfynol ar 28 Chwefror 2023.
Yn ei datganiad ysgrifenedig, nododd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol “yn ogystal â’r dyraniadau rydym eisoes wedi’u nodi yn y Gyllideb Ddrafft, mae Cyllideb Derfynol 2023-24 yn cynnwys dyraniadau cyfalaf Trafodiadau Ariannol a nifer o newidiadau gweinyddol”.
Mae'r ffeithluniau isod yn crynhoi'r dyraniadau allweddol yn ôl adran y llywodraeth a sut mae'r rhain wedi newid ers Cyllideb Ddrafft 2023-24.
Dyraniadau Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
Gwariant y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2023-24 fesul Adran
Gellir ystyried dyraniadau allweddol y Gyllideb Derfynol yn fanylach yn ein delweddwr cyllideb rhyngweithiol.
Cyfraddau Treth Incwm Cymru
Bydd dadl hefyd yn cael ei chynnal yn y Senedd i bennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nad yw’n bwriadu newid Cyfraddau Treth Incwm Cymru ar gyfer 2023-24. Mae hyn yn golygu y bydd trethdalwyr sy'n byw yng Nghymru a Lloegr yn parhau i dalu'r un faint o dreth incwm.
Cyhoeddi’r cyllid terfynol ar gyfer llywodraeth leol
Ochr yn ochr â’r Gyllideb Derfynol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Setliad Llywodraeth Leol Terfynol ar gyfer 2023-24. Buom yn trafod y setliad dros dro, a oedd yn cyd-fynd â’r Gyllideb Ddrafft, fis diwethaf. Ar sail tebyg am debyg, roedd cyllid refeniw craidd ar draws y 22 awdurdod lleol i fod i gynyddu 7.9 y cant o gymharu â 2022-23, i £5.5 biliwn. Dywedodd y Gweinidog nad oedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y setliad dros dro wedi nodi “unrhyw faterion y dylid newid y dull gweithredu a ddefnyddir mewn perthynas â hwy ar gyfer y Setliad Terfynol”, gan fynd ymlaen i ddweud:
… croesawodd Llywodraeth Leol y cynnydd cadarnhaol yn y Setliad tra'n cydnabod yr effaith y bydd lefelau uchel parhaus o chwyddiant yn ei chael ar benderfyniadau’r awdurdodau lleol ar gyllidebau a gwasanaethau.
Tra bu rhai newidiadau bach i'r setliad, gan gynnwys dosbarthu cyllid ar gyfer pensiynau Awdurdod Tân ac Achub ac addasiadau sy'n gysylltiedig â newidiadau mewn data, mae'r Setliad Terfynol yn parhau i fod yn gynnydd o 7.9 y cant. Ni fydd unrhyw awdurdod yn cael cynnydd o lai na 6.5 y cant. Mae’r Gweinidog hefyd yn nodi cyllid craidd dangosol o £5.69 biliwn ar gyfer 2024-25.
Mae’r Setliad Terfynol yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf am grantiau i awdurdodau lleol, gyda grantiau refeniw o dros £1.4 biliwn a chyfalaf o dros £989 miliwn yn 2023-24.
Beth nesaf?
Cynhelir y dadleuon ar 7 Mawrth 2023. Gallwch eu gwylio ar Senedd tv, darllen y trawsgrifiad ar ôl y cyfarfod neu ddilyn Ymchwil y Senedd ar Twitter i weld yr erthyglau diweddaraf yn trafod y gyllideb a mwy.
Erthygl gan Božo Lugonja, Joe Wilkes a Christian Tipples Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru