Hen ddyn yn sefyll wrth safle bws yn wynebu i ffwrdd o'r camera.

Hen ddyn yn sefyll wrth safle bws yn wynebu i ffwrdd o'r camera.

Ar ôl heb fod ar-lein: Trafnidiaeth gyhoeddus ac allgáu digidol

Cyhoeddwyd 13/03/2024   |   Amser darllen munudau

Nid yw trafnidiaeth anhygyrch yn broblem newydd, ond mae'n broblem sy’n newid. Gyda mwy a mwy o agweddau ar wasanaethau teithio yn cael eu digideiddio, nid yr amgylchedd ffisegol yw’r unig ystyriaeth o ran teithio hygyrch. Erbyn hyn mae'n rhaid i bobl ddelio â systemau rhithwir, tocynnau digidol, a gwybodaeth ar-lein i deithio o un lle i'r llall.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod trafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon yn flaenoriaeth allweddol yn y Cynllun cyflawni cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth 2022-2027. Fodd bynnag, dim ond wrth gyfeirio at wella mannau ffisegol (gweler adran 3.2.4.5) y caiff hygyrchedd ei drafod. Mae technolegau digidol yn cael eu cyflwyno fel rhywbeth sy’n darparu gwasanaeth hygyrch, er enghraifft apiau a gwefannau sy'n cynnig modd integredig o gynllunio teithiau.

Allgáu digidol yng Nghymru

Mae mwy o wasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau hanfodol nag erioed o'r blaen yn cael eu darparu ar-lein. Mae hyn yn creu heriau unigryw wrth greu cymdeithasau cynhwysol, yn enwedig gan nad oes gan 8% o boblogaeth Cymru fynediad i wasanaethau ar-lein.

Dyma'r gyfran uchaf o ddefnyddwyr all-lein o holl wledydd y DU, a dwbl y cyfartaledd ar draws y DU.

Y ffactorau sy’n dylanwadu fwyaf ar leihau mynediad digidol ar draws y DU yw bod yn hŷn, bod â statws economaidd-gymdeithasol is, a phrofiad o anabledd. Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at yr heriau a’r canlyniadau a ddaw yn sgil cael eich ynysu a’ch hallgáu’n fwy o fywyd cyhoeddus o ganlyniad i fod all-lein. Mae hi'n dweud bod y pwysau a roddir ar bobl hŷn i ddefnyddio cyfleusterau ar-lein pan nad ydynt eisiau gwneud hynny, neu os nad ydynt yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny, hefyd yn broblematig.

Mae pobl sydd ag anabledd yn llai tebygol o ddefnyddio'r rhyngrwyd o gymharu â'r rheini nad oes ganddynt anabledd. Mae diffyg ymddiriedaeth a phryderon am ddiogelwch hefyd yn dylanwadu ar ymgysylltiad â thechnolegau digidol.

Cymru sydd â'r boblogaeth wledig fwyaf unrhyw le yn y DU. Mae mynediad i fand eang a data symudol digonol yn her arbennig i bobl mewn ardaloedd gwledig. Dywed Good Things Foundation, yr elusen cynhwysiant digidol, fod yr heriau’n cynnwys mynediad cyfyngedig i fand eang cyflym iawn, gorfod teithio ymhellach ar gyfer cyfleoedd hyfforddi digidol, a’r ffaith bod pobl ifanc yn mudo o’r ardaloedd hyn gan leihau’r cymorth sydd ar gael gan gyfoedion a theulu.

Mae cael modd i fanteisio ar wasanaethau ar-lein yn un peth, ond mater arall yw meddu ar y sgiliau i ddefnyddio llwyfannau digidol yn hyderus.

Yn ôl Mynegai Digidol Defnyddwyr y DU 2023, mae gan 28% o boblogaeth Cymru lefel isel iawn o allu digidol, sef y gyfran uchaf o blith gwledydd y DU. At hynny, mae bron i hanner cyflogwyr y DU o’r farn bod lefel uwch o ddiffyg sgiliau digidol ymhlith y rhai sy'n gadael yr ysgol.

Rhaglen sy’n mynd i’r afael ag allgáu digidol yng Nghymru yw Cymunedau Digidol Cymru. Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru i ddarparu ymgysylltiad a chefnogaeth i unigolion, grwpiau a sefydliadau, . Un o elfennau allweddol y rhaglen yw helpu i sicrhau’r manteision posibl o ran iechyd a gofal cymdeithasol a ddaw yn sgil bod ar-lein. Fodd bynnag, mae sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, gan gynnwys cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, a gwasanaethau cynghori hefyd yn rhan o’r prosiect.

Digideiddio mwy a mwy o agweddau ar wasanaethau teithio

Mae'n well gan dri chwarter y bobl ddefnyddio gwasanaethau hanfodol ar-lein ac all-lein er bod mwy o wasanaethau cyhoeddus ar gael yn ddigidol yn unig bellach. Er y tueddwyd i ganolbwyntio ar wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol ac ariannol, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn wasanaeth hanfodol a ddylai fod yn hygyrch i bob defnyddiwr. Mae hyn yn cynnwys yr agweddau ffisegol a’r agweddau digidol ar gael mynediad at wasanaethau trafnidiaeth.

Mae effaith darparu gwasanaethau ar-lein yn unig wedi cael ei drafod yn y Senedd ond nid yng nghyd-destun mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynyddu nifer y technolegau a ddarperir at ddefnydd cwsmeriaid, gydag apiau ffôn clyfar newydd ar gyfer gwasanaethau bws a rheilffordd, gwasanaethau 'talu wrth fynd' digyswllt, a mapiau teithio rhyngweithiol. Mae'r holl ddatblygiadau arloesol hyn wedi cael eu marchnata fel ffordd o hwyluso teithiau ar drafnidiaeth gyhoeddus.

A yw technolegau digidol yn rhwystr i deithio?

Er y gall technoleg fod yn gadarnhaol, gall hefyd fod yn broblematig. Mynegwyd pryderon pan benderfynodd y sector yn Llundain ddilyn dull trafnidiaeth ddigidol yn gyntaf. Er mai ym mhrifddinas y DU y mae’r gyfran uchaf o'r boblogaeth sydd â lefel uchel iawn o allu digidol a rhai o’r lefelau isaf o ddefnyddwyr all-lein, mae TravelWatch London yn awgrymu na all 1 o bob 6 o bobl yn y ddinas brynu tocynnau oherwydd diffyg mynediad neu ddiffyg sgiliau digidol.

Mae’n anochel y bydd pobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn gwneud hynny tra byddant allan yn hytrach nag yn eu cartrefi. Mae’n fwy heriol i rai pobl gael gafael ar wybodaeth deithio a thocynnau digidol pan fyddant allan. Mae tua 31% o oedolion 55-64 oed ym Mhrydain Fawr nad oes ganddynt fynediad i'r rhyngrwyd pan fyddant allan. Mae'r ffigur hwn yn cynyddu i 61%, sef tua 7.44 miliwn o bobl, ar gyfer pobl dros 65 oed. O ystyried y ffigurau hyn yng nghyd-destun ystadegau poblogaeth Cymru, mae hynny’n gyfwerth â dros hanner miliwn o oedolion dros 55 oed yng Nghymru.

Os nad oes ganddynt fynediad at dechnolegau digidol, neu os nad oes ganddynt y sgiliau priodol i'w defnyddio'n hyderus, gall hyn olygu bod teithwyr yn gorfod talu costau ychwanegol a’u bod hefyd yn dibynnu'n fwy ar gymorth pobl eraill.

Mae nifer o brosiectau a ariennir gan yr UE, fel INDIMO a DIGNITY, wedi bod yn archwilio'r her o adeiladu systemau trafnidiaeth hygyrch. Mae prosiect INDIMO wedi llunio rhestr o argymhellion polisi allweddol ar gyfer trafnidiaeth sy'n gynhwysol o safbwynt digidol, gan gynnwys datblygu dull cydweithredol ‘o'r bôn i’r brig’ wrth gynllunio a dylunio gwasanaethau newydd.

Teithio i'r cyfeiriad anghywir?

Mae mwy a mwy o ddarparwyr gwasanaethau trafnidiaeth yn mabwysiadu dull digidol yn gyntaf er gwaetha’r dystiolaeth bod y cyhoedd yn ffafrio cael dewis o ran sut y caiff gwasanaethau eu darparu, ac er gwaetha'r risgiau sy'n gysylltiedig â dieithrio cwsmeriaid nad oes ganddynt fynediad digidol.

Yn 2023, cynhaliodd Rail Delivery Group ymgynghoriad ar ran 12 o gwmnïau trenau yn Lloegr ynghylch cau swyddfeydd tocynnau rheilffordd. Yn ei ymateb, nododd yr ymgyrch 'Not just the ticket' pa mor bwysig yw swyddfeydd tocynnau i bobl sydd ag anableddau, a hynny am resymau ar wahân i brynu tocynnau. Tynnodd Age UK sylw hefyd at y risg o allgau digidol ymhlith pobl hyn pe bai'r cynigion yn cael eu gweithredu. Cafodd yr ymgynghoriad ei dynnu’n ôl ar ôl i fwy na 750,000 o ymatebion ddod i law. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cadarnhau nad yw'n bwriadu lleihau staff ar hyn o bryd yn ei gorsafoedd.

Mae'r sector meysydd parcio cyhoeddus hefyd wedi symud tuag at wasanaethau talu ar-lein yn unig. Mae nifer o gynghorau yn Lloegr wedi cael gwared ar beiriannau talu ac arddangos o feysydd parcio o blaid talu drwy ap yn unig. Mae rhai wedi ailosod y peiriannau ers hynny ar ôl i drigolion lleol a sefydliadau fel Age UK leisio eu gwrthwynebiad. Dywedodd Mencap Cymru wrth Bwyllgor Deisebau'r Senedd y dylid herio awdurdodau lleol pan fyddant yn symud tuag at gyfleusterau lle nad oes opsiwn i ddefnyddio arian parod.

Mae dadleuon economaidd cryf dros leihau gwasanaethau cymorth wyneb yn wyneb ac all-lein. Pe bai mwy o bobl yn mabwysiadu gwasanaethau cyhoeddus digidol, gallai hynny greu arbedion effeithlonrwydd sy’n werth £1.4 biliwn i lywodraethau’r DU erbyn 2032. Fodd bynnag, mae grwpiau ymgyrchu yn dadlau na ddylid gwneud hynny ar draul pobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol.


Erthygl gan Charlotte Lenton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Charlotte Lenton gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol (EPSRC), a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.