Amseroedd aros ysbytai: mynydd i'w ddringo

Cyhoeddwyd 14/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/05/2021   |   Amser darllen munud

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Mae pandemig COVID-19 wedi rhoi pwysau aruthrol ar wasanaethau iechyd, gydag amseroedd aros am driniaethau yn mynd yn hirach. Beth ellir ei wneud i ddatrys yr ôl-groniad yma?

Ym mis Mawrth 2020, gohiriwyd yr holl driniaethau ysbyty nad oeddent yn rhai brys, gan alluogi ysbytai i ddelio â thon gyntaf pandemig Covid-19. Mae pwysau Covid-19 bellach yn lleddfu, ond mae GIG Cymru yn wynebu ôl-groniad sylweddol. Ar hyn o bryd mae dros hanner miliwn o gleifion yn aros am driniaeth ar gyfer cyflyrau eraill. Sut y gall ein gwasanaethau gofal iechyd ymateb i'r her hon?

Beth yw maint yr her?

O ran cleifion sy’n cael eu hatgyfeirio i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty, targed Llywodraeth Cymru yw y dylid gweld 95% o fewn 26 wythnos, a 100% o fewn 36 wythnos. Mae'r amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth hefyd yn cynnwys yr amser a dreulir yn aros am apwyntiadau cleifion allanol, profion, sganiau neu driniaethau eraill y gallai fod eu hangen cyn cael triniaeth. Mae yna dargedau amseroedd aros eraill ar gyfer profion diagnostig, therapïau a dechrau triniaeth canser.

Roedd amseroedd aros eisoes yn cynyddu cyn y pandemig. Ar eu pwynt isaf yn ddiweddar, ym mis Mawrth 2019, roedd cyfanswm yr atgyfeiriadau a’r triniaethau wedi gostwng i 8,985 o gleifion yn aros dros 36 wythnos. Ond cynyddodd y niferoedd hynny eto dros y misoedd canlynol i 25,549 ym mis Rhagfyr 2019. Rhwng mis Chwefror 2020 a Chwefror 2021, cododd cyfanswm y niferoedd yn aros i’w triniaeth ddechrau o 461,809 i 549,353, gyda'r rhai sy'n aros dros 36 wythnos yn tyfu o 25,634 i 217,655 o gleifion - cynnydd o 749%.

Mae cwymp yn nifer y cleifion sy'n cael eu hatgyfeirio gan feddygon teulu i gael triniaeth yn golygu bod llai o gleifion yn aros llai na 36 wythnos, ond mae cleifion a oedd eisoes ar restrau aros yn parhau’n hwy. Mae tua 60% o'r rhai sy'n aros dros 36 wythnos yn aros am eu hapwyntiad cyntaf fel claf allanol.

Perfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros Atgyfeiriadau am Driniaeth: Cymru, Chwefror 2020-Chwefror 2021

Targed Llywodraeth Cymru yw i 100 y cant o lwybrau cleifion ddechrau triniaeth o fewn 36 o wythnosau - roedd 39.6 y cant yn aros dros 36 o wythnosau ym mis Chwefror 2021 mewn cymhariaeth â 6.2 y cant ym mis Chwefror 2020. Targed Llywodraeth Cymru yw i 95 y cant i ddechrau triniaeth o fewn 26 o wythnosau - roedd 51.6 y cant yn aros hyd at 26 o wythnosau i ddechrau triniaeth ym mis Chwefror 2021 mewn cymhariaeth â 81.9 y cant ym mis Chwefror 2020.

Ffynhonnell: StatsCymru Amseroedd Aros Atgyfeiriadau am Driniaeth yn Ysbytai GIG Cymru

At hynny, mae gan Lywodraeth Cymru darged na ddylai neb aros mwy nag wyth wythnos am wasanaethau diagnostig, megis pelydr-X, neu 14 wythnos ar gyfer gwasanaethau therapi, megis ffisiotherapi. Rhwng mis Chwefror 2020 ac Chwefror 2021, bu cynnydd yn nifer y bobl a arhosodd y tu hwnt i'r targedau hyn o 3,551 i 48,136 mewn gwasanaethau diagnostig, ac o 197 i 4,129 mewn gwasanaethau therapi.

Canran y cleifion sy'n aros yn hirach na thargedau amseroedd aros gwasanaethau diagnostig a therapi: Cymru, Chwefror 2020-Chwefror 2021

Ym mis Chwefror 2020, roedd 4.8 y cant o gleifion yn aros dros 8 wythnos ar gyfer profion diagnostig, yr uchaf oedd 71.3 y cant ym mis Mai 2020 ac roedd yn 48.7 y cant ym mis Chwefror 2021. Ym mis Chwefror 2020, roedd 0.5 y cant o gleifion yn aros dros 14 o wythnosau ar gyfer gwasanaethau therapi, yr uchaf oedd 55.0 y cant ym mis Mehefin 2020 ac roedd yn 15.0 y cant ym mis Chwefror 2021.

Ffynhonnell: StatsCymru, Amseroedd Aros Gwasanaethau Diagnostig a Therapi Ysbytai GIG Cymru

Ble mae'r prif heriau?

Roedd y penderfyniad gwreiddiol i ohirio triniaethau nad oeddent yn rhai brys yn gymwys ledled Cymru. Ond ers mis Rhagfyr 2020, mae byrddau iechyd wedi gallu penderfynu ar lefel leol faint o waith nad yw'n frys y maent am ei ailddechrau, a phryd y gwneir hynny. Dros amser, gall hyn olygu bod y cyflymder o ddelio â'r ôl-groniad yn amrywio ledled Cymru. Ym mis Rhagfyr 2020, nid oedd byrddau iechyd ond yn cyflawni tua hanner y lefelau gweithgarwch fel ag yr oeddent cyn y pandemig lle nad oeddent yn faterion brys.

Nifer y cleifion Atgyfeiriadau am Driniaeth sy'n aros dros 36 wythnos yn ôl bwrdd iechyd, Chwefror 2020 a Chwefror 2021

Cynyddodd nifer y llwybrau cleifion sy’n aros dros 36 o wythnosau i ddechrau triniaeth rhwng mis Chwefror 2020 a mis Chwefror 2021 o 11,250 i 49,720 ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, o 1,386 i 27,783 ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda, o 248 i 3,236 ym Mwrdd Iechyd Powys, o 1,678 i 39,068 ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan, o 6,250 i 32,453 ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe, o 3,005 i 34,045 ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg ac o 1,817 i 31,350 ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Ffynhonnell: StatsCymru, Amseroedd Aros Atgyfeiriadau am Driniaeth yn Ysbytai GIG Cymru

Mae llawer o'r twf mewn rhestrau aros yn deillio o nifer fawr o driniaethau ar gyfer cyflyrau penodol, megis triniaeth i gael clun neu ben-glin newydd, neu gataractau. O'r 217,655 o gleifion sy'n aros dros 36 wythnos, mae'r rhan fwyaf o’r rhain mewn nifer fach o arbenigeddau, gan gynnwys 52,173 mewn orthopaedeg, 31,695 mewn offthalmoleg, 26,354 mewn gwasanaethau’r glust, y trwyn a’r gwddf, 25,181 mewn llawfeddygaeth gyffredinol, a 12,715 mewn dermatoleg.

Ai dyna'r darlun cyfan?

Dim ond rhan o'r stori a adroddir gan y ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi. Mae meddygon teulu wedi gwneud llai o atgyfeiriadau am driniaeth. Syrthiodd cyfanswm yr atgyfeiriadau misol o 109,432 ym mis Chwefror 2020 i 39,103 ym mis Ebrill 2020, a dim ond 82,647 o atgyfeiriadau a fu ym mis Chwefror 2021. Yn ei ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, clywodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd bryderon ynghylch y posibilrwydd o weld y galw am wasanaethau’n cronni, gan gynnwys ar gyfer pobl â chyflyrau cronig a oedd angen cefnogaeth ac asesiadau parhaus. Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:

Ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau, mae'r diffyg atgyfeiriadau yn annhebygol o adlewyrchu newid yng ngwir anghenion iechyd y boblogaeth - mae’n fwy tebygol bod y galw wedi cynyddu yn sgil y pandemig. Wrth i sefyllfa’r pandemig gilio, mae'n rhesymol tybio y bydd y galw hwn yn codi unwaith yn rhagor.

Mae pryderon penodol ynghylch y nifer cynyddol o atgyfeiriadau canser. Dywedodd Dr Richard Johnson o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon wrth y Pwyllgor fod angen sylweddol heb ei ddiwallu yn y gymuned lle nad yw cleifion wedi cael eu gweld eto a heb gael diagnosis. Mae Cymorth Canser Macmillan yn amcangyfrif rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd 2020 y gallai tua 3,500 o bobl fod wedi methu â chael diagnosis canser.

Yn ôl adroddiad gan y Cynghorau Iechyd Cymunedol yng Nghymru a edrychai ar brofiadau cleifion ar restrau aros yn ystod y pandemig, mae llawer o bobl yn amharod i ddefnyddio gwasanaethau iechyd, yn rhannol oherwydd pryderon ynghylch Covid-19.

Gall yr effaith ar gleifion yn sgil aros am driniaeth fod yn enfawr. Nid yn unig y mae'n rhaid i bobl ar restrau aros fyw gyda'u cyflwr am gyfnod hirach, ond gall eu cyflwr waethygu. Clywodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y gallai fod angen cymorth ychwanegol neu 'wasanaeth rhag-sefydlu' ar gleifion cyn y gallant ddechrau triniaeth, ac efallai y bydd angen lefel uwch o gymorth diagnostig ar bobl a atgyfeirir gan feddygon teulu.

Yn ôl Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, mae'r effaith ar gleifion sy'n aros am lawdriniaeth, hyd yn oed os mai llawdriniaeth wedi'i chynllunio yn unig ydyw, yn eithaf andwyol o safbwynt corfforol a seicolegol.

Sut fydd y GIG yng Nghymru yn delio â'r ôl-groniad?

Pwysleisiodd Prif Weithredwr GIG Cymru fod lleihau amseroedd aros yn gofyn am newidiadau mawr mewn gofal cleifion, gan sicrhau y dychwelir i wasanaethau traddodiadol yn unig. Mae Conffederasiwn GIG Cymru hefyd yn cydnabod yr angen i fod yn radical wrth ailfeddwl y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu, gan gynnwys:

  • Cynyddu’n sylweddol y defnydd a wneir o dechnolegau digidol wrth ddarparu gofal hygyrch. Efallai mai defnydd mwy ar ymgynghoriadau rhithwir meddygon teulu a chleifion allanol yw'r newid gwasanaeth mwyaf sylweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod y pandemig;
  • Cefnogi cleifion fel partneriaid wrth reoli eu gofal eu hunain, gyda mynediad at wybodaeth a chyngor gwell ar eu hiechyd;
  • Mwy o weithio mewn tîm ar draws gofal sylfaenol ac ysbytai, gan gynnwys mwy o gefnogaeth wedi'i threfnu'n well i bobl â chyflyrau cronig;
  • Mwy o gefnogaeth i feddygon teulu a gofal sylfaenol, megis mynediad mwy uniongyrchol i feddygon teulu at wasanaethau diagnostig;
  • Darparu rhai gwasanaethau yn fwy rhanbarthol, gyda byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd mewn meysydd fel diagnosteg a llawfeddygaeth lai cymhleth, lle bo llawer ohonynt.

Beth yw'r rhwystrau wrth ddelio â rhestrau aros?

Clywodd y Pwyllgor gan fyrddau iechyd a chyrff proffesiynol am faterion y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy wrth ddelio â'r ôl-groniad. Mae'r rhain yn cynnwys effaith barhaus y pandemig ar alw a chapasiti gwasanaethau, gydag ysbytai angen gwahanu triniaethau Covid-19 a thriniaethau nad ydynt ar gyfer Covid-19. Mae angen sicrhau mwy o arloesedd hefyd. Mae Swyddfa Archwilio Cymru, ochr yn ochr â gwerthusiadau eraill, wedi bod yn feirniadol o record GIG Cymru wrth gyflwyno arferion da yn llwyddiannus;

Mae angen amser ar staff i wella ac adfer, mae angen cynnydd yn nifer y gweithlu, ac mae angen mynediad at fwy o gapasiti gwasanaeth, yn y GIG a'r sector annibynnol. Bydd angen cyllid ychwanegol ar gyfer hyn i gyd.

Beth allai Llywodraeth newydd Cymru ei wneud?

Mae'r ffigurau amseroedd aros yn codi braw. Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, Vaughan Gething, ar 24 Chwefror 2021 ei fod yn credu y bydd yr adferiad yn cymryd o leiaf un tymor Senedd llawn.

Nid yw'r heriau hyn yn unigryw i Gymru. Mae Ymddiriedolaeth Nuffield yn adrodd bod rhestrau aros yn Lloegr ar eu pwynt uchaf ers mis Awst 2007, ac mae Conffederasiwn y GIG yn amcangyfrif bod GIG Lloegr yn wynebu “rhestr aros gudd” o bron i chwe miliwn o bobl nad ydyn nhw wedi defnyddio gwasanaethau iechyd neu wedi cael eu hatgyfeirio am driniaeth. Adroddodd Iechyd Cyhoeddus yr Alban ym mis Rhagfyr 2020 fod bron i 40% (34,456) o gleifion wedi aros dros 39 wythnos am driniaeth, gydag amseroedd aros hir am apwyntiad i gleifion allanol hefyd.

Mae adfer yn dilyn y pandemig yn golygu clirio’r ôl-groniad presennol, a diwallu’r galw gan gleifion newydd a ychwanegir at restrau aros. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru gynllun adfer ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Roedd hyn yn cynnig newidiadau mewn gwasanaethau cleifion allanol, gydag apwyntiadau rhithwir a mynediad uniongyrchol meddygon teulu at brofion yn dod yn fater o drefn, er mwyn lleihau atgyfeiriadau i wasanaethau ysbyty. Roedd hefyd yn cydnabod yr angen am gapasiti gwasanaethau ychwanegol.

Mae gweithgarwch y GIG yn dal i gael ei gyfyngu gan gyfyngiadau Covid-19, a'r angen i gadw'r capasiti i ddelio ag achosion pellach. Roedd amseroedd aros yn cynyddu cyn y pandemig. Efallai y bydd angen i Lywodraeth newydd Cymru gymryd camau gweithredu radical os yw am i'r rhestrau aros cyfredol nid yn unig sefydlogi, ond leihau.


Erthygl gan Paul Worthington, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru