Mae amseroedd aros y GIG yn parhau i fod ymysg yr heriau mwyaf yng Nghymru, gan roi straen ar allu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau ei hun. Mae'r erthygl hon yn edrych ar yr hyn sydd wedi gwella, lle mae cynnydd wedi dod i stop, a pham mae ôl-groniadau o ddechrau tymor y Senedd yn parhau hyd yn hyn.
Y sefyllfa ar ddechrau’r Senedd hon: gwaddol Covid-19
Ar ddechrau'r Chweched Senedd ym mis Mai 2021, roedd GIG Cymru yn dal i reoli effeithiau sylweddol pandemig Covid-19. Roedd prysurdeb ysbytai a’r defnydd o awyryddion yn lleihau yn hyn o beth, ond roedd pwysau'n parhau o ran derbyniadau a gofal critigol. Câi triniaethau dewisol eu hatal neu eu lleihau'n sylweddol yn ystod tonnau olynol o Covid-19, gan arwain at ôl-groniad mawr o gleifion yn aros am driniaeth wedi'i chynllunio, profion diagnostig, neu apwyntiadau cleifion allanol. Yn ôl Archwilio Cymru, roedd yr ôl-groniad yn “un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru”.
Erbyn mis Ebrill 2022, pan lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Adfer Gofal a Gynlluniwyd, roedd dros 707,000 o lwybrau cleifion yn aros am driniaeth. Roedd y ffigur hwn yn cynnwys dros 68,000 o lwybrau cleifion â chyfnodau aros o fwy na dwy flynedd. Mae'n bwysig nodi bod 'llwybrau cleifion' yn cyfeirio at driniaethau, nid unigolion — mae llawer o gleifion yn aros am sawl triniaeth, felly mae nifer y llwybrau'n uwch na nifer y bobl dan sylw. Mae'r gwahaniaeth hwn yn allweddol wrth gymharu ffigurau rhestrau aros ledled y DU, gan fod gwahanol wledydd yn cyflwyno eu data mewn ffordd wahanol.
Y Cynllun Adfer ar gyfer Gofal a Gynlluniwyd
Cydnabu Llywodraeth Cymru faint yr her wrth fynegi optimistiaeth ofalus. Mae ei Chynllun Adfer ar gyfer Gofal a Gynlluniwyd, gwerth £1 biliwn, wedi nodi pum targed allweddol:
- Erbyn diwedd 2022: ni ddylai neb fod yn aros yn hirach na blwyddyn am eu hapwyntiad cleifion allanol cyntaf.
- Erbyn mis Mawrth 2023: ni ddylai neb fod yn aros yn hirach na dwy flynedd am driniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigeddau.
- Erbyn gwanwyn 2024: ni ddylai neb fod yn aros yn hirach nag 8 wythnos am brofion diagnostig a 14 wythnos am therapïau.
- Erbyn gwanwyn 2025: ni ddylai neb fod yn aros yn hirach na blwyddyn am driniaeth yn y rhan fwyaf o arbenigeddau.
- Erbyn 2026: dylai 80% o gleifion canser ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth fod canser arnynt, gyda tharged dros dro o 70% erbyn mis Mawrth 2023.
Yn ôl Gweinidogion, mae'r nodau hyn yn uchelgeisiol ond yn gyraeddadwy, ac fe’u cefnogir â chyllid ychwanegol, buddsoddiad mewn canolfannau diagnostig, capasiti llawfeddygol estynedig, a chanolfannau triniaeth rhanbarthol. Roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl cynnydd mesuradwy o fewn tymor y Senedd, gan ddatgan “rydym yn hyderus y gallwn wyrdroi’r sefyllfa”.
Beth sydd wedi digwydd ers hynny: tueddiadau cyffredinol yn y rhestrau aros
Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, mae cyfanswm y rhai sydd ar restr aros yng Nghymru wedi parhau i dyfu ers 2022. Erbyn mis Mai 2025, roedd llwybrau cleifion wedi codi i ychydig dros 796,700, gan ostwng fymryn i 794,500 ym mis Mehefin 2025. Dengys data dros dro ar gyfer mis Gorffennaf fod tua 796,000 o lwybrau cleifion yn aros, gan gynnwys 156,500 yn aros yn hirach na blwyddyn ac 8,000 yn aros yn hirach na dwy flynedd (fodd bynnag, ffigurau dros dro yw’r rhain a gallant newid pan gaiff data swyddogol mis Gorffennaf eu rhyddhau ym mis Medi).
Yn ymarferol, mae tua un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn aros am driniaeth GIG—cyfran uwch nag erioed, ac yn uwch nag ar unrhyw adeg cyn y pandemig. Mae'r ôl-groniad hwn yn dangos y cydbwysedd rhwng y galw a'r capasiti: er bod GIG Cymru wedi trin mwy o gleifion nag erioed mewn rhai misoedd, mae'r galw'n parhau i fod yn uwch na'r niferoedd sy’n cael eu trin..
Perfformiad yn ôl y targedau
Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi bod yn monitro perfformiad bob tymor trwy ei Adroddiadau Monitro Amseroedd Aros y GIG, sydd wedi bod yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd ers mis Hydref 2022. Gyda'i gilydd, mae'r adroddiadau hyn yn dangos nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd dim un o'i thargedau adferiad:
- Arosiadau blwyddyn i gleifion allanol: Y nod oedd sicrhau na fyddai neb yn aros yn hirach na blwyddyn am apwyntiad claf allanol cyntaf erbyn diwedd 2022 Er hynny, ym mis Mehefin 2025, roedd bron i 73,000 o lwybrau cleifion yn dal i aros dros flwyddyn.
- Arosiadau dwy flynedd am driniaeth: Y nod oedd dileu arosiadau dwy flynedd erbyn mis Mawrth 2023. Erbyn mis Mehefin 2025, roedd dros 7,400 o lwybrau cleifion yn aros yn hirach na dwy flynedd o hyd.
- Arosiadau blwyddyn am driniaeth: Y nod oedd dileu arosiadau blwyddyn erbyn mis gwanwyn 2025. Ym mis Mehefin 2025, roedd 157,000 o lwybrau cleifion yn aros dros flwyddyn.
- Diagnosteg a therapïau: Y nod oedd na ddylai neb fod yn aros yn hirach nag wyth wythnos am brofion diagnostig a 14 wythnos am therapïau erbyn gwanwyn 2024. Ym mis Mehefin 2025, roedd mwy na 40,400 o lwybrau cleifion yn aros yn nwy nag wyth wythnos am ddiagnosteg, ac roedd bron i 4,000 yn aros yn hirach na 14 wythnos am therapïau.
- Llwybrau canser: Y nod yw, erbyn 2026, y bydd 80% o gleifion canser yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod i’r amheuaeth fod canser arnynt, gyda tharged dros dro o 70% erbyn mis Mawrth 2023. Ni chyrhaeddwyd y targed dros dro, ac mae perfformiad wedi gwaethygu ers hynny. Ym mis Mehefin 2025, dim ond 60.2% o gleifion a oedd wedi decrhau triniaeth o fewn 62 diwrnod - llawer yn is na’r targed dros dro a'r targed terfynol.
Pam mae cynnydd wedi bod yn gyfyngedig: pwysau system
Drwy ei waith craffu ar Lywodraeth Cymru o ran amseroedd aros y GIG, mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi nodi sawl ffactor, a amlygwyd gan Lywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd, a rhanddeiliaid iechyd a gofal cymdeithasol eraill, sydd wedi cyfyngu ar gynnydd:
- Capasiti'r gweithlu: Mae recriwtio a chadw staff yn parhau i fod yn heriau mawr ar draws arbenigeddau. Mae prinder staff yn cyfyngu ar y gallu i ehangu capasiti, ac mae llawer o'r buddsoddiad wedi mynd tuag at wneud y system yn sefydlog, yn hytrach na chynyddu darpariaeth gwasanaethau. Ar ben hynny, mae'n cymryd amser i hyfforddi staff newydd.
- Twf yn y galw: Mae poblogaeth sy'n heneiddio, clefydau cronig cynyddol, a chyfnodau o gynnydd mewn atgyfeiriadau ar ôl y pandemig wedi mynd â’r galw uwchlaw'r lefelau disgwyliedig, sy’n golygu bod mwy yn mynd ar y rhestr aros nag sy’n dod oddi arni. Yn baradocsaidd, er i GIG Cymru drin mwy o bobl nag erioed, mae'r rhestr aros gyfan yn parhau i dyfu am fod cleifion newydd yn ymuno'n gyflymach nag y gellir eu trin.
- Cyfyngiadau seilwaith: Mae wedi cymryd amser i sefydlu canolfannau diagnostig a llawfeddygol, ac mae cyllid cyfalaf wedi bod dan straen.
- Pwysau'r gaeaf: Fe wnaeth pwysau gaeaf rheolaidd a thonnau o ffliw/Covid yn 2022–24 ailgyfeirio capasiti dro ar ôl tro i ffwrdd o ofal a gynlluniwyd. Bob gaeaf, mae capasiti’n cael ei gyfeirio tuag at ofal brys ac argyfwng, sy'n golygu bod yr ôl-groniad yn tyfu eto.
- Aneffeithlonrwydd system: Mae gwahaniaethau mewn perfformiad ar draws byrddau iechyd, ynghyd â dibyniaeth barhaus ar TG ac ystadau sydd wedi dyddio, wedi arafu cynnydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod yr heriau’n cael eu hegluro yn rhannol gan wahaniaethau strwythurol, gan gynnwys salwch sylfaenol uwch yng Nghymru.
Mae cymariaethau â GIG Lloegr yn cael eu cymhlethu gan wahaniaethau o ran adrodd: Mae Cymru yn cyfrif llwybrau cleifion (felly, gall un claf ymddangos sawl gwaith), ond mae Lloegr yn cofnodi cleifion unigol. Ar ben hynny, mae gweithlu GIG Lloegr yn fwy, mae ganddo fwy o ysbytai, ac mae’n gwneud mwy o ddefnydd o gapasiti’r sector annibynnol i allanoli triniaethau a ariennir gan y GIG, sy'n cyfrannu at ostyngiadau mwy gweladwy mewn arosiadau hir.
Mae'r gwrthbleidau’n dadlau bod y methiant i gyrraedd targedau adfer yn arwydd o danberfformio systemig ac atebolrwydd gwan. Mae polau’n dangos yn gyson mai'r GIG yw pryder mwyaf pleidleiswyr Cymru o hyd.
Y sefyllfa sydd ohoni wrth i'r tymor ddod i ben: yr effaith ar gleifion
Gall arosiadau hir arafu diagnosis, ymestyn poen neu anabledd, gwaethygu cyflyrau, a dwysáu gorbryder. I rai cleifion, gall oedi yn eu triniaeth arwain at ganlyniadau iechyd gwaeth ac ymyriadau mwy cymhleth yn nes ymlaen. Mae cleifion canser yn arbennig o agored i oedi.
Mae effaith gynyddol hefyd yn mennu ar rannau eraill o'r GIG. Mae cleifion sy'n aros am driniaeth yn aml yn dibynnu mwy ar ofal sylfaenol, gwasanaethau brys neu ofal cymdeithasol, gan dwysáu’r pwysau ar y system ehangach.
Cynnydd a rhagolygon
Er i arosiadau dwy flynedd ostwng o 68,000 yn 2022 i tua 7,400 erbyn canol 2025 - sy’n welliant clir - mae maint y rhestr yn gyffredinol a'r ystadegyn am un o bob pedwar yn parhau i fod yn faterion amlwg yn wleidyddol ac i’r cyhoedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at gynnydd o ran sefydlogi'r rhestr aros, lleihau'r amseroedd aros hiraf, a buddsoddiad parhaus yn hyfforddiant y gweithlu ac mewn diwygiadau strwythurol. Fodd bynnag, gyda llai na blwyddyn i fynd cyn etholiad nesaf y Senedd, mae her sylweddol o hyd os yw amseroedd aros i gyrraedd y lefelau a addawyd yn wreiddiol.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru.