Mae lleihau amseroedd aros yn fater hollbwysig i etholwyr, clinigwyr a llunwyr polisi fel ei gilydd. Gall arosiadau hir ohirio diagnosis, ymestyn dioddefaint, a chynyddu'r pwysau ar wasanaethau brys. Nod y data isod yw cefnogi gwaith craffu a dadl wybodus, ac mae’n helpu'r Senedd a'r cyhoedd i ddeall maint yr her, a chyfeiriad y daith.
Mae'r data'n cyflwyno trosolwg gweledol o amseroedd aros y GIG yng Nghymru, ac yn canolbwyntio ar gynnydd yn ôl pump uchelgais allweddol Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad gofal wedi'i gynllunio, fel y nodir yn ei gynllun trawsnewid 2022:
- Uchelgais 1: Neb i aros mwy na blwyddyn am eu hapwyntiad claf allanol cyntaf erbyn diwedd 2022
- Uchelgais 2: Dileu arhosiadau sy’n fwy na dwy flynedd ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023
- Uchelgais 3: Dileu arhosiadau sy’n fwy na blwyddyn ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn gwanwyn 2025
- Uchelgais 4: Cyflymu profion ac adroddiadau diagnostig i wyth wythnos ac i 14 wythnos ar gyfer ymyriadau therapi erbyn gwanwyn 2024.
- Uchelgais 5: Sicrhau diagnosis a thriniaeth canser o fewn 62 diwrnod i 80 y cant o bobl erbyn 2026
Mae'r graffiau isod yn dangos data misol ar lwybrau cleifion o fis Ionawr 2020 hyd at y ffigurau diweddaraf sydd ar gael. Mae llwybr claf yn cynrychioli'r daith o’i atgyfeiriad at y driniaeth. Un pwynt pwysig yw, y gall un claf fod ar sawl llwybr gofal, felly nid yw'r ffigurau'n cynrychioli cleifion unigol.
Cyhoeddir data ar amseroedd aros y GIG bob mis ganStatsCymru.
Mae Llywodraeth Cymru bellach yn cyhoeddi data dros dro, sy’n caniatáu i rai targedau gael eu hadrodd tua mis yn gynharach nag o'r blaen — gan felly leihau'r oedi blaenorol o saith wythnos. Gan mai data dros droyw’r rhain, ac yn destun adolygiadau, nid ydynt wedi'u cynnwys yn y graffiau isod.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Helen Jones a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru