Amser i ailflaenoriaethu sepsis?

Cyhoeddwyd 13/09/2024   |   Amser darllen munudau

Bob 3 eiliad, mae rhywun yn y byd yn marw o sepsis.

Mae sepsis yn gyflwr sy'n peryglu bywyd, a gall godi o unrhyw haint. Mae’n parhau i fod yn un o’r clefydau mwyaf cyffredin, ond lleiaf adnabyddus yn y byd datblygedig a'r byd sy'n datblygu.

Bob awr, mae pump o bobl yn y DU yn colli eu bywydau i sepsis, ac mae'n lladd mwy na chanser y fron, y coluddyn a'r prostad gyda'i gilydd.

Ar ddiwedd 2019, dechreuodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd ymchwiliad i Sepsis. Llwyddodd un o Aelodau'r Pwyllgor, Angela Burns AC i oroesi sepsis. Dechreuodd y Pwyllgor glywed tystiolaeth lafar yn gynnar yn 2020, ond cafodd yr ymchwiliad ei atal yn sgil COVID-19.

Ar Ddiwrnod Sepsis y Byd (13 Medi), mae'r erthygl hon yn ystyried beth yw’r sefyllfa bresennol o ran sepsis ac yn tynnu sylw at berthnasedd parhaus y materion a godwyd yn ystod yr ymchwiliad.

Beth yw sepsis?

Argyfwng meddygol yw sepsis, ac mae’n codi pan fydd system imiwnedd rhywun yn gorymateb i haint ac yn dechrau niweidio organau a meinweoedd eu corff eu hunain. Gall arwain at fethiant llu o amrywiol organau a marwolaeth os na chaiff ei drin ar frys. Ond yn aml, gyda diagnosis cynnar, gellir ei drin.

Bob blwyddyn, mae sepsis yn effeithio ar 245,000 o bobl yn y DU, ac mae 48,000 o farwolaethau yn gysylltiedig â sepsis.

Hyd yn oed i'r rhai sy'n goroesi, gall fod yn llwybr hir i adferiad. Mae tua 40% o oroeswyr sepsis yn profi ôl effeithiau. corfforol, gwybyddol a/neu seicolegol. Mae rhai yn addasu i fywyd ar ôl gorfod torri coes a / neu fraich i ffwrdd neu Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), ac mae rhai'n profi amrywiaeth o anawsterau corfforol, gwybyddol a seicolegol yn y tymor hwy - gelwir hyn yn Syndrom Ôl-Sepsis.

Achosion a symptomau

Gall unrhyw un sydd â haint gael sepsis. Er enghraifft, gallai ddechrau gyda haint ar y frest, haint y llwybr wrinol (UTI), neu hyd yn oed haint ar ôl mân anaf, fel y profodd Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn ddiweddar (ar ôl cael anaf bach i’w fys wrth goginio). Nid yw'n hysbys pam y mae rhai pobl yn datblygu sepsis mewn ymateb i heintiau cyffredin ac nid eraill.

Mae'r symptomau'n wahanol mewn oedolion a phlant:

Beth yw'r symptomau?

Symptomau mewn plant dan 5 oed

Gallai plentyn o dan 5 oed fod â sepsis os yw’n dangos y symptomau hyn:

  • Ddim yn bwydo
  • Yn chwydu dro ar ôl tro
  • Ddim wedi pasio wrin am 12 awr

Symptomau mewn plant

Efallai bod gan eich plentyn sepsis os yw:

  • Yn anadlu’n gyflym iawn
  • Yn cael ffit neu gonfylsiwn
  • Ei groen â golwg frith, glasaidd neu welw
  • Ei groen â brech nad yw’n pylu wrth ei gwasgu
  • Yn gysglyd neu’n anodd ei ddeffro
  • Yn teimlo’n anarferol o oer

Symptomau mewn oedolion

Efallai bod gan oedolyn sepsis os yw’n dangos unrhyw un o’r arwyddion hyn:

  • Siarad yn aneglur neu wedi drysu
  • Crynu’n eithafol neu boen yn y cyhyrau
  • Heb basio dŵr (mewn diwrnod)
  • Allan o wynt yn ddifrifol
  • Teimlo fel eich bod yn mynd i farw
  • Croen yn frith neu’n welw

Ffynhonnell: Ymddiriedolaeth Sepsis y DU

Ewch i wefan adnoddau Ymddiriedolaeth Sepsis y DU: 'Get Sepsis Savvy' i gael rhagor o wybodaeth.

Mae GIG 111 Cymru yn cynghori, “Os ydych yn credu bod gennych chi neu rywun rydych chi'n gofalu amdano symptomau sepsis, ffoniwch 999 neu ewch i'r adran Damweiniau ac Achosion Brys (A&E). Dilynwch eich greddf.” Mae angen triniaeth ysbyty ar unwaith ar gyfer sepsis, oherwydd gall waethygu'n gyflym.

Yr angen i wella ymwybyddiaeth gymunedol

Bu galwadau dro ar ôl tro am ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus ar sepsis, i wella gallu cymunedol i adnabod y cyflwr a hwyluso atgyfeiriadau.

Yn ystod yr ymchwiliad, pwysleisiodd Terence Canning o Ymddiriedolaeth Sepsis y DU bwysigrwydd rhoi'r wybodaeth i'r cyhoedd am arwyddion sepsis, fel y gallant ddefnyddio'r wybodaeth hon wrth fynd i weld gweithwyr iechyd proffesiynol. Nododd hefyd y gall staff gofal iechyd, fel gweithwyr derbynfa practis meddygon teulu, chwarae rhan hanfodol wrth uwchgyfeirio cleifion yn gyflym os ydyn nhw'n ymwybodol o arwyddion sepsis.

Soniodd Coleg Brenhinol Nyrsio Cymru (RCN) ac Ymddiriedolaeth Sepsis y DU at lwyddiant yr ymgyrch 'Act FAST' ar gyfer strôc. Dywedodd Ymddiriedolaeth Sepsis y DU fod sepsis, fel strôc, yn salwch lle mae amser yn bwysig, gyda'r risg o farwolaeth yn cynyddu 8% am bob awr nad yw claf â sepsis yn cael triniaeth wrthfiotigau.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y pryd ei fod yn awyddus i gydweithio ag Ymddiriedolaeth Sepsis y DU i archwilio'r posibilrwydd o ymgyrch ymwybyddiaeth.

Er bod cynnydd wedi'i wneud mewn lleoliadau acíwt, cafwyd cytundeb cyffredinol yn ystod yr ymchwiliad bod angen rhagor o waith a hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth broffesiynol o sepsis mewn lleoliadau eraill, yn enwedig ym maes gofal sylfaenol a chymunedau.

Clywodd Aelodau’r Pwyllgor blaenorol fod yn rhaid i rôl meddyg teulu gynnwys bwrw 'rhwyd ddiogelwch', er enghraifft os oes gan glaf haint, dylai gael gwybodaeth a chyngor o ran symptomau i gadw llygad amdanynt, a beth i'w wneud os yw'n gwaethygu.

Yn ôl Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru, un ffactor sy’n cyfrannu’n sylweddol at y cynnydd mewn derbyn i’r ysbyty oherwydd sepsis yw methiant triniaeth ar gyfer Haint y Llwybr Wrinol (UTIs) mewn gofal sylfaenol,

Canfyddiadau diweddaraf am ymwybyddiaeth y cyhoedd

Canfu arolwg newydd gan YouGov (2024) a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Sepsis y DU fod lefelau ymwybyddiaeth gyffredinol o'r cyflwr yn uwch nag erioed: mae 94% o'r cyhoedd yn ymwybodol o sepsis, ac mae 91% yn ei adnabod fel argyfwng meddygol.

Er gwaethaf y cynnydd hwn, canfu'r arolwg hefyd ddealltwriaeth gyfyngedig o'r symptomau; gyda dim ond 31% o bobl yn hyderus y byddent yn gwybod a fyddai sepsis arnyn nhw neu rywun arall.

Mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn galw ar lywodraethau i godi ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau sepsis, gan y gallai "grymuso'r cyhoedd i 'Ofyn, "A allai fod yn sepsis?" helpu i achub bywydau".

Cefnogaeth i oroeswyr sepsis

Dangosodd tystiolaeth i'r ymchwiliad ddiffyg amlwg o ran y gefnogaeth sydd ar gael i'r rhai sy'n goroesi sepsis, ac nad yw llawer wedi paratoi at yr anawsterau y maen nhw'n eu hwynebu wrth wella. Dywedodd Dr Paul Morgan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Primary and community care services are ill-equipped to provide - and often largely ignorant of - the needs of sepsis survivors. The only secondary care services are those provided to amputees. This is a wholly-inadequate service provision.

Mae rhanddeiliaid fel Ymddiriedolaeth Sepsis y DU am weld gwybodaeth yn cael ei darparu i gleifion sepsis wrth gael eu rhyddhau o'r ysbyty er mwyn eu paratoi at yr hyn y gallent fod yn ei wynebu a'u cyfeirio at gefnogaeth, yn ogystal â darparu rhagor o wasanaethau cymorth penodol i helpu goroeswyr wrth iddynt wella.

Yn ddiweddar, canfu Ymddiriedolaeth Sepsis y DU (2024) na chafodd 83% o oroeswyr yn y DU wybod am Syndrom Ôl-Sepsis gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac ni chafodd 68% o oroeswyr a 64% o ofalwyr goroeswyr wybodaeth am adnoddau a gwasanaethau cymorth ar ôl sepsis.

Yn ystod yr ymchwiliad, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn frwdfrydig dros wella cymorth ar ôl sepsis, gan ddweud bod cyfle gwirioneddol i waith gwych yng Nghymru i ddatblygu sut olwg fyddai ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i oroeswyr sepsis. Pan ofynnwyd am amserlenni, dywedodd Dr John Boulton ei fod yn gobeithio y bydd hyn yn weithredol o fewn 12 mis.

Yn anffodus, tarodd pandemig COVID-19 yn fuan wedi hynny, gan ddargyfeirio ffocws i fannau eraill (ac ni ddatblygwyd y cynlluniau ar gyfer gwaith i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd a chefnogaeth ôl-sepsis). Mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU yn credu bod dirywiad mewn canlyniadau sepsis yn gysylltiedig â dad-flaenoriaethu sepsis yn sgil y pandemig. Dywedodd Dr Ron Daniels:

During the Covid-19 pandemic, attention to sepsis care understandably diminished, leading to gaps in timely and effective treatment. As we emerge from the pandemic, it’s crucial to refocus our efforts on this life-threatening but often treatable condition.

Mae Ymddiriedolaeth Sepsis y DU (UKST) yn annog llywodraethau i ailflaenoriaethu sepsis, a sicrhau ei fod yn cael ei drin â'r un brys ac adnoddau â strôc a thrawiad ar y galon.

Ar Ddiwrnod Sepsis y Byd, mae'r Gynghrair Sepsis Fyd-eang yn cyhoeddi galwad am weithredu ledled y byd, yn Natganiad Sepsis y Byd 2030.

Mae'r Gynghrair yn galw ar yr holl randdeiliaid perthnasol i ymrwymo i'w chwe tharged allweddol, ac yn galw ar bob gwlad i ffurfioli cynllun gweithredu cenedlaethol i gyrraedd y targedau hyn erbyn 2030 (llai na 6 blynedd i ffwrdd). Dywed bod hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau'r ymateb amlasiantaethol, byd-eang sydd ei angen i fynd i'r afael â baich y nifer enfawr o achosion a marwolaethau o sepsis.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru