“Amddiffyniadau gorfodadwy, neu’n ddim ond dyheadau”: Archwilio ymrwymiad Llywodraeth Cymru ar hawliau dynol

Cyhoeddwyd 15/09/2026   |   Amser darllen munud

Cyn etholiad y Senedd ym mis Mai, ym mis Chwefror 2026, arweiniodd Sioned Williams AS gynnig ar Gynnig Deddfwriaethol Aelod ar gyfer “Mesur Hawliau Dynol”. Wrth egluro pwysigrwydd y ddadl, dywedodd:

Gofynnir rhywbeth sylfaenol i'r Senedd—i gytuno a ydym yn credu y dylai hawliau dynol yng Nghymru fod yn amddiffyniadau gwirioneddol a gorfodadwy, neu'n ddim ond dyheadau a fynegir mewn dogfennau polisi ac areithiau.

Erbyn hyn, â hithau’n Ddirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, mae ganddi’r dyletswydd dros gyflawni ymrwymiad maniffesto Plaid Cymru i gyflwyno Deddf Hawliau Dynol i Gymru, gan ymgorffori pump o Gonfensiynau allweddol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru. Mae’r erthygl hon yn archwilio fframwaith hawliau dynol yng Nghymru a’r prif faterion y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu wrth ddwyn y ddeddfwriaeth yn ei blaen.

Nag oes gyda ni hawliau dynol yn barod?

Yn fyr, oes. Mae’r DU yn rhan o nifer o gytundebau hawliau dynol rhyngwladol, sy'n berthnasol ledled y DU, gan gynnwys yng Nghymru. Mae ganddi hefyd ei deddfwriaeth hawliau dynol ddomestig ei hun. Er bod pobl Cymru, felly, eisoes yn cael eu diogelu gan ystod o gyfreithiau hawliau dynol domestig a rhyngwladol, mae yna ambell gafeat pwysig. 

Hawliau sifil a gwleidyddol ac economaidd-gymdeithasol

Gellir gwahanu hawliau dynol yn hawliau sifil a gwleidyddol, a hawliau economaidd-gymdeithasol.

Mae hawliau sifil a gwleidyddol yn amddiffyn rhyddid, megis rhyddid barn a’r hawl i gael achos teg. Mae’r rhyddfreintiau hyn eisoes wedi’u diogelu, gan gynnwys yn sgil Deddf Hawliau Dynol 1998 y DU, sy’n ymgorffori'r hawliau a nodir yng Nghonfensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (megis awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd a’r heddlu) barchu a diogelu’r hawliau hyn ym mhopeth a wnânt. Os bydd unrhyw achosion o dorri’r Confensiwn, gall unigolion herio’r hawliau hyn yn y llysoedd.

Mae maniffesto Plaid Cymru yn seiliedig ar ymrwymiad i ymgorffori hawliau economaidd-gymdeithasol neu ‘hawliau bob dydd’, nad ydynt wedi'u diogelu gan gyfraith y DU ac sy’n cynnwys mynediad at wasanaethau sylfaenol megis tai, iechyd ac addysg.

Sut mae hawliau dynol wedi cael eu hymgorffori yng Nghymru hyd yn hyn?

Mae ymgorffori yn golygu rhoi effaith i hawliau dynol mewn cyfraith ddomestig. Ar lefel y DU, mae hyn yn golygu gwneud hawliau dynol yn rhan o’r gyfraith sy'n berthnasol ledled y DU. Byddai ymgorffori gan y Senedd yn gwneud hawliau penodol yn rhan o gyfraith Cymru, yn gymwys o fewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig. Byddai hyn yn ategu’r amddiffyniadau sydd eisoes yn cael eu darparu gan gyfraith y DU gyfan, yn hytrach na’u disodli neu gyfyngu arnynt.

Mae’r arbenigwr ar Hawliau Dynol, yr Athro Simon Hoffman, wedi cyhoeddi Dogfen Cwestiynau Cyffredin ar ymgorffori.

Mae hawliau dynol wedi’u gwau i ffabrig datganoli Cymru. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gwahardd Gweinidogion Cymru, gan gynnwys y Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol, rhag arfer eu swyddogaethau mewn ffordd sy’n anghydnaws â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. 

Er bod Llywodraeth y DU yn gyfrifol am ymrwymo i gytundebau rhyngwladol sy’n gyfreithiol-rwymol, mae arsylwi ar rwymedigaethau rhyngwladol sy’n deillio o hynny, a’r broses o’u rhoi ar waith, yn faes sydd wedi’i ddatganoli. Fel y nodir gan Yr Athro Simon Hoffman:

… er bod y DU wedi cytuno i lawer o gytuniadau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig, mae llywodraethau olynol y DU wedi gwrthod gwneud hawliau dynol rhyngwladol yn rhan o gyfraith y DU. Mae hyn yn golygu nad yw llawer o bobl a chymunedau yn y DU yn profi manteision llawn eu hawliau economaidd-gymdeithasol.

Sut mae ymgorffori yn gweithio’n ymarferol?

Mae Llywodraethau blaenorol Cymru wedi ymgorffori hawliau dynol rhyngwladol trwy ymgorffori anuniongyrchol, gan ddefnyddio’r mecanwaith sylw dyledus (mae hyn yn golygu gosod dyletswydd gyfreithiol ar Weinidogion neu awdurdodau cyhoeddus penodedig i ystyried hawliau a rhoi pwysau priodol iddyn nhw, wrth wneud penderfyniadau neu wrth arfer swyddogaethau penodol). Mae gwahanol ffyrdd y gellir ymgorffori cytundebau hawliau dynol rhyngwladol, gyda’r dulliau mwyaf cyffredin isod.

Math o ymgorffori

Sut mae’n gweithio

Enghreifftiau

Uniongyrchol

Dyma’r ffordd gryfaf o ymgorffori gydag unigolion yn gallu gofyn i lys geisio iawndal os yw’r Llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus yn methu â chyflawni eu hawliau. 

Deddf Hawliau Dynol 1998.

Yn ymgorffori’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn system gyfreithiol y DU gyfan. Mae hyn yn berthnasol i bobl yng Nghymru.

Anuniongyrchol

Yn aml, caiff ei alw’n fecanwaith ‘sylw dyledus’, ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i lywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus ystyried yr hawliau a nodir mewn confensiwn wrth gynllunio polisi a darparu gwasanaethau.

Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.  

Yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi ‘sylw dyledus’ i hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth arfer unrhyw un o’u swyddogaethau.

Sectoraidd

Mae hwn yn fersiwn o ymgorffori anuniongyrchol ond mae wedi’i gyfyngu i gynhwysiant mewn maes polisi penodol, er enghraifft ar ofal cymdeithasol neu addysg.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y ddeddf i roi ‘sylw dyledus’ i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2019.  

Yn ei gwneud yn ofynnol i gorff perthnasol sy’n arfer swyddogaethau o dan awdurdodau’r Ddeddf i roi sylw dyledus i hawliau plant a hawliau pobl anabl.

Oes angen ymgorffori pellach arnom?

Yng Nghymru, bu ymgyrchoedd cymdeithas sifil hirhoedlog yn galw am ymgorffori hawliau dynol rhyngwladol sy’n amddiffyn ac yn hyrwyddo buddiannau menywod, pobl anabl, a'r hawl i dai digonol.

Fe wnaeth adroddiad Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a gyhoeddwyd yn 2021, argymell cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i roi effaith i hawliau dynol rhyngwladol yng nghyfraith Cymru, gan wneud hawliau dynol rhyngwladol dethol yn rhan o gyfraith Cymru ac yn orfodadwy gan lys neu dribiwnlys.

At hynny, fe wnaeth Grŵp Trawsbleidiol ar Hawliau Dynol y Seithfed Senedd alw am ddeddfwriaeth i ymgorffori Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig a restrir ym maniffesto Plaid Cymru. Daeth ei ymchwiliad i’r casgliad, gan na ellir gorfodi’r hawliau hyn yn uniongyrchol yn y llysoedd, eu bod yn parhau i fod yn bethau i ddyheu amdanynt a bod eu gwarchod yn “dibynnu ar ewyllys da gwleidyddol ac ymrwymiadau polisi”.

A yw ymgorffori pellach yn bosibl?

Gwnaeth Llywodraeth flaenorol Cymru ymrwymiad i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod (neu CEDAW) a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (neu UNCRDP). Ni chyflawnodd hynny, ond gwnaed gwaith gan arbenigwyr hawliau dynol i osod y sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer ymgorffori’r Confensiynau o dan sylw.

Fe wnaeth y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol, a sefydlwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru ac a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr cymdeithas sifil ac arbenigwyr hawliau dynol, gyhoeddi canfyddiadau ei ymchwil ym mis Mawrth 2026. Er ei fod yn canolbwyntio ar CEDAW ac UNCRDP, mae’n rhoi cipolwg pwysig ar yr heriau a’r cyfleoedd allweddol y mae Llywodraeth newydd Cymru yn eu hwynebu wrth iddi baratoi i gyflawni ei hymrwymiad maniffesto ar hawliau dynol.

Mae’r adroddiad yn ymdrin â materion cyfreithiol cymhleth sy’n ymwneud â'r setliad datganoli ac, ar y darlleniad cyntaf, mae’n anodd peidio â chanolbwyntio ar y casgliad y byddai heriau yn sgil ymgorffori UNCRDP a CEDAW i’r eithaf yng nghyfraith Cymru. Yn ôl yr awduron, mae’r cymalau cadw a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, yn enwedig y rheini sy’n ymwneud â chyfleoedd cyfartal, yn golygu y byddai'r ddeddfwriaeth yn debygol o fod yn agored i her gyfreithiol a byddai angen diwygio neu olygu darpariaethau’r cytundeb yn helaeth.

Fodd bynnag, nid y fan hon yw terfyn yr ymchwil. Yn hytrach, mae’r adroddiad yn nodi dulliau eraill, gan gyflwyno model deddfwriaethol pwrpasol ar gyfer Cymru:

O dan y dull hwn, byddai deddfwriaeth y Senedd yn nodi ac yn deddfu set o hawliau a dyletswyddau penodol i Gymru, wedi'u llywio gan CEDAW a'r CRDP ond a fynegir mewn termau cyfreithiol domestig sydd wedi'u cynllunio'n benodol i eistedd o fewn cymhwysedd datganoledig. Mae hyn yn cynnig llwybr ychwanegol (gyda'i fanteision a'i heriau ei hun) i roi effaith gyfreithiol i sylwedd safonau hawliau dynol sy'n seiliedig ar gytuniad.

Beth allwn ni ei ddisgwyl gan Lywodraeth Cymru?

Mae Cynllun 100 diwrnod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i “ddwyn gerbron gynigion i ymgorffori confensiynau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig yng nghyfraith Cymru”. Yn dilyn yr etholiad, galwodd Amnest Rhyngwladol ar gymdeithas sifil i ysgrifennu at y Prif Weinidog newydd yn galw arno i flaenoriaethu Bil hawliau dynol i Gymru. Ar ôl cael bron i 200 o lythyrau, mae ymateb y Dirprwy Brif Weinidog yn egluro bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut i gyflawni’r ymrwymiad hwn mewn ffordd sy’n gyfreithiol gadarn, yn gyflawnadwy o fewn cymhwysedd datganoledig ac yn gallu gwneud gwahaniaeth ymarferol i fywydau pobl.

Fodd bynnag, nid oes Bil hawliau dynol wedi’i gynnwys yng nghyfnod cyntaf rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru. Gyda thymor pedair blynedd, efallai y bydd angen i Lywodraeth Cymru symud yn gyflym, felly, os yw am drosi ei hymrwymiad yn amddiffyniadau cyfreithiol gorfodadwy yn hytrach na gadael yr hawliau fel dyheadau.


Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru