Ym mis Ebrill 2017, cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil ei amserlen Brexit gyntaf yn nodi’r cydgysylltiadau posibl rhwng digwyddiadau allweddol yn nrafodaethau’r DU ar gyfer ymadael â’r UE, paratoadau domestig y DU ar gyfer ymadael, a digwyddiadau cyfansoddiadol allweddol yn y Cynulliad a Chymru yn y 24 mis nesaf. Wrth gyhoeddi’r amserlen gyntaf honno, cafwyd ymrwymiad y byddwn yn diweddaru’r amserlen a’i datblygu wrth i’r trafodaethau fynd rhagddynt. Mae ail fersiwn yr amserlen isod. Mae’n seiliedig ar y wybodaeth gyhoeddus orau sydd ar gael ar hyn o bryd ac mae’n debygol o gael ei mireinio a’i diwygio eto wrth i’r trafodaethau ddatblygu dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.
Erthygl gan Nia Moss a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru