Amcangyfrif llinell amser trafodaethau Brexit

Cyhoeddwyd 21/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ym mis Ebrill 2017, cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil ei linell amser gyntaf ar gyfer Brexit gyda'r bwriad o nodi'r digwyddiadau allweddol mewn trafodaethau ar ymadawiad y DU â'r UE, ynghyd â pharatoadau domestig ar gyfer pan fydd y DU yn ymadael a sut y gall digwyddiadau cyfansoddiadol allweddol yn y Cynulliad a Chymru gysylltu â'i gilydd dros y 24 mis nesaf. Wrth gyhoeddi'r amserlen gyntaf honno, rhoddwyd ymrwymiad y byddwn yn diweddaru'r amserlen a'i datblygu wrth i'r trafodaethau fynd rhagddynt.

Isod, mae trydydd iteriad y llinell amser. Cyhoeddwyd yr ail iteriad ym mis Medi 2017. Mae'r llinell amser yn seiliedig ar y wybodaeth gyhoeddus orau sydd ar gael ar hyn o bryd ac mae'n debygol o gael ei haddasu a'i diwygio ymhellach wrth i'r trafodaethau fynd yn eu blaenau dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.

linell amser ar gyfer Brexit

Beth mae'r gwahanol iteriadau yn eu dangos?

Wrth edrych yn ôl dros y tri iteriad, un o'r newidiadau mwyaf y gellir ei weld yw bod paratoadau mewnol y DU ei hun ar gyfer ymadael wedi cymryd mwy o amser nag a ragwelwyd yn wreiddiol. Er enghraifft, yn y llinell amser gyntaf a gynhyrchwyd, amcangyfrifwyd y byddai Bil yr UE (Ymadael) wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol erbyn mis Mawrth 2018. Rydym bellach yn amcangyfrif y bydd y Bil yn derbyn Cydsyniad Brenhinol ym mis Gorffennaf 2018.

Y newid arall amlwg yw bod Prif Weinidog yr Alban wedi datgan, ym mis Ebrill 2017, y byddai Llywodraeth yr Alban yn cynnal ail refferendwm ar annibyniaeth cyn i'r DU adael yr UE ym mis Mawrth 2019. Wedyn, cyhoeddodd Prif Weinidog yr Alban na fyddai dyddiad ar gyfer refferendwm yn cael ei bennu ar unwaith ond y bydd yn ailystyried yr angen am refferendwm yn ystod hydref 2018.

Yn olaf, yn unol â llinell amser arfaethedig Llywodraeth y DU, amcangyfrifodd yr iteriad cyntaf y byddai'r DU wedi dod i gytundeb gyda'r UE o ran telerau ymadael a manylion y berthynas fasnachu yn y dyfodol. Er bod y DU a'r UE yn gobeithio dod i gytundeb ar ddatganiad gwleidyddol ynghylch fframwaith perthynas yn y dyfodol erbyn mis Mawrth 2019, gwyddom, bellach, ei bod yn annhebygol y byddant wedi cytuno ar fanylion cytundebau masnach a chytundebau eraill y dyfodol. Yn hytrach, os gallant ddod i gytundeb ar y materion ymadael, bydd cyfnod pontio ychwanegol o 21 mis i ddod i gytundeb ar y manylion.