Cyhoeddwyd 03/03/2017
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
03 Mawrth 2017
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
Gosodwyd
ail gyllideb atodol 2016-17 gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ar 7 Chwefror 2017. Yn ogystal, cyflwynwyd
nodyn esboniadol a
thablau yn dangos y dyraniadau i'r adrannau. Mae'r gyllideb atodol hon yn diwygio'r gyllideb atodol gyntaf ar gyfer 2016-17, a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2016. Mae Pwyllgor Cyllid wedi cyhoeddi ei adroddiad
Craffu ar Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru 2016-2017 ar 2 Mawrth.
Mae dros ddeuparth y dyraniadau cyllid yn y gyllideb hon yn gyllid ychwanegol i'r GIG, gan gynnwys £75.9 miliwn i fynd i'r afael â gorwariant disgwyliedig Byrddau Iechyd Lleol (â £7.5 miliwn o hwnnw yn ychwanegol at y £68.4 miliwn
a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016), £50 miliwn i fynd i'r afael â
phwysau'r gaeaf, £27 miliwn i ariannu'r diffyg incwm yn sgil y Cynllun Rheoleiddio Prisiau Fferyllol, ac £16 miliwn i
gefnogi lansiad y Gronfa Triniaethau newydd.
At hynny, mae £20 miliwn wedi cael ei ddyrannu i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i ddiwallu anghenion ariannol argymhellion Adroddiad Diamond, £8.5 miliwn i sefydlu Trafnidiaeth Cymru er mwyn dylunio a gosod masnachfreintiau'r rheilffordd a Metro De Cymru, a £4 miliwn i
Tata Steel i gefnogi anghenion sgiliau.
Y prif ddyraniadau ariannol a wnaed oedd £47 miliwn at y prosiect cefnffyrdd (gan gynnwys £22 miliwn ar gyfer datblygu heol yr M4), £33.4 miliwn mewn grantiau a benthyciadau i gwblhau'r blaenoriaethau datblygu economaidd, a £30 miliwn at yr ymrwymiad a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu i
adeiladu 20,000 yn rhagor o dai fforddiadwy.
Ariennir y buddsoddiadau hyn trwy gymysgedd o ddyraniadau o'r cronfeydd wrth gefn a chronfeydd a gariwyd drosodd o'r flwyddyn ariannol flaenorol ac maent hefyd yn ystyried newidiadau yn y cyllid gan Lywodraeth y DU.
Mae'r siart yn crynhoi'r newidiadau i'r dyraniadau ariannol yn gyffredinol, ynghyd â'r dyraniadau o ran refeniw cyllidol a gwariant cyfalaf rhwng gwahanol adrannau Llywodraeth Cymru, gan gymharu'r gyllideb atodol flaenorol â'r un gyfredol.
Erthygl gan Martin Jennings a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.