Cyhoeddwyd 11/02/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
![2014-15 second supplementary budget (welsh)-01](/researchblogfilescy/2015/02/2014-15-second-supplementary-budget-welsh-01.jpg?w=212)
Gosododd y Gweinidog Cyllid (Jane Hutt AC) yr ail
Gyllideb Atodol ar gyfer 2014-15 ar 10 Chwefror 2015. Yn ogystal, cyflwynwyd
nodyn esboniadol a
thablau yn dangos y dyraniadau i'r prif grwpiau gwariant (MEG). Mae'r gyllideb atodol hon yn diwygio'r
Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2014-15, a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf 2014.
Mae'r prif ddyraniadau refeniw ychwanegol yn y portffolio Iechyd, sef y
£200 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Hydref ar gyfer y GIG, ynghyd â £40 miliwn i ariannu
pwysau'r gaeaf yn y GIG.
Mae'r prif ddyraniadau cyfalaf ychwanegol fel a ganlyn: £14.9 miliwn ar gyfer y GIG
a gyhoeddwyd ym mis Ionawr; £10.8 miliwn o gyllid trafodion ariannol ar gyfer Tai drwy'r
Grant Tai Cymdeithasol a'r Benthyciadau Gwella'r Cartref; a £5 miliwn ychwanegol ar gyfer
Cronfa Twf Cyfalaf Cyllid Cymru.
Caiff y buddsoddiadau hyn eu hariannu gan gyfuniad o ddyraniadau o gronfeydd, ailddyrannu arbedion o adrannau eraill a throsglwyddiadau o adrannau Llywodraeth y DU.
Ceir crynodeb o sut y caiff y gwariant yn ôl disgresiwn ('Terfyn Gwariant Adrannol') ei neilltuo i adrannau gwahanol o Lywodraeth Cymru yng Nghyllideb Atodol 2014-15 isod. Mae cyfanswm y Terfyn Gwariant Ariannol wedi cynyddu £298 miliwn, neu 1.9%, o gymharu â'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2014-15, a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2014.
Erthygl gan Gareth Thomas a David Millett, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.