Ar 1 Chwefror 2022, bydd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, yn gwneud datganiad i’r Senedd ynghylch diwygio’r diwrnod ysgol a’r flwyddyn ysgol. Mae’r erthygl hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth gefndir am ddiwygiadau posibl, yn nodi’r sefyllfa gyfreithiol bresennol ac yn edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd mewn gwledydd eraill yn y maes hwn.
Pwy sy'n gyfrifol am bennu tymhorau ysgol?
Ar hyn o bryd, awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig sy'n gyfrifol am bennu dyddiadau tymhorau a gwyliau. Mae’n rhaid iddynt weithio gyda'i gilydd, gan geisio cysoni dyddiadau - i sicrhau y defnyddir yr un dyddiadau neu ddyddiadau sydd mor debyg â phosibl - ar draws Cymru. Mae Deddf Addysg (Cymru) 2014 hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion sefydledig ynghylch dyddiadau eu tymhorau.
Mae Rheoliadau yn nodi bod yn rhaid i ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac ysgolion arbennig gyfarfod ar gyfer diwrnod ysgol a rennir fel arfer yn ddwy sesiwn (gydag egwyl yn y canol), ac i ysgolion (heblaw am ysgolion meithrin) gyfarfod am o leiaf 380 o sesiynau, sy'n cyfateb i 190 o ddiwrnodau, yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol.
Cyrff llywodraethu ysgolion sy'n gyfrifol am bennu amseroedd sesiynau ysgol. Ond, pan fo awdurdod lleol yn fodlon y byddai newid amser sesiwn ysgol ar ddechrau neu ar ddiwedd diwrnod ysgol yn hyrwyddo dulliau teithio cynaliadwy neu’n gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd trefniadau teithio, caiff newid yr amseroedd hynny.
Pam diwygio'r flwyddyn ysgol a’r diwrnod ysgol?
Mae patrwm y flwyddyn ysgol a'r diwrnod ysgol wedi bod yn destun dadl ers blynyddoedd lawer. Ym mis Rhagfyr 2017, comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad o delerau ac amodau athrawon ysgol. Yn ei adroddiad (Medi 2018), dywedodd panel yr adolygiad “ei bod hi’n amser meddwl o’r newydd am sut mae addysg yn gweithio i ddisgyblion a’u teuluoedd ac i athrawon”.
Argymhellodd y panel y dylid sefydlu Comisiwn i “ail-greu addysg yng Nghymru”. Byddai'r Comisiwn yn edrych ar sut y gellid newid y system ysgol i gyd-fynd â bywyd modern a bywyd a ragwelir yn y dyfodol i deuluoedd a chymunedau. Byddai’n ystyried a ddylid ailystyried rhythm y flwyddyn ysgol, patrwm tymhorau a gwyliau a ffurf y diwrnod ysgol.
Mewn ymateb i'r argymhelliad hwn, penodwyd y Panel Arbenigol yn 2019 i ymgymryd â cham cyntaf y gwaith. Disgwyliwyd iddo gyflwyno ei adroddiad i Lywodraeth Cymru erbyn mis Medi 2019, gyda’r adroddiad hwnnw’n sail i’r broses ymchwilio ac ymgynghori a fyddai’n cael ei datblygu yng Ngham 2 o’r gwaith. Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2021, dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg ar y pryd, fod COVID 19 wedi atal y gwaith hwn yn rhannol.
Beth yw manteision newid y flwyddyn ysgol?
Ym mis Ionawr 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Effaith newidiadau i'r flwyddyn ysgol a chalendrau ysgol amgen: adolygu tystiolaeth', crynodeb o brif ganfyddiadau ac argymhellion Asesiad Cyflym o’r Dystiolaeth. Ystyriodd yr asesiad hwnnw effaith newidiadau i’r flwyddyn ysgol, gan gynnwys:
- effeithiau ar ddysgu;
- iechyd a lles plant
- darparu gofal bob pen i’r diwrnod;
- bywyd teuluol;
- effeithiau cymdeithasol eraill.
Edrychodd yr adolygiad ar ddeunydd darllen, gan gynnwys astudiaethau o Gymru, y DU ehangach, ac UDA.
Canfu fod tystiolaeth 'gymysg ac amhendant' mewn perthynas â newid y flwyddyn ysgol. Ychydig o ymchwil sydd ar gael i alluogi Llywodraeth Cymru i ymchwilio i’r pynciau hyn. Mae’r adolygiad yn argymell sicrhau bod unrhyw raglen arfaethedig i newid y calendr ysgolion yn cynnwys proses drylwyr ac o ansawdd o gasglu a gwerthuso tystiolaeth o’r cychwyn cyntaf.
Sut y mae gwledydd eraill yn strwythuro eu blwyddyn ysgol?
Mae adroddiad yr Asiantaeth Weithredol Addysg a Diwylliant Ewropeaidd, sef 'Organisation of School Time in Europe', yn rhoi gwybodaeth ryngwladol am ddyddiadau dechrau a gorffen a hyd y flwyddyn ysgol, hyd gwyliau ysgol a phryd maent yn digwydd a nifer y diwrnodau ysgol. Er bod rhai gwahaniaethau, mae calendrau ysgol gwledydd yn Ewrop yn debyg iawn.
Ar draws Ewrop, mae pum prif gyfnod o wyliau ysgol: yr hydref; y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd; y gaeaf/carnifal; y gwanwyn/Pasg; a’r haf. Heblaw am wyliau'r Nadolig/Flwyddyn Newydd, mae gwyliau ysgol eraill yn amrywio o ran hyd a phryd maent yn digwydd. Yn gyffredinol, mae'r flwyddyn ysgol yn gorffen rhwng diwedd mis Mai ac ail hanner mis Gorffennaf. Mae hyd gwyliau'r haf yn amrywio'n sylweddol rhwng gwledydd: o 6 wythnos mewn rhai ardaloedd yn yr Almaen i 11-14 wythnos yn yr Eidal a Phortiwgal.
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd?
Mae 'Rhaglen Lywodraethu 2021-2026' Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i ystyried diwygio strwythur y diwrnod ysgol a’r flwyddyn ysgol. Gan adeiladu ar hynny, mae'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn datgan y canlynol:
er mwyn lleihau anghydraddoldeb addysgol a chefnogi lles y dysgwyr a’r staff, byddwn yn ystyried diwygio dyddiadau tymhorau ysgol mewn ffordd radical er mwyn iddynt gyd-fynd yn well â phatrymau bywyd teuluol a chyflogaeth.
Mae’n mynd ymlaen i ddweud y canlynol:
ochr yn ochr â diwygio'r flwyddyn ysgol, byddwn yn ystyried yr opsiynau ar gyfer rhythm y diwrnod ysgol, yn benodol er mwyn creu lle ar gyfer sesiynau ychwanegol a fydd yn darparu gweithgareddau a chyfleoedd mwy eang eu natur, a fydd yn ddiwylliannol hygyrch.
Ar 9 Rhagfyr 2021, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, fel rhan o’r gwaith i ystyried diwygio’r flwyddyn ysgol, fod £2 filiwn ar gael i hyd at 14 o ysgolion gymryd rhan mewn treial cenedlaethol. Dros raglen 10 wythnos, bydd yr ysgolion cynradd ac uwchradd yn darparu pum awr ychwanegol o weithgareddau pwrpasol bob wythnos i grwpiau o ddysgwyr, gyda sesiynau megis celf, cerdd a chwaraeon, yn ogystal â sesiynau academaidd craidd. Bydd ysgolion yn gallu gweithio gyda phartneriaid allanol i gynnal y sesiynau ychwanegol neu addasu gweithgareddau presennol megis clybiau ar ôl ysgol.
Mae ffurf bresennol y flwyddyn ysgol wedi’i hen sefydlu ac mae gwneud newidiadau yn awgrym beiddgar, gyda llawer o wledydd â systemau gweddol debyg o wyliau haf hir. Gallwch ddilyn datganiad y Gweinidog ar SeneddTV ar 1 Chwefror.
Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru