Ail gartrefi: beth sy'n digwydd yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 30/09/2022   |   Amser darllen munud

Mae poblogrwydd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid wedi creu marchnad ail gartrefi fawr, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac arfordirol gyda golygfeydd hardd. Fodd bynnag, mae'r crynodiad uchel o ail gartrefi yn y rhanbarthau hyn wedi codi pryderon ynghylch eu heffeithiau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ar gymunedau lleol. Mae ail gartrefi bellach yn uchel ar agenda Llywodraeth Cymru, wnaeth ymrwymo i fynd i’r afael â’r mater hwn fel rhan o’r Cytundeb Cydweithrediad gyda Phlaid Cymru yn 2021.

Mae’r erthygl hon yn rhoi trosolwg o’r mater ynghylch ail gartrefi yng Nghymru ac ymatebion Llywodraeth Cymru hyd yma.

Beth yw ail gartrefi?

Defnyddir “ail gartref” yn gyffredin i gyfeirio at eiddo nad yw'n brif breswylfa i berson ond a ddefnyddir yn achlysurol gan y perchennog, ei deulu a'i ffrindiau.

Nid oes gwahaniaeth clir bob amser rhwng y math hwnnw o eiddo ac un a ddefnyddir yn achlysurol neu'n rheolaidd at ddibenion gosodiadau tymor byr. Weithiau, mae pobl yn defnyddio'r term cartrefi gwyliau i gwmpasu'r ddau fath o eiddo.

Faint o ail gartrefi sydd yng Nghymru?

Mae’n anodd cyfrifo nifer yr ail gartrefi yng Nghymru, neu gartrefi gwyliau yn fwy eang. Yn ôl data treth gyngor, roedd 23,974 o gartrefi eilaidd yng Nghymru ym mis Ionawr 2022. Mae hyn yn cyfrif am gyfran gymharol fach o gyfanswm nifer yr anheddau yng Nghymru, a oedd yn 1.43 miliwn ar ddechrau 2020.

Fodd bynnag, nid yw'r ffigurau hyn yn rhoi cyfrif llawn am ail gartrefi y gellir eu defnyddio hefyd at ddibenion gosodiadau tymor byr sy'n darparu llety hunanarlwyo, gyda rhai ohonynt wedi'u cofrestru fel busnesau ac felly nid ydynt yn ymddangos ar restrau'r dreth gyngor.

Nid yw'r ffigurau ychwaith yn cyfrif am y dosbarthiad hynod anwastad o ail gartrefi ledled Cymru. Mewn adroddiad yn 2020 ar nifer y ‘cartrefi gwyliau’ yng Nghymru (sy’n golygu ail gartrefi preifat a gosodiadau tymor byr), mae Cyngor Gwynedd yn amcangyfrif bod 10.76% o'r tai oedd ar gael yng Ngwynedd yn gartrefi gwyliau, gyda ffigwr o 9.15% ar gyfer Sir Benfro ac 8.26% ar gyfer Ynys Môn. Mewn cymhariaeth, y gyfran yng Nghaerdydd oedd 2.29%, yn Abertawe 1.92% ac yng Nghasnewydd dim ond 0.03%.

Pam fod hyn o bwys?

Mae'r crynodiad uchel o ail gartrefi mewn ardaloedd penodol wedi'i gysylltu â nifer o broblemau. Yn y lle cyntaf, mae yna bryderon bod ail gartrefi yn codi prisiau tai, gan wneud tai yn anfforddiadwy i bobl leol. Dadleuodd Cyngor Gwynedd mewn ymchwil yn 2020 fod cysylltiad rhwng perchnogaeth cartrefi gwyliau a phrisiau tai uchel. Fodd bynnag, mewn adroddiad ar ail gartrefi a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, nododd Dr Simon Brooks o Brifysgol Abertawe i bod yn amhosibl dweud mai ail gartrefi sy’n bennaf gyfrifol am chwyddiant prisiau tai.

At hynny, mae yna bryderon bod niferoedd uchel o ail gartrefi a gosodiadau tymor byr yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedol. Wrth i bobl leol symud i ffwrdd oherwydd diffyg tai fforddiadwy, mae trefi a phentrefi mewn perygl o dyfu’n gynyddol wag y tu allan i dymor y gwyliau. Gall hyn arwain at gau gwasanaethau lleol a busnesau lleol – ac eithrio'r rheini a gefnogir gan dwristiaeth dymhorol – yn cael effaith negyddol ar weddill trigolion parhaol yr ardal.

Pryder allweddol arall yw goroesiad y Gymraeg, o ystyried bod llawer o’r ardaloedd yr effeithir arnynt fwyaf gan berchenogaeth ail gartrefi yn rhai Cymraeg eu hiaith. Mae ofnau cynyddol bod defnydd o’r Gymraeg yn dirywio yn ei bro draddodiadol wrth i ledaeniad ail gartrefi danseilio cymunedau Cymraeg eu hiaith a gwthio siaradwyr Cymraeg iau i ffwrdd. Mae ymgyrchwyr hefyd wedi dadlau fod erydiad y Gymraeg oherwydd diffyg tai yn groes i gynllun Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Fodd bynnag, mae ail gartrefi – a chartrefi gwyliau yn fwy cyffredinol – yn parhau i fod yn fater cymhleth. Mae twristiaeth yn rhan fawr o'r economi mewn llawer o ardaloedd gwledig ac arfordirol, ac mae rhanddeiliaid yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch yn pwysleisio bod presenoldeb llety gwyliau yn bwysig i gynnal yr economi ymwelwyr.

Codwyd cwestiynau hefyd o ran ai ail gartrefi yn unig sydd ar fai am yr effaith ar gymunedau lleol. Mae perchnogion ail gartrefi wedi dadlau eu bod wedi’u pardduo’n annheg am eu rôl mewn problem amlochrog ac wedi tynnu sylw at yr hyn y maent yn ei weld fel prinder cyffredinol o dai fforddiadwy yng Nghymru.

Camau gan Lywodraeth Cymru ar ail gartrefi

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad Brooks, ym mis Gorffennaf 2021 cyhoeddodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, gynllun newydd 'dull tair elfen' Llywodraeth Cymru, a fyddai’n mynd i’r afael ag argaeledd tai ac yn archwilio ffyrdd o ddiwygio systemau cynllunio a threth.

Dilynwyd hyn gan gyhoeddi cynllun peilot parhaus yn Nwyfor (Gwynedd) i brofi mesurau arfaethedig. At hynny, bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y Cynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg, sydd â’r nod o ddarparu cymorth i gymunedau Cymraeg eu hiaith mewn ardaloedd â chrynodiad uchel o ail gartrefi.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fesurau deddfwriaethol newydd ym mis Mawrth 2022, sy’n canolbwyntio ar dreth. O fis Ebrill 2023 ymlaen, bydd cynghorau lleol yn gallu codi uchafswm premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi i 300% (i fyny o’r terfyn o 100% a osodwyd yn 2017). At hynny, mae rheoliadau newydd wedi’u sefydlu i gynyddu nifer y diwrnodau y mae’n rhaid i lety hunanarlwyo gael ei osod i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes.

Ym mis Gorffennaf 2022, fe wnaeth y Prif Weinidog, Mark Drakeford ac Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price gyhoeddi ar y cyd y byddai newidiadau i ddod i reoliadau cynllunio yng Nghymru, a fydd yn golygu cyflwyno dosbarthiadau defnydd newydd er mwyn gwahaniaethu’n well rhwng cartrefi cynradd ac eilaidd a gosodiadau tymor byr. Roedd y cyhoeddiad hefyd yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu cynllun trwyddedu statudol newydd ar gyfer pob llety i ymwelwyr, ac i ganiatáu mwy o bwerau i gynghorau dros gyfraddau treth a niferoedd ail gartrefi.

Cafodd y dosbarthiadau defnydd newydd eu gosod gan Lywodraeth Cymru ar 28 Medi a byddant yn dod i rym ar 20 Hydref.

Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar ail gartrefi

Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd adroddiad manwl yn archwilio ymateb Llywodraeth Cymru i’r mater, ac yn gwerthuso’r dystiolaeth sydd ar gael ar hyn o bryd i lunwyr polisi.

Mae'r adroddiad yn gwneud pymtheg o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Yn nodedig, mae’n gofyn am fwy o eglurder ynghylch sut y caiff ail gartrefi eu diffinio a sut y caiff effeithiolrwydd deddfwriaeth a weithredir i wrthsefyll eu heffaith, ei fesur. At hynny, mae’n awgrymu cynnal ymchwil manylach i wahanol agweddau ar yr argyfwng, gan ofyn i Lywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd yn rheolaidd am ei chynnydd.

Fe wnaeth y Gweinidog Newid Hinsawdd ymateb i'r adroddiad hwn ar 28 Gorffennaf, gan dderbyn y rhan fwyaf o'i argymhellion.

Y camau nesaf

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gymryd cyfres o gamau gweithredu ynghylch ail gartrefi cyn diwedd 2022. Mae’r rhain yn cynnwys agor ymgynghoriad ar drwyddedu statudol at dibenion llety gwyliau, lansio arolwg i drigolion ar effaith twristiaeth, a darparu diweddariadau i’r Senedd ar y modd y mae’n mynd i’r afael â’r mater o eiddo gwag, hirdymor mewn ardaloedd y mae prinder tai yn effeithio arnynt.

At hynny, bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau dadansoddi data ar y Gymraeg o gyfrifiad 2021, yn dilyn eu rhyddhau yn ystod hydref 2022 gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Disgwylir i’r Senedd drafod adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai am ail gartrefi ddydd Mercher 5 Hydref 2022. Gallwch wylio'r ddadl yma.


Erthygl gan Samuel Young, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru