Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.
I lawer o bobl, roedd y cyhoeddiad ar Noswyl Nadolig 2020 fod y DU a’r UE wedi taro cytundeb yn cau pen y mwdwl ar ddrama hirfaith y negodiadau Brexit. Mewn gwirionedd, mae’r cytundeb ond yn amlinelliad bras o’r bennod nesaf yn y ddrama hon, sef y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol. Bydd hynt a helynt y berthynas hon, o ran ei goblygiadau ymarferol, yn rhan allweddol o stori'r Chweched Senedd.
Ar yr olwg gyntaf, mae’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE yn gytundeb masnach rydd fel unrhyw gytundeb arall o’i fath. Ac eto, mae'n llawer mwy na hynny. Mae'n cynnwys llawer o feysydd nad ydynt, fel rheol, yn cael eu cynnwys mewn cytundebau masnach, fel iechyd a nawdd cymdeithasol. Mae telerau’r cytundeb yn hir ac yn gymhleth ac yn rhai sy’n cydblethu. Mae mwyafrif ei ddarpariaethau yn effeithio ar feysydd sy’n gorwedd o fewn cyfrifoldebau’r Senedd. Mae’r rhain yn cynnwys pysgodfeydd ac yswiriant gofal iechyd.
Nid oes eglurder eto ynglŷn â llawer o'r manylion ynghylch sut y bydd y cytundeb yn gweithio'n ymarferol. Mae busnesau a dinasyddion Cymru yn parhau i wynebu ansicrwydd ynghylch yr hyn y mae'r cytundeb yn ei olygu iddyn nhw.
Yn ystod y Chweched Senedd, mae’n bosibl y byddwn yn gweld bod y ddrama hon ymhell o fod ar ben.
Beth sydd wedi cael ei gytuno a beth mae hyn yn ei olygu i Gymru?
Mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn gosod y sylfaen ar gyfer perthynas newydd y DU a'r UE. Mae'n dilyn y Cytundeb Ymadael, sy'n pennu’r telerau ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE.
Mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn ddigynsail gan ei fod yn ailddiffinio’r berthynas rhwng y DU a'r UE, a hynny mewn modd sy'n cynyddu’r pellter rhyngddynt yn hytrach na’u dwyn ynghyd.
Er bod y cytundeb yn ymwneud â llawer o feysydd lle mae’r DU a'r UE yn cydweithredu, nid yw rhai o’r trefniadau pwysig eto wedi cael eu cadarnhau.
Meysydd y mae’r berthynas newydd rhwng y DU a'r UE yn berthnasol iddynt
Ffynhonnell: Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE
Bydd y Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn llywio sawl agwedd ar fywyd yng Nghymru, fel yr amgylchedd busnes a masnach, pysgodfeydd, iechyd a theithio.
Busnes a masnach
Mae'r modd y mae'r DU yn masnachu â'r UE wedi newid yn sylfaenol. Fel rhan o’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu, mae’r DU a'r UE wedi cytuno na fydd tariffau na chwotâu yn cael eu cymhwyso i fasnach mewn nwyddau – ar yr amod bod masnachwyr yn cydymffurfio â’r rheolau tarddiad. Fodd bynnag, mae yna rwystrau di-dariff newydd sydd wedi creu costau uwch i fusnesau. Mae rhai sectorau, fel cynhyrchwyr pysgod cregyn, hefyd wedi methu â gwerthu eu cynnyrch i'r UE yn sgil ei rheolau ar fasnachu â thrydydd gwledydd.
Cyflwynodd yr UE reolaethau ffiniau llawn mewn perthynas â nwyddau o Brydain Fawr ar 1 Ionawr. Yn y cyfamser, bydd y DU yn cyflwyno ei rheolaethau ffiniau fesul cam tan fis Mawrth 2022. Bydd angen adeiladu seilwaith newydd ar y ffin yng Nghymru, a bydd gan Lywodraeth newydd Cymru rai cyfrifoldebau mewn perthynas â phrosesau ar y ffin, megis gwiriadau ar anifeiliaid.
Mae Llywodraeth flaenorol Cymru wedi dweud: “Ni fydd union effaith y TCA yn glir am gyfnod mewn sawl maes”. Bydd angen i'r Chweched Senedd fonitro’n ofalus yr effaith ar fusnesau Cymru sy'n masnachu â'r UE, yn ogystal â chraffu ar sut mae Llywodraeth newydd Cymru yn ymgymryd â’i chyfrifoldebau.
Yr amgylchedd a physgodfeydd
Mae cydweithredu amgylcheddol wedi’i gynnwys yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu mewn sawl ffordd. Ar y naill law, mae'n rhan o'r 'cae chwarae gwastad', fel y’i gelwir, ar gyfer sicrhau cystadleuaeth deg rhwng y DU a'r UE, a sicrhau nad oes modd gostwng safonau heb ddioddef canlyniadau. Ar y llaw arall, mae'r bartneriaeth gyfan yn seiliedig ar ymrwymiad i fynd i'r afael â newid hinsawdd, sy'n elfen hanfodol o’r cytundeb hwn a phob cytundeb rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol.
Roedd y trefniadau ar gyfer pysgodfeydd yn faen tramgwydd yn y trafodaethau, ond fe drawyd cytundeb yn y pendraw. Mae un o’r trefniadau newydd yn darparu y bydd 25 y cant o gwota’r UE yn nyfroedd y DU yn cael ei drosglwyddo i’r DU dros gyfnod o bum mlynedd a hanner. Mae sawl rhan arall o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn gysylltiedig â'r trefniadau ar gyfer pysgodfeydd. Er enghraifft, os yw'r DU neu'r UE yn cyfyngu ar y mynediad a ganiateir i'w dyfroedd, gall y llall daro'r pwyth yn ôl drwy’r defnydd o dariffau. Neu, os bydd un ochr yn penderfynu rhoi terfyn ar y trefniadau ar gyfer pysgodfeydd, bydd y trefniadau ar gyfer hedfan a chludiant ar y ffyrdd hefyd yn dod i ben.
Iechyd
Mae gwahanol fathau o gydweithredu rhwng y DU a’r UE ym maes iechyd wedi'u cynnwys yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Er enghraifft, mae dyletswydd gyffredinol i gydweithredu ar fygythiadau trawsffiniol difrifol ym maes iechyd. Yn ogystal, mae darpariaethau penodol sy'n sicrhau bod Cardiau Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) yn parhau i fod yn ddilys tan iddynt ddod i ben, ynghyd â darpariaethau ar hawliau dinasyddion y DU sy'n teithio yn yr UE i gael mynediad at rai mathau o ofal iechyd, ac i'r gwrthwyneb.
Teithio
Mae’r rheolau ar deithio o Gymru i wledydd yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ a Liechtenstein at ddibenion gwyliau, gwaith, astudio a phreswylio wedi newid o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu. Mae’r newidiadau yn cynnwys gofynion o ran fisâu a hawlenni (yn dibynnu ar hyd yr arhosiad, a'r wlad y mae’r person dan sylw yn ymweld â hi), gwiriadau ychwanegol ar deithwyr a rheolau newydd ar gyfer gyrru, teithio gydag anifeiliaid anwes, trawsrwydweithio symudol, a’r drefn iawndal os yw rhywbeth yn tarfu ar daith.
Ar y gorwel
Mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn cynnwys nifer o derfynau amser sy’n ymwneud â phenderfyniadau na chawsant eu gwneud ym mis Rhagfyr 2020, gan gynnwys sefydlu cyrff newydd i roi'r cytundeb ar waith ac i adolygu rhai o'i ddarpariaethau. Mae rhai o’r terfynau amser pwysig hyn yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon.
Mae'r cytundeb yn sefydlu 24 o bwyllgorau a gweithgorau rhwng y DU a’r UE. Byddant yn chwarae rhan strategol hanfodol yn y broses o oruchwylio a gweithredu'r cytundeb, yn ogystal â’r broses o bennu ei gyfeiriad a'i gynnwys yn y dyfodol. Nid oes cytundeb eto ynghylch eu haelodaeth, gan gynnwys y rôl y bydd Llywodraethau datganoledig yn ei chwarae. Bydd Cynulliad Partneriaeth Seneddol rhwng y DU a’r UE hefyd yn cael ei sefydlu. Mae trafodaethau ynghylch ei ffurf a’r modd y bydd yn ymgysylltu â'r deddfwrfeydd datganoledig yn mynd rhagddynt.
Mae angen cynnal adolygiad ar y cyd o’r cytundebau sy’n bodoli rhwng y DU a’r UE bob pum mlynedd. Mae'r cytundeb hefyd yn caniatáu i'r DU neu'r UE alw am adolygiad o ddarpariaethau masnach y cytundeb ar ôl cyfnod o bedair blynedd, os yw’r naill ochr neu’r llall o’r farn nad yw’r ymrwymiadau ynghylch cystadleuaeth deg yn cael eu hanrhydeddu. Gallai hyn arwain at newidiadau pellach yn y berthynas fasnach. Byddai modd cynnwys rhannau eraill o'r cytundeb yn yr adolygiad hwn hefyd.
Mae'r cytundeb yn gymhleth, ac mae llawer o ddarpariaethau ynddo nad ydynt eto wedi cael eu profi ar lawr gwlad. Mae’r broses o gytuno ar sut y dylid dehongli'r testun, a sut y dylai’r cytundeb weithredu'n ymarferol, yn debygol o gymryd cryn amser. Er enghraifft, mae'r cytundeb yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff goruchwylio’r DU a'r UE ym maes yr amgylchedd gynnal cyfarfodydd rheolaidd a chydweithio at ddibenion gorfodi ymrwymiadau amgylcheddol y cytundeb mewn modd effeithiol. Hyd yn hyn, nid oes penderfyniadau wedi’u gwneud ynghylch ffurf y cyfarfodydd hyn, pwy fydd yn cymryd rhan a pha rôl fydd gan reoleiddwyr datganoledig.
Yn ogystal, bydd trafodaethau'n parhau mewn perthynas â rhai meysydd sy’n bwysig i Gymru ond lle na chafwyd cytundeb yn eu cylch. Mae'r rhain yn cynnwys enwau gwarchodedig ar gyfer bwyd a diod o Gymru, rhaglenni cyllido'r UE, a’r mater o gyd-gydnabod cymwysterau proffesiynol (MRPQ).
“Llawer mwy i'w wneud”
Mae rhestr hir o dasgau ar gyfer y Chweched Senedd mewn perthynas â'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu a gwaith ymgysylltu’r Senedd ag Ewrop yn y dyfodol. Fel y dywedodd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Bumed Senedd , mae llawer mwy i’w wneud o ran asesu’r goblygiadau i Gymru.
Mae'r cytundeb yn newydd a heb ei brofi. Nid yw’r manylion ynghylch y modd y caiff ei weithredu’n ymarferol wedi cael eu cytuno. Mae'r cytundeb yn un deinamig a fydd yn esblygu ac yn cael ei adolygu yn ystod y Senedd hon. Mae cydberthnasau newydd yn ymsefydlu, a bydd angen i'r Senedd a Llywodraeth Cymru ddiffinio’r cydberthnasau hyn a’u rôl newydd ynddynt. Bydd effaith y berthynas newydd hon ar gyfansoddiad y DU, a’r effaith ar sefyllfa Cymru yn y byd, yn dod i’r amlwg yn ystod y Chweched Senedd.
Er mai mis Rhagfyr 2020 oedd diweddglo cyfres 1 o ddrama Brexit, dim ond megis dechrau y mae cyfres 2, sef ‘Brexit: y berthynas newydd.’
Erthygl gan Nia Moss, Sara Moran, Rhun Davies ac Joe Wilkes Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru