- Cyfrifiad bob 10 mlynedd, fel yr un a gafwyd yn 2011, ond yn bennaf ar-lein.
- Cyfrifiad sy’n defnyddio data gweinyddol y llywodraeth ac arolygon gorfodol bob blwyddyn.
Ai cyfrifiad 2011 oedd yr olaf o’i fath?
Cyhoeddwyd 27/11/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
27 Tachwedd 2013
Erthygl gan Martin Jennings, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_682" align="alignnone" width="300"] Peiriant dadansoddi cyfrifiad Hollerith. Llun o Flickr gan Erik Pitti. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Mae’r cyfrifiad wedi bod yn rhan o’n bywydau ers 1801. Costiodd y cyfrifiad diwethaf £482 miliwn i drethdalwyr. Gyda’n cymdeithas yn newid yn gyflym, datblygiadau ym maes technoleg a ffynonellau data gwell, mae dulliau newydd yn dod i’r amlwg sy’n wahanol i’r dull traddodiadol o anfon arolwg y cyfrifiad i bob cartref.
A oes angen cynnal cyfrifiad?
Defnyddir data’r Cyfrifiad ar gyfer cynllunio gwasanaethau, llunio polisïau, monitro, dyrannu adnoddau, cynllunio masnachol, a gwaith ymchwil academaidd a chymdeithasol.
Mae gwelliannau ym maes technoleg a data’r llywodraeth yn cynnig cyfleoedd naill ai i foderneiddio proses bresennol y cyfrifiad, neu i ddatblygu dull amgen o gynnal cyfrifiad sy’n ailddefnyddio’r data a gedwir eisoes gan y llywodraeth.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n gyfrifol am gynnal y cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr, wrthi’n adolygu anghenion defnyddwyr ac yn ystyried ffyrdd posibl o gynnal y cyfrifiad yn y dyfodol fel rhan o brosiect Y Tu Hwnt i 2011.
Opsiynau ymgynghori ar gyfer 2021?
Yn dilyn gwaith ymchwil, mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar ddau ddull gweithredu posibl ar gyfer y cyfrifiad yn y dyfodol: