Llun agos o Lygad Dynol

Llun agos o Lygad Dynol

‘Agoriad Llygaid’ – Rhestrau Aros Offthalmoleg yng Nghymru

Cyhoeddwyd 17/09/2024   |   Amser darllen munud

Mae ein llygaid yn caniatáu inni gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd, mwynhau harddwch y byd, a chynnal ein hannibyniaeth. Mae gofal llygaid priodol yn hanfodol i atal a rheoli cyflyrau’r llygaid, oherwydd byddai modd osgoi hanner yr holl achosion o golli golwg drwy ganfod cyflyrau’n gynnar a’u trin mewn da bryd.

Fodd bynnag, mae gwasanaethau gofal llygaid yng Nghymru o dan bwysau aruthrol. Mae cyn Lywydd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yng Nghymru, Gwyn Williams, wedi rhybuddio y bydd nifer yr achosion o golli golwg yn codi’n aruthrol oni bai bod gwelliannau brys yn cael eu gwneud i’r ddarpariaeth gofal llygaid arbenigol. Mae’r erthygl hon yn archwilio’r rhybudd hwn a’r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros ac atal achosion y gellid eu hosgoi o golli golwg.

Amseroedd aros hir

Yng Ngorffennaf 2024, roedd 80,173 o lwybrau cleifion, 50.7 y cant o gleifion â’r risg fwyaf o golli golwg, yn aros yn hirach na’u dyddiad targed am driniaeth. 

Yn 2019, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno targedau gofal llygaid newydd i flaenoriaethu’r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o ddallineb.

Mae'r Mesurau Gofal Llygaid ar gyfer cleifion allanol y GIG yn cyflwyno targedau blaenoriaethu clinigol penodol ar gyfer offthalmoleg lle rhoddir uchafswm amser aros i gleifion yn seiliedig ar lefel eu risg a’r brys (“Ffactor Risg Iechyd”).  Gan fod oedi cyn rhoi triniaeth yn gysylltiedig â chanlyniadau sylweddol, mae targedau i fyrddau iechyd sicrhau bod 95 y cant o gleifion sydd wedi’u categoreiddio fel y rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o golli eu golwg heb allu ei wrthdroi (cleifion R1) gael eu gweld erbyn eu dyddiad targed.

Mae RNIB Cymru yn nodi bod nifer y cleifion sy'n aros y tu hwnt i'w dyddiad targed am apwyntiad wedi mwy na dyblu yn y pum mlynedd diwethaf.

Mae RNIB Cymru yn tynnu sylw at y ffaith mai offthalmoleg yw’r arbenigedd cleifion allanol prysuraf yn GIG Cymru, gan gyfrif am 1 o bob 8 claf ar y rhestr aros. Mae'r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Mehefin 2024 yn dangos bod 108,307 o’r 791,511 o lwybrau cleifion ar restr aros y GIG yng Nghymru yn gleifion offthalmoleg.

Dywedodd Val Robinson o’r Gymdeithas Macwlaidd wrth y BBC fod cryn ddicter ynghylch hyd yr oedi.

Amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau offthalmoleg

Ar hyn o bryd mae 112,000 o bobl yng Nghymru wedi colli eu golwg. Mae ffigurau gan Goleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yn rhagweld y bydd y galw yn cynyddu 30-40 y cant yn yr 20 mlynedd nesaf, gyda chynnydd sylweddol mewn achosion o glawcoma, dirywiad macwlaidd sy'n gysylltiedig ag oedran, cataractau, a retinopathi diabetig.

Mae’r cynnydd yn y galw am ofal offthalmoleg o ganlyniad i oedran y boblogaeth yn cynyddu (gydag 1 o bob 5 o bobl dros 75 oed yng Nghymru wedi colli eu golwg), mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o bwysigrwydd iechyd y llygaid, a thriniaethau newydd ar gyfer cyflyrau nad oedd modd eu trin yn flaenorol.

Mae bron i ddwy ran o dair o'r bobl sydd wedi colli eu golwg yn fenywod. Mae hyn yn bennaf oherwydd bod gan fenywod ddisgwyliad oes hirach a'u bod yn fwy tebygol o ddatblygu cyflyrau llygaid sy'n gysylltiedig ag oedran. At hynny, mae menywod yn aml yn wynebu mwy o rwystrau rhag cael mynediad at wasanaethau gofal llygaid, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig. 

Mae gofal offthalmoleg yn amrywio o gyflyrau fel cataractau, lle mae lens y llygad yn mynd yn gymylog, i glefydau cronig, gydol oes, fel glawcoma (niwed i’r nerf optig oherwydd pwysedd uchel yn y llygad), dirywiad macwlaidd (niwed retinol) a retinopathi diabetig (niwed i bibellau gwaed y retina).

Effeithiau parhaus pandemig COVID-19

Nododd Archwilio Cymru ym mis Mai 2022 y byddai offthalmoleg yn un o'r arbenigeddau a fyddai'n ei chael hi'n anodd adfer yn dilyn pandemig COVID-19 oherwydd ei bod eisoes dan bwysau cyn y pandemig.

Yn ogystal, mae Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yn tynnu sylw at brinderau yn y gweithlu (er enghraifft, yn 2022 nid oedd gan hanner unedau llygaid y GIG yng Nghymru ddigon o feddygon ymgynghorol i ddiwallu anghenion cleifion ar y pryd) ac mae diffyg buddsoddiad mewn seilwaith a lleoliadau clinigol yn broblemau sylweddol i wasanaethau offthalmoleg.

Mae papur briffio ar weithlu'r GIG gan Archwilio Cymru yn dangos, er gwaethaf cynnydd o 56 y cant mewn atgyfeiriadau rhwng 2012/13 a 2022/23, bod y gweithlu offthalmoleg wedi gostwng 2 y cant. Mae hyn yn cynrychioli'r gostyngiad mwyaf mewn capasiti a'r cynnydd mwyaf mewn atgyfeiriadau o unrhyw arbenigedd meddygol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau proses ddiwygio i leddfu pwysau ar wasanaethau llygaid mewn ysbytai drwy ehangu gwasanaethau optometreg gofal sylfaenol. Mae hyn yn cynnwys ehangu gwasanaethau gofal llygaid a ddarperir gan optometryddion y stryd fawr a chyflwyno contract optometreg newydd. Mae gwasanaethau gofal eilaidd hefyd yn gweithio gyda byrddau iechyd cyfagos a'r sector annibynnol i wella capasiti.

Menyw yn cael archwiliad llygaid gan optometrydd

Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau mai optometreg gymunedol yw’r man galw cyntaf mewn gofal sylfaenol i gleifion â phroblemau llygaid.

Mae Specsavers wedi codi ymwybyddiaeth am restrau aros offthalmoleg drwy eu Hadroddiad ar Gyflwr Iechyd Llygaid y DU, gan dynnu sylw at yr 'argyfwng' o ran glawcoma a rôl hanfodol gofal sylfaenol o ran mynediad at ofal iechyd.

Mae RNIB Cymru yn nodi ei fod yn cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau optometreg cymunedol, a ddylai leihau rhestrau aros ysbytai yn y tymor hwy. Fodd bynnag, maent yn pwysleisio'r angen i fynd ati ar frys i fynd i'r afael â risgiau uniongyrchol, gan fod cyfran sylweddol o'r rhestr aros yn cynnwys y cleifion â’r risg uchaf y bydd angen iddynt gael gofal a thriniaeth mewn clinig llygaid.

Adolygiad Annibynnol a datblygiadau ers hynny

Yn 2021, cafodd Adolygiad Allanol o Wasanaethau Gofal Llygaid yng Nghymru ei gomisiynu’n annibynnol gan GIG Cymru a Llywodraeth Cymru. Tynnodd yr adolygiad sylw at yr angen i ail-lunio’r model darparu gofal llygaid a gwnaeth argymhellion er mwyn sicrhau model cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. 

Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys datblygu canolfannau rhagoriaeth rhanbarthol i ddenu a chadw staff cymwys a rhannu capasiti, arbenigedd a thechnolegau offthalmig. Nododd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yng Nghymru fod rhanbartholi gwasanaethau yn hanfodol er mwyn i ofal offthalmig yng Nghymru oroesi.

Ar ôl iddo gael ei gyhoeddi, gofynnodd yr Ysgrifennydd Iechyd ar y pryd, Eluned Morgan AS, i'r gymuned gofal llygaid ddatblygu cynlluniau beiddgar ac uchelgeisiol i fynd i’r afael â’r nifer gynyddol o gleifion sy’n aros am ofal llygaid a thrawsnewid y gwasanaeth yng Nghymru.

Yn 2023, comisiynwyd Coleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr yng Nghymru, mewn partneriaeth â Gweithrediaeth GIG Cymru, i gynhyrchu Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Offthalmoleg. Dylai’r strategaeth nodi’r cynllun hirdymor ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru a rhoi manylion am sut y gellir bwrw ymlaen ag argymhellion yr Adolygiad Allanol.

Mae'r sector gofal llygaid wedi rhybuddio y gallai peidio â gweithredu arwain at risg y gall gwasanaethau gofal llygaid yng Nghymru fethu a disgrifiodd y Strategaeth Glinigol Genedlaethol fel y cyfle olaf i gynllunio dyfodol hyfyw ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru.

Cynllun ar gyfer Gofal Llygaid yng Nghymru?

Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i'r Adolygiad Allanol dynnu sylw at faint yr her. Hyd yn hyn, ni fu unrhyw ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i roi’r strategaeth ar waith nac i wneud buddsoddiadau sylweddol i fynd i’r afael â rhestr aros gynyddol Cymru ar gyfer gofal llygaid. Nid oes cynllun cenedlaethol o hyd i leihau nifer y cleifion sy'n colli eu golwg wrth aros am driniaeth gan y GIG.

Cynhelir Wythnos Genedlaethol Iechyd Llygaid yr wythnos nesaf (23-29 Medi). Mae’n debygol y bydd rhanddeiliaid yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei strategaeth genedlaethol ar gyfer iechyd llygaid bryd hynny.

Yn ôl arbenigwyr mae ei hangen ar frys.

Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru