Aer glân i Gymru

Cyhoeddwyd 19/05/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/05/2021   |   Amser darllen munud

 

Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.

Mae enghreifftiau yng Nghymru o’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Pam mae ansawdd aer yn bwysig a beth y gallwn ei ddisgwyl i fynd i’r afael â’r broblem llygredd yn ystod y Chweched Senedd?

Mae enghreifftiau yng Nghymru o’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Ar gyfer Caerdydd a Phort Talbot nodwyd lefelau mater gronynnol uwch na Birmingham a Manceinion, a ffordd yng Nghaerffili sydd wedi cofnodi’r lefelau uchaf o lygredd y tu allan i Lundain. Mae rhai ardaloedd yng Nghymru wedi torri rheoliadau’r UE ers sawl blwyddyn, gyda Llywodraeth ddiwethaf Cymru yn cael ei herlyn yn y pen draw am ei diffyg gweithredu.

Pam mae ansawdd aer yn bwysig?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi disgrifio llygredd aer yn yr awyr agored fel y risg amgylcheddol mwyaf i iechyd. Mae’n amcangyfrif y gellir priodoli rhwng 1,000-1,400 o farwolaethau’r flwyddyn yng Nghymru i fod yn agored i lygredd aer.

Mae costau cymdeithasol enfawr i ansawdd aer gwael yn sgîl ei effeithiau ar iechyd, a’i effeithiau andwyol ar fywyd gwyllt a bioamrywiaeth. Ond nid mater yn ymwneud ag iechyd neu’r amgylchedd yn unig yw mynd i’r afael â llygredd aer, mae’n fater o gyfiawnder cymdeithasol hefyd. Mae ymchwilwyr wedi disgrifio ‘effaith peryglu triphlyg’, lle mae’r rhai sydd â statws economaidd-gymdeithasol isel yn agored i lefelau uwch o lygredd oherwydd ble maen nhw’n byw neu’n gweithio. Canfu astudiaeth yn 2016 fod llygredd aer yn waeth yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Daeth i’r casgliad bod cysylltiad annatod rhwng llygredd aer, amddifadedd ac iechyd.

Ar raddfa fyd-eang, mae Amcangyfrifon Banc y Byd yn nodi mai’r gost sy’n gysylltiedig â niwed iechyd o lygredd aer yw $5.7 triliwn, sy’n cyfateb i 4.8 y cant o gynnyrch domestig gros (GDP) byd-eang.

Sut mae ansawdd aer yn cael ei reoli?

Mae terfynau llygredd aer yng Nghymru yn cael eu gosod gan amrywiaeth o reoliadau’r DU ac Ewrop. Mae’r Gyfarwyddeb Ansawdd Aer amgylchynol yr Undeb Ewropeaidd yn gosod terfynau sy’n rhwymo’n gyfreithiol ar gyfer rhai llygryddion yr awyr agored. Yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, mae’r terfynau hyn wedi’u dargadw.

Mae rheoli ansawdd aer yng Nghymru yn digwydd yn bennaf ar lefel awdurdodau lleol gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau monitro. Mae awdurdodau lleol yn llunio adroddiadau cynnydd blynyddol ac yn nodi unrhyw fannau ble mae’n debygol nad yw’r terfynau yn cael eu cyflawni. Yn yr achosion hyn, rhaid iddynt weithredu Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA). Mae 44 Ardal Rheoli Ansawdd Aer ar hyn o bryd ledled Cymru.

Pa lygryddion sy’n peri’r pryder mwyaf?

Y prif lygryddion aer sy’n effeithio ar iechyd yw nitrogen deuocsid (NO2), ôson (O3) a mater gronynnol, bach arall (PM). PM yw’r term am gymysgedd o ronynnau solet a defnynnau hylif a geir yn yr awyr ac fe’i dosberthir yn ôl maint, gyda PM2.5 yn cynrychioli gronynnau llai na PM10. Ystyrir PM2.5 fel y dosbarth o ronynnau mwyaf peryglus i iechyd.

Crynodiad cefndir cymedrig wedi’i fodelu o PM10 2019

Map o Gymru gyda lliwiau sy’n dangos y crynodiad cymedrig PM10 blynyddol, sy’n amrywio o 8.0 i 16.2 meicrogram fesul metr ciwbig. Mae’r crynodiadau isaf yng nghanolbarth Cymru a gogledd-orllewin Cymru. Mae’r crynodiadau uchaf yn ne-ddwyrain Cymru a gogledd-ddwyrain Cymru. Mae crynodiadau uwch hefyd i’w gweld mewn ardaloedd trefol ac ar hyd y ffyrdd mwyaf, yn enwedig coridor yr M4.

Ffynhonnell: Data llygredd cefndir wedi’i fodelu, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Crynodiad cefndir cymedrig wedi’i fodelu o PM2.5 2019

Map o Gymru gyda lliwiau sy’n dangos y crynodiad cymedrig PM2.5 blynyddol, sy’n amrywio o 5.1 i 10.6 meicrogram fesul metr ciwbig. Yn debyg i PM10, mae’r crynodiadau isaf yng nghanolbarth Cymru a gogledd-orllewin Cymru, ac mae’r uchaf yn ne-ddwyrain a gogledd-ddwyrain Cymru yn ogystal ag mewn ardaloedd trefol ac mewn ardaloedd ar hyd y prif ffyrdd. Mewn cyferbyniad â PM10, mae dosbarthiad PM2.5 yn llyfnach, ac mae’n newid yn fwy graddol dros bellter.

Ffynhonnell: Data llygredd cefndir wedi’i fodelu, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Crynodiad cefndir cymedrig wedi’i fodelu o NO2 2019

Map o Gymru gyda lliwiau sy’n dangos y crynodiad cymedrig NO2 blynyddol, sy’n amrywio o 2.9 i 25.0 meicrogram fesul metr ciwbig. Yn debyg i PM10 a PM2.5, mae’r crynodiadau isaf yng nghanolbarth Cymru a gogledd-orllewin Cymru ac mae’r uchaf yn ne-ddwyrain a gogledd-ddwyrain Cymru yn ogystal ag mewn ardaloedd trefol ac mewn ardaloedd ar hyd y prif ffyrdd. Mewn cyferbyniad â PM10 a PM2.5, mae NO2 yn llawer mwy lleol ac yn gostwng i grynodiadau cymharol is o lawer mewn ardaloedd gwledig.

Ffynhonnell: Data llygredd cefndir wedi’i fodelu, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Mae’r mwyafrif o achosion o dorri’r rheolau o ran terfynau’r UE yn y DU yn ganlyniad i NO2 ochr y ffordd, y daw 80 y cant ohono o gludiant ffordd. O’r 44 Ardal Rheoli Ansawdd Aer (AQMA) yng Nghymru, mae pob un wedi’i datgan ar gyfer NO2, ac eithrio Castell-nedd Port Talbot sydd wedi’i datgan ar gyfer PM10. Mae Ardal Rheoli Ansawdd Aer Port Talbot yn cynnwys tir ac eiddo rhwng y gwaith dur a thraffordd yr M4.

Yn 2018, yn dilyn torri terfynau NO2, bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru ar y pryd gael ei dwyn i’r llys. Dyfarnodd yr Uchel Lys nad oedd adran Cymru o gynllun y DU i fynd i’r afael â NO2 ochr y ffordd yn bodloni gofynion yr UE. Nododd hefyd fod rheoli gormodedd o NO2 ar y draffordd a’r rhwydwaith cefnffyrdd yn gyfrifoldeb uniongyrchol ar Lywodraeth Cymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar y pryd ei chynllun atodol i gynllun y DU ar gyfer mynd i’r afael â chrynodiadau nitrogen deuocsid ar ochr y ffordd yn ddiweddarach y flwyddyn honno.

I fynd i’r afael ag allyriadau NO2, cyflwynwyd terfynau cyflymder 50 milltir yr awr mewn pum safle ar y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffordd. Mae’r adroddiad blynyddol diweddaraf ar grynodiadau NO2 ochr y ffordd yn dweud er bod allyriadau yn lleihau ym mhob un o’r pum safle, mae’r sefyllfa’n parhau’n "gymhleth".

Ym mis Mawrth 2021 lansiodd Llywodraeth Cymru ar y pryd Strategaeth Drafnidiaeth Cymru newydd. Mae’n cynnwys hierarchaeth trafnidiaeth cynaliadwy sy’n gosod teithio mewn car preifat ar waelod y rhestr. Mae’r strategaeth hefyd yn gosod targed i 45 y cant o deithiau gael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus, drwy gerdded neu drwy feicio erbyn 2040. Amcangyfrifir, ar hyn o bryd, bod 32 y cant o deithiau yn cael eu gwneud fel hyn.

A oedd y pandemig o fudd o ran ansawdd aer?

Mae’n gymhleth.

Ar raddfa fyd-eang, arweiniodd y cyfyngiadau symud o ganlyniad i bandemig y coronafeirws at y gostyngiad mwyaf mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr a gofnodwyd erioed. Canfu gwaith ymchwil a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021 y byddai angen i allyriadau ostwng yn ôl yr hyn sy’n cyfateb i gyfyngiadau symud byd-eang bob dwy flynedd, yn fras, i gyflawni nodau Cytundeb Paris ar Newid Hinsawdd.

Yn 2020 comisiynodd Llywodraeth Cymru ar y pryd adroddiad gan ei Phanel Cynghori annibynnol ar Aer Glân i edrych yn fanwl ar effaith y pandemig ar ansawdd aer yng Nghymru. Canfu bod lefelau NO2 wedi gostwng 36 y cant ar gyfartaledd mewn safleoedd monitro ar ochr y ffordd am y cyfnod rhwng mis Chwefror a mis Mai 2020.

Ond mae’r adroddiad yn dangos darlun cymysg. Er i’r cyfyngiadau symud arwain at lai o draffig a lefelau NO2 is, cofnodwyd cynnydd o ran lefelau PM. Er y gellir priodoli hyn yn rhannol i dywydd, awgrymir y gallai hyn hefyd fod oherwydd cynnydd mewn gwastraff a oedd yn cael ei losgi, oherwydd bod canolfannau gwastraff cartref ac ailgylchu wedi cau yn ystod y cyfyngiadau.

Yn ei ymateb i’r adroddiad, dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y dadansoddiad yn dangos bod cyflawni newid sylweddol o ran ymddygiadau teithio yn bosibl. Ym mis Medi 2020 cyhoeddodd Llywodraeth ddiweddaraf Cymru ei nod i 30 y cant o weithlu Cymru weithio o bell.

Beth allai fod ar y gorwel i fynd i’r afael â phroblem llygredd Cymru?

Ym mis Awst 2020, lansiodd Llywodraeth ddiweddaraf Cymru ei Chynllun Aer Glân ar gyfer Cymru: Aer Iach, Cymru Iach.

Nododd y Cynllun amrywiaeth o gamau gweithredu:

Nododd y Cynllun hefyd fwriad i gyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru. Ym mis Ionawr 2021, cyhoeddodd Llywodraeth ddiweddaraf Cymru Bapur Gwyn yn nodi nifer o gynigion deddfwriaethol.

Mae amserlen ddangosol yn y Papur Gwyn yn awgrymu y byddai’r gwaith o ddrafftio’r Bil yn cychwyn yn 2022. Croesawodd Awyr Iach Cymru y cynlluniau ond dywed bod yr amserlen ar gyfer deddfu yn “llawer rhy araf”. Mae’n tynnu sylw at y ffaith y “gallai fod mor hwyr â 2024 cyn i unrhyw reoliadau ddod i rym”.

Mae’r Papur Gwyn yn cynnwys cynigion i:

  • gyflwyno gofyniad cyfreithiol i Gynllun neu Strategaeth Aer Glân gael ei adolygu o leiaf bob 5 mlynedd;
  • cryfhau pwerau i awdurdodau lleol fynd i’r afael â cherbydau sy’n segura, gan gynnwys pwerau i gynyddu swm y gosb sefydlog y gellir ei rhoi;
  • cyflwyno Trefn Rheoli Ansawdd Aer Lleol well; a
  • deddfu ar gyfer targed newydd o ran lefelau PM, gan ystyried canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) - mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi argymell lefel o ran PM5, sef hanner terfyn presennol yr UE.

Mae hefyd yn gwneud nifer o gynigion mewn perthynas ag ardaloedd rheoli mwg lle mae’n drosedd allyrru mwg o simnai adeilad oni bai ei fod yn defnyddio tanwydd cymeradwy neu beiriant cymeradwy. Mae’n cynnig bod y pwerau hyn yn cael eu hymestyn i gynnwys llosgi yn yr awyr agored fel coelcerthi.

Ochr yn ochr â’i Phapur Gwyn, lansiodd Llywodraeth ddiweddaraf Cymru ymgynghoriad ar gynigion i leihau allyriadau sy’n deillio o losgi tanwydd solet yn y cartref. Mae’n cynnig bod gwaharddiad ar werthu pren gwlyb a thanwydd glo traddodiadol, sef tanwydd y mae rhai pobl mewn ardaloedd gwledig yn dibynnu arno i gynhesu eu cartrefi. Mae camau tebyg eisoes wedi’u nodi yn Lloegr.

Cawn weld p’un a yw’r cynlluniau hyn yn chwa o awyr iach neu a yw’r rhagolygon yn parhau’n niwlog. Yr hyn sy’n amlwg yw y bydd ansawdd aer yn her fawr i Lywodraeth nesaf Cymru fynd i’r afael â hi.


Erthygl gan Francesca Howorth, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru