Aelodau'r Cynulliad i drafod Ysgolion yr 21ain Ganrif

Cyhoeddwyd 27/06/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munud

27 Mehefin 2016 Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg Dyma lun o'r Siambr Bydd 'Dadl Fer' ar raglen Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn prosiectau mawr i adeiladu ac ailwampio ysgolion yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher (29 Mehefin 2016). Rhianon Passmore AC a fydd yn arwain hyn, ac mae hi wedi dewis y teitl canlynol ar gyfer ei Dadl Fer: 'Ysgolion yr 21ain Ganrif: Mwy na rhaglen adeiladu'. Mae'r Ddadl Fer yn rhoi cyfle i Aelod anllywodraethol a ddewiswyd drwy bleidlais gynnal dadl ar bwnc o'i ddewis. Nid yw'r ddadl yn cynnwys cynnig na phleidlais. Drwy Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu buddsoddi £700 miliwn rhwng 2014-15 a 2018-19 ('Band A'). Gydag arian cyfatebol gan awdurdodau lleol, byddai hyn yn arwain at fuddsoddiad cyfalaf o £1.4 biliwn mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru, gan gefnogi 150 o brosiectau ar draws pob ardal awdurdod lleol erbyn mis Ebrill 2019. Arian cyfatebol yr awdurdodau lleol Mae'n rhaid i awdurdodau lleol gyfrannu 50% o'r costau, ond gallant ddefnyddio'r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol er mwyn helpu i ariannu hyn. Holwyd Llywodraeth Cymru gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Pedwerydd Cynulliad ynghylch fforddiadwyedd yn ystod cyfnod o bwysau ar gyllidebau cynghorau. Ym mis Tachwedd 2014, dywedodd y Gweinidog ar y pryd, Huw Lewis (PDF 119KB): ‘Consideration of the ability of the Local Authority to match fund is a key element of our scrutiny process. All projects are approved subject to the receipt of a satisfactory Business Case, which must demonstrate that match funding is available and identify of the sources of this funding. (…) Regular meetings are held with local authorities which include delivery timetables and affordability. These discussions include the local authorities’ continuing ability to fund the match funding requirements of both individual projects within the programme as well as match funding the entire programme.’ Arian trosiannol 2009-2014 Mae Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cymryd lle'r hen Grant Gwella Adeiladau Ysgol. Cychwynnodd y rhaglen yn ffurfiol yn 2014-15, ond darparwyd arian trosiannol o 2009, pan ddechreuodd awdurdodau lleol ddatblygu cynigion Ysgolion yr 21ain Ganrif. Darparodd Llywodraeth Cymru arian trosiannol rhwng y ddwy raglen. Cefnogodd y gyfran gyntaf o arian trosiannol 32 o brosiectau ar draws Cymru â gwerth o fwy na £77 miliwn. Dywedodd Llywodraeth Cymru yn ei Chynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (Mai 2012) fod y prosiectau hyn wedi cael eu cwblhau i raddau helaeth. O dan ddwy gyfran ddilynol o arian trosiannol, dyrannodd Llywodraeth Cymru dros £337 miliwn i 34 prosiect pellach. Cafodd y rhain eu rhestru mewn atodiad i ddatganiad Cabinet ar 13 Gorffennaf 2011. Band A y rhaglen: 2014-15 i 2018-19 Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion y dyraniadau cyntaf (Band A) i Ysgolion yr 21ain Ganrif mewn datganiad Cabinet ar 5 Rhagfyr 2011. Ni chyhoeddwyd holl fanylion rhai o'r prosiectau hyn ar y pryd gan fod awdurdodau lleol wrthi'n datblygu union fanylion y cynigion yn gyfrinachol gyda Llywodraeth Cymru. Roedd hyn er mwyn osgoi dyfalu diangen posibl ynghylch prosiectau na fyddent yn cael arian na byth yn cael eu rhoi ar waith mewn gwirionedd. Felly, rhoddwyd teitlau cyffredinol i rai o'r prosiectau. Ar y pryd, lluniodd BBC ar-lein grynodeb o'r cynigion a oedd wedi'u cymeradwyo. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwybodaeth am hynt Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ei diweddariad blynyddol ar y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Ym mis Mehefin 2015 (tudalennau 24-25), adroddodd Llywodraeth Cymru: 'Ers inni gyhoeddi’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yn 2012, rydym wedi buddsoddi £441 miliwn drwy ein cyllideb graidd tuag at gyflawni’r targed cyffredinol o ailwampio neu ailadeiladu 150 o ysgolion dros oes y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.' Dull gweithredu mwy strategol Nod Ysgolion yr 21ain Ganrif yw bod yn fwy strategol na rhaglenni blaenorol. Yn ei chynllun gwreiddiol ym Mehefin 2012 (para 2.8.3), dywedodd Llywodraeth Cymru mai 'y nod yw sicrhau’r ddarpariaeth gywir yn y lle cywir am y gost gywir': 'Hyd at 2007, roedd buddsoddi mewn addysg yn seiliedig yn bennaf ar broses sectorol a fformiwläig a wnaed ar sail blwyddyn ariannol. Ers 2009 mae proses o ariannu trosiannol wedi cael ei gweithredu i baratoi’r system ar gyfer rhaglen fuddsoddi i Gymru gyfan mewn ysgolion a sefydliadau addysg bellach sydd wedi’i blaenoriaethu ac sy’n strategol.' Y broses Mae gwefan Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o wybodaeth am y rhaglen a'r dull o ddatblygu cynigion a dyrannu cyllid. Defnyddir y Gwell Achos Busnes – model pum achos sy'n golygu bod yn rhaid bod cynigion yn gwneud achos strategol, achos economaidd, achos masnachol, achos ariannol ac achos rheoli. Diweddariad cynnydd, Ionawr 2016 Ym mis Ionawr 2016, rhoddodd y Gweinidog ar y pryd, Huw Lewis, ddiweddariad yn ystod y gwaith o graffu ar gyllideb ddrafft 2016-17 (PDF 1.52MB) (paragraffau 161-168). Cadarnhaodd mai targed cyffredinol Llywodraeth Cymru yw y caiff 150 o ysgolion a cholegau eu hadnewyddu neu eu hailadeiladu erbyn diwedd mis Ebrill 2019. Dywedodd hefyd, o fis Rhagfyr 2015: 'Cafwyd cymeradwyaeth ar gyfer 86 o Achosion Cyfiawnhau Busnes / Achosion Busnes Llawn, sy'n cyfateb i 57% o darged cyffredinol y Rhaglen [targed Band A]... Mae gwaith adeiladu'n mynd rhagddo ar 44 o brosiectau, sy'n cyfateb i 29% o darged y Rhaglen. Cwblhawyd 21 o Gynlluniau Ysgolion yr 21ain Ganrif ac Addysg Bellach hyd yma, sy'n cyfrif am 13% o darged y rhaglen.' Dyraniad y gyllideb flynyddol Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif oedd £131 miliwn yn 2015-16. Y dyraniad yng nghyllideb ddrafft 2016-17 oedd £123 miliwn, ond dyrannwyd £10 miliwn ychwanegol yn y gyllideb derfynol ar gyfer elfen ôl-16 y rhaglen. Felly, y swm a gyllidebwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2016-17 yw £133 miliwn.