Yn ôl adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019, mae bywyd gwyllt yng Nghymru yn parhau i ddirywio, ac mae’r canfyddiadau diweddaraf yn dangos bod 17% o rywogaethau yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu.
Beth yw adroddiad Sefyllfa Byd Natur?
Mae'r adroddiad yn rhoi darlun o statws bywyd gwyllt yn y DU, gan ganolbwyntio ar newidiadau mewn bioamrywiaeth a’r rhesymau dros y newidiadau hyn. Ymunodd cadwraethwyr ac ymchwilwyr o dros 70 o sefydliadau ag asiantaethau'r Llywodraeth i gynhyrchu'r adroddiad diweddaraf, sy’n dilyn yr adroddiadau blaenorol a gyhoeddwyd yn 2013 a 2016.
Mae’r adroddiad yn dweud ein bod yn gwybod mwy am fywyd gwyllt yn y DU nag am fywyd gwyllt yn unrhyw wlad arall, a hynny oherwydd ymdrechion enfawr y rhai sy’n cofnodi bywyd gwyllt yma. Yn ôl yr adroddiad, ers i’r gwaith gwyddonol o fonitro rhywogaethau'r DU ddechrau ym 1970, bu dirywiad o 13% yn niferoedd y rhywogaethau ym myd natur, ar gyfartaledd, ac mae 6% o'r gostyngiad hwnnw wedi digwydd yn ystod y degawd diwethaf. Ar gyfartaledd, mae dosbarthiad rhywogaethau'r DU wedi gostwng 5% ers 1970, ac mae 2% o’r gostyngiad hwn wedi digwydd yn ystod y degawd diwethaf. At ei gilydd, mae'r adroddiad yn dangos bod llai o fywyd gwyllt, a llai o rywogaethau, mewn llai o leoedd ledled y DU.
Beth yw'r canfyddiadau allweddol?
Newidiadau yn helaethrwydd y rhywogaethau
Ers 1970, mae 41% o rywogaethau’r DU wedi dirywio o ran niferoedd.
Ers y 1970au, gloÿnnod byw a gwyfynod sydd ymhlith y rhywogaethau sydd wedi dirywio fwyaf o ran niferoedd yn y DU. Gwelwyd gostyngiad o 16% a 25% yn y drefn honno. Mae niferoedd y rhywogaethau sy'n dibynnu ar gynefinoedd mwy arbenigol, er enghraifft y brith brown a’r glöyn llwyd , wedi gostwng tua 75%.
Oherwydd prinder data, nid oes ffigur cyfartalog cyffredinol ar gyfer newidiadau yn helaethrwydd y rhywogaethau bywyd gwyllt yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae data ar gael ar gyfer rhai grwpiau: mae niferoedd y gloÿnnod byw wedi gostwng ar gyfartaledd yng Nghymru ers 1976, ond mae’r tueddiadau o ran niferoedd cyfartalog mamaliaid a rhai grwpiau o adar yn cynyddu.
Newidiadau yn nosbarthiad rhywogaethau
Bu newidiadau mawr hefyd o ran lle mae bywyd gwyllt i'w gael. Er enghraifft, yn y DU mae dosbarthiad mamaliaid wedi gostwng 26% ers y 1970au. Mae bywyd gwyllt yng Nghymru hefyd i’w gael mewn llai o safleoedd, a gwelwyd gostyngiad o 10% yn nosbarthiad rhywogaethau ar gyfartaledd er 1970. Mae cyfradd y dirywiad hwn ddwywaith yn uwch na’r dirywiad yn nosbarthiad rhywogaethau drwy’r DU gyfan (5%).
bob 6 rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu; mae turturod a breision yr ŷd eisoes wedi diflannu o Gymru.
Mae mamaliaid tir Cymru hefyd yn dirywio; mae 13 o'r 44 rhywogaeth (32%) a aseswyd ar gyfer yr adroddiad mewn perygl o ddiflannu'n gyfan gwbl o Gymru, gan gynnwys y wiwer goch a llygoden y dŵr a oedd yn gyffredin iawn ar un adeg.
Mae nifer y rhywogaethau yng Nghymru sydd mewn perygl o ddiflannu wedi cynyddu ychydig ers adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016. Bryd hynny, roedd 7% mewn perygl o ddiflannu, o’i gymharu ag 8% yn 2019.
Beth yw’r rhesymau dros ddirywiad bywyd gwyllt?
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffactorau sy’n effeithio fwyaf ar ddiflaniad bywyd gwyllt, sy’n cynnwys dulliau o reoli ffermydd, rheoli coetir, llygredd sy’n deillio o wrtaith a phlastig, trefoli cynyddol, newid hydrolegol, y newid yn yr hinsawdd a rhywogaethau goresgynnol. Mae'n nodi mai’r newid yn yr hinsawdd a physgota sy'n cael yr effaith fwyaf ar fioamrywiaeth forol.
Nodwyd mai newidiadau mewn dulliau rheoli amaethyddol oedd y ffactor unigol fwyaf o ran ei effaith ar natur. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod 72% o dir y DU yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ffermio, ac 88% yng Nghymru ac, oherwydd hynny, mae llai o le i fywyd gwyllt fodoli yn rhydd o ddylanwad arferion amaethyddol. Mae newidiadau yn nulliau rheoli tir yng Nghymru wedi arwain at ddiflaniad dros 90% o gynefinoedd glaswelltir lled-naturiol ers y 1930au, gan effeithio er gwaeth ar rywogaethau sy'n dibynnu ar y cynefin hwn.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y gostyngiad yn y cyllid sydd ar gael a bod hyn wedi cyfyngu ar allu sefydliadau'r sector cyhoeddus i warchod natur ac atal dirywiad pellach. Mae'n nodi bod y Llywodraeth wedi buddsoddi £686m i hybu bioamrywiaeth yn 2008/09, ond bod hyn wedi gostwng dros 30%, i £456m, yn 2017/18.
Beth mae hyn yn ei olygu i fywyd gwyllt yng Nghymru?
Nodweddion cadarnhaol
Er bod yr adroddiad yn nodi bod y ffigurau yn “codi braw”, mae “lle i fod yn ofalus obeithiol”. Mae coetiroedd wedi cynyddu bedair gwaith bron ar hyd a lled Cymru, o 4% ar ddechrau’r 1900au i 15% heddiw. Mae nifer y ffwlbartiaid hefyd wedi cynyddu ers y 1930au pan oeddent yn brin iawn.
At hynny, mae amrywiaeth o fentrau cadwraeth wedi’u datblygu i helpu i adfer byd natur, er enghraifft Prosiect Coedwigoedd Glaw Celtaidd LIFE sy’n ceisio gwarchod a hybu Coedlannau Derw Atlantig Gorllewinol yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ymdrechion sefydliadau cadwraeth ac unigolion i warchod rhywogaethau rhag iddynt ddiflannu. Er enghraifft, llwyddwyd i achub aderyn y bwn a'r glesyn mawr a oedd ar fin darfod o’r tir yng Nghymru.
Ble y nodwyd y mae angen gwella
Mae'r adroddiad yn egluro mai dim “rhannol llwyddiannus” fu’r cynlluniau amaeth-amgylcheddol yng Nghymru o ran eu hamcanion bioamrywiaeth. Drwy’r cynlluniau hyn, caiff ffermwyr eu talu am hybu byd natur a gwrthdroi’r dirywiad mewn bywyd gwyllt ar dir fferm. Mae’r cynlluniau wedi methu’n rhannol oherwydd bod dirywiad o 21% yn yr ardaloedd tir fferm sy'n cymryd rhan mewn cynlluniau amaeth-amgylcheddol ar y lefel uwch.
Er bod 11% o dir yng Nghymru o fewn safleoedd sydd wedi'u gwarchod yn swyddogol at ddibenion cadwraeth natur, nid yw'r mwyafrif mewn cyflwr da nac yn cael eu rheoli'n dda o safbwynt bywyd gwyllt. Mae Polisi Adnoddau Naturiol (PDF, 967KB) Llywodraethau Cymru yn cydnabod ei bod yn hanfodol gwella’r modd y caiff y safleoedd gwarchodedig hyn eu rheoli, a hynny er mwyn creu rhwydweithiau ecolegol cadarn a all adfer natur a chreu buddion i bobl.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod angen mwy o waith i sicrhau bod y 139 o Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAs) sydd wedi’u dynodi gan Lywodraeth Cymru yn cael eu rheoli'n effeithiol er budd byd natur.
Polisi Llywodraeth Cymru
Mae gan y DU, Cymru a’r cenhedloedd datganoledig eraill bolisïau a deddfwriaeth ar waith i warchod ac adfer byd natur. Yng Nghymru, mae hyn yn cynnwys Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a Chynllun Adfer Natur Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - drafft sy’n cynnwys polisïau i gyflawni amcanion amgylcheddol gan gynnwys ehangu Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Ar 29 Ebrill 2019, gwnaeth Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ddatganiad yn cyhoeddi ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd yng Nghymru ac mae gan Lywodraeth Cymru bolisïau ar waith i gyrraedd targedau a lleihau allyriadau carbon.
I grynhoi...
Er bod gan Lywodraethau y DU a Llywodraeth Cymru amrywiaeth o bolisïau i warchod ac adfer byd natur, mae rhywogaethau wedi dirywio’n gyffredinol o ran niferoedd a dosbarthiad, ac mae tua 1 o bob 7 rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu ar hyd a lled y DU. Mae adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 yn dangos nad yw’r sefyllfa wedi gwella rhyw lawer ers adroddiad 2016. Yn ôl yr adroddiad hwn, mae natur yn y DU wedi dirywio mwy nag yn y rhan fwyaf o wledydd eraill y byd.
Erthygl gan Claire Stewart a Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Holly Tipper gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i’r erthygl hon gael ei chwblhau.