Adroddiad PAPAC ar ei waith craffu ar Gyfrifon 2021-22 Amgueddfa Cymru – Beth mae'n ei ddweud?

Cyhoeddwyd 22/11/2024   |   Amser darllen munudau

Yn ystod tymor yr hydref y llynedd, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus waith craffu ar Adroddiad Terfynol Amgueddfa Cymru ar gyfer 2021-22 (‘Cyfrifon 2021-22’). Roedd hyn yn dilyn anghydfod a adroddwyd rhwng ei huwch dîm rheoli a'i bwrdd cyfarwyddwyr. Hefyd, gwnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru gyhoeddi Adroddiad er Budd y Cyhoedd ynghylch y trefniadau llywodraethu cysylltiedig (Tachwedd 2023).

Gwnaeth PAPAC ofyn am dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, o ystyried ei bod wedi bod rhan o'r Cytundeb Setlo ar gyfer cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru.

Y tymor hwn, mae wedi ystyried yr ymatebion i'w adroddiad gan Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru.

Cyn y ddadl yn y Senedd ar adroddiad PAPAC ar 27 Tachwedd, mae'r erthygl hon yn edrych ar rai o'r canfyddiadau.

Polisïau annigonol i ymdrin â phryderon

Ar 5 Rhagfyr 2022, yn dilyn cyfryngu, a gynhaliwyd ar y cyd gan yr Ymddiriedolwyr a Llywodraeth Cymru, gwnaeth Amgueddfa Cymru setlo'r honiadau a wnaed gan y cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol. Roedd wedi cyflwyno cwyn i Lywodraeth Cymru am y cyn-Lywydd ym mis Mehefin 2021, gan wneud honiadau am weithredoedd ac ymddygiad amhriodol. Fodd bynnag, dywedodd y Cyfarwyddwr Cyffredinol wrth archwilwyr ei fod wedi bod yn codi pryderon ynghylch llywodraethu gyda chyn-Lywydd Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru ers mis Rhagfyr 2020.

Cynyddodd yr anghydfod, gyda'r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn cyflwyno cwynion ym mis Medi 2021 a mis Ionawr 2022, yn ogystal â hawliadau i dribiwnlys cyflogaeth ym mis Hydref 2021 a mis Awst 2022.

Ond nododd Archwilydd Cyffredinol Cymru nad oedd gan Amgueddfa Cymru bolisïau digonol ar waith i ddelio â phryderon a chwynion o'r fath. Roedd ei threfniadau yn berthnasol i'r staff a gyflogwyd ganddi yn unig ac nid oeddent yn ymdrin â chwynion a godwyd gan uwch staff ac yn ymwneud ag aelod anweithredol o'r Bwrdd, fel y cyn-Lywydd.

Roedd PAPAC yn "bryderus iawn" bod trefniadau Amgueddfa Cymru ar gyfer delio â'r cwynion wedi bod yn "gwbl anfoddhaol o ran datrys risg ragweladwy". Gwnaeth geisio gael sicrwydd bod gan Amgueddfa Cymru drefniadau addas ar waith bellach.

Wrth siarad am ei Adroddiad er Budd y Cyhoedd, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru:

Gobeithio bod fy adroddiad yn fodd i atgoffa’r holl gyrff cyhoeddus ynghylch pwysigrwydd rhoi fframweithiau ac egwyddorion llywodraethu ar waith mewn modd priodol i ddiogelu arian cyhoeddus a hyder y cyhoedd.

Roedd PAPAC yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried adolygu'r polisïau cwynion ar gyfer ei holl gyrff hyd braich i sicrhau nad yw'r materion yn Amgueddfa Cymru yn cael eu hailadrodd mewn mannau eraill.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn. Er y byddai'n rhoi cyngor, dywedodd Llywodraeth Cymru mai "Cyfrifoldeb Swyddogion Cyfrifeg unigol, ynghyd â pholisïau Adnoddau Dynol eraill, yw polisïau cwyno.".

“Nid yw Amgueddfa Cymru wedi gallu dangos ei bod wedi gweithredu er lles gorau pwrs y wlad”

Adeg Adroddiad er Budd y Cyhoedd Archwilydd Cyffredinol Cymru (Tachwedd 2023), roedd y gost gyffredinol bosibl i’r pwrs cyhoeddus dros £750,000. Roedd hyn yn cynnwys y Cytundeb Setlo gyda'r cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol, ymddeoliad y cyn Brif Swyddog Gweithredol/Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol oherwydd salwch (a oedd hefyd wedi cyflwyno cwynion), a’r ffioedd cyfreithiol a chynghorol cysylltiedig.

O dan y Cytundeb Setlo, cyfanswm costau posibl y taliadau i'r cyn-Gyfarwyddwr Cyffredinol, neu mewn perthynas ag ef, oedd £325,698. Roedd hyn yn cynnwys cyflog ac ar-gostau o £225,698 ar gyfer y cyfnod rhwng 17 Tachwedd 2022 (y dyddiad y peidiodd y cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol â chyflawni ei ddyletswyddau, ac eithrio chwe ymgysylltiad blaenorol yr oedd wedi cytuno i'w cyflawni) a 30 Medi 2024. Mae hyn yn cyfateb i gyfnod rhybudd o 22 mis, yn lle'r 12 mis a nodir yng nghytundeb cyflogaeth y cyn Gyfarwyddwr Cyffredinol.

Daeth Archwilydd Cyffredinol Cymru i’r casgliad fod telerau'r Cytundeb Setlo yn sylweddol ac, yn ei farn ef, yn anarferol, yn ddadleuol ac yn adleisiol. Cytunodd PAPAC, gan nodi:

Nid yw Amgueddfa Cymru wedi gallu dangos ei bod wedi gweithredu er lles gorau pwrs y wlad, gan fod diffygion yn ei phrosesau llywodraethu a’i gweithdrefnau mewnol ar gyfer ymdrin ag anghydfodau wedi gadael y sefydliad yn agored i’r risg o anghydfod cyflogaeth yn dod yn gyfreithgar, a arweiniodd at gostau ariannol sylweddol.

Mae gonestrwydd llwyr yn “hanfodol i hwyluso gwaith craffu seneddol ac archwilio effeithiol”

Dywedodd Amgueddfa Cymru wrth PAPAC ei bod wedi gweithredu o dan y cyngor cyfreithiol yr oedd wedi’i gael. Byddai wedi cymryd blwyddyn arall i achos mewn tribiwnlys ddod i ben, a gallai hynny fod wedi costio mwy na dwbl gwerth y Cytundeb Setlo.

Ar 1 Mawrth 2024 ac ar ôl cael ei herio gan PAPAC, darparodd Amgueddfa Cymru y cyngor cyfreithiol llawn a'r achos busnes ar gyfer y Cytundeb Setlo.

Roedd PAPAC yn pryderu, drwy gydol y broses graffu, am argaeledd “gwybodaeth hanfodol”. Er na wnaeth argymhelliad cysylltiedig, gwnaeth annog pob corff cyhoeddus i fyfyrio ar onestrwydd eu cysylltiadau ag ef, holl bwyllgorau'r Senedd ac Archwilydd Cyffredinol Cymru, gan nodi ei fod yn "hanfodol i hwyluso gwaith craffu seneddol ac archwilio effeithiol".

“Pryderu” am symud i fodel hunanasesu ar gyfer 'Adolygiadau Teilwredig'

Roedd ymateb Llywodraeth Cymru i'r materion yn Amgueddfa Cymru yn cynnwys cyflwyno ei 'Adolygiad teilwredig’ o’r sefydliad.

Nod proses Adolygiad Teilwredig Llywodraeth Cymru yw rhoi sicrwydd i Weinidogion, y Prif Swyddog Cyfrifyddu a’r Cyrff Hyd Braich ynghylch a ydynt ‘yn dal i fod yn addas at y diben ac yn cael eu rheoli’n dda ac yn briodol atebol’.

Cyhoeddodd Panel yr Adolygiad Teilwredig (y ‘Panel’) ei adroddiad terfynol ar 13 Gorffennaf 2023, gan wneud 77 o argymhellion o dan bum thema. Roedd y themâu yn cynnwys llywodraethu, y dywedodd y Panel mai hwn oedd y “pwnc pwysicaf” i'w ymgyngoreion ac y “neilltuwyd cryn dipyn o sylw” iddo yn ei adroddiad.

Ar 14 Rhagfyr 2023, dywedodd Prif Swyddog Gweithredu Llywodraeth Cymru wrth PAPAC ei fod wedi oedi ei Adolygiadau Teilwredig o sefydliadau unigol wrth iddi weithredu ac addasu model hunanasesu newydd.

Dywedodd PAPAC eu bod yn “pryderu” am symud i fodel hunanasesu yn enwedig o ystyried y methiannau difrifol a ddigwyddodd yn Amgueddfa Cymru. Rhybuddiodd y gallai "dull cyffyrddiad ysgafn" olygu efallai na fydd Llywodraeth Cymru yn canfod materion, fel y rhai yn Amgueddfa Cymru, a allai arwain at “broblemau’n gwaethygu’n sylweddol.” Galwodd PAPAC ar Llywodraeth Cymru i ddiweddaru'r Pwyllgor ar ôl iddi orffen cyflwyno'r model hunanasesu ar gyfer adolygu cyrff hyd braich, y mae wedi cytuno i'w wneud.

Y camau nesaf

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad PAPAC ar 27 Tachwedd, a gallwch ddilyn y ddadl ar SeneddTV.


Erthygl gan Joanne McCarthy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru