Adroddiad cyntaf Silk: dal i aros am ymateb
Cyhoeddwyd 25/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau
25 Medi 2013
Ddydd Mercher, 25 Medi, bydd y Cynulliad yn trafod cynnig gan Blaid Cymru ar y Comisiwn Silk, ac y mae rhan ohono'n mynegi pryder ynghylch oedi Llywodraeth y DU o ran ymateb i adroddiad cyntaf y Comisiwn Silk.
Bron i flwyddyn ers cyhoeddi'r adroddiad nid yw Llywodraeth y DU wedi sôn dim am sut bydd argymhellion Silk yn cael eu rhoi ar waith, os o gwbl. Roeddem yn disgwyl ymateb ffurfiol i Silk gan Lywodraeth y DU yn y gwanwyn eleni, ond er i Ysgrifennydd Gwladol Cymru sôn ar 24 Mehefin 2013 y byddai cyhoeddiad cyn hir, does dim wedi dod o hynny.
Rhoddwyd y gorau i ddyfalu am amseru a chynnwys yr ymateb dros yr haf, yn dilyn lansiad ymgynghoriad gan Drysorlys Ei Mawrhydi ar y cynnig i ddatganoli Treth Tir y Dreth Stamp, a drefnwyd, yn ôl Llywodraeth y DU, yn dilyn pryderon gan y diwydiant ynghylch y cynnig gan y Comisiwn Silk.Yn siarad yn fuan ar ôl i'r ymgynghoriad hwnnw gau ar 10 Medi, fodd bynnag, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Nick Clegg AS, nad oedd ymateb ar y gorwel. Dywedodd ei fod ef yn cefnogi glasbrint Silk ar gyfer datganoli pellach, ond nad oedd pawb o fewn y llywodraeth yn cytuno ag ef. Ychwanegodd ei fod yn dal i geisio perswadio ei gydweithwyr Ceidwadol ac eraill bod hwn yn gam synhwyrol i'w gymryd.
Yn dilyn y sylwadau hynny, ar 17 Medi, galwodd Prif Weinidog Cymru ar Lywodraeth y DU i ymateb yn gadarnhaol i adroddiad y Comisiwn Silk. Gan siarad yng nghyd-destun refferendwm annibyniaeth yr Alban y flwyddyn nesaf, dywedodd y byddai rhoi argymhellion y Comisiwn Silk ar gyfer datganoli pwerau codi treth a benthyca ar waith yn llawn yng Nghymru yn anfon neges glir i'r Alban ac yn adeiladu achos cryf o blaid y Deyrnas Unedig.
Pe byddai Llywodraeth y DU eisiau rhoi rhai o argymhellion y Comisiwn Silk neu'r cyfan ohonynt ar waith, fodd bynnag, mae amser seneddol yn brin yn San Steffan. Caiff Bil Cymru drafft ynghylch trefniadau etholaethol y Cynulliad - y mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi awgrymu y gallai gynnwys rhai o ddarpariaethau Silk - ei gyhoeddi cyn diwedd y sesiwn seneddol bresennol ym mis Mawrth flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, cawn weld os caiff lle ei greu yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU ar gyfer 2014-15 i gyflwyno Bil or fath i droi cynigion o'r fath yn gyfraith.
Erthygl gan Owain Roberts.