Mae Adroddiad Blynyddol 2021-22 Comisiynydd y Gymraeg yn dilyn yn fuan ar ôl marwolaeth annhymig y Comisiynydd, Aled Roberts, ym mis Chwefror 2022. Caiff yr adroddiad ei ddisgrifio fel "cofnod parhaol o’i arweiniad ysbrydoledig, ac o’i ofal a’i angerdd dros yr iaith Gymraeg".
Yn ystod 2021-22, cafodd Adroddiad 5-mlynedd y Comisiynydd ar sefyllfa'r Gymraeg ei chyhoeddi hefyd. Mae'r Adroddiad Blynyddol yn nodi y caiff yr Adroddiad 5-mlynedd ei ystyried yn un o uchafbwyntiau gwaith Aled Roberts, ac nid yw'n dal yn ôl rhag rhoi sylw i’r heriau o ran cwrdd â thargedau Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Mae effaith y pandemig wedi gwneud y dasg honno'n llawer anoddach ac mae'r adroddiad 5-mlynedd yn rhybuddio "y bydd angen gwaith adfer a buddsoddi sylweddol".
Mae'r erthygl hon yn edrych ar rai materion allweddol a nodwyd gan y Comisiynydd cyn dadl y Senedd ar yr Adroddiad Blynyddol ddydd Mawrth 15 Tachwedd.
Ymrwymiad i ymestyn dyletswyddau o ran y Gymraeg
Mynegodd y Comisiynydd rwystredigaeth yn aml mai prin oedd y cynnydd gan Lywodraeth Cymru wrth gyflwyno rheoliadau safonau’r Gymraeg newydd. Mae’r diffyg cynnydd wedi ei amlygu gan y nifer o gyrff sy’n gweithredu safonau, gydag ond un corff ychwanegol yn gwneud hynny yn ystod 2021-22, gan ddod â'r cyfanswm i 124. Ers Adroddiad Blynyddol: 2019-20, sef adroddiad blynyddol cyntaf Aled Roberts, dim ond cynydd o ddau gafwyd yn nifer y cyrff sy'n gweithredu safonau, gan godi cwestiynau am gyflymder y newid yn y maes hwn.
O ganlyniad, cafodd rhaglen waith penodol ei llunio gan y Comisiynydd yn ystod 2021-22 i ddatblygu’r gwaith o gyflwyno rheoliadau safonau’r Gymraeg. Roedd hyn yn cynnwys cyfres o opsiynau ac amserlen ar gyfer Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i "alluogi cynnydd yn y maes ehangu hawliau dros y pum mlynedd nesaf". Ymhlith yr opsiynau a awgrymwyd oedd "rhaglen dreigl" i ddod â'r cyrff sy'n weddill, a enwir yn Atodlenni 5 a 6 o Fesur 2011 o fewn y drefn safonau.
Mae'r Adroddiad Blynyddol yn nodi'r ymrwymiad a wnaed yn y Cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i gyflwyno safonau'r Gymraeg i fwy o sectorau yn ystod y Chweched Senedd.
Er y bydd y drafodaeth yn parhau ynghylch a ddylid rhoi mwy o bwyslais ar reoleiddio neu hybu, mae'r Adroddiad Blynyddol yn nodi’r canlynol mewn arolwg diweddar o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru:
Dywedodd 42% o'r ymatebwyr eu bod yn teimlo bod cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn cynyddu yn eu bywydau bob dydd ac roedd 57% yn teimlo bod y cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'r sector cyhoeddus yn cynyddu.
Mae hyn yn cyd-fynd â chanlyniadau o fewn adroddiadau sicrwydd Comisiynydd y Gymraeg, sydd wedi dangos cynnydd a gwelliant cyson yn narpariaeth gwasanaethau ers cyflwyno’r safonau.
Rhyddid i ddefnyddio'r iaith
Mae gan y Comisiynydd bwerau o dan 'Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011' i ymchwilio i achosion pan fydd unigolyn neu sefydliad wedi ymyrryd â rhyddid unigolyn i gyfathrebu yn Gymraeg.
Er i bedwar o bobl gysylltu â'r Comisiynydd yn ystod 2021-22 gyda honiadau o ymyrraeth, dim ond un achos gafodd ei ymchwilio gan y Comisiynydd. Mae nifer yr ymchwiliadau a gynhaliwyd o dan y Mesur yn isel ar y cyfan - yn ystod 2019-20, gwnaed saith cais, gydag un wedi'i ymchwilio. Fodd bynnag, mae'r Adroddiad Blynyddol yn cyfeirio at drafferthion posibl gyda'r broses o dan y fframwaith deddfwriaethol presennol:
Mae amser yn mynd ar gychwyn y broses a llawer unigolyn sydd wedi cyflwyno cais yn colli diddordeb a rhoi’r gorau i gyfathrebu â ni. Teimlir bod gormod o faich ar y ceisydd.
O ganlyniad, mae swyddfa'r Comisiynydd wedi penderfynu archwilio'r gweithdrefnau a ddefnyddir ar hyn o bryd, ac ystyried “pa gamau ellir eu cymryd i sicrhau bod y broses yn llai beichus o fewn y fframwaith presennol."
Arbedion ariannol yn gynyddol anodd
Dyrannodd Llywodraeth Cymru £3.2 miliwn o gyllid refeniw a £256,000 o gyllid cyfalaf i'r Comisiynydd ar gyfer 2021-22.
Mae'r Comisiynydd yn nodi mai’r gwariant net am y cyfnod oedd £3.3 miliwn. Defnyddir y rhan fwyaf o'i wariant ar gostau staffio, sy'n cyfrif am dros ddwy ran o dair o wariant y Comisiynydd.
Mae adroddiad y Comisiynydd yn nodi ei fod wedi cael "cyfarwyddyd clir gan y Llywodraeth i chwilio am arbedion ariannol dros y cyfnod nesaf". Fodd bynnag, gyda chostau staffio yn ffurfio'r mwyafrif o gyllideb flynyddol y Comisiynydd, dywed bod y "gallu i wneud arbedion pellach yn gyfyngedig."
Mae'r Comisiynydd wedi cael yr un lefel o gyllid refeniw ar gyfer 2022-23 â'r flwyddyn flaenorol. Mae'r ffigur hefyd yn aros yn ei unfan yn y dyraniadau arfaethedig ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Er bod darparu 'cyllideb fflat' yn rhoi “sicrwydd cymharol”, mae hefyd yn:
... cynnig her sylweddol i geisio cyflawni’r holl swyddogaethau a chynlluniau o fewn yr un swm ariannol gyda chostau’n cynyddu.
Sefyllfa'r Gymraeg
Adroddiad 5 mlynedd y Comisiynydd ar Sefyllfa'r Gymraeg yw’r ail adroddiad o'i fath, sy’n gyfle i bwyso a mesur cyflwr yr iaith. Cyhoeddwyd yr adroddiad 5 mlynedd cyntaf yn 2016.
Mae'r adroddiad yn myfyrio ar ddatblygiadau polisi a deddfwriaethol yn ogystal â data ar allu o ran yr iaith yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'n nodi'r cynnydd cyson o flwyddyn i flwyddyn yn nifer y siaradwyr Cymraeg (fel adroddir yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth), a oedd, erbyn 31 Rhagfyr 2020 wedi cynyddu i 883,600 (29.1%). Ym mis Mawrth 2010, roedd y ffigwr yn 731,000 (25.2%). Serch hynny, y Cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell i fesur cynnydd tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg. Disgwylir i ddata Cyfrifiad 2021 ar allu o ran yr iaith gael ei gyhoeddi yn fuan.
Ymhlith y casgliadau yn yr adroddiad 5-mlynedd, mae'r Comisiynydd yn nodi, er gwaethaf y cynnydd sylweddol hyd yma, mai "dim ond drwy barhau â’r un momentwm gan ddefnyddio Mesur y Gymraeg i’w eithaf y gwelwn gynnydd tebyg dros y pum mlynedd nesaf." I'r perwyl hwn, ailadroddodd y Comisiynydd apêl i Lywodraeth Cymru i "ailafael ar fyrder yn y broses o osod safonau".
Ond mae'r Comisiynydd yn datgan nad oes amheuaeth mai'r datblygiad a gipiodd y penawdau yn ystod y cyfnod o 5 mlynedd oedd cyhoeddi strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, sef Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr.
Mae’r Comisiynydd yn glir, os yw Cymraeg 2050 am lwyddo, ac os yw Llywodraeth Cymru “o ddifri” ynglŷn â chyrraedd y targedau, mae “angen i’w hamcanion a’i hysbryd [Cymraeg 2050] fod yn greiddiol i bob datganiad, polisi a deddf”.
Erthygl gan Osian Bowyer, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru