Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2016-17

Cyhoeddwyd 13/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Ar ddydd Mawrth 14 Tachwedd 2017, cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch Adroddiad Blynyddol 2016-17 Comisiynydd y Gymraeg.

Mae'r adroddiad statudol yn rhoi gwybodaeth a manylion am waith y Comisiynydd a'i staff ac adolygiad o'r materion sy'n berthnasol i'r Gymraeg yn ystod y flwyddyn adrodd.

Yn ddiweddar, ymddangosodd y Comisiynydd gerbron y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i drafod yr adroddiad.

Barn y Comisiynydd

Yn ei Rhagair i’r adroddiad, dywed y Comisiynydd yn ystod yr amser y bu yn y swydd:

...bod y drafodaeth gyhoeddus am y Gymraeg wedi newid. Bellach nid ‘pam’ yw’r cwestiwn a ofynnir wrth drafod cynyddu defnydd o’r iaith, ond ‘sut’.

Mae'r Comisiynydd o'r farn bod yna 'awydd' bellach ymhlith sefydliadau sy'n destun y Safonau i gydymffurfio â'r dyletswyddau newydd, a bod targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi helpu gyda'r sgwrs hon. Serch hynny, mae'r Comisiynydd yn nodi bod angen i ddeddfwriaeth esblygu a datblygu, gan adeiladu ar y strwythurau sydd eisoes ar waith.

Hawliau Newydd i Siaradwyr Cymraeg

Ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2015-2016, daeth hawliau newydd i ddefnyddio'r Gymraeg i rym trwy'r broses o osod safonau ar Weinidogion Cymru, awdurdodau lleol ac awdurdodau parciau cenedlaethol. Dyma Adroddiad Blynyddol cyntaf y Comisiynydd sy'n adrodd yn llawn ar weithrediad y Safonau.Logo Comisiynydd y Gymraeg Yn ystod y flwyddyn adrodd, cafodd Safonau eu gosod ar 52 o fudiadau ychwanegol, gan gynnwys Estyn, yr Heddluoedd, Awdurdodau Tân a'r BBC.

Er gwaethaf cynnydd o ran gosod Safonau, mae rhai sefydliadau cyhoeddus mawr yng Nghymru yn parhau i fod y tu allan i'r gyfundrefn Safonau. O'r 78 sefydliad sy'n gweithredu Safonau ar hyn o bryd, nid yw sefydliadau iechyd yn eu mysg. Mae'r Comisiynydd yn nodi yn y 'bydd hawliau’r cyhoedd i ddefnyddio’r iaith yn cryfhau’n sylweddol pan gaiff safonau eu gosod ar y sefydliadau iechyd'. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno rheoliadau ar gyfer safonau i'r sector hwn eto.

Awgrymodd y Comisiynydd, mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor, fod yna rwystredigaeth gynyddol gyda'r oedi, gan achosi problemau ar y rheng flaen:

Erbyn hyn, mae hynny’n creu problemau ar lawr gwlad oherwydd y mae gofal cymdeithasol yn gweithredu erbyn hyn, ers blwyddyn a hanner, o fewn safonau. Mae’r sector iechyd, sydd yn bartner agos iawn i ofal cymdeithasol, yn gweithio o fewn cyfundrefnau eraill. Rwy’n clywed, wrth fy mod i’n mynd o gwmpas ac yn siarad â phenaethiaid, fod yna rwystredigaeth bod yna ddwy gyfundrefn.

Papur Gwyn – Taro'r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg

Dywedodd y Comisiynydd yn ei thystiolaeth i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fod elfennau o Fesur y Gymraeg yn fiwrocrataidd ac yn feichus, sy’n cael eu rheoli gan broses yn hytrach nag allbwn. Fodd bynnag, rhybuddiodd y Comisiynydd fod yna risgiau wrth wneud newidiadau strwythurol sylfaenol pan fo'r strwythurau presennol megis cychwyn:

[Mae'n] ddyddiau cynnar iawn...prin chwe blynedd oddi ar sefydlu swyddfa’r comisiynydd a gweithredu’r ddeddfwriaeth...Pe bai unrhyw newid sylfaenol, strwythurol, mae yna berig y buasem ni’n gweld arafu ar y broses, ansicrwydd ymysg sefydliadau, ansicrwydd ymysg y cyhoedd ynglŷn â beth sy’n digwydd.

Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Fil newydd y Gymraeg newydd ddod i ben. Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad cryno o'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn y dyfodol agos.

Ymdrin â chwynion

Ar hyn o bryd, mae'r Comisiynydd yn cynnal dwy weithdrefn gwyno ochr yn ochr yn ymwneud â'r Gymraeg. Mae un system yn cael ei llywodraethu gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, tra bod y llall yn cael ei llywodraethu gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

Daeth cyfanswm o 263 o gwynion i law yn ystod y cyfnod adrodd. O'r cwynion hyn, cyflwynwyd 112 dan weithdrefn Deddf 1993, a chyflwynwyd 151 o dan y weithdrefn Safonau.

Yn ystod y gwaith o graffu ar adroddiad y Comisiynydd, cyfeiriodd Aelod o'r Pwyllgor at beth rhwystredigaeth ymhlith awdurdodau lleol ynghylch natur 'hirwyntog' y broses gwynion. Dywedodd y Comisiynydd nad yw'r ddeddfwriaeth yn darparu ar hyn o bryd ar gyfer llwybr i 'ddatrysiadau buan'. Fodd bynnag, dywedodd y Comisiynydd hefyd:

Rŷm ni wedi gweithredu’r broses gwynion yma nawr am gyfnod o 18 mis, o dan y ddeddfwriaeth yn llawn, ac, o edrych ar y data ddoe, 43 y cant o’r cwynion sydd yn cyrraedd ein sefydliad ni sy’n arwain at ymchwiliad.

Dyraniad cyllid

Dyrannodd Gweinidogion Cymru £3.051 miliwn i Gomisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2016-17. Alldro'r Comisiynydd, hynny yw y swm a wariwyd yn ystod y flwyddyn ariannol, oedd £3.065 miliwn.

Nododd y Comisiynydd yn ei hadroddiad y byddai unrhyw doriadau ychwanegol i'w chyllideb yn y dyfodol yn ‘heriol iawn’, ac o safbwynt ymarferol, y gallai hynny olygu y byddai peth gwaith anstatudol yn dod i ben. Mae'r cyllid sydd wedi'i ddyrannu i'r Comisiynydd ar gyfer 2017-18 hyd at 2019-20 yn parhau'n wastad mewn termau ariannol, sef £3.051 miliwn.

Wrth ymateb i gwestiynau yn y Pwyllgor ynghylch ei chyllid, dywedodd y Comisiynydd ei bod hi'n derbyn realiti'r hinsawdd ariannol. Fodd bynnag, nododd hefyd sut y mae'n effeithio ar ei gwaith:

Beth sydd ddim yn mynd i ddigwydd i’r un graddau efallai ag y byddai wedi digwydd yn y gorffennol yw’r elfennau o waith ymchwil... Mae’n debyg mai’r ochr arall sydd ddim yn cael gymaint o adnodd ag y buaswn i’n ei ddymuno yw’r ochr hybu a hyrwyddo, y gwaith meddalach.

Gwaith anstatudol a chydweithio

O weithio’n agos gyda busnesau a sefydliadau'r trydydd sector, mae’r Comisiynydd yn anelu at annog, hyrwyddo a hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith o fewn y sectorau hyn. Rhan allweddol o hyn yw gcydweithio â chyrff ymbarél fel Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r Consortiwm Manwerthu yng Nghymru. Mae'r Comisiynydd hefyd yn gweithio'n agos â chyrff cyhoeddus fel Chwaraeon Cymru i estyn allan at glybiau chwaraeon.

Un canlyniad o gydweithio â Chwaraeon Cymru yn ystod 2016-17 oedd lansio pecyn cymorth: Y Gymraeg: Amdani! Mae’n darparu cyngor ymarferol i glybiau a chymdeithasau chwaraeon ar ddatblygu gweithgareddau yn Gymraeg neu'n ddwyieithog.

Mae'r Comisiynydd hefyd wedi parhau i weithio'n agos gyda'r archfarchnadoedd a banciau'r stryd fawr trwy fforymau sefydledig. Dywedodd y Comisiynydd yn ei thystiolaeth i'r Pwyllgor fod y fforymau yn:

Creu atebion eu hunain... mae yna awydd yna i ddatrys problemau, ond yn fwy na hynny, gweld budd busnes economaidd i’r Gymraeg.


Erthygl gan Osian Bowyer, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru