Mae Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Plant yn cyflwyno Comisiynydd Plant newydd Cymru, Rocio Cifuentes, a hefyd yn amlinellu gwaith a chyflawniadau ei rhagflaenydd Sally Holland a’i thîm yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2021 – 31 Mawrth 2022.
Bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod yr adroddiad a’i argymhellion ar 18 Hydref. Mae'r erthygl hon yn edrych ar gyd-destun ehangach y ddadl hon, yn enwedig mewn perthynas ag adroddiad newydd 'Reframing Childhood', a lansiwyd yng Nghymru yr wythnos diwethaf gan y British Academy ar sut y gall hawliau a lleisiau plant lywio polisi cyhoeddus.
Plant fel mwy nag 'oedolion y dyfodol'
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yw’r sail i bolisïau a deddfwriaeth yng Nghymru. Mae CCUHP yn cynnwys 54 o erthyglau sy’n nodi amrywiaeth eang o hawliau i blant a phobl ifanc hyd at 18 oed, gan gynnwys yr hawl i ddiogelwch, iechyd, teulu, addysg, diwylliant a hamdden. Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn golygu bod angen i Weinidogion Cymru roi 'sylw dyledus' i CCUHP ym mhopeth a wnânt. O ganlyniad, mae hawliau plant wedi bod yn destun llawer o waith craffu gan y Senedd, gan gynnwys yr adroddiad Hawliau plant yng Nghymru a gyhoeddwyd yn 2020, ynghyd â fersiwn addas i blant.
Yn ôl 'Reframing Childhood', mae ymchwil yn dangos mai’r allwedd i feithrin hawliau plant mewn polisi ac ymarfer yw, yn rhannol, cydbwyso cyfrifoldeb oedolion i blant, a chydnabod eu heffaith eu hunain. Mae 'Reframing Childhood', yn dweud y gall cydbwyso’r ddealltwriaeth o blant fel 'bod' a 'dod' fod yn ddefnyddiol o ran ymdrin â’r tensiwn hwn. Yn ôl y British Academy, hanfod y gwahaniaeth hwn rhwng 'bod' a 'dod' yw cydnabod plant fel mwy nag oedolion y dyfodol, a'u gweld fel pobl ag effaith ac anghenion yn y cyfnod presennol. Er enghraifft, os edrychwn ar newidiadau i’r cwricwlwm, mae’n bwysig i edrych y tu hwnt i sut y gallai’r newidiadau hynny effeithio ar ddyfodol plant a’u gyrfaoedd, ac edrych hefyd ar ddeall sut y gallent effeithio ar blant yn y cyfnod presennol, fel eu heffaith ar iechyd meddwl.
Mae adroddiad y Comisiynydd yn disgrifio ei dull gweithredu ei hun, sef 'Y-Ffordd-Gywir', fel fframwaith egwyddorol ac ymarferol ar gyfer gweithio gyda phlant, wedi’i seilio ar CCUHP. Ei nod yw cefnogi cyrff cyhoeddus i gyflawni eu dyletswydd i roi hawliau plant wrth galon pob penderfyniad cynllunio a’r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Mae’r British Academy yn dyfynnu dogfen 'Y-Ffordd-Gywir' y Comisiynydd blaenorol fel enghraifft dda o ddull polisi mwy cytbwys sy’n mynd i’r afael â materion o fod yn blentyn yn ogystal â chanlyniadau yn y dyfodol fel oedolyn.
Mae adroddiad y Comisiynydd yn nodi bod gwerthusiad wedi cael ei gynnal yn y flwyddyn ddiwethaf o effaith 'Y-Ffordd-Gywir', ac yn dyfynnu rhai o'r ymatebion cadarnhaol, gan gynnwys sut mae'n helpu i droi gwerthoedd yn weithredoedd. Nodir hefyd mai un o ddeilliannau’r adolygiad oedd sut yr oedd yn rhoi cyfle i gydweithio â phlant a phobl ifanc.
Cydweithio â phobl ifanc ac eirioli ar eu rhan
Yr hyn sy'n allweddol i gyflawni cyfrifoldebau'r Comisiynydd yw'r rôl i 'godi llais' ar ran blant, yn ogystal â 'dylanwadu' ar lywodraeth. Mae’r adroddiad yn datgan yn glir sut mae cynnydd neu ddiffyg cynnydd wedi bod mewn perthynas â ‘materion plant’ yn y ‘Cerdyn Adroddiad’, fel:
- Amddiffyn rhag Ecsbloetio a Thrais: gan gynnwys cam-drin rhywiol a phobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid.
- Amgylchedd Teuluol a Gofal Amgen: gan gynnwys cymorth i blant sydd mewn gofal ac yn gadael gofal, a llety i blant ag anghenion cymhleth
- Safon Byw sy’n Ddigonol: gan gynnwys mynediad at iechyd, cyfraddau tlodi plant, a mynediad at drafnidiaeth.
- Addysg, Dinasyddiaeth a Gweithgareddau Diwylliannol: gan gynnwys effaith y cwricwlwm newydd a'r ddeddfwriaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ddiweddar; addysg pobl ifanc gartref neu mewn ysgolion annibynnol; y dull ysgol gyfan at iechyd meddwl; arholiadau ac asesiadau ar ôl Covid; teithio gan ddysgwyr; a gwaharddiadau.
Mae mynd i’r afael â thlodi plant wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i’r Comisiynydd blaenorol a’r Comisiynydd presennol. Mae Rocio Cifuentes wedi galw ar Lywodraeth Cymru i osod targedau uchelgeisiol i leihau tlodi plant. Nod Llywodraeth Cymru yw anelu at adnewyddu ei strategaeth tlodi plant erbyn diwedd y flwyddyn hon, ac mae’r Comisiynydd hefyd am weld cynllun gweithredu a chynlluniau gwariant ochr yn ochr â hyn.
Mae swyddfa’r Comisiynydd yn dweud ei bod wedi cael dylanwad yn y maes hwn drwy godi materion gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas ag “effaith niweidiol y terfyn dau blentyn ar gredyd treth plant a chredyd cynhwysol”, a thrwy geisio dylanwadu ar grŵp pwyslais ar incwm Llywodraeth Cymru fel ei fod yn mynd i’r afael â thlodi plant.
Mae adroddiad y Comisiynydd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ganolbwyntio’n glir ac yn barhaus ar achosion sylfaenol tlodi plant, gan nodi bod “angen i’r gwaith eleni’n arbennig ymdrin â theuluoedd ar gyrion gofal, lle mae plant mewn perygl o gael niwed neu gael eu hesgeuluso, a mynd i’r system ofal”.
Gellid ystyried bod yr ohebiaeth â’r Adran Gwaith a Phensiynau ac argymhellion y Comisiynydd i Lywodraeth Cymru yn codi llais ar ran plant. Gellid eu gweld hefyd fel cais i ystyried anghenion plant yn y cyfnod presennol, neu blant yn ‘bod’ fel y mae’r British Academy yn ei ddweud. Yn ôl 'Reframing Childhood', mae gweithio gyda phobl ifanc ar bynciau sy'n cael eu hystyried fel arfer yn faterion plant, fel addysg a gofal plant, yn rhan allweddol o ddatblygu polisi sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Ond eto, mae 'Reframing Childhood' yn dweud bod gwaith ymchwil hefyd yn dangos pa mor bwysig yw ymgysylltu â phobl ifanc ar faterion sydd fel arfer yn cael eu hystyried ar wahân i blant. Mae enghreifftiau o hyn yng Nghymru yn cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Senedd Ieuenctid Cymru. Gallai gwaith yn y dyfodol symud tuag at ddangos sut mae’r Comisiynydd yn cynnwys pryderon pobl ifanc yn y sgwrs gyda phob agwedd ar bolisi’r llywodraeth.
Heriau at y dyfodol
Nid yw cydbwyso ystyried plant fel 'bod' a 'dod' yn sefyll ar wahân i'r heriau eraill sy'n wynebu pobl ifanc. Fel y dywed y Comisiynydd newydd, “Efallai ein bod ni’n dod allan o bandemig Covid, ond rydyn ni bron yn sicr yn mynd i ganol argyfwng arall – Argyfwng Costau Byw, sydd yn rhoi pwysau aruthrol ar deuluoedd a phlant a oedd eisoes mewn trafferthion”.
Fel y mae gwaith ymchwil Conffederasiwn y GIG ar Covid 19 yn ei ddangos, nid yw argyfyngau’n effeithio ar bob un ohonom yn gyfartal, ond yn hytrach yn dangos anghydraddoldebau a phwysau sy’n bodoli eisoes, sy’n aml yn effeithio fwyaf ar y rhai sydd ar y cyrion mewn cymdeithas. Mae'r pwysau cynyddol ar 'gostau byw' yn dra gwahanol i rai teuluoedd o gymharu ag eraill. Wrth i fwy o blant ddod mewn perygl o fyw mewn tlodi, mae’n debygol y bydd cynrychioli profiadau, syniadau ac anghenion pobl ifanc yn eu holl amrywiaeth yn fwy heriol fyth i’r Comisiynydd, a bydd cyfathrebu â phlant yn eu holl amrywiaeth yn bwysicach fyth.
Mae cynnydd mewn prisiau ynni yn y dyfodol a heriau costau byw yn y misoedd i ddod eisoes wedi bod yn destun cryn drafod yn gynnar yn nhymor yr hydref yn y Senedd. Bydd yr adroddiad diweddaraf hwn gan y Comisiynydd yn gyfle i ystyried beth mae’n ei olygu i fywydau plant Cymru yn y cyfnod presennol. Gwyliwch ar Senedd TV yma.
Erthygl gan Joseph Thurgate, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Joseph Thurgate gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), a alluogodd i’r Erthygl Ymchwil hon gael ei chwblhau.