Fe wynebodd Cymru Storm Darragh ar ei gwaethaf ar 6 Rhagfyr 2024, gyda rhybudd tywydd coch mewn grym o oriau mân 7 Rhagfyr yn dynodi perygl i fywyd.
Cafwyd dau ‘ddigwyddiad angori’ yn ymwneud â llongau Irish Ferries ar 6 a 7, gyda’r naill derfynfa fferi a’r llall ym Mhorthladd Caergybi yn cau wythnosau cyn y Nadolig. Er bod Terfynfa 5 wedi ailagor ar 16 Ionawr, nid oes disgwyl i Derfynfa 3 ailagor tan 15 Gorffennaf. Mae hwn yn oediad o bythefnos o’r dyddiad arfaethedig gwreiddiol ar gyfer ailagor, sef 1 Gorffennaf. Esboniodd Stena Line fod hyn er gwaethaf cydweithredu gwych, ac ymdrechion gorau pawb a fu ynghlwm wrth y prosiect cymhleth hwn.
Fe wnaeth adroddiad y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig feirniadu ymateb Llywodraeth Cymru. Ni dderbyniodd Llywodraeth Cymru yr un o'i chwe argymhelliad, gan wrthod tri a derbyn y gweddill yn rhannol.
Ar 2 Gorffennaf, bydd y Senedd yn trafod yr adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru.
Ymateb cychwynnol “swrth”
Fe wnaeth cau ail borthladd fferi prysuraf y DU amharu’n sylweddol ar lif masnach ryngwladol a'r economi leol.
Eto i gyd, canfu’r Pwyllgor fod yr ymateb cychwynnol yn “swrth” gyda “chyfathrebu gwael”. Fe wnaeth Cymdeithas Cludo Nwyddau Iwerddon feirniadu ymateb y Porthladd fel bod yn enbyd. Nododd na ddechreuodd y gwaith adfer tan ar ôl y Nadolig a dywedodd, gyda dros 1,000 o drelars yn cronni o amgylch Caergybi, y bu’n wythnos cyn eu bod nhw’n gwybod na fyddai’r porthladd yn ailagor.
Esboniodd Porthladd Caergybi sut y gwnaeth y storm oedi gwaith i ddeall a mynd i'r afael â'r difrod.
Roedd y Pwyllgor hefyd o'r farn bod ymateb Llywodraeth Cymru yn araf. Nododd y Gymdeithas Cludiant Ffyrdd dystiolaeth bod Transport Scotland a rhanddeiliaid eraill yn yr Alban wedi ymgysylltu’n gyntaf ar 11 a 12 Rhagfyr, tra mai’r cyswllt cyntaf a gawsant â gwasanaeth sifil Cymru drwy gydol y broses gyfan hon oedde-bost ar Noswyl Nadolig yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y porthladd.
Roedd yn amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid eraill, megis Llywodraeth Iwerddon, drwy gydol yr amser. At hynny, pwysleisiodd swyddog o Lywodraeth Cymru mai eu ffocws oedd cyfathrebu â gyrwyr sy'n agosáu at y porthladd, neu sydd yno, er mwyn rheoli llif y traffig. Fodd bynnag, roedd yr Gymdeithas Cludiant Ffyrdd o'r farn ei bod yn bwysig bod cyrff cludo nwyddau yn gallu lledaenu gwybodaeth ar ran y Llywodraeth.
Er gwaethaf sefydlu “tasglu aml-randdeiliaid” mewn ymateb i gau’r porthladd, gwrthododd Llywodraeth Cymru argymhelliad i gynnal adolygiad o'r gwersi a ddysgwyd. Gan nodi gwaith y tasglu, pwysleisiodd fod y porthladdoedd yng Nghymru sy’n trin traffig Môr Iwerddon yn endidau masnachol sy’n eiddo preifat, ac yn cael eu gweithredu’n breifat, neu’n Borthladdoedd Ymddiriedolaeth.
Mae'r amserlen isod yn dangos datblygiadau allweddol ers mis Rhagfyr:
6 - 7 Rhagfyr
Dau 'ddigwyddiad angori' yn cynnwys llongau Irish Ferries ar 6 a 7 Rhagfyr.
6 - 7 Rhagfyr
Storm Darragh yn taro Ynysoedd Prydain. Terfynfeydd fferi 3 a 5 yn cael eu difrodi. Y porthladd yn cau ar 7 Rhagfyr.
12 Rhagfyr
Llywodraeth Iwerddon yn cyhoeddi gwybodaeth am y cau, gan gyfeirio at gynllunio wrth gefn, llwybrau amgen ac ati.
12 Rhagfyr
Undeb yr RMT yn ysgrifennu at ei aelodau Stena Line ynghylch arferion gwaith yn ystod y rhybudd tywydd coch, yn ogystal â newidiadau cylchdro / symud staff yn “anwirfoddol” i borthladdoedd eraill.
13 Rhagfyr
Stena Line yn dweud bod gwasanaethau wedi'u canslo tan ddydd Gwener 20 Rhagfyr. Mae’n cysylltu â chwsmeriaid ac yn rhoi gwasanaethau ychwanegol ar waith o Abergwaun a Birkenhead i Ddulyn, ac o Cairnryan a Heysham i Belfast.
13 Rhagfyr
Datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Iwerddon yn dweud bod ei gweinidogion trafnidiaeth wedi cael eu briffio, ac wedi ysgrifennu at Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, i drefnu cyfarfod, ac y byddai’n ysgrifennu at Ysgrifennydd Gwladol y DU.
14 Rhagfyr
Awdurdod Diogelwch Ffyrdd Iwerddon ac Adran Drafnidiaeth Iwerddon yn cyhoeddi eu bod yn llacio rheolau oriau gyrwyr rhwng 14 a 27 Rhagfyr.
15 Rhagfyr
Llywodraeth Iwerddon yn cyhoeddi cyfarfod gweinidogol gyda Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, gyda chyfarfodydd diweddarach ar y gweill gydag Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth y DU a sgyrsiau gyda Stena Line ac Irish Ferries.
16 Rhagfyr
Stena Line yn adrodd eu bod yn gweithio "ar gyflymder" i sicrhau capasiti ychwanegol - gan gyfeirio at lwybr cludo nwyddau newydd Heysham-Dulyn a llwybr car / teithwyr newydd Birkenhead-Dulyn o 17 Rhagfyr.
16 Rhagfyr
Y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd (RHA) yn dweud ei bod yn gweithio gyda Transport Scotland ac Adran Drafnidiaeth y DU (UKDfT) i sicrhau y byddai cyfyngiadau oriau gyrwyr yn cael eu llacio dros dro rhwng 15 a 20 Rhagfyr.
16 Rhagfyr
Llywodraeth Iwerddon yn dweud iddi gyfarfod eto â Gweinidogion Cymru, Stena Line ac Irish Ferries, ac ar wahân â rhanddeiliaid logisteg.
17 Rhagfyr
Stena Line yn cyhoeddi na fyddai ailagor yn digwydd “tan o leiaf 15 Ionawr”.
17 Rhagfyr
Cyhoeddi cyd-hysbysiad gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon.
17 Rhagfyr
Adran Drafnidiaeth y DU yn cyhoeddi y byddai rheolau oriau gyrwyr yn cael eu llacio ymhellach tan 23 Rhagfyr.
18 Rhagfyr
Datganiad i’r wasg Cyngor Sir Ynys Môn yn dweud ei fod wedi cynnig cefnogi Stena Line "mewn unrhyw ffordd bosibl" yn dilyn cau’r porthladd, a bod ei Uned Datblygu Economaidd yn creu porth ar-lein i ymgysylltu â busnesau lleol ac asesu "effeithiau economaidd a chyflogaeth" ym mis Ionawr. Mae hyn yn aros ar agor tan 31 Ionawr ac mae tystiolaeth ysgrifenedig gan Gyngor Sir Ynys Môn i'r Pwyllgor yn manylu ar y canlyniadau.
19 Rhagfyr
Stena Line yn adrodd bod CThEF yn dweud bod ei systemau "Gwasanaeth Datgan Tollau (CDS) a'r Gwasanaeth Symud Cerbydau Nwyddau (GVMS) yn parhau i weithredu heb unrhyw broblem" ac na fyddai cludwyr yn cael eu cosbi wrth ddefnyddio llwybrau trwy Abergwaun, Birkenhead a Heysham tra bod Caergybi yn parhau ar gau.
20 Rhagfyr
Datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru yn rhoi cyhoeddusrwydd i wasanaethau ychwanegol Stena ac Irish Ferries, yn benodol gwasanaeth Irish Ferries newydd o Abergwaun yn cychwyn y diwrnod hwnnw.
20 Rhagfyr
Datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Iwerddon yn dweud bod y Taoiseach (Prif Weinidog Iwerddon) wedi cyfarfod â'r Prif Weinidog, Eluned Morgan ac yn bwriadu gwneud hynny eto yn y Flwyddyn Newydd.
23 Rhagfyr
Datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru yn pwysleisio bod “ymdrechion digynsail.... i gael pobl adref i Iwerddon cyn y Nadolig.”
23 Rhagfyr
Datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Iwerddon yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod gweinidogol gyda rhanddeiliaid logisteg a fferi. O ran cymorth ariannol, mae’n dweud y bydd yn cymryd peth amser i asesu’r effaith ar y sector a phenderfynu ar ymateb priodol.
27 Rhagfyr
Awdurdod Diogelwch Ffyrdd Iwerddon ac Adran Drafnidiaeth Iwerddon yn cyhoeddi eu bod yn ymestyn y cyfnod o lacio rheolau oriau gyrwyr o 28 Rhagfyr i 12 Ionawr 2025.
7 Ionawr
Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth yn rhoi datganiad llafar yn cyhoeddi y byddai tasglu aml-randdeiliaid dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn cael ei sefydlu. Mae’n nodi’n fanwl ymdrechion i ddarparu capasiti ychwanegol a gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn / rhanddeiliaid i fonitro’r effaith ar fusnesau lleol. Mae datganiad i’r wasg gan Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd â’r datganiad.
8 Ionawr
Jonathan Reynolds AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach, yn ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ’r Cyffredin. Mae’n glir o’r llythyr fod Llywodraeth y DU yn cyfrannu at ymateb a arweinir gan Lywodraeth Cymru.
9 Ionawr
Stena Line yn cadarnhau "bod y llinell amser ar gyfer ailagor angorfa Terfynfa fferi 5 erbyn 16 Ionawr 2025 yn parhau i fod yn gyraeddadwy" yn amodol ar amodau tywydd.
10 Ionawr
Datganiad i'r wasg gan Lywodraeth Iwerddon yn dweud bod y Taoiseach wedi cyfarfod eto â Phrif Weinidog Cymru, a bod y Prif Weinidog wedi dweud y byddai'n "sicrhau cynrychiolaeth o fuddiannau Iwerddon" ar y tasglu.
15 Ionawr
Y Pwyllgor yn cynnal ei sesiwn graffu ar gyllideb ddrafft 2025-26 gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS.
16 Ionawr
Terfynfa 5 yn ailagor. Datganiad cysylltiedig gan Lywodraeth Cymru yn dweud bod y porthladd “yn llwyr agored unwaith eto”. Datganiad i’r wasg yn cael ei gyhoeddi hefyd.
23 Ionawr
Y ddau Ysgrifenydd Cabinet yn ysgrifennu at y Pwyllgor, gyda diweddariad ar y digwyddiad.
3 Chwefror
Y Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad ar gyllideb ddrafft 2025-26, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau a fydd unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i'w chyllideb cymorth allforio i gefnogi busnesau. Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, yn gwrthod yr argymhelliad hwn yn ddiweddarach, gan ddweud na fydd y gyllideb yn cael ei defnyddio at y diben hwn ond bod Llywodraeth Cymru yn gwneud yr hyn a ganlyn:
continuing to explore potential additional support and we will update the committee in due course.
4 Chwefror
Adroddiadau ar y cyfryngau yn nodi bod Cymdeithas Cludo ar y Ffyrdd Iwerddon a'i haelodau yn rhwystredig ynghylch cyflymder ymateb Llywodraeth Iwerddon ynghylch iawndal, gan awgrymu bod dargyfeiriadau wedi costio tua €1,500 y llwyth. Yn ôl adroddiadau, dywedodd Cymdeithas Cludo ar y Ffyrdd Iwerddon (IRHA) fod y Gweinidog dros Drafnidiaeth blaenorol wedi cadarnhau ym mis Ionawr y byddai cymorth yn cael ei ddarparu.
5 Chwefror
Pwyllgor Materion Cymreig Tŷ'r Cyffredin yn cynnal sesiwn dystiolaeth ar effaith cau, ailagor yn rhannol a chefnogaeth i fusnesau lleol a'r gadwyn gyflenwi.
17 Chwefror
Adroddiadau yn y cyfryngau yn awgrymu bod Terfynfa 3 "ar y trywydd iawn" i ailagor ar 1 Gorffennaf.
6 Mawrth
Y Pwyllgor yn cynnal ei Ymchwiliad i Ddifrod Storm a Chau Porthladd Caergybi.
27 Mawrth
Cynnal cyfarfod cyntaf Tasglu Gwydnwch Môr Iwerddon Llywodraeth Cymru. Mae ei gylch gorchwyl yn cael ei gyhoeddi ar 10 Ebrill.
3 Ebrill
Y Pwyllgor yn cyhoeddi ei adroddiad, Difrod a chau Porthladd Caergybi yn dilyn storm: Canfyddiadau cychwynnol.
10 Ebrill
Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cylch gorchwyl ei Thasglu Gwydnwch Môr Iwerddon.
8 Mai
Stena Line yn cadarnhau bod Terfynfa 3 ar y trywydd iawn i ailagor yn llawn ar 1 Gorffennaf.
15 Mai
Llywodraeth Cymru yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor.
4 Mehefin
Y Pwyllgor yn cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru.
2 Gorffennaf
Bydd y Senedd yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor ac ymateb Llywodraeth Cymru.
15 Gorffennaf
Disgwylir i'r porthladd ailagor yn llaw.
Tystion yn ansicr pwy oedd yn gyfrifol
Nid oedd rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth yn gallu dweud pa un o Ysgrifenyddion y Cabinet oedd yn gyfrifol. Er bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates AS, wedi arwain yr ymateb,mae gwefan Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir bod gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS, gyfrifoldeb dros “bolisi porthladdoedd … gan gynnwys porthladdoedd rhydd”.
Mewn tystiolaeth, eglurodd hi wedi hynny ei bod hi’n gyfrifol am y cyfraniad y mae porthladdoedd a hedfan yn ei wneud mewn perthynas â thwf economaidd a sefydlogrwydd, tra bod gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru gyfrifoldebau mewn perthynas â materion trafnidiaeth yn fwy cyffredinol.
Dywedodd Cymdeithas Porthladdoedd Prydain nad oedd ganddi broblem cyfathrebu â'r ddau Weinidog, a bod ganddi fynediad ‘di-seilo’ at swyddogion. Fodd bynnag, argymhellodd y Pwyllgor y dylai'r ymateb i ddigwyddiadau ar raddfa fawr yn y dyfodol gael “arweinydd Gweinidogol a fydd yn goruchwylio ac yn atebol am reoli’r ymateb”.
Er gwaethaf bod yn arfer da – er enghraifft, mae llyfr ‘Amber’ Llywodraeth y DU ar reoli argyfwng yn pwysleisio fod cael arweinyddiaeth glir o ddechrau argyfwng yn rhagofyniad ar gyfer ymateb effeithiol – gwrthododd Llywodraeth Cymru’r argymhelliad hwn.
Dargyfeiriadau masnach
Nododd y Pwyllgor fod 104 o fordeithiau’r wythnos wedi’u colli o ganlyniad i’r cau a bod yn rhaid adleoli traffig i lwybrau eraill. Buddiodd Dulyn, Gogledd Iwerddon a Rosslare o'r dargyfeiriadau hyn, gan amsugno 45%, 30% a 25% o'r traffig a ddargyfeiriwyd, yn y drefn honno.
Cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, er bod angen dadansoddi’r data, fod gwerth masnach drwy Gaergybi ym mis Rhagfyr 2024 bron i hanner biliwn o bunnoedd yn llai na’r flwyddyn flaenorol (-£490.4m).
At hynny, er bod arbenigwr logisteg, yr Athro Andrew Potter, heb ragweld gostyngiad hirdymor mewn masnach, roedd y Pwyllgor yn pryderu y gallai cau’r porthladd fod wedi “gwaethygu” dargyfeiriadau ar ôl Brexit i ffwrdd o borthladdoedd Cymru i borthladdoedd yn yr Alban a Lloegr. Daeth i’r casgliad bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio pob dull sydd ar gael i sicrhau bod Caergybi yn parhau i fod yn ddewis deniadol.
Economi leol wedi'i tharo gan gau’r porthladd
Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn, “ni ellir tanbrisio pa mor bwysig yw Porthladd Caergybi i’r economi leol ac economi Cymru”. Nododd Fforwm Busnes Cybi bod nifer y teithwyr yn allweddol i fusnesau lleol, gan mai nifer y bobl sy’n teithio drwy’r dref a’r gwariant drwy’r dref yw’r hyn sy’n cadw busnesau i fynd.
Tynnodd y Cyngor sylw at y ffaith fod nifer yr ymwelwyr yng nghanol tref Caergybi yn ystod cyfnod cau’r porthladd wedi gostwng 37% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Adroddodd rhai busnesau lleol fod masnach wedi gostwng 90% yn ystod y cyfnod o dan sylw, gyda'r sectorau trafnidiaeth, manwerthu, storio a llety wedi'u heffeithio fwyaf.
Roedd y Pwyllgor yn teimlo rhyddhad o glywed nad oedd effaith cau'r porthladd wedi arwain at y lefel ddisgwyliedig o golledion swyddi mewn busnesau lleol yr effeithiwyd arnynt. Fodd bynnag, teimlai bryder ynghylch y diffyg dealltwriaeth o'r effeithiau ar y gweithlu lleol. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod fod bylchau yn y data ar hyn, a bydd yn ystyried sut i fynd i'r afael â hyn gyda phartneriaid lleol.
Galwodd y Pwyllgor, hefyd, ar Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniad ar frys ynghylch pa gefnogaeth y byddai'n ei darparu i fusnesau yr effeithir arnynt. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod “wedi ymateb yn gadarnhaol” i gynigion cymorth busnes gan yr awdurdod lleol, a bydd yn gweithio gydag ef i “ddatblygu a chytuno ar gyllid er mwyn gallu cymryd y camau hyn mor gyflym â phosibl”.
Y tasglu a thu hwnt
Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyfarfod â Llywodraeth Iwerddon, fe wnaeth y tasglu gyfarfod am y tro cyntaf ar 27 Mawrth 2025. Mae'r cylch gorchwyl yn nodi aelodaeth eang a ffocws ar: gynllunio wrth gefn; prosiectau cyfredol a phrosiectau byw; a datblygiadau yn y dyfodol.
Amlinellodd y Pwyllgor nifer o feysydd yr oedd yn teimlo y dylai'r tasglu eu hystyried, gan gynnwys “cefnogi hyfywedd hirdymor y Porthladd ac osgoi dargyfeirio masnach”.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru hyn yn rhannol, gan nodi eto fod y porthladd yn eiddo preifat a bod hyfywedd hirdymor y Porthladd yn fater i Stena Line. Er gwaethaf hyn, mae'r cylch gorchwyl yn nodi fel a ganlyn:
Bydd y tasglu'n canfod beth sydd ei angen ar Gaergybi a phorthladdoedd eraill Cymru gan bob rhanddeiliad dros y tymor hwy, nid yn unig er mwyn goroesi, ond i ffynnu.
Fe wnaeth Cynllun Cyflenwi Trafnidiaeth Cenedlaethol Llywodraeth Cymru addo strategaeth porthladdoedd a thrafnidiaeth forol i Gymru a chynllun cludo nwyddau a logisteg cenedlaethol i Gymru erbyn 2024. Cyn hyn, nododd tystiolaeth i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith fod y Strategaeth Porthladdoedd wedi cael ei dadflaenoriaethu o blaid y strategaeth cludo nwyddau, ond nododd Pwyllgor yr Amgylchedd, Trafnidiaeth a Materion Gwledig nad yw'r naill na'r llall wedi dod i'r amlwg. Esboniodd Ysgrifenyddion y Cabinet sut y byddai'r rhain, bellach, yn integreiddio â gwaith y tasglu.
Gan nodi siom ymhlith rhai rhanddeiliaid ynghylch yr oedi hwn, argymhellodd y Pwyllgor y dylid cyflymu hyn ar ôl i’r tasglu gwblhau ei waith.
Er bod disgwyl i’r porthladd ailagor yn llawn, erbyn hyn, ar 15 Gorffennaf 2025, mae'r digwyddiad wedi codi problemau a fydd yn cymryd mwy o amser i'w datrys. Bydd casgliadau'r tasglu, a'u gweithrediad, yn hanfodol i wydnwch y bont dir sy'n cysylltu ynys Iwerddon â Phrydain Fawr a thu hwnt yn y dyfodol.
Erthygl gan Andrew Minnis, Sara Moran a Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru