Prif ddelwedd yr erthygl yw baneri Cymru a'r UE yn erbyn awyr las.

Prif ddelwedd yr erthygl yw baneri Cymru a'r UE yn erbyn awyr las.

Adolygu'r cytundeb Brexit: Pedair blynedd gyntaf y Cytundeb Masnach a Chydweithredu o safbwynt Cymru

Cyhoeddwyd 30/10/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/10/2025

Yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Tachwedd 2025, bydd y Senedd gyfan yn trafod adroddiad gan bedwar o’i phwyllgorau ar y Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE.

Ers 2021, mae'r berthynas rhwng y DU a'r UE wedi'i seilio ar nifer o gytundebau.

Y prif gytuniad yw’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE. Mae’r cytundeb hwn, sydd â dros 2,500 o dudalennau, yn llywio llu o agweddau pwysig ar fywyd bob dydd ac yn effeithio ar lawer mwy. Cyn yr adolygiad o weithrediad y cytundeb yn ystod ei bum mlynedd gyntaf, a ddisgwylir erbyn 2026, penderfynodd pedwar o bwyllgorau’r Senedd gydweithio i fwrw golwg ar bedair blynedd gyntaf y Cytundeb Masnach a Chydweithredu o safbwynt Cymru. Y pedwar pwyllgor a gymerodd ran yn y gwaith hwn oedd:

  • Y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol;
  • Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig;
  • Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith; a’r
  • Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad.

Cymerodd y pedwar pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru. Gwahoddwyd Llywodraeth y DU i roi tystiolaeth hefyd, ond cafodd y gwahoddiad hwn ei wrthod.

Mae'r erthygl hon yn egluro'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac yn crynhoi adroddiad y pwyllgorau

Yr hanfodion

Mae wyth sail ar gyfer cydweithredu a phum elfen hanfodol yn gosod y sylfaen ar gyfer cydweithredu rhwng y DU a'r UE – mae enghreifftiau'n cynnwys y frwydr yn erbyn newid hinsawdd (sail ar gyfer cydweithredu) a pharchu hawliau dynol (elfen hanfodol). Os eir yn groes i’r nodweddion pwysig hyn, gall arwain at derfynu'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu. 

Mae adrannau penodol yn ymdrin â materion datganoledig a materion a gedwir yn ôl - masnach, hedfanaeth, trafnidiaeth ffyrdd, nawdd cymdeithasol, fisâu ar gyfer ymwelwyr tymor byr, pysgodfeydd, gorfodi'r gyfraith, cydweithrediad barnwrol, iechyd a seiberddiogelwch, yn ogystal â chyfranogiad y DU mewn pedair o raglenni’r UE, gan gynnwys Horizon Europe, Copernicus a dwy raglen ymchwil niwclear.  

Mae'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn sefydlu dros 30 o fforymau ar y cyd ar gyfer gwneud penderfyniadau ac yn nodi proses ar gyfer datrys anghydfod.

Deall y Cytundeb Masnach a Chydweithredu

Mae'r dull gweithredu a ddilynwyd gan y DU a'r UE mewn perthynas â’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn allweddol wrth geisio deall effeithiau Brexit oherwydd y pwyntiau a ganlyn:  

  1. Cafodd nifer y meysydd yr oedd y DU a’r UE yn cydweithio ynddynt cyn Brexit eu lleihau i adlewyrchu statws y DU fel trydedd wlad. Roedd lefel y cydweithio yn llai ar ôl i'r DU ymadael â'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, yr UE, y Farchnad Sengl a/neu undeb tollau.
  2. Gwnaeth y trefniadau a ddaeth i ben naill ai ddychwelyd i (i) y trefniadau blaenorol neu drefniadau gwahanol, (ii) dim trefniadau, neu (iii) cyfuniad o'r ddau.
  3. Mae rhywfaint o weithgarwch bellach yn dibynnu ar gyfuniad o drefniadau y cawsant eu cynnwys yn y Cytundeb a threfniadau na chawsant eu cynnwys. Er enghraifft, rhaid i fasnachwyr lywio cyfuniad o reolau newydd (a all fod yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu neu gytundeb masnach rhyngwladol arall) ynghyd â rheolau domestig newydd a gyflwynwyd mewn ymateb i Brexit. Yn yr un modd, mae artistiaid sy’n teithio yn dibynnu ar reolau masnach y Cytundeb ar gyfer symud a gwerthu eu nwyddau (offerynnau, offer, nwyddau ac ati) ond yn dilyn rheolau fisa pob Aelod-wladwriaeth unigol o'r UE.

Cysylltiadau rhwng y DU a'r UE, artistiaid sy’n teithio a chyfranogiad yn rhaglenni'r UE

Roedd y dystiolaeth a ddaeth i law yn cynnwys galwadau am newidiadau pellgyrhaeddol i’r berthynas rhwng y DU a'r UE. Roedd hyn yn cynnwys galwadau i’r DU ailymuno â’r UE ac i’r DU ailymuno â Marchnad Sengl ac undeb tollau’r UE, galwadau i adfer rhyddid i symud a galwadau am ragor o gydweithredu ym meysydd amddiffyn, cyfiawnder a throseddu.

Ailadroddodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ei alwad ar i Lywodraeth Cymru lunio strategaeth bwrpasol ar gyfer yr UE yn nodi ei blaenoriaethau strategol hirdymor mewn perthynas â’r UE.

O ran artistiaid sy’n teithio, mynegodd y Pwyllgor ei siom nad yw gwelliannau yn y maes hwn wedi’u cynnwys ymhlith naw blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer yr adolygiad o’r Cytundeb, nac yn y cynlluniau diweddaraf gan y DU a’r UE.. Yn ôl y Pwyllgor, mae hyn yn cadarnhau ei bryderon am y sector. Yn ei adroddiad yn 2024, Sioc ddiwylliannol, tynnodd y Pwyllgor sylw at y cyfleoedd a gollwyd, y gostyngiad mewn gweithgarwch, y costau uwch a’r incwm a gollwyd ers Brexit.

O ran rhaglenni'r UE, croesawodd y Pwyllgor gynlluniau i'r DU ailymuno ag Erasmus+ ond gofynnodd pam nad yw cysylltiadau ag Ewrop Greadigol wedi'u negodi hefyd. Ewrop Greadigol yw rhaglen yr UE sydd werth €2.44bn i’r sectorau diwylliannol a chreadigol. Yn ôl cynigion a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, byddai’r rhaglen hon yn cael ei chyfuno â rhaglenni eraill, gyda chyllideb ar y cyd o €8.6bn o 2027.

Masnach

O ran masnach, roedd y dystiolaeth a gafwyd yn disgrifio cynnydd mewn biwrocratiaeth, costau, amser, amharu ar gadwyni cyflenwi a chanlyniadau anfwriadol/annisgwyl. Er enghraifft, dywedodd Make UK fod 90% o gwmnïau'r DU yn dal i wynebu heriau wrth fasnachu â'r UE o dan y trefniadau ar ôl Brexit. Er gwaethaf hyn, roedd awydd a pharodrwydd clir i barhau i fasnachu â'r UE.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet wrth y pwyllgorau mae economi Cymru wedi cael ei heffeithio’n anghymesur gan Brexit oherwydd ei bod yn fwy dibynnol ar allforio i’r UE o’i gymharu â’r DU gyfan. Tynnodd sylw at mewn cyfrolau masnach rhwng 2019-2024 o -31% ar gyfer allforion Cymru i'r UE a -20% ar gyfer mewnforion yr UE i Gymru.. Yn 2024, roedd allforion i'r UE yn cyfrif am 58.1% o allforion nwyddau Cymru o gymharu â 48% o allforion nwyddau'r DU.     

Galwodd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar i Lywodraeth Cymru gyhoeddi asesiad o effaith y Cytundeb Masnach a Chydweithredu ar Gymru, fel y mae wedi’i gwneud ar gyfer cytundebau masnach eraill ar ôl Brexit ag Awstralia a Seland Newydd, yn ogystal â’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Partneriaeth y Môr Tawel.

Mynegodd y Pwyllgor bryder nad oedd Llywodraeth y DU wedi rhannu ei blaenoriaethau ar gyfer yr adolygiad â Llywodraeth Cymru, a dywedodd ei bod yn hanfodol bod y Llywodraethau datganoledig yn cael y cyfle i chwarae rhan lawn yn y trafodaethau yn y dyfodol. Ymunodd hefyd â’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wrth alw am fecanwaith canolog i fonitro aliniad a gwyriad o ran rheolau'r UE.

Yr amgylchedd, allyriadau a threthi carbon ar draws ffiniau

Ailadroddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ei farn bod Brexit wedi arwain at fwlch llywodraethu amgylcheddol yng Nghymru. Dywedodd fod y Cytundeb Masnach a Chydweithredu yn cynrychioli newid sylweddol oherwydd nad yw’n cynnwys pennod bwrpasol ar gydweithredu ar yr amgylchedd a’r hinsawdd. Yn lle hynny, mae'r Cytundeb yn canolbwyntio ar yr amgylchedd yng nghyd-destun masnach. Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei bod hi'n bwysig cofio effeithiau amgylcheddol masnach, megis cynnydd mewn llygredd aer ac ôl troed carbon Cymru.

Gofynnodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i Lywodraeth Cymru a yw hyn yn gydnaws â'i phapur ar bolisi masnach o 2024, sy'n cynnwys pwyslais ar yr amgylchedd, a gofynnodd a fyddai'r Llywodraeth yn cefnogi mwy o gytundebau rhwng y DU a'r UE a allai helpu i gau'r bwlch, fel yr awgrymwyd gan Logistics UK

O gofio bod y DU a'r UE wedi cyhoeddi cynlluniau i gysylltu eu systemau masnachu allyriadau, ychwanegodd y Pwyllgor nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ddigonol am effaith hyn ar yr amgylchedd a’r hinsawdd. Mynegodd bryder nad yw’r systemau masnachu allyriadau na threthi carbon ar draws ffiniau yn flaenoriaethau i Lywodraeth Cymru. 

Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn cefnogi cynlluniau i'r DU ailymuno â marchnad drydan sengl yr UE, y mae’r Prif Weinidog wedi dweud y gallai helpu i leihau biliau ynni.

Materion cyfansoddiadol, cynrychiolaeth a chymhlethdod

Roedd tystiolaeth yn cefnogi rhoi mwy o lais i Gymru mewn penderfyniadau rhwng y DU a'r UE. Gwnaeth yr academyddion Dr Claire Royles, Dr Carolyn Rowe a Dr Rachel Minto alwad benodol am uwchraddio statws y gwledydd datganoledig fel arsylwyr. Mae statws arsylwr yn golygu nad oes gan y gwledydd datganoledig yr hawl i siarad na phleidleisio, hyd yn oed ar faterion datganoledig. 

Roedd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad hefyd yn cefnogi hyn, gan awgrymu gwelliannau i’r ffordd y caiff y berthynas rhwng y DU a'r UE ei rheoli'n ddomestig. Mae gofynion y Pwyllgor yn cynnwys memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhynglywodraethol newydd ar rôl y llywodraethau datganoledig o ran y cysylltiadau rhwng y DU a'r UE.

Roedd y Pwyllgor yn cytuno â’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol fod lefelau cyfranogiad gan randdeiliaid yng Nghymru ers Brexit wedi lleihau, a chynigiodd awgrymiadau i helpu i gefnogi cymdeithas sifil a chyrff cynrychioliadol i gael sedd wrth y bwrdd. 

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn annog y DU a'r UE i wneud pob ymdrech i osgoi cynyddu cymhlethdod y trefniadau ar ôl Brexit, a gofynnodd i Lywodraeth Cymru beth y mae'n ei wneud i symleiddio ei chyngor a'i chanllawiau ei hun.

Casgliad

Bydd cyfle i bob Aelod drafod canfyddiadau’r pwyllgorau, ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt, yn ystod y ddadl ar 5 Tachwedd.

Wrth i drafodaethau rhwng y DU a'r UE fynd rhagddynt ar y cynlluniau diweddaraf i ddyfnhau’r cydweithredu rhyngddynt, mae adroddiad y pwyllgorau'n dwyn ynghyd dystiolaeth o bedair blynedd gyntaf Cymru, nid yn unig o ran ei phrofiad o fod y tu allan i'r UE, ond o weithredu o dan delerau'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu.

Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru