Golygfa o'r Senedd yn edrych dros Fae Caerdydd.

Golygfa o'r Senedd yn edrych dros Fae Caerdydd.

Adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Cyhoeddwyd 19/01/2026

Mae Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (Deddf 2019) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Senedd gynnal adolygiad ôl-ddeddfwriaethol cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl 21 Mai 2024 (sef pum mlynedd ers i Ddeddf 2019 ddod yn gyfraith. Pwyllgor Cyllid y Senedd, sef y Pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”), wnaeth gynnal yr adolygiad hwn.

Cyn y ddadl yn y Senedd ar yr adolygiad ôl-ddeddfwriaethol ar 21 Ionawr 2026, rydym yn edrych ar yr hyn sydd wedi newid gyda Deddf 2019 a rhai o ganfyddiadau'r adolygiad.

Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Sefydlwyd rôl yr Ombwdsmon gan Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Fe'i crëwyd yn benodol er mwyn:

  • ystyried cwynion bod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru (a ddarperir gan gyrff sy'n dod o dan awdurdodaeth yr Ombwdsmon);
  • gweithio gyda chyrff cyhoeddus i wella gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad ym maes llywodraeth leol ledled Cymru;
  • ystyried cwynion bod cynghorwyr yng Nghymru wedi torri Cod Ymddygiad perthnasol neu wedi methu â chydymffurfio â Chod Ymddygiad perthnasol.

Barnodd Pwyllgor Cyllid y Bumed Senedd bod rôl yr Ombwdsmon yn gweithio'n effeithiol a bod Deddf 2005 yn cael ei hystyried yn gyffredinol yn batrwm o ddeddfwriaeth dda ar gyfer ombwdsmyn. Ond ers 2013, roedd galwadau gan yr Ombwdsmon ar y pryd i estyn ei bwerau.

Daeth y Ddeddf i rym ym mis Mai 2019 ac, ochr yn ochr ag ailddatgan y darpariaethau yn Neddf 2005, rhoddodd bedwar pŵer allweddol newydd i'r Ombwdsmon er mwyn:

Mae'r gallu i wneud cwynion ar lafar yn “hanfodol”

Roedd Deddf 2005 yn nodi bod yn rhaid i bob cwyn sy’n cael ei chyflwyno i’r Ombwdsmon neu ei chyfeirio ato fod ar ffurf ysgrifenedig. Fodd bynnag, roedd gan yr Ombwdsmon bŵer yn ôl disgresiwn i dderbyn cwyn, fesul achos, a wnaed ar ffurf heblaw yn ysgrifenedig, er enghraifft ar lafar.

Roedd Deddf 2019 yn golygu na fyddai’n ofynnol i'r Ombwdsmon arfer disgresiwn mwyach, a byddai'n gallu nodi mewn canllawiau sut i wneud cwynion, gan gynnwys ar lafar. Un o'r rhesymau dros hyn oedd:

“… byddai’n cael gwared ar stigma ac yn gwella cyfiawnder cymdeithasol; gan sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, gan gynnwys y rhai sydd â phroblemau llythrennedd a rhifedd a galluoedd amrywiol o ran rheoli gohebiaeth a thasgau gweinyddol.”

Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon fod y pŵer i dderbyn cwynion llafar yn hanfodol i Ddeddf 2019. Yn ogystal, dywedodd Ombwdsmon a Chomisiynydd Gwybodaeth Iwerddon ei fod yn adnodd pwysig iawn er mwyn bod yn hygyrch ac ychwanegodd, efallai na fyddai llawer o’r bobl hynny wedi gwneud cwynion fel arall heb y gallu hwn.

Nid yw'r pŵer i ymchwilio i’r elfen sy'n gysylltiedig â gwasanaethau iechyd preifat wedi'i brofi eto

Rhoddodd Deddf 2019 bwerau i'r Ombwdsmon i ymchwilio i faterion yn ymwneud â gwasanaethau cysylltiedig ag iechyd preifat mewn cwyn am lwybr iechyd cyhoeddus/preifat.

Fodd bynnag, ers 2019 mae’r pŵer hwn yn parhau i fod heb ei ddefnyddio gan yr Ombwdsmon; nid oes unrhyw gwynion wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer ymchwilio.

Nododd sawl tyst, gan gynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip bwysigrwydd cadw'r pŵer - tra bo rhai rhanddeiliaid wedi mynegi pryderon ynghylch y broses ar gyfer gwneud ymchwiliadau sy'n gysylltiedig â hyn.

Fodd bynnag, gan nad yw'r pŵer wedi'i brofi yn ymarferol eto, nid oedd y Pwyllgor Cyllid wedi'i argyhoeddi bod angen ei newid.

Nid yw ymchwiliadau ar ei liwt eu hun yn cael eu defnyddio’n llawn

Mae Deddf 2019 yn galluogi’r Ombwdsmon i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun, pa un a gafwyd cwyn ai peidio.

Hyd yn hyn, mae'r Ombwdsmon wedi cwblhau dau ymchwiliad ar ei liwt ei hun ac roedd yn cydnabod bod yr ail ymchwiliad wedi cymryd gormod o amser. Dywedodd yr Ombwdsmon:

We’ve identified through a learning process on that how we can make those sort of investigations more tight and efficient in the future.

Nododd yr Ombwdsmon fod y broses ymgynghori dau gam bresennol, sy’n ofynnol cyn cynnal ymchwiliad ar ei liwt ei hun yn rhy hir a beichus. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gymysg ynglŷn â’r broses ymgynghori. Dywedodd rhai rhanddeiliaid fod angen symleiddio’r broses tra bo eraill yn pwysleisio ei phwysigrwydd ar gyfer tegwch gweithdrefnol.

Croesawodd y Pwyllgor Cyllid y gallu i’r Ombwdsmon i gynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun ond nododd bryder “nad yw’r pwerau hyn yn cael eu defnyddio’n llawn yn unol â’r bwriad, ac y gallai’r Ombwdsmon wneud defnydd mwy beiddgar o’r pŵer hwn”. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai’r Ombwdsmon ystyried symleiddio'r broses ymgynghori ac edrych ar ddulliau gweithredu swyddfeydd ombwdsmyn eraill, gan ystyried sut y gellid cynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun mewn ffordd fwy ystwyth.

Y ddadl i ehangu awdurdodaeth yr Ombwdsmon i gynnwys cwynion am ysgolion

Mae cylch gwaith yr Ombwdsmon mewn perthynas â chwynion am ysgolion wedi'i gyfyngu'n bennaf i brosesau derbyn a gwahardd disgyblion a phenderfyniadau apelau. Er bod Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol yn ystyried cwynion am addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru, dywedodd yr Ombwdsmon:

“… nid oes mynediad cyfatebol i gorff ymdrin â chwynion annibynnol a diduedd mewn perthynas â chwynion am ysgolion a phenderfyniadau cyrff llywodraethu yng Nghymru”.

Byddai derbyn yr ystod lawn o gwynion am ysgolion yn adlewyrchu pwerau ombwdsmyn mewn mannau eraill.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet, er y gallai Llywodraeth Cymru weld manteision ehangu'r awdurdodaeth ynghylch ysgolion, y byddai angen ystyried nifer o faterion ac y byddai “Llywodraeth Cymru yn awyddus i ystyried ei safbwynt ymhellach pe bai hyn i’w ddilyn”.

Fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid gydnabod y manteision y gallai ehangu’r awdurdodaeth eu cynnig ond nododd fod angen gwaith pellach, gan gynnwys modelu nifer y cwynion newydd posibl, cyn y gallai ddod i safbwynt pendant ar y mater.

Beth sydd nesaf?

Mae’r Pwyllgor Cyllid wedi cyhoeddi adroddiad ar yr adolygiad gydag 16 o argymhellion, a groesawyd gan yr Ombwdsmon. Bydd y Senedd yn trafod yr adolygiad ôl-ddeddfwriaethol ddydd Mercher 21 Ionawr 2026. Gallwch wylio’r ddadl ar Senedd.tv

Erthygl gan Božo Lugonja, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru