Mae’r erthygl hon yn rhan o’n casgliad 'Beth fydd nesaf? Materion o bwys i’r Chweched Senedd'.
Y flwyddyn ddiwethaf oedd y cyfnod economaidd anoddaf ym mywydau nifer o bobl. Beth yw’r heriau a’r cyfleoedd i sicrhau bod modd adfer a newid pwyslais economi Cymru?
Mae economi Cymru yn wynebu heriau digynsail ers dechrau pandemig COVID-19.
Ar ddechrau 2020, pwy fyddai wedi rhagweld y byddai llawer o’r prif sectorau economaidd wedi cau am rywfaint o'r flwyddyn ddiwethaf neu drwy’r flwyddyn gyfan? Neu y byddai Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gwario biliynau i gynorthwyo busnesau a gweithwyr drwy'r cyfnod anoddaf yn hanes llawer o bobl?
Daeth Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau (EIS) y Bumed Senedd i'r casgliad mai adfer yr economi fydd yr “her economaidd fwyaf o fewn cof”.
Beth yw maint yr her?
Mae dangosyddion economaidd allweddol yn dangos maint effaith y pandemig ar economi Cymru. Gwelwyd gostyngiad o 2.4% yn y Cynnyrch Domestig Gros yn chwarter cyntaf 2020, a 15.1% yn yr ail chwarter.
Ym mis Ebrill 2021, roedd nifer y gweithwyr ar gyflogres yng Nghymru 31,000 yn is nag ar ddechrau'r pandemig, a chollodd y rhan fwyaf o’r gweithwyr hyn eu gwaith yn ystod misoedd cyntaf y pandemig.
Fodd bynnag, roedd nifer y rhai a oedd yn hawlio budd-dal ym mis Ebrill 2021 bron ddwywaith gymaint â’r nifer a oedd yn ei hawlio ddechrau 2020. Bydd rhywfaint o'r cynnydd hwn i’w briodoli i’r newidiadau yng ngofynion cymhwystra y Credyd Cynhwysol. Nifer yr hawlwyr yw’r nifer sy’n cael Lwfans Ceisio Gwaith neu sy’n cael Credyd Cynhwysol ac mae'n ofynnol iddynt chwilio am waith.
Nifer y gweithwyr ar gyflogres yng Nghymru, Ionawr 2020 – Ebrill 2021
Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Enillion a chyflogaeth o Wybodaeth Amser Real Talu wrth Ennill, addaswyd yn dymhorol (Saesneg yn unig)
Nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal yng Nghymru, Ionawr 2020 - Ebrill 2021
Ffynhonnell: NOMIS, Nifer y bobl sy’n hawlio budd-dal – addaswyd yn dymhorol ONS
Mae dros 465,000 o swyddi wedi’u rhoi ar ffyrlo yng Nghymru ers dechrau’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws, ac mae’r Resolution Foundation yn pryderu y bydd diweithdra’n codi’n sydyn pan ddaw’r cynllun i ben.. Mae data misol wedi bod ar gael ers mis Gorffennaf 2020, ac mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 13% o'r gweithlu ar ffyrlo ddiwedd mis Mawrth 2021.
Canran o’r gweithlu ar ffyrlo yng Nghymru, Gorffennaf 2020 – Mawrth2021
Ffynhonnell: Cyllid a Thollau EM Ystadegau’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (Saesneg yn unig)
Tra bo rhagolwg diweddaraf y Swyddfa Cyfrifoldebau Cyllidebol yn rhagweld y bydd yr economi’n cryfhau’n gynt nag a dybiwyd yn wreiddiol, mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol yn rhagweld mai yn Llundain a de Lloegr y bydd yn cryfhau gyflymaf. Mae'n awgrymu y bydd cyflogaeth yng Nghymru yn cryfhau dros y tair blynedd nesaf, ond y bydd Gwerth Ychwanegol Gros a chynhyrchiant Cymru erbyn diwedd 2023 yn dal yn is nag yr oedd cyn y pandemig.
Y newid canrannnol a ragwelir o ran cynhyrchiant, cyflogaeth a Gwerth Ychwanegol Gros yng Nghymru o’i gymharu â C4, 2019
Ffynhonnell: Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Rhagolwg Economaidd Sefydliad Cenedlaethol y DU Chwefror 2021 (Saesneg yn unig)
Pa broblemau fydd yn codi wrth gynorthwyo busnesau i ailgodi ar eu traed?
Bu'n rhaid i rai sectorau economaidd allweddol gau'r flwyddyn ddiwethaf, neu am rannau ohoni.. Bydd angen cymorth hirdymor ar y sectorau hyn i'w hadfer yn llawn - mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru wedi tynnu sylw at anghenion penodol y sector twristiaeth sy'n “wynebu tri gaeaf”. Mae rhagor o fanylion ar gael yn ein herthygl am y sectorau sydd wedi dioddef fwyaf.
Bydd angen mynd i'r afael â rhai problemau sylfaenol hefyd er mwyn cryfhau’r sectorau hyn. Mae nifer y busnesau newydd yng Nghymru wedi bod yn is yn hanesyddol na chyfartaledd y DU. Mae’r Athro Dylan Jones-Evans wedi galw ar Lywodraeth newydd Cymru i ganolbwyntio rhagor ar fentergarwch gan ddweud fod tystiolaeth bendant fod cwmnïau newydd nid yn unig yn creu’r rhan fwyaf o’r swyddi newydd mewn unrhyw economi, ond eu bod yn gwneud hynny’n enwedig yn ystod dirwasgiad.
Mae cynhyrchiant Cymru yn is nag ydyw mewn rhannau eraill o'r DU; fesul awr, roedd 17% yn is na chyfartaledd y DU yn 2018. Mae’r Athro Andrew Henley yn credu bod Cymru wedi tueddu i feddwl ei bod yn rhy anodd mynd i’r afael â chynhyrchiant isel ac, yn y pen draw, mae cynhyrchiant yn wirioneddol bwysig, felly rhaid ystyried sut rydym am wynebu’r her hon”. Mae'n tynnu sylw at y ffaith y bydd yn hanfodol gwario ar arloesedd a sgiliau, yn enwedig i gynorthwyo busnesau bach a microfusnesau.
Bydd angen ystyried beth sy’n effeithio ar grwpiau gwahanol.
Mae’r Ganolfan ar gyfer Perfformiad Economaidd ym Mhrifysgol LSE, Llundain wedi tynnu sylw ar y ffaith bod cyfnodau blaenorol o ddirwasgiad wedi cael effaith anghymesur ar yr ieuengaf, y tlotaf a lleiafrifoedd ethnig. Dyma sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig hefyd.
Cyn y pandemig, pobl ifanc yng Nghymru oedd fwyaf tebygol o weithio mewn 'sector a oedd wedi gorfod cau', a’r mwyaf tebygol o gael eu rhoi ar ffyrlo. Mae pryder y gallwn weld ‘cenhedlaeth a fydd wedi’i chreithio’ sy’n dioddef oherwydd effeithiau hirdymor diweithdra. Galwodd Pwyllgor yr Economi y Bumed Senedd ar Lywodraeth nesaf Cymru i ystyried Gwarantu Cyfle i Bobl Ifanc 16 -24 oed i helpu i fynd i'r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc.
Daeth y Resolution Foundation i’r casgliad fod gweithwyr sydd ar gyflog isel yn fwy tebygol o fod wedi colli eu swydd, neu oriau a thâl, neu o gael eu rhoi ar ffyrlo. Gwnaeth y Comisiwn Gwaith Teg, a sefydlwyd gan Lywodraeth flaenorol Cymru, argymhellion pellgyrhaeddol i sicrhau gwaith teg. Fodd bynnag, mae'r pandemig wedi ychwanegu at y problemau roedd llawer o weithwyr ar gyflog isel yn eu hwynebu eisoes. Yn ychwanegol at alw am i Lywodraeth Cymru roi argymhellion y Comisiwn ar waith yn llawn, mae Cyngres Undebau Llafur Cymru wedi amlinellu rhagor o ffyrdd y teimla y dylai Llywodraeth nesaf Cymru sicrhau cymdeithas decach.
Yn ei adroddiad ar gyfer Llywodraeth flaenorol Cymru amlinellodd yr Athro Emmanuel Ogbonnanifer anghydraddoldebau economaidd ac anghydraddoldebau incwm y mae lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cynnig camau i’w cymryd i fynd i'r afael â'r rhain, gan gynnwys gwella cynrychiolaeth yn y gweithle a’r gallu i symud ymlaen yn y gwaith, mynd i'r afael â gwahaniaethu yn y gweithle, a chyflogau is ymhlith grwpiau ethnig. Cynhaliodd Llywodraeth flaenorol Cymru ymgynghoriad ynghylch ei Chynllun Gweithredu drafft ar Gydraddoldeb Hiliol , ond mater i'r llywodraeth nesaf fydd penderfynu sut i fwrw ymlaen â hyn.
Yn ystod y cyfnodau blaenorol o ddirwasgiad, roedd y swyddi a gollwyd yn dueddol o fod yn y sectorau hynny sy’n cyflogi dynion yn bennaf. Fodd bynnag, merched yw 45% o'r rhai sydd wedi colli’u gwaith ers dechrau'r pandemig, o'i gymharu â thua thraean o'r rhai a gollodd eu gwaith yn dilyn dirwasgiad 2008. Mae merched hefyd wedi bod yn fwy tebygol na dynion o weithio mewn 'sector sydd wedi gorfod cau' ac, ers mis Gorffennaf 2020, mae rhagor o ferched wedi cael eu rhoi ar ffyrlo na dynion. Mae Chwarae Teg wedi galw am ddull ffeministaidd o adfer yr economi, sy'n cydnabod bod y sector gofal yr un mor bwysig â’r sector cynhyrchu nwyddau.
Pa gyfleoedd sydd i newid y modd y mae economi Cymru yn gweithio?
Mae’r Athro Gillian Bristow a Dr Adrian Healy yn dweud y bod angen creu economi fwy amrywiol, hybu datblygiadau seiliedig ar le a datblygu perchenogaeth leol i wneud yn siŵr ein bod yn gallu gwrthsefyll argyfyngau tebyg yn y dyfodol. Maen nhw'n dweud y byddai mynd i'r afael â phroblemau hirdymor fel lles cenedlaethau'r dyfodol a datblygu economi ddi-garbon hefyd yn helpu i wrthsefyll argyfyngau tebyg.
Mae cytundeb cyffredinol fod angen 'adferiad gwyrdd', ond mae gwahanol safbwyntiau ynglŷn â beth yw ystyr hyn yn ymarferol. Mae Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Cymru yn dweud y dylid rhoi blaenoriaeth i gynlluniau sy’n buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd drwy roi rhaglen ôl-osod cartrefi ar waith a datblygu rhwydweithiau gwefru cerbydau trydan.
Mae RSPB Cymru yn credu y dylai adferiad gwyrdd helpu’r amgylchedd naturiol ac adfer adnoddau i'w rheoli'n gynaliadwy. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol wedi tynnu sylw at bwysigrwydd canolbwyntio ar nifer o feysydd a buddsoddi mewn sgiliau ar gyfer swyddi gwyrdd newydd.
Ceisiodd Llywodraeth flaenorol Cymru ddefnyddio’r economi sylfaenol i “gryfhau ein heconomïau lleol, i greu swyddi gwell yn agosach at adref ac i adeiladu busnesau lleol cryfach”. Ond bydd angen chwalu rhwystrau i gyflawni hyn - fel diwygio prosesau caffael a mynd i’r afael â chyflogau isel ac amodau gwaith ansicr.
Mae’n amlwg fod problemau’n wynebu economi Cymru yn y tymor byr a’r tymor hir, ac y bydd y problemau’n waeth mewn rhai sectorau. Fodd bynnag, mae cyfleoedd yn sicr i wella'r ffordd y mae'r economi'n gweithio i bawb.
Hefyd, bydd atebion i nifer o gwestiynau’n dod i'r amlwg dros y blynyddoedd nesaf. Sut fydd y duedd i nifer gynyddol ohonom weithio o bell yn effeithio ar batrymau teithio i’r gwaith a phatrymau gweithio, a sut fydd hyn yn effeithio ar ganol ein trefi a'n dinasoedd? Beth sy’n ein hwynebu yn y dyfodol ym maes awtomeiddio ac AI, a sut allai'r rhain effeithio ar gynhyrchiant a swyddi? Bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru ymateb i’r datblygiadau yn y meysydd hyn yn ogystal â sicrhau bod yr economi’n cryfhau.
Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru