Rhes o dai terraced newydd eu hadeiladu gyda waliau hufen a glas, pyrth bach, a rheiliau du o’u blaen

Rhes o dai terraced newydd eu hadeiladu gyda waliau hufen a glas, pyrth bach, a rheiliau du o’u blaen

Adeiladu ar ymchwiliad 2024 am y cyflenwad tai cymdeithasol

Cyhoeddwyd 04/03/2026

Efallai bod Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged o 20,000 o gartrefi cymdeithasol — ond dywed un o bwyllgorau’r Senedd fod y system y tu ôl i hyn "mewn argyfwng" o hyd.

Fel rhan o waith yn dilyn ei ymchwiliad yn 2024 ar y cyflenwad tai cymdeithasol, clywodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fod y sector tai cymdeithasol wedi gweithio'n galed i wthio tuag at gyflawni targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o gartrefi carbon isel newydd am rent cymdeithasol.

Mae rhagamcanion yn awgrymu y caiff y targed ei gyflawni erbyn diwedd blwyddyn galendr 2026 – yn hytrach na diwedd tymor y Senedd fel yr addawyd – gyda'r cyflenwad ar ei lefel uchaf ers 2007 o leiaf.

Ond clywodd y Pwyllgor y gallai hyn fod oherwydd "lefel anghynaladwy " o fewnbwn adnoddau. Yn y cyfamser, mae diwygiadau systemig tymor hwy a nodwyd gan yr ymchwiliad yn 2024 a'r Tasglu Tai Fforddiadwy – set o ddiwygiadau sydd wedi ennyn cefnogaeth eang – wedi bod yn gymharol araf yn symud ymlaen.

Mae Archwilio Cymru wedi rhybuddio am y risg o ostyngiad yn y cyflenwad ar ddechrau tymor nesaf y Senedd, gan dynnu sylw at y cwymp o 26% yn y cyflenwad ar ddechrau'r tymor presennol.

Mae'r Pwyllgor wedi ysgrifennu llythyr at Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, i ofyn cwestiynau a chodi nifer o bryderon.

Perchnogi’r argyfwng tai

Clywodd y Pwyllgor fod angen i'r argyfwng tai fod yn flaenoriaeth drawsbynciol i Lywodraeth Cymru ac yn rhywbeth sy’n cael ei rannu – ond bod gwrthdaro rhwng agendâu polisi yn peryglu’r gwaith o ddarparu tai cymdeithasol a fforddiadwy.

Mae enghreifftiau o wrthdaro rhwng polisïau sy’n cael eu crybwyll yn aml yn cynnwys:

Un mecanwaith posibl ar gyfer cyflawni perchnogaeth drawsbynciol i fynd i'r afael â'r argyfwng tai yw corfforaeth ddatblygu genedlaethol. Mae'r Pwyllgor wedi galw o’r newydd am gorff hyd braich i Gymru a allai ddysgu gwersi o Homes England a'r asiantaeth dai newydd sy’n cael ei chynnig ar gyfer yr Alban.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn yn flaenorol, roedd y rhan fwyaf o dystion yn dadlau y gallai corfforaeth ddatblygu gynyddu gallu'r Llywodraeth i reoli asedau tir yn strategol, goresgyn rhwystrau cynllunio, a gweithio y tu hwnt i amserlen tymhorau Senedd unigol.

Hefyd, clywodd yr Aelodau y byddai gwneud yr hawl i dai digonol yn rhan o gyfraith Cymru yn ffordd arall o sicrhau bod darparu mwy o dai cymdeithasol yn dod yn flaenoriaeth sy’n cael ei rhannu ar draws adrannau'r llywodraeth.

Bydd y materion hyn yn rhai allweddol i Lywodraeth nesaf Cymru eu hystyried.

Y tu hwnt i'r targed

Ar ôl gwneud cymaint o waith caled tuag at geisio cyrraedd y targed o 20,000, roedd y posibilrwydd o gwymp posibl yn y cyflenwad tai fforddiadwy ar ddechrau'r Senedd nesaf yn bryder i'r Aelodau.

Mae'r llythyr at yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gofyn am y rhesymau am y cwymp o 26% yn y cyflenwad ar ddechrau'r tymor presennol, ac a yw cwymp tebyg arall yn debygol y tro hwn.

Mae'r Pwyllgor hefyd wedi mynegi pryderon am  yr amcangyfrifon sydd newydd eu diweddaru ynghylch yr angen tai ychwanegol. Mae'r rhain yn amcangyfrif angen yn codi o’r newydd am 7,800 i 9,300 o gartrefi ychwanegol bob blwyddyn 2025-30, gydag oddeutu 35% o hyn ar gyfer tai fforddiadwy.

Mae'r ffocws ar y categori ehangach o "dai fforddiadwy" – yn hytrach na "cymdeithasol", sy'n cynnwys cartrefi sy’n cael eu gosod ar lefelau rhent cymdeithasol yn unig – yn broblem i'r Pwyllgor. Dywedodd fod yr amcangyfrifon "wedi'u hategu gan fethodoleg amherffaith" sydd hefyd yn eithrio categorïau o anghenion tai fel cysgu ar y stryd, digartrefedd cudd, a phobl sy’n byw mewn llety anaddas:

"Byddem yn annog pwyll rhag ystyried y ffigurau hyn fel dangosydd o nifer y tai cymdeithasol ychwanegol sydd eu hangen ar Gymru."

Yn fwy eang, mae'r Pwyllgor yn parhau i eirioli y dylai tai cymdeithasol gynnwys "màs critigol" o 20% o gyfanswm y stoc dai o leiaf, o'i gymharu â’r 16% presennol.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor yn flaenorol, a lleisiodd sawl tyst eu cefnogaeth gan gynnwys Cartrefi Cymunedol Cymru a'r Sefydliad Tai Siartredig.

Mae llythyr y Pwyllgor yn gofyn i’r Ysgrifennydd Cabinet am y wybodaeth ddiweddaraf am ddadansoddiad Llywodraeth Cymru o'r camau y bydd angen eu cymryd i sicrhau màs critigol o 20% o leiaf.

Cipio gwerthoedd tir

Thema gyson yn yr ymchwiliad yn 2024 a’r gwaith dilynol yn 2026 oedd y potensial ar gyfer ymyriadau cipio gwerthoedd tir, i ariannu cyflenwad tai cymdeithasol a’i gymell fel arall.

Mae cipio gwerthoedd tir yn disgrifio set o bolisïau <https://www.oecd.org/en/publications/global-compendium-of-land-value-capture-policies_4f9559ee-en/full-report.html> sy'n caniatáu i lywodraethau gipio cynnydd mewn gwerthoedd tir sy'n cael ei gynhyrchu gan ymyriadau cyhoeddus fel buddsoddi mewn seilwaith lleol, neu ail-ddynodi tir fel bod yn addas ar gyfer datblygiad preswyl.

Y syniad yw pan fydd llywodraeth yn buddsoddi mewn pethau fel ffyrdd, rheilffyrdd, neu ysgolion, mae gwerth tir cyfagos yn tueddu i godi. Yn hytrach na'r holl gynnydd hwnnw'n cronni i dirfeddianwyr yn unig, gellir dychwelyd cyfran i'r sector cyhoeddus i helpu i ariannu'r gwelliannau a arweiniodd at y cynnydd a chefnogi buddsoddiad pellach er budd y cyhoedd.

Y brif ffordd o wneud hyn yng Nghymru ar hyn o bryd yw drwy’r rwymedigaethau cynllunio adran 106 sy’n cael eu gosod ar ddatblygwyr. Mae ffyrdd eraill o gipio gwerthoedd tir yn cynnwys trethiant a phrynu gorfodol. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar y cyd sydd ar y gweill gyda Llywodraeth y DU, a fydd yn casglu barn am Dreth Tir Gwag arfaethedig. Y nod fyddai dylanwadu ar ymddygiad datblygwyr, gan sicrhau bod tir sydd wedi'i glustnodi ar gyfer datblygu yn cael ei ddatblygu.

Yn flaenorol, roedd Llywodraeth Cymru wedi derbyn mewn egwyddor ein hargymhelliad i archwilio sut y gellid cipio mwy o werthoedd tir er budd y cyhoedd. Mae'r Pwyllgor wedi gofyn am ddiweddariad.

Mae wedi gofyn am ddiweddariad ynghylch argymhelliad cysylltiedig, a gafodd ei dderbyn mewn egwyddor hefyd, i archwilio beth mwy y gellid ei wneud i gryfhau gallu awdurdodau lleol i ddal eu tir pan fydd datblygwyr yn ceisio ail-drafod eu cytundebau adran 106 i leihau faint o dai fforddiadwy y maent eisoes wedi cytuno i'w darparu.

Mae’r Pwyllgor yn dweud bod angen hyn i "anfon neges glir at ddatblygwyr a'r farchnad tir" y dylid ystyried cost cyfraniadau adran 106 yn llawn yn y symiau y mae datblygwyr yn eu talu am dir.

Cwestiynau pellach

Mae'r Pwyllgor wedi gofyn am ymateb erbyn 19 Mawrth 2026 i'r cwestiynau hyn ac eraill, gan gynnwys:

  • Adnoddau ar gyfer gwasanaethau cynllunio;
  • Rôl Banc Datblygu Cymru; ac
  • Ymdrechion i dyfu gweithlu’r amgylchedd adeiledig.

Ond rhaid i rai cwestiynau barhau heb eu hateb am y tro:

  • A fydd y targed 20,000 yn cael ei gyflawni erbyn mis Rhagfyr 2026, fel y rhagwelwyd;
  • A yw ymdrechion diweddar "anghynaladwy" wedi amharu ar y sector; ac
  • A yw'n debygol y bydd cwymp yn y cyflenwad i Llywodraeth nesaf Cymru fynd i'r afael ag ef.

Erthygl gan Jennie Bibbings, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru