Cyhoeddwyd 07/01/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
7 Ionawr 2016
Erthygl gan Joseph Champion, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
[caption id="attachment_4457" align="alignnone" width="640"]

Llun: o Flickr gan Luftphilla. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Dyma'r cyntaf o ddau flog ar y proffesiwn addysgu yng Nghymru, sydd ar hyn o bryd yn mynd trwy gyfnod o newid sylweddol. Mae'r blog hwn yn canolbwyntio ar y llwybrau i'r proffesiwn addysgu yng Nghymru. Bydd y blog a gyhoeddir yfory yn canolbwyntio ar y gefnogaeth a'r hyfforddiant sydd ar gael i athrawon cymwysedig.
Ar hyn o bryd mae
37,355 o athrawon proffesiynol wedi'u cofrestru gyda'r
Cyngor Gweithlu Addysg, y corff rheoleiddio ar gyfer athrawon yng Nghymru. Mae gan athrawon gefndiroedd addysgol a chymdeithasol amrywiol. Fel y cyfryw, felly, mae nifer o lwybrau i'r proffesiwn addysgu yng Nghymru.
Mae'n rhaid i athrawon mewn ysgolion a gynhelir
gael Statws Athro Cymwysedig (SAC). Gellir ond cael y statws hwn drwy ennill cymwysterau cydnabyddedig (gweler isod). Yn ogystal, disgwylir i athrawon gynnal ac arddangos y
safonau proffesiynol ar gyfer ymarferwyr addysg sy'n cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru.
Llwybrau i'r proffesiwn
Tystysgrif Addysg Uwch: Cyflwyniad i Addysgu Uwchradd
Mae'n dal yn bosibl i rai nad oes ganddynt gymwysterau, neu y mae ganddynt gymwysterau lefel isel, fod yn athrawon ysgol uwchradd. Gallant wneud hynny drwy ddilyn y cwrs
Tystysgrif Addysg Uwch: Cyflwyniad i Addysgu Uwchradd ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'r cwrs hwn—blwyddyn o hyd os yw'n llawn amser; dwy flynedd os yw'n rhan-amser—yn paratoi myfyrwyr i wneud un o'r ddwy raglen gradd eilaidd BSc (Anrh) sydd ar gael yng Nghymru sy'n caniatáu i fyfyrwyr ennill SAC. Mae'r rhain yn rhaglenni dwy flynedd. Nid oes unrhyw ofynion academaidd ffurfiol ar gyfer cael mynediad at y llwybr hwn. Serch hynny, mae angen dangos lefelau addas o sgiliau llythrennedd a rhifedd yn ystod y broses ymgeisio.
Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon yn y Brifysgol
Mae prifysgolion ledled Cymru yn darparu cyrsiau israddedig, a all bara naill ai dwy neu dair blynedd (llawn amser), sy'n arwain at SAC wedi i'r myfyrwyr eu cwblhau.
Er mwyn cael eu derbyn i wneud cwrs gradd mewn addysgu, fel arfer, mae gofyn i ymgeiswyr feddu ar:
- Cymhwyster TGAU gradd B neu uwch (neu gymhwyster sydd gyfwerth â hyn) mewn Saesneg a mathemateg er mwyn addysgu ar lefel ysgol uwchradd. Yn ogystal, mae angen cymhwyster TGAU gradd C neu uwch (neu gymhwyster sydd gyfwerth â hyn) mewn gwyddoniaeth er mwyn addysgu ar lefel ysgol gynradd.
- Fel arfer, mae angen isafswm o 200 pwynt UCAS, a enillir trwy gymwysterau Safon Uwch neu gymwysterau cyfwerth, gan gynnwys Bagloriaeth Cymru.
- Os yw ymgeiswyr am wneud gradd dwy flynedd, mae'n ofynnol iddynt gwblhau blwyddyn mewn addysg uwch yn astudio pwnc (neu bynciau) cysylltiedig. Enghreifftiau o'r rhain fyddai cyrsiau HND, credydau gan y Brifysgol Agored, cyrsiau galwedigaethol, cymwysterau proffesiynol neu'r Dystysgrif a nodir uchod.
Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)
I'r rhai sydd eisoes wedi cwblhau gradd cyn iddynt benderfynu eu bod am fod yn athrawon,
mae'r Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) yn caniatáu i ymgeiswyr astudio am flwyddyn ychwanegol (llawn amser) er mwyn ennill SAC. Gellir ennill cymhwyster TAR yn y tair canolfan ranbarthol sy'n bodoli yng Nghymru ar gyfer
Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon.
Fel rheol, y gofynion mynediad ar gyfer cwrs TAR yw o leiaf:
- Cymhwyster TGAU gradd B neu uwch (neu gymhwyster sydd gyfwerth â hyn) mewn Saesneg a mathemateg er mwyn addysgu ar lefel ysgol uwchradd. Yn ogystal, mae angen cymhwyster TGAU gradd C neu uwch (neu gymhwyster sydd gyfwerth â hyn) mewn gwyddoniaeth er mwyn addysgu ar lefel ysgol gynradd.
- Gradd israddedig o sefydliad yn y DU, neu gymhwyster cyfatebol, fel arfer gradd dosbarth 2(ii) neu uwch (bydd gradd dosbarth uwch yn sicrhau mwy o gyllid i'r ymgeisydd).
- Disgwylir bod o leiaf 50% o radd athro ysgol uwchradd yn berthnasol i'r pwnc addysgu arbenigol yr ymgeisir amdano, ac eithrio siaradwyr brodorol Ieithoedd Tramor Modern a Chymraeg, sy'n cael eu hannog i ymgeisio hyd yn oed os nad yw eu gradd yn gysylltiedig â'u hiaith.
- Dylai addysg blaenorol athro ysgol gynradd (gradd, Safon Uwch neu gymwysterau cyfatebol) gyd-fynd ag o leiaf un o bynciau'r Cwricwlwm Cenedlaethol.
Y Rhaglen Athrawon Graddedig
Mae'r
Rhaglen Athrawon Graddedig yn cael ei darparu'n flynyddol drwy'r tair canolfan ranbarthol ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon. Gall pob canolfan dderbyn nifer penodol o gyfranogwyr drwy'r Rhaglen Athrawon Graddedig (cyfanswm cenedlaethol o 60 yn 2015/16). Yn ogystal â bodloni'r holl ofynion mynediad ar gyfer rhaglen hyfforddiant cychwynnol athrawon (gweler uchod), mae'n rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y Rhaglen Athrawon Graddedig gael gradd (neu gymhwyster sydd gyfwerth â gradd) mewn pwnc priodol. Mae'r Canolfannau ar gyfer Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yn rhoi cyngor ynghylch a yw pynciau gradd yn gydnaws â gwneud cais ar gyfer y Rhaglen Athrawon Graddedig a'r gofynion mynediad ar gyfer y rhaglen.
Mae'r Rhaglen Athrawon Graddedig yn cynnig ffordd o gymhwyso fel athro
tra bod yr ymgeisydd yn parhau i gael ei gyflogi mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru. Bydd hyfforddeion yn dilyn rhaglen unigol sydd wedi'i theilwra i'w hanghenion ac sy'n para rhwng tri mis a deuddeg mis. Mae'r rhan fwyaf o leoedd ar y Rhaglen Athrawon Graddedig ar gyfer y rhai sydd wedi cael eu cyflogi mewn ysgol a gynhelir am o leiaf blwyddyn, ond mae rhai lleoedd ar gael ar gyfer y rhai nad ydynt yn y sefyllfa hon.
Fodd bynnag, bydd disgwyl i'r ymgeisydd ddod o hyd i ysgol sy'n fodlon ei gyflogi cyn ymuno â'r Rhaglen Athrawon Graddedig.
Mae gan y Rhaglen Athrawon Graddedig ddwy ffrwd, ar gyfer
ysgolion cynradd ac
ysgolion uwchradd, sy'n wahanol o ran natur a phwyslais.
Athrawon sydd wedi'u cymhwyso dramor
Mae'r Cyngor Gweithlu Addysg yn darparu gwybodaeth am y broses y mae
athrawon sydd wedi'u cymhwyso mewn unrhyw un o wledydd yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) yn ei dilyn i wneud cais am statws SAC yng Nghymru. Yng Nghymru, nid oes llwybr uniongyrchol o ran cydnabyddiaeth SAC mewn perthynas ag athrawon sydd wedi'u cymhwyso y tu allan i'r AEE.
Faint o bobl sy'n cael eu hyfforddi i addysgu yng Nghymru?
Mae Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon sy'n arwain at SAC yn bwnc cwota. Felly, mae'r tair canolfan ranbarthol yn cael targedau ar gyfer recriwtio pobl i gyrsiau Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon (sef 'targedau derbyn'). Mae hon yn broses â dwy gam iddi. Yn gyntaf, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybodaeth i
Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) ynghylch beth yw'r gofynion cyffredinol ledled Cymru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Yn ail,
mae HEFCW yn rhannu'r dyraniadau hyn ymhlith y tair canolfan (PDF 640KB) [Saesneg yn unig].
Roedd y
dyraniadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/16 (PDF 640KB) [Saesneg yn unig] fel a ganlyn:
- 750 o leoedd ar gyfer athrawon ysgolion cynradd (300 ar gyfer y rhai ar y llwybr i Israddedigion; 450 ar gyfer y rhai ar y llwybr TAR).
- 880 o leoedd ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd (95 ar gyfer y rhai ar y llwybr i Israddedigion; 785 ar gyfer y rhai ar y llwybr TAR.)
Mae'r rhain yn ychwanegol i'r 60 lle sydd ar gael drwy'r Rhaglen Athrawon Graddedig (30 o leoedd cynradd a 30 o leoedd uwchradd).
Mae gofyn i HEFCW sicrhau bod recriwtio yn parhau i fod o fewn amrediad y targedau recriwtio,
gan osgoi tan-recriwtio neu or-recriwtio sylweddol. Mae'n gwneud hyn drwy weithredu system o gosbau mewn perthynas â tharged derbyn canolfan Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Amlinellir y dull hwn o weithredu yn ei Gylchlythyr,
Initial Teacher Training: Controls on recruitment against intake targets, W15/08HE (PDF 65KB) [Saesneg yn unig].
Dyfodol hyfforddi athrawon yng Nghymru
Mae'r drefn bresennol yng Nghymru o ran Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd yng ngoleuni adroddiad yr Athro John Furlong, sef
'Addysgu Athrawon Yfory'. Roeddem wedi cyhoeddi
blog am y newidiadau arfaethedig ym mis Mehefin 2015. Mae Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau, wedi gwneud dau ddatganiad (ar
23 Mehefin 2015 a
15 Hydref 2015) ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Furlong. Mae wedi nodi y bydd y system gyfredol o ran Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon yn cael ei newid yn sylfaenol erbyn Medi 2018.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg