Cyhoeddwyd 21/04/2015
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024
  |  
Amser darllen
munudau
Erthygl gan Gareth Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Ebrill, bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod rôl y sector preifat o ran twf economaidd, creu swyddi a chynnal gwasanaethau cyhoeddus. Mae cyflogaeth yn y sector preifat wedi cynyddu dros 2.3 miliwn ar draws y DU ers dechrau 2010 heb gynnwys effaith yr ailddosbarthu swyddi o’r sector cyhoeddus i’r sector preifat, ac mae bellach wedi codi i dros 25.6 miliwn. Felly beth yw'r sefyllfa yng Nghymru, a ble mae'r cynnydd mewn cyflogaeth yn y sector preifat yn gorwedd yng nghyd-destun y newidiadau ehangach i gyflogaeth ar draws y DU dros y blynyddoedd diwethaf?
Sut mae cyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru yn cymharu â gweddill y DU?
Mae'r ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos i 1,033,000 o bobl gael eu cyflogi yn y sector preifat yng Nghymru yn ystod chwarter olaf 2014. Mae hyn yn gynnydd o 80,000 ers dechrau 2010. Nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys effaith yr ailddosbarthu swyddi yn ddiweddar rhwng y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau fel preifateiddio'r Post Brenhinol ac ailddosbarthu rhai banciau i'r sector cyhoeddus yn dilyn dirwasgiad 2008, er nad oes ffigurau ar gyfer Gogledd Iwerddon ar gael ar y sail hon ar hyn o bryd. Hefyd, gan fod swyddi'n anffodus yn cael eu colli yn ogystal â'u creu, mae'r ffigurau hyn yn arwydd o'r newidiadau cyffredinol yn nifer y bobl a gyflogir yn hytrach na'r swyddi newydd sydd wedi eu creu.
Eto i gyd, mae 77% o'r holl bobl mewn cyflogaeth yng Nghymru sy'n gweithio yn y sector preifat yn parhau i fod yn is nag yn yr Alban ac unrhyw un o ranbarthau Lloegr. Mae'r graff isod yn dangos y wybodaeth ar gyfer chwarter 4 yn 2014.
Ffigur 1: Canran yr holl bobl mewn cyflogaeth a oedd yn gweithio yn y sector preifat yn chwarter 4, 2014

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol,
Cyflogaeth Sector Cyhoeddus, Chwarter 4 2014
A yw'r ffigurau hyn yn adlewyrchu cynnydd cyffredinol mewn cyflogaeth, neu o ailgydbwyso cyflogaeth o'r sector cyhoeddus i'r sector preifat?
Mewn gwirionedd, mae'n dangos ychydig o'r ddau!
Mae Cymru, Yr Alban a rhanbarthau Lloegr wedi gweld cynnydd cyffredinol mewn cyflogaeth dros y blynyddoedd diwethaf, ond maent oll hefyd wedi gweld gostyngiad mewn cyflogaeth yn y sector cyhoeddus i raddau amrywiol. Ers chwarter cyntaf 2010, mae canran y bobl a gyflogir yn y sector preifat yng Nghymru wedi cynyddu o 73.8% i 77%, sydd yn gynnydd o 3.2 pwynt canran. Yn yr un modd, mae canran y bobl a gyflogir yn y sector preifat ledled Prydain Fawr wedi cynyddu o 80.4% i 83.1%, cynnydd ychydig yn is o 2.7 pwynt canran.
Mae hyn yn dangos bod ailgydbwyso cyflogaeth o'r sector cyhoeddus i'r sector preifat wedi bod yn fwy yng Nghymru na'r cyfartaledd ledled Prydain Fawr yn ystod y cyfnod hwn.
O edrych ar y newidiadau cyffredinol mewn cyflogaeth yn ystod yr un cyfnod (sef ychydig fisoedd cyn
y data diweddaraf ar lefelau cyflogaeth cyffredinol a gyhoeddwyd ar 17 Ebrill, sydd yn dangos bod gan y DU y gyfradd gyflogaeth oedran gweithio uchaf ers dechrau casglu ffigurau ym 1971)
, gallwn weld bod cynnydd o 3.9% wedi bod yng Nghymru. Mae hyn wedi cael ei lywio gan gynnydd mewn cyflogaeth yn y sector preifat, lle bu cynnydd o 8.4% mewn cyflogaeth.
Drwy gymharu â Lloegr, yr Alban a'r tri rhanbarth yn Lloegr sydd â'r gyfran isaf o'r canran o bobl a gyflogir yn y sector preifat,
gallwn weld bod twf cyflogaeth yn gyffredinol yng Nghymru ers dechrau 2010 wedi bod yn uwch na gogledd-ddwyrain Lloegr ond yn is nag yn yr ardaloedd eraill a gymharwyd. Yr Alban sydd wedi gweld y twf canrannol uchaf yn y ddwy gyflogaeth - y sector preifat a chyflogaeth yn gyffredinol - yn ystod y cyfnod hwn.
Ffigur 2: Newidiadau canrannol mewn cyflogaeth rhwng chwarter 1, 2010 a chwarter 4, 2014

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol,
Cyflogaeth Sector Cyhoeddus, Chwarter 4 2014
Pa gasgliadau y gellir eu gwneud o'r ffigurau cyflogaeth hyn yng Nghymru ac yn y DU?
Gallwn weld o'r data fod cyflogaeth wedi cynyddu yng Nghymru a ledled y DU dros y blynyddoedd diwethaf, a bod hyn wedi ei lywio gan gynnydd yn lefelau cyflogaeth y sector preifat. Mae hyn yn fwy na'r gostyngiad mewn cyflogaeth yn y sector cyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn.
Gallwn hefyd weld fod ailgydbwyso cyflogaeth o'r sector cyhoeddus i'r sector preifat wedi bod yn fwy yng Nghymru na'r cyfartaledd ledled Prydain Fawr yn ystod y cyfnod hwn.
Fodd bynnag, yr hyn nad yw'r ffigurau pennawd hyn yn dangos i ni yw a yw'r bobl ychwanegol sydd mewn cyflogaeth yn gweithio amser llawn neu ran-amser, mewn swyddi parhaol neu dros dro, ac mewn swydd sy'n talu'n dda neu swyddi o gyflog isel. Nid ydynt chwaith yn dweud wrthym y rhesymau dros y gwahaniaethau yn y newidiadau cyffredinol mewn cyflogaeth, neu yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
View this post in English
Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg