Delwedd o res o adeiladau preswyl uchel, gydag afon a llwyni yn y blaendir.

Delwedd o res o adeiladau preswyl uchel, gydag afon a llwyni yn y blaendir.

A yw’r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn mynd yn rhy bell – neu ddim yn ddigon pell?

Cyhoeddwyd 04/12/2025

Mae Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn nodi dull newydd o reoli risgiau diogelwch mewn adeiladau amlfeddiannaeth, gan geisio mynd i'r afael â methiannau systemig a arweiniodd at dân Grenfell dros wyth mlynedd yn ôl.

Mae'r gyfundrefn newydd arfaethedig, sy’n canolbwyntio ar ddiogelwch rhag tân a diogelwch strwythurol adeilad tra bo pobl yn byw yno (y "cyfnod meddiannu"), yn cynnwys pob adeilad sydd â dwy uned breswyl neu fwy.

Mewn cyferbyniad, mae cyfundrefn newydd Lloegr yn berthnasol i adeiladau risg uwch yn unig, sy’n golygu’r rhai sydd o leiaf 18 metr o uchder neu sydd ag o leiaf saith llawr. Mae'r gyfundrefn, sydd wedi'i chynnwys yn Neddf Diogelwch Adeiladau 2022, wedi bod mewn grym ers mis Ionawr 2024.

Yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil, rhybuddiodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai fod pwysau adnoddau a bylchau yn y gweithlu yn golygu bod angen i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnwys adeiladau llai ac adeiladau risg is gael ei ailystyried.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn pryderu nad yw'r Bil yn cynnwys mesurau i gyflymu'r broses o gyweirio problemau diogelwch presennol a nodwyd yn sgil Grenfell, yn enwedig y rhai y mae gan ddatblygwyr mawr gyfrifoldeb am eu cyweirio.

Cyn y ddadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 9 Rhagfyr 2025, mae'r erthygl hon yn edrych ar yr hyn y mae gwaith craffu ar y Bil wedi'i ganfod hyd yn hyn.

Beth mae’r Bil yn ei wneud?

Mae'r Bil yn rhannu adeiladau o fewn cwmpas y drefn newydd yn dri chategori:

Mae'r gyfundrefn hefyd yn cynnwys rhai tai amlfeddiannaeth (“tai amlfeddiannaeth perthnasol”).

Bydd gan bob adeilad yn y tri chategori y canlynol:

  • person sydd â phrif gyfrifoldeb am ddiogelwch, a elwir “y person atebol” (neu “y prif berson atebol” os oes mwy nag un);
  • cofnod o wybodaeth diogelwch adeiladau (a elwir “y llinyn aur”); ac
  • asesiad risg diogelwch tân a gynhelir gan “berson cymwys” sy’n gorfod adolygu’r asesiad yn flynyddol (neu ei ail-wneud o dan rai amgylchiadau).

Mae gofynion eraill wedi'u pwysoli tuag at adeiladau uwch. Mae'r gofynion ar gyfer adeiladau categori 1 yn cynnwys cael strategaeth ymgysylltu preswylwyr, system ar gyfer ymchwilio i gwynion preswylwyr, tystysgrif diogelwch adeiladau, ac adroddiad achos diogelwch.

Ar gyfer adeiladau yng nghategorïau 1 a 2, mae’r gyfundrefn yn cwmpasu nid yn unig risg diogelwch tân, ond risg diogelwch strwythurol hefyd. Bydd yn rhaid i adeiladau yn y ddau gategori hyn gofrestru gyda'r Awdurdod Diogelwch Adeiladau (a drafodir isod) ar gyfer eu hardal.

Pwy fydd yn rheoleiddio?

Bydd dau fath o gorff yn goruchwylio'r gyfundrefn: Awdurdodau Diogelwch Tân ac Awdurdodau Diogelwch Adeiladau

Mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru i dri gwasanaeth tân ac achub Cymru weithredu fel Awdurdodau Diogelwch Tân. Mae'r cwestiwn ynghylch pwy ddylai weithredu fel Awdurdodau Diogelwch Adeiladu wedi bod yn llai clir.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn bwriadu i'r swyddogaethau hyn gael eu cyflawni gan awdurdodau lleol, ond derbyniodd na fyddai’n ymarferol cael 22 Awdurdod Diogelwch Adeiladau.

Er gwaethaf hyn, mae'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn creu 22 Awdurdod Diogelwch Adeiladau. Ers hynny, mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi dweud wrth y Pwyllgor fod gwaith wedi digwydd dros yr haf i nodi model a ffafrir, a chadarnhaodd y byddai hyn ar gyfer tri Awdurdod Diogelwch Adeiladau, gan adlewyrchu patrwm y gwasanaethau tân ac achub.

Gresynodd y Pwyllgor i’r dull hwn gael ei gyhoeddi'n rhy hwyr ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1.

Gor-ymestyn?

Un o brif bryderon llawer o dystion oedd bod swyddogaethau rheoleiddio awdurdodau lleol eisoes wedi eu gor-ymestyn yn sylweddol.

Roedd cefnogaeth eang o blaid cynnwys adeiladau categori 1 a 2 yn y gyfundrefn cyn gynted â phosibl. Ond dywedodd rhai fod yr achos dros newid yn llai clir ar gyfer categori 3, gan ddadlau y bydd hyn yn ofyn mawr oherwydd y niferoedd mawr. Roedd rhai hefyd yn amau dod â thai amlfeddiannaeth perthnasol i mewn, gan ddweud eu bod eisoes wedi'u rheoleiddio'n dda.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad yw Llywodraeth Cymru wedi profi bod digon o risg diogelwch mewn adeiladau categori 3 a thai amlfeddiannaeth perthnasol i gyfiawnhau eu cynnwys. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu tystiolaeth i ddangos y bydd y llwyth gwaith ychwanegol o gynnwys yr adeiladau hyn yn gymesur â'r manteision diogelwch.

Mae hyn yn bwysicach fyth, meddai'r Pwyllgor, yng ngoleuni tystiolaeth sy'n awgrymu y gallai'r Bil leihau'r cyflenwad o dai drwy gynyddu'r baich cronnus o reoleiddio ar landlordiaid preifat a landlordiaid cymdeithasol.

Awgrymodd y Pwyllgor y dylid haenu adeiladau categori 3 a thai amlfeddiannaeth perthnasol yn ôl risg, os oes angen, gydag adeiladau risg uwch yn cael eu blaenoriaethau yn gyntaf.

Beth am waith cyweirio?

Mewn tystiolaeth lafar, gwnaeth y grŵp ymgyrchu Welsh Cladiators alw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys:

For the thousands of unheard people trapped in unsafe flats, paying extortionate service charges, unable to either start families or downsize as they age, many struggling with their mental health, others simply wanting to just move on, I'm asking on their behalf: please get this mess fixed, not over another five years, but right now.

Dywedodd llawer o dystion wrth y Pwyllgor mai colli cyfle fyddai peidio â chynnwys pwerau yn y Bil i orfodi datblygwyr i gyflymu'r broses gyweirio.

Dywedodd Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, er bod dymuniad i weld y rhaglen gyweirio yn symud cyn gynted â phosibl, nid yw'r Bil yn cynnwys mesurau cyfreithiol gan nad oedd yr un wedi cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad Papur Gwyn.

Dywedodd y Pwyllgor ei fod yn bryderus iawn ynghylch diffyg cynnydd y datblygwyr. Argymhellodd y dylid diwygio'r Bil i gynnwys dyddiadau terfynau amser ar gyfer cwblhau gwaith y gellir eu gorfodi'n gyfreithiol, gyda chosbau am fethu â mynd i'r afael â diffygion mewn pryd.

Camau Nesaf

Ddydd Mawrth 9 Rhagfyr, bydd y Senedd yn pleidleisio i benderfynu a ddylid cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Os caiff y cynnig ei basio, bydd y Bil yn destun gwelliannau yng Nghyfnod 2.

Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd.tv neu ddarllen y trawsgrifiad yn fuan wedyn.

Article by Jennie Bibbings, Senedd Research, Welsh Parliament