A yw’r amser wedi dod am chwyldro ynni adnewyddadwy yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 17/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/10/2022   |   Amser darllen munudau

Yn sgil COP 26 ar ddiwedd 2021, yr argyfwng prisiau ynni oedd ar ddod i’r amlwg bryd hynny, a’r argyfwng hinsawdd hollbresennol, canolbwyntiodd ymchwiliad byr Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith i ynni adnewyddadwy ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, a’r hyn y mae angen iddi ei wneud, i gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Cynhaliwyd yr ymchwiliad yn fuan ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canlyniad ei Gwaith Ymchwil Manwl Ynni Adnewyddadwy. Dan arweiniad Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, nod y Gwaith Ymchwil Manwl oedd nodi’r hyn sy’n rhwystro cynhyrchiant ynni adnewyddadwy rhag cael ei ddatblygu, a’r camau y mae angen eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn. Cafwyd argymhellion y gwaith ymchwil manwl groeso gan randdeiliaid. Ond, roedd ymdeimlad hefyd fod yr argymhellion, mewn rhai meysydd, yn gwneud dim mwy na chrafu’r wyneb. 

At beth yr ydym yn anelu, a sut ydym ni'n gwneud?

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio’r sector ynni a chyflymu datblygiad ynni adnewyddadwy wedi’i nodi yn ei strategaeth Cynllun Cymru Sero Net. Mae’r Cynllun yn amlinellu’r camau y mae angen i Lywodraeth Cymru (ac eraill) eu cymryd, dros y pum mlynedd nesaf, i leihau’r ddibyniaeth ar danwyddau ffosil a lleihau’n sylweddol allyriadau’r sector ynni o nwyon tŷ gwydr. Mae hefyd yn cymryd golwg tymor hwy, gan edrych tuag at y targed sero net erbyn 2050.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged i Gymru gyrraedd 70 y cant o’i galw am drydan o ffynonellau trydan adnewyddadwy Cymru erbyn 2030. Yn ôl y data diweddaraf (ar gyfer 2020), y ffigur oedd 56 y cant, i fyny o 51 y cant yn 2019. Effeithir ar gynnydd tuag at y targed o 70 y cant gan y galw am drydan a chynhyrchu trydan adnewyddadwy – ffactorau a all amrywio o flwyddyn i flwyddyn o ganlyniad i ddigwyddiadau rhagweladwy a digwyddiadau annisgwyl. Cafodd COVID-19 effaith ar y galw am drydan yn 2020, gan leihau yn enwedig y galw am drydan annomestig o ganlyniad i’r gostyngiad mewn gweithgarwch. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y gall y cynnydd diweddar tuag at darged Cymru o 70 y cant fod yn un dros dro.

Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd darged ar gyfer o leiaf 1 gigawat (GW) o gapasiti trydan a gwres adnewyddadwy i fod mewn perchnogaeth leol erbyn 2030, gyda gofyniad i bob datblygiad ynni newydd fod ag elfen o berchnogaeth leol. Yn ogystal, mae wedi addo ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru dros 100 MW erbyn 2026. Mae Cymru wedi cyrraedd 86 y cant o’i tharged perchnogaeth leol 1 GW, gyda 859 MW o gapasiti adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol yn 2020.

Fodd bynnag, pennwyd y targedau hyn cyn i’r argyfwng hinsawdd gael ei ddatgan, a chyn i’r targed statudol sero net erbyn 2050 gael ei osod. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu ei thargedau adnewyddadwy yn 2022, a chyhoeddi targedau wedi'u diweddaru erbyn haf 2023.

A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i sicrhau dyfodol ynni gwyrddach?

Edrychodd y Gwaith Ymchwil Manwl ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy, gan gynnwys cynllunio a chaniatâd, cymorth ariannol, capasiti’r grid, cyllid, a gwerth cymdeithasol ac economaidd i gymunedau ledled Cymru. Edrychodd ar gamau tymor byr, tymor canolig a thymor hir, gan ganolbwyntio ar “gadw cyfoeth a pherchnogaeth yng Nghymru”. Eglurodd uchelgais Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • cyflymu'r camau gweithredu i leihau'r galw am ynni a gwneud y mwyaf o berchnogaeth leol gan gadw manteision economaidd a chymdeithasol yng Nghymru;
  • cynyddu cynlluniau ynni lleol i greu cynllun ynni cenedlaethol erbyn 2024;
  • lleihau’r galw am ynni a gwella effeithlonrwydd ynni;
  • gweithio gyda’r rheoleiddiwr ynni, Ofgem, i nodi’r buddsoddiad sydd ei angen ar Gymru yn ei grid trydan;
  • adolygu'r broses gydsynio ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, i sicrhau ei bod yn cefnogi datblygiad;
  • sefydlu grŵp arbenigol i archwilio ffyrdd o ddenu buddsoddiad ychwanegol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru;
  • cynyddu adnoddau i gefnogi ynni lleol ac ynni cymunedol, gan gynnwys bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer cwmni ynni cyhoeddus, fel y’i nodir yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Er y cynnydd a wnaed, tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith bod datblygu ynni adnewyddadwy wedi arafu ers 2015. Fe groesawodd ganfyddiadau'r Gwaith Ymchwil Manwl, ond teimlai nad oedd ei argymhellion ond yn crafu'r wyneb o ran y camau y mae angen eu cymryd i gynyddu datblygiad a gwella diogelwch ynni domestig. Daeth i’r casgliad a ganlyn:

Nid yw’r rhwystrau i ddatblygiad a nodwyd yn y gwaith ymchwil manwl, a chan gyfranwyr at ein hymchwiliad, yn newydd, yn yr un modd ag addewidion gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hwy. Roedd strategaeth ynni 2012 Llywodraeth Cymru yn addo ystod o gamau gweithredu i wella’r broses gynllunio a chydsynio, a seilwaith grid yng Nghymru, ymhlith pethau eraill. Ddegawd yn ddiweddarach, mae'r un addewidion yn cael eu gwneud. Dyma’r amser i Lywodraeth Cymru gadw at ei gair, a hynny ar unwaith.

Ddiwedd mis Medi, cyhoeddodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ddiweddariad ar y gwaith ymchwil manwl. Bu sawl datblygiad ers ymchwiliad y Pwyllgor. Mae’r camau allweddol nesaf yn y diweddariad yn cynnwys:

  • cyhoeddi Strategaeth Newid Ymddygiad ddrafft ar gyfer ymgynghoriad (ym mis Medi), gyda strategaeth derfynol i'w chyhoeddi yn gynnar yn 2023;
  • cyhoeddi strategaeth gwres ddrafft ddiwedd 2023;
  • adolygiad terfynol o'r dechrau i'r diwedd o drwyddedu morol;
  • allbynnau o'r gweithgor Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy;
  • cynyddu cyllid Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac Ynni Cymunedol Cymru;
  • pennu cwmpas a maint y datblygwr ynni adnewyddadwy arfaethedig a fydd dan berchnogaeth y cyhoedd, Ynni Cymru; a
  • chyhoeddi Cynllun Sgiliau Cymru Sero Net erbyn diwedd 2022.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 19 Hydref. Gallwch wylio'n fyw ar Senedd.tv.


Erthygl gan Chloe Corbyn Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru