Yn sgil COP 26 ar ddiwedd 2021, yr argyfwng prisiau ynni oedd ar ddod i’r amlwg bryd hynny, a’r argyfwng hinsawdd hollbresennol, canolbwyntiodd ymchwiliad byr Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith i ynni adnewyddadwy ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, a’r hyn y mae angen iddi ei wneud, i gynyddu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Cynhaliwyd yr ymchwiliad yn fuan ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canlyniad ei Gwaith Ymchwil Manwl Ynni Adnewyddadwy. Dan arweiniad Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, nod y Gwaith Ymchwil Manwl oedd nodi’r hyn sy’n rhwystro cynhyrchiant ynni adnewyddadwy rhag cael ei ddatblygu, a’r camau y mae angen eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn. Cafwyd argymhellion y gwaith ymchwil manwl groeso gan randdeiliaid. Ond, roedd ymdeimlad hefyd fod yr argymhellion, mewn rhai meysydd, yn gwneud dim mwy na chrafu’r wyneb.
At beth yr ydym yn anelu, a sut ydym ni'n gwneud?
Mae strategaeth Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio’r sector ynni a chyflymu datblygiad ynni adnewyddadwy wedi’i nodi yn ei strategaeth Cynllun Cymru Sero Net. Mae’r Cynllun yn amlinellu’r camau y mae angen i Lywodraeth Cymru (ac eraill) eu cymryd, dros y pum mlynedd nesaf, i leihau’r ddibyniaeth ar danwyddau ffosil a lleihau’n sylweddol allyriadau’r sector ynni o nwyon tŷ gwydr. Mae hefyd yn cymryd golwg tymor hwy, gan edrych tuag at y targed sero net erbyn 2050.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i Gymru gyrraedd 70 y cant o’i galw am drydan o ffynonellau trydan adnewyddadwy Cymru erbyn 2030. Yn ôl y data diweddaraf (ar gyfer 2020), y ffigur oedd 56 y cant, i fyny o 51 y cant yn 2019. Effeithir ar gynnydd tuag at y targed o 70 y cant gan y galw am drydan a chynhyrchu trydan adnewyddadwy – ffactorau a all amrywio o flwyddyn i flwyddyn o ganlyniad i ddigwyddiadau rhagweladwy a digwyddiadau annisgwyl. Cafodd COVID-19 effaith ar y galw am drydan yn 2020, gan leihau yn enwedig y galw am drydan annomestig o ganlyniad i’r gostyngiad mewn gweithgarwch. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y gall y cynnydd diweddar tuag at darged Cymru o 70 y cant fod yn un dros dro.
Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd darged ar gyfer o leiaf 1 gigawat (GW) o gapasiti trydan a gwres adnewyddadwy i fod mewn perchnogaeth leol erbyn 2030, gyda gofyniad i bob datblygiad ynni newydd fod ag elfen o berchnogaeth leol. Yn ogystal, mae wedi addo ehangu cynhyrchiant ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru dros 100 MW erbyn 2026. Mae Cymru wedi cyrraedd 86 y cant o’i tharged perchnogaeth leol 1 GW, gyda 859 MW o gapasiti adnewyddadwy mewn perchnogaeth leol yn 2020.
Fodd bynnag, pennwyd y targedau hyn cyn i’r argyfwng hinsawdd gael ei ddatgan, a chyn i’r targed statudol sero net erbyn 2050 gael ei osod. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adolygu ei thargedau adnewyddadwy yn 2022, a chyhoeddi targedau wedi'u diweddaru erbyn haf 2023.
A yw Llywodraeth Cymru yn gwneud digon i sicrhau dyfodol ynni gwyrddach?
Edrychodd y Gwaith Ymchwil Manwl ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy, gan gynnwys cynllunio a chaniatâd, cymorth ariannol, capasiti’r grid, cyllid, a gwerth cymdeithasol ac economaidd i gymunedau ledled Cymru. Edrychodd ar gamau tymor byr, tymor canolig a thymor hir, gan ganolbwyntio ar “gadw cyfoeth a pherchnogaeth yng Nghymru”. Eglurodd uchelgais Llywodraeth Cymru, gan gynnwys:
- cyflymu'r camau gweithredu i leihau'r galw am ynni a gwneud y mwyaf o berchnogaeth leol gan gadw manteision economaidd a chymdeithasol yng Nghymru;
- cynyddu cynlluniau ynni lleol i greu cynllun ynni cenedlaethol erbyn 2024;
- lleihau’r galw am ynni a gwella effeithlonrwydd ynni;
- gweithio gyda’r rheoleiddiwr ynni, Ofgem, i nodi’r buddsoddiad sydd ei angen ar Gymru yn ei grid trydan;
- adolygu'r broses gydsynio ar gyfer prosiectau ynni adnewyddadwy, i sicrhau ei bod yn cefnogi datblygiad;
- sefydlu grŵp arbenigol i archwilio ffyrdd o ddenu buddsoddiad ychwanegol mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru;
- cynyddu adnoddau i gefnogi ynni lleol ac ynni cymunedol, gan gynnwys bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer cwmni ynni cyhoeddus, fel y’i nodir yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
Er y cynnydd a wnaed, tynnodd y Pwyllgor sylw at y ffaith bod datblygu ynni adnewyddadwy wedi arafu ers 2015. Fe groesawodd ganfyddiadau'r Gwaith Ymchwil Manwl, ond teimlai nad oedd ei argymhellion ond yn crafu'r wyneb o ran y camau y mae angen eu cymryd i gynyddu datblygiad a gwella diogelwch ynni domestig. Daeth i’r casgliad a ganlyn:
Nid yw’r rhwystrau i ddatblygiad a nodwyd yn y gwaith ymchwil manwl, a chan gyfranwyr at ein hymchwiliad, yn newydd, yn yr un modd ag addewidion gweithredu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hwy. Roedd strategaeth ynni 2012 Llywodraeth Cymru yn addo ystod o gamau gweithredu i wella’r broses gynllunio a chydsynio, a seilwaith grid yng Nghymru, ymhlith pethau eraill. Ddegawd yn ddiweddarach, mae'r un addewidion yn cael eu gwneud. Dyma’r amser i Lywodraeth Cymru gadw at ei gair, a hynny ar unwaith.
Ddiwedd mis Medi, cyhoeddodd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, ddiweddariad ar y gwaith ymchwil manwl. Bu sawl datblygiad ers ymchwiliad y Pwyllgor. Mae’r camau allweddol nesaf yn y diweddariad yn cynnwys:
- cyhoeddi Strategaeth Newid Ymddygiad ddrafft ar gyfer ymgynghoriad (ym mis Medi), gyda strategaeth derfynol i'w chyhoeddi yn gynnar yn 2023;
- cyhoeddi strategaeth gwres ddrafft ddiwedd 2023;
- adolygiad terfynol o'r dechrau i'r diwedd o drwyddedu morol;
- allbynnau o'r gweithgor Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy;
- cynyddu cyllid Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac Ynni Cymunedol Cymru;
- pennu cwmpas a maint y datblygwr ynni adnewyddadwy arfaethedig a fydd dan berchnogaeth y cyhoedd, Ynni Cymru; a
- chyhoeddi Cynllun Sgiliau Cymru Sero Net erbyn diwedd 2022.
Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 19 Hydref. Gallwch wylio'n fyw ar Senedd.tv.
Erthygl gan Chloe Corbyn Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru