Gwiriad Ffitrwydd
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn mynd i gynnal 'Gwiriad Ffitrwydd' o'r ddeddfwriaeth hon gan yr UE i ddiogelu natur. Mae hyn yn cynnwys gwerthusiad polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth i asesu a yw'r fframwaith rheoleiddio yn 'addas i'r diben' o ran cyflawni ei amcanion. Mae'r Gwiriad Ffitrwydd yn rhan o Raglen Ffitrwydd a Pherfformiad Rheoleiddiol ehangach y Comisiwn (REFIT). Mae gwiriadau ffitrwydd eisoes wedi'u cynnal ar gyfer deddfwriaeth yr UE yn ymwneud â dŵr croyw a gwastraff. Bydd y Gwiriad Ffitrwydd o gymorth i'r Comisiwn wrth lunio casgliadau polisi ar ddyfodol deddfwriaeth diogelu natur yr UE. Fodd bynnag, mae'n dal i fod yn anhysbys a fydd y Gwiriad Ffitrwydd yn arwain at gynnig deddfwriaethol i adolygu'r ddeddfwriaeth diogelu natur gyfredol. Mae'r mandad ar gyfer y Gwiriad Ffitrwydd, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2014, yn diffinio cwmpas cyffredinol a nod yr ymarfer. Yn y cyd-destun hwn, bydd yn ymchwilio i:- Effeithiolrwydd - A gafodd yr amcanion eu cyflawni?
- Effeithlonrwydd - A ellid cyfiawnhau'r costau a oedd yn gysylltiedig gan y newidiadau a gyflawnwyd?
- Cydlyniant - A yw'r camau gweithredu'n cyd-fynd â chamau gweithredu eraill neu'n mynd yn groes iddynt?
- Perthnasedd - A oes angen i'r UE weithredu o hyd?
- Gwerth ychwanegol yr UE - A wnaeth camau gweithredu'r UE wahaniaeth? Casglu tystiolaeth ac ymgynghori â'r cyhoedd.
Y camau nesaf
- 24 Gorffennaf 2015- Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein yn dod i ben.
- Hydref 2015- cynhelir cynhadledd i randdeiliaid ym Mrwsel lle bydd canlyniadau rhagarweiniol yr asesiad deddfwriaeth natur yn cael eu trafod.
- Diwedd 2015- Mae'r astudiaeth sy'n casglu ac yn asesu tystiolaeth ar gyfer y Gwiriad Ffitrwydd yn mynd rhagddo a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.
- Yn gynnar yn 2016 - Disgwylir i'r Comisiwn ddrafftio a chyflwyno ei ddogfen Gwirio Ffitrwydd sy'n debygol o fod ar ffurf Dogfen Weithio Staff y Comisiwn.
Ymatebion rhanddeiliaid
Mae nifer o sefydliadau amgylcheddol wedi mynegi pryderon ynglŷn â Gwiriad Ffitrwydd y Comisiwn ac adolygiad posibl o'r ddeddfwriaeth natur bresennol. Mae Coed Cadw wedi codi pryderon y bydd penderfyniad y Comisiwn yn un gwleidyddol. Mae'n ofni y gallai adolygiad ddeddfwriaethol wanhau gwarchodaeth rhywogaethau a chynefinoedd ac yn sgil hynny, colli 'gwasanaethau ecosystem'. Byddai hefyd yn bygwth y fframwaith rheoleidd-dra ar gyfer datblygu cynaliadwy gan arwain at ansicrwydd busnes. Yn gynharach ym mis Mai, ymunodd bron i 100 o grwpiau amgylcheddol a chymdeithasau sifil yr UE, gan gynnwys WWF, Birdlife a Chyfeillion y Ddaear i gofrestru eu gwrthwynebiad i gynlluniau posibl y Comisiwn i ddiwygio'r Cyfarwyddebau natur, gan lansio ymgyrch ar-lein . Lansiodd yr RSPB hefyd ymgyrch 'Defend Nature' yn wyneb asesiad y Comisiwn. Mae'r RSPB yn nodi:European leaders are considering rolling back decades of progress by revising the Directives in the mistaken belief that weaker protection for wildlife is good for business. In reality, this would be bad for business, and a disaster for wildlife.
* Llun o Flickr gan Tony Hisgett. Trwyddedwyd o dan Creative Commons.
View this post in English Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg