“A oes ganddi hi statws?”: Trais ar sail rhywedd ac anghenion menywod mudol

Cyhoeddwyd 12/12/2022   |   Amser darllen munud

Mae angen dull teilwredig i amddiffyn menywod mudol sy'n agored i niwed, gan eu bod yn aml yn gallu bod yn “anymwybodol o'u hawliau; neu’n anymwybodol o'r hyn sy'n gyfystyr ag ymddygiad camdriniol”. Dyma a ganfu’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, yn ei ymchwiliad i Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) ac anghenion menywod mudol.

Mae trais yn erbyn menywod yn effeithio’n anghymesur ar fenywod mudol. Canfu’r Pwyllgor fod y menywod hyn yn wynebu sawl math o gam-drin, gan gynnwys trais domestig, trais rhywiol, trais 'ar sail anrhydedd', priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod a masnachu pobl.

Mae menywod mudol sy’n cael eu cam-drin yn wynebu heriau wrth geisio rhoi gwybod am y gamdriniaeth ac wrth geisio cael cymorth. Mae'r erthygl hon yn ystyried tri o'r materion allweddol cyn y ddadl yn y Senedd ar adroddiad y Pwyllgor ar 14 Rhagfyr.

Heb hawl i arian cyhoeddus ac effaith hynny ar fenywod mudol sy'n cael eu cam-drin

Bydd person ‘heb hawl i gyllid cyhoeddus’ (NRPF) pan fydd yn ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo. Bydd y statws mewnfudo hwn yn arwain at ganlyniadau uniongyrchol i fenywod sy'n cael eu cam-drin, gan na fydd ganddynt hawl i rai budd-daliadau.

Mae ymchwil gan y Comisiynydd Cam-drin Domestig ar gyfer Cymru a Lloegr yn dangos y bydd camdrinwyr yn defnyddio statws mewnfudo ansicr y dioddefwyr i arfer rheolaeth drostynt.

Clywodd y Pwyllgor fod statws mewnfudo menyw yn gallu golygu na fydd ganddi fynediad at arian cyhoeddus. Gall hyn gyfyngu ar eu gallu i gael cymorth hanfodol, gan gynnwys lle mewn llety â chymorth arbenigol.

Er bod mewnfudo yn faes polisi nas datganolwyd, mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i sicrhau bod menywod mudol sy’n cael eu cam-drin yn gallu cael y cymorth arbenigol sydd ei angen arnynt. Mae Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: strategaeth 2022 i 2026 yn datgan y bydd yn:

Rhoi mynediad cyfartal i bob dioddefwr at wasanaethau, a'r rheini'n wasanaethau croestoriadol o ansawdd uchel, y darperir adnoddau priodol ar eu cyfer, sy'n seiliedig ar gryfderau ac sy'n ymatebol ledled Cymru.

Mae BAWSO, sy’n elusen sy'n cefnogi cymunedau Du a lleiafrifoedd ethnig ac unigolion yng Nghymru sydd wedi dioddef camdriniaeth, trais a chamfanteisio, wedi egluro nad yw menywod mudol sy'n cael eu cam-drin, ac sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus, yn cael cynnig o lety diogel. Yn lle hynny, maent yn aml yn parhau i fyw gyda'r troseddwr. Mae BAWSO hefyd yn dweud bod menywod mudol yn gallu bod yn ynysig, heb na ffrindiau na theulu yn y wlad, a’u bod yn aml yn rhoi eu hunain mewn mwy o berygl drwy gysgu ar y stryd.

Gwnaeth adroddiad gan Bartneriaeth Mudo Cymru a Phrifysgol Caerdydd yn 2013 dynnu sylw at y materion hyn, a daeth adolygiad dilynol yn 2021 i'r casgliad bod:

…y cwestiwn o gyllid ar gyfer darpariaeth ffoaduriaid i fenywod a merched yn fater mor fawr yn 2013 ag y mae yn 2021.

Clywodd y Pwyllgor y gallai Llywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi menywod mudol i gael mynediad at gymorth. Mae BAWSO a Southall Black Sisters (mae’r ddau sefydliad yn darparu cymorth arbenigol i fenywod mudol), wedi awgrymu sefydlu cronfa argyfwng. Gallai’r gronfa gael ei defnyddio gan ddarparwyr gwasanaethau i gefnogi menywod mudol sydd wedi dioddef camdriniaeth ac sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus.

Mae cronfeydd tebyg wedi cael eu sefydlu o dan gynllun peilot 'Cefnogi Merched Mudol', (gwnaeth BAWSO gefnogi 85 o fenywod yng Nghymru yn 2021 drwy'r cynllun hwn) a chan Lywodraeth yr Alban.

Yn ystod yr ymchwiliad, dywedodd Llywodraeth Cymru “rhaid mai cynllun a gefnogir gan San Steffan yw'r ffordd fwyaf cynaliadwy o ddiwallu anghenion y rhai nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus ar hyn o bryd”. Ond, yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad i sefydlu cronfa argyfwng:

Mae swyddogion wrthi'n cwmpasu opsiynau ar gyfer cronfa a fyddai'n anelu at gefnogi dioddefwyr mudol VAWDASV heb hawl i arian cyhoeddus.

Gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)

Clywodd y Pwyllgor y gallai gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (y Ddeddf) yn well fod yn ffordd o sicrhau bod y mwyafrif helaeth o fenywod mudol sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus yn gallu cael llety diogel a chymorth.

Dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru a BAWSO wrth y Pwyllgor nad yw cymorth gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei ystyried yn gronfa gyhoeddus, ac felly ychydig iawn o gategorïau o statws mewnfudo sydd wedi’u heithrio o’r cymorth hwn. Dywedasant, o dan y Ddeddf:

… social services have a duty to meet the care and support needs of children and adults if it is deemed necessary to prevent a risk of abuse or neglect.

Gwnaethant hefyd amlygu sawl enghraifft, i ddangos y diffyg dealltwriaeth o ddyletswyddau o dan y Ddeddf, lle gwasanaethau wedi gwrthod diwallu anghenion gofal a chymorth menywod mudol heb hawl i gyllid cyhoeddus. Dywedasant fod 'loteri cod post' yn bodoli ar draws awdurdodau lleol.

Wrth ymateb i argymhelliad y Pwyllgor i adolygu gweithrediad y Ddeddf, dywedodd Llywodraeth Cymru:

… mae swyddogion eisoes wedi ymgysylltu eto â'r Byrddau Diogelu i rannu canfyddiadau'r Pwyllgor a sicrhau tystiolaeth ychwanegol o unrhyw brofiadau neu heriau yn eu hardaloedd.

Rhoi gwybod am gamdriniaeth: sefydlu mur gwarchod

Clywodd y Pwyllgor bryderon bod menywod mudol yn aml yn cael eu hatal rhag rhoi gwybod am gamdriniaeth am eu bod yn ofni y bydd eu data a’u statws mewnfudo yn cael eu rhannu â’r Swyddfa Gartref – sy’n gallu arwain at gamau gorfodi yn cael eu cymryd yn eu herbyn. Clywodd y Pwyllgor alwadau am fur gwarchod yng Nghymru, a fyddai’n golygu gwahaniad rhwng gweithgareddau gorfodi mewnfudo a darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn mewn egwyddor argymhelliad y Pwyllgor i sefydlu mur gwarchod, gan egluro, er nad yw llawer o’r sefydliadau sy’n dal data wedi’u datganoli, y bydd yn:

… gweithio gyda phartneriaid datganoledig ac annatganoledig i ddeall y materion sy'n codi ynglŷn â rhannu data a'r effaith ar ddioddefwyr mudol ac yn ystyried opsiynau ar gyfer mur gwarchod i gyfyngu ar rannu data rhwng asiantaethau.

Y camau nesaf: cydnabod anghenion penodol menywod mudol

Gwnaeth Llywodraeth Cymru dderbyn 13 o 15 argymhelliad y Pwyllgor. Mae ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i “ddod o hyd i atebion priodol i ddiwallu anghenion goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol nad oes ganddynt unrhyw ffordd o gael gafael ar arian cyhoeddus".

Fodd bynnag, fel y’i crynhowyd gan Gymorth i Fenywod Cymru, mae angen edrych ar beth sy’n digwydd, a dal i gyfrif, a dathlu lle mae’n digwydd fel y gellir adeiladu ar arfer da, a:

… take as first principles that idea of no women left behind, of a nation of sanctuary that is looking after those who are hurt and harmed, and providing proper support, and checking that that's happening and learning when it's not, we would be making great progress.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad a ganlyn:

Mae’n amlwg bod angen gwneud rhagor i ddiwallu anghenion penodol menywod mudol.


Erthygl gan Claire Thomas, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru