A oes angen i Gymru fod â mwy o reolaeth dros y system fudd-daliadau?

Cyhoeddwyd 11/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2021   |   Amser darllen munudau

Dywedir yn aml mai ‘proses yw datganoli, nid digwyddiad', ond a ddylai nawdd cymdeithasol fod yn rhan o'r broses honno? Cyfeirir at y system fudd-daliadau yn aml fel maes addas ar gyfer datganoli pellach, ond ymddengys bod Llywodraeth Cymru yn anghytuno.

Mae galwadau am ddatganoli rhannau o'r system nawdd cymdeithasol wedi cynyddu ers i Lywodraeth y DU ddechrau ar ei rhaglen o ddiwygiadau lles yn 2012, ac ar ôl i’r Alban gael mwy o bwerau yn y maes hwn yn 2016.

Yn 2018, argymhellodd Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd ar ddau achlysur y dylid ystyried datganoli budd-daliadau, ynghyd ag amryw sefydliadau megis Sefydliad Bevan.

Er i Lywodraeth Cymru wrthod y galwadau hyn yn ddiweddarach, yn 2019 roedd y Prif Weinidog newydd o'r farn y dylai Cymru “ystyried datganoli gweinyddiad” budd-daliadau.

Canfu ymchwil gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru y gallai Trysorlys Cymru, yn dibynnu ar y mecanwaith penodol a ddefnyddir, elwa’n sylweddol pe bai pwerau lles yn cael eu datganoli.

Y llynedd, trafododd y Pwyllgor y dadleuon o blaid ac yn erbyn datganoli pwerau pellach dros fudd-daliadau i Gymru. Edrychodd ar y profiad yn yr Alban a chymerodd dystiolaeth gan ystod o arbenigwyr yn y maes.

Cafodd ei adroddiad, Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i’w cyflawni’n well, ei gyhoeddi ym mis Hydref 2019 a bydd yn cael ei drafod yn y Senedd ar 16 Medi.

Mae budd-daliadau yn hanfodol bwysig i bobl yng Nghymru

Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd tua hanner poblogaeth Cymru yn cael rhyw fath o fudd-dal, fel budd-daliadau oedran gweithio (i bobl sydd mewn gwaith neu’n ddi-waith), pensiwn y wladwriaeth, neu fudd-dal plant. Llywodraeth y DU sy'n gweinyddu'r mwyafrif helaeth o'r rhain, sydd fel arfer yn dod i gyfanswm o oddeutu £11 biliwn y flwyddyn yng Nghymru.

Ond mae gan Lywodraeth Cymru hefyd rywfaint o reolaeth dros fudd-daliadau bach fel gostyngiad yn y dreth gyngor, y Gronfa Cymorth Dewisol, a budd-daliadau eraill sy’n seiliedig ar brawf modd fel prydau ysgol am ddim a'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg.

Mae pwysigrwydd hanfodol y system nawdd cymdeithasol i boblogaeth ac economi Cymru wedi dod yn gliriach fyth yn ystod y pandemig. Mae nifer y bobl yng Nghymru sy'n cael Credyd Cynhwysol yn unig wedi cynyddu 71% rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf 2020, o 155,400 i 266,000.

Ac ers mis Mawrth mae Llywodraeth Cymru wedi dosbarthu dros 52,000 o daliadau brys sy'n gysylltiedig â’r coronafeirws drwy ei Chronfa Cymorth Dewisol, sy'n dod i gyfanswm o £3.2 miliwn.

Y dadleuon o blaid ac yn erbyn mwy o ddatganoli

Canfu'r Pwyllgor mai'r prif densiwn oedd cydbwyso'r risg o dorri'r 'undeb cymdeithasol' yn erbyn y wobr bosibl o ddarparu gwasanaethau sy'n gweddu'n well i anghenion penodol Cymru.

Mae'r prif ddadleuon dros ddatganoli pellach yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Y gallu i greu system decach a mwy tosturiol, ynghyd â’r gallu i gynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol wrth gynllunio, darparu a gwerthuso budd-daladau;
  • Gwella cysondeb â pholisïau datganoledig (fel tai) gan roi ystyriaeth well i anghenion penodol yng Nghymru hefyd (fel natur wledig y wlad a thlodi);
  • Gwell atebolrwydd cyllidol a chyfle i wneud arbedion ariannol, a’r
  • Risg uwch o beidio â newid y system bresennol o gymharu â’r risg o’i datganoli.

Roedd y dadleuon yn erbyn datganoli pellach yn cynnwys:

  • Torri’r ‘undeb cymdeithasol’, sef yr egwyddor bod gan holl ddinasyddion y DU hawl gyfartal i'r wladwriaeth les, a bod budd-daliadau a beichiau'n dibynnu ar anghenion ac nid daearyddiaeth;
  • Y risg gyllidol o gymryd cyfrifoldeb am fudd-daliadau sy’n seiliedig ar alw;
  • Cymhlethdod ychwanegol pe bai angen i hawlwyr  ddefnyddio dwy system wahanol;
  • Anawsterau o ran sefydlu systemau newydd, gan gynnwys materion trawsffiniol.

Argymhellion y Pwyllgor

Ystyriodd y Pwyllgor sbectrwm o opsiynau yn ymwneud â datganoli budd-daliadau. Roedd hyn yn amrywio o wneud newidiadau o fewn y setliad presennol, i ddatganoli 'pwerau gweinyddol' (megis hyblygrwydd o fewn Credyd Cynhwysol), hyd at ddatganoli budd-daliadau penodol, y pwerau i greu budd-daliadau newydd, a'r gallu i ychwanegu at y rhai presennol.

Diystyrodd y Pwyllgor yr opsiwn o ddatganoli'r system fudd-daliadau gyfan, neu Gredyd Cynhwysol yn ei gyfanrwydd, neu'r holl fudd-daliadau salwch ac anabledd oherwydd y byddai’n arwain at gymhlethdod, goblygiadau ariannol, a risgiau eraill.

Y setliad presennol

Roedd argymhellion y Pwyllgor i Lywodraeth Cymru ar gyfer newidiadau yn y setliad datganoli presennol yn cynnwys:

  • Sefydlu system fudd-daliadau gydlynol ac integredig yng Nghymru ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd y mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol amdanynt, a datblygu set o egwyddorion a fydd yn sail i’r gwaith o’u cynllunio a’u darparu.
  • Sicrhau y gellir defnyddio'r Gronfa Cymorth Dewisol yn ystod y cyfnod aros cyn cael y taliad Credyd Cynhwysol cyntaf;
  • Sicrhau bod mwy o bobl yn manteisio ar fudd-daliadau yng Nghymru, ac
  • Ystyried ffyrdd o roi mwy o lais i Gymru ynghylch budd-daliadau ar lefel y DU.

Pwerau 'gweinyddol'

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru geisio pwerau 'gweinyddol' dros rai budd-daliadau, megis:

  • Trefniadau hyblyg ar gyfer talu Credyd Cynhwysol fel y gall pobl yng Nghymru ddewis cael taliadau mwy mynych, taliadau uniongyrchol i’w landlord, a rhannu taliadau rhwng cyplau;
  • Datganoli Budd-dal Tai ar gyfer grwpiau penodol o bobl (a delir ar wahân i Gredyd Cynhwysol).
  • Datganoli'r broses asesu ar gyfer budd-daliadau salwch ac anabledd, i’w cysoni â pholisïau a deddfau iechyd a gofal cymdeithasol Cymru, a
  • Datganoli'r drefn sancsiynau.

Roedd hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ystyried datganoli’r elfen o Gredyd Cynhwysol sy’n ymwneud â thai, gan gynnwys y pŵer i osod lefelau rhent cymwys.

Datganoli budd-daliadau penodol yn llawn, ychwanegu at fudd-daliadau presennol, a chreu budd-daliadau newydd

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylai Llywodraeth Cymru geisio:

  • y pŵer i greu budd-daliadau newydd ac ychwanegu at fudd-daliadau presennol i weddu i anghenion Cymru;
  • datganoli’r cynllun Taliad Disgresiwn at Gostau Tai yn llawn, ac
  • ymgymryd â gwaith archwilio pellach ar ddatganoli: taliadau tanwydd gaeaf a thywydd oer, y Lwfans Gweini, taliadau am gostau mamolaeth, a thaliadau am gostau angladdau.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn ei hymateb cychwynnol i’r adroddiad ym mis Rhagfyr 2019, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr holl argymhellion yn yr adran ynghylch y setliad presennol, a’r argymhelliad ar hyblygrwydd taliadau Credyd Cynhwysol. Ond gohiriodd ei hymateb ar bob argymhelliad arall nes bod Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi ymgymryd ag ymchwil ychwanegol.

Ym mis Mai 2020, dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn AS, wrth y Pwyllgornid nawr yw’r amser gorau, o ran yr adnoddau a’r dystiolaeth sydd ar gael, i ystyried newidiadau tymor hir i nawdd cymdeithasol” oherwydd yr ansicrwydd yng nghyfnod y pandemig.

Ond nododd hefyd y byddai’n “ailystyried y mater pwysig hwn eto” pan fydd Llywodraeth Cymru wedi gallu:

“ystyried yn llawn unrhyw newidiadau sydd wedi’u gwneud i system nawdd cymdeithasol y DU. Bydd angen ystyried y modd y mae system nawdd cymdeithasol y DU wedi gallu cyflawni’r heriau yng Nghymru yn ystod yr argyfwng byd-eang hwn. Yn ogystal, bydd angen inni fod wedi gallu cael y cyfle i adolygu unrhyw dystiolaeth ar y modd y mae modelau gwahanol ar gyfer trefniadau nawdd cymdeithasol sydd wedi’u datganoli mewn cenhedloedd datganoledig eraill wedi gallu wynebu heriau’r argyfwng hwn”.

Ym mis Awst 2020, cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad ar anghydraddoldeb a'r pandemig, a gwnaeth argymhellion pellach i Lywodraeth Cymru ynghylch budd-daliadau, gan gynnwys:

  • cyflwyno ymgyrch gynhwysfawr i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau a sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at y budd-daliadau y mae ganddynt hawl i’w cael;
  • oedi camau gorfodi mewn perthynas â dyledion y dreth gyngor am 6-12 mis;
  • ail-frandio'r Gronfa Cymorth Dewisol a chynnal ymgyrch ymwybyddiaeth (ar wahân i'r ymgyrch budd-daliadau), ar y teledu a'r radio, y cyfryngau cymdeithasol, ac mewn print;
  • sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o arian i wneud Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai i unrhyw un sy'n gymwys er mwyn helpu i atal achosion o droi allan, ac
  • ystyried opsiynau ar gyfer caniatáu hawl awtomatig i fudd-daliadau datganoledig megis gostyngiad yn y dreth gyngor.

Bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar fudd-daliadau’r ar 16 Medi, a gellir gwylio’r drafodaeth ar senedd.tv.

 

Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru