Cyflwyniad
Yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Hydref, bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod cynnig gan Gomisiwn y Cynulliad i gymeradwyo ei benderfyniad i gyflwyno Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru).
Mae penderfyniad y Comisiwn i gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon yn dilyn datganiad ysgrifenedig gan y Llywydd ym mis Gorffennaf 2018. Mae llawer o’r cynigion yn seiliedig ar argymhellion a wnaed gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, ac roeddent yn destun ymgynghoriad yn gynharach eleni. Mae adroddiad llawn ar yr ymgynghoriad wedi’i gyhoeddi, yn ogystal â chrynodeb o’r adroddiad hwn.
Cynhaliodd y Comisiwn ymgynghoriad blaenorol ar gynigion i newid enw’r Cynulliad yn 2016/17.
Ar 2 Hydref 2018, cyhoeddodd y Llywydd, fel Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad ("y Comisiwn"), ddatganiad ysgrifenedig, gan egluro y byddai’r Bil:
- yn newid enw’r Cynulliad Cenedlaethol;
- yn gostwng yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau’r Cynulliad i 16;
- yn diwygio’r gyfraith ynghylch trefniadau anghymhwyso; ac
- yn gwneud newidiadau i drefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad.
Bwriad y Comisiwn yw y dylai’r newidiadau hyn gael eu gweithredu erbyn 2021.
Y Bil arfaethedig
Mae’r Bil arfaethedig yn cynnwys pedair prif elfen:
- Newid enw’r Cynulliad i Senedd Cymru/Welsh Parliament
Yn ôl datganiad y Llywydd: ‘Bydd newid enw’r sefydliad yn sicrhau ei fod yn adlewyrchu ei sefyllfa gyfansoddiadol ac yn helpu i wella dealltwriaeth y cyhoedd o rôl a chyfrifoldebau’r ddeddfwrfa’.
Y bwriad fyddai i’r enw newydd ddod i rym yn gyfreithiol ym mis Mai 2020 i sicrhau bod y cyhoedd yn gyfarwydd ag ef cyn etholiad nesaf y Cynulliad yn 2021.
Yn ychwanegol at newid enw’r sefydliad, bydd newidiadau cysylltiedig, er enghraifft yr ôl-ddodiad sy’n ymddangos ar ôl enwau’r Aelodau. Mae’r Comisiwn yn parhau i drafod y mater hwn.
- Gostwng yr oedran pleidleisio isaf i 16 oed yn effeithiol o etholiad y Cynulliad yn 2021
Mae’r Comisiwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid etholiadol i roi’r trefniadau gofynnol ar waith ar gyfer ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed yn etholiad y Cynulliad yn 2021.
- Egluro a diwygio’r fframwaith deddfwriaethol sy’n ymwneud ag anghymhwyso rhag bod yn Aelod Cynulliad
Mae’r Comisiwn yn bwriadu gweithredu argymhellion ar gyfer newid deddfwriaethol a wnaed gan Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Pedwerydd Cynulliad. Byddai’r newidiadau hyn yn rhoi eglurder i ddarpar ymgeiswyr o ran a ydynt yn gymwys i sefyll ar gyfer eu hethol, a thrwy addasu’r pwynt lle y byddai’r rhan fwyaf o resymau dros anghymwyso yn dod i rym. Byddai’n galluogi mwy o bobl i sefyll heb orfod ymddiswyddo yn gyntaf, fel eu bod ond yn gorfod ymddiswyddo os cânt eu hethol.
Byddai’r diwygiadau hefyd yn egluro anghymhwyso Arglwydd Raglawiaid ac Uchel Siryfi ac, er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau, byddai’n gwahardd aelodau o Dŷ’r Arglwyddi oni bai eu bod yn cymryd absenoldeb ffurfiol o San Steffan.
Byddai’r trefniadau anghymhwyso newydd yn dod i rym ar gyfer etholiad nesaf y Cynulliad.
- Newid trefniadau etholiadol a threfniadau mewnol y Cynulliad
Pe bai Comisiwn y Gyfraith yn gwneud argymhellion i ail-drefnu’r cyfreithiau cyfredol sy’n ymwneud ag etholiadau, byddai darpariaethau’n sicrhau y gall argymhellion o’r fath, y gellir eu hystyried yn ddymunol yng Nghymru, gael eu gweithredu ar gyfer etholiadau’r Cynulliad ac etholiadau awdurdodau lleol yng Nghymru.
Byddai’r dyddiad terfynol ar gyfer cyfarfod cyntaf y Cynulliad ar ôl etholiad yn cael ei ymestyn o saith diwrnod i bedwar diwrnod ar ddeg, yn unol â’r trefniadau yn Senedd yr Alban.
Pe bai Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu y dylai’r Comisiwn gyflwyno Bil Senedd Cymru ac Etholiadau (Cymru), byddai’n destun prosesau craffu deddfwriaethol llawn y Cynulliad a byddai angen iddo sicrhau uwch-fwyafrif yn ei gyfnod deddfwriaethol terfynol, gan olygu y byddai angen i o leiaf 40 Aelod bleidleisio o blaid y Bil. Dywedodd y Llywydd:
Gofynnaf i’r Pwyllgor Busnes ystyried ffordd o graffu deddfwriaethol a fyddai’n caniatáu i bob Aelod, a’r cyhoedd ehangach yng Nghymru, ymgysylltu’n llawn yn y ddadl ynghylch egwyddorion y Bil a’i ddarpariaethau a goblygiadau.
Y pecyn ehangach o ddiwygiadau
Yn ei datganiad ysgrifenedig, eglurodd y Llywydd fod y Bil arfaethedig ‘yn rhan o becyn o ddiwygiadau sy’n cael eu hystyried i wneud y Cynulliad Cenedlaethol yn ddeddfwrfa fwy effeithiol, hygyrch ac amrywiol’. Aeth ymlaen i ddweud:
Mae angen cefnogaeth eang ymysg yr Aelodau ar gyfer pob elfen o’r pecyn hwn os yw i gael ei gyflwyno. O ran rhai agweddau, mae angen gwaith pellach i gyflawni hyn. Er enghraifft, mae Aelodau a phleidiau gwleidyddol yn dal i ystyried maint y Cynulliad yn y dyfodol, sut y dylid ethol Aelodau, a sut y gellid cynyddu amrywiaeth. Os gwneir cytundeb ar y ffordd ymlaen, bwriad y Comisiwn yw y bydd yr elfennau hyn yn ffurfio ail gam y rhaglen ddiwygio yn ystod tymor y Cynulliad hwn.
Yn y cyfamser, yn dilyn trafodaethau hir â rhanddeiliaid allweddol a dau ymgynghoriad cyhoeddus, mae’r Comisiwn yn fodlon bod digon o gefnogaeth i symud ymlaen â’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth.
Y ddadl
Diben y ddadl yw rhoi cyfle i’r Comisiwn geisio cydsyniad yr Aelodau i gyflwyno’r Bil. Os bydd cais y Comisiwn yn llwyddo, y bwriad yw cyflwyno’r Bil yn gynnar yn 2019 i ganiatáu i gam cyntaf diwygio’r Cynulliad gael ei weithredu cyn etholiad 2021.
Erthygl gan Alys Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru