Ym mis Mawrth 2018, derbyniodd Llywodraeth y DU bob un o’r casgliadau mewn adroddiad annibynnol ar S4C, y darlledwr iaith Gymraeg. Mae hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer newidiadau i’r hyn y mae cylch gwaith y darlledwr yn caniatáu iddo ei wneud, sut y mae’n cael ei drefnu, a sut dylid ei ariannu. Ond, nid yw’n dweud dim yn benodol am faint o arian y dylai S4C ei gael.
Y cefndir
Cafodd S4C ei sefydlu trwy ddeddfwriaeth yn 1982, yn dilyn ymgyrch. Hi yw’r unig ddarlledwr teledu Cymraeg, ac mae 98 y cant o’i chyllid yn arian cyhoeddus. Yn 2017, cynhaliodd Euryn Ogwen Williams - cyn-gyfarwyddwr rhaglenni S4C - adolygiad o’r sianel ar ran Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth y DU, sef yr adolygiad cyntaf er 2004.
Cyfrifoldeb a gedwir gan San Steffan yw darlledu, ond er hynny, roedd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad yn awyddus i ddylanwadu ar adolygiad arfaethedig DCMS. Yn 2017, fe gyhoeddodd Tu allan i’r Bocs, sef adroddiad ar S4C. Yn ystod yr ymchwiliad hwn, cyhoeddodd S4C ei gweledigaeth am ddyfodol y gwasanaeth, sef Gwthio’r Ffiniau.
Sut y dylai S4C gael ei hariannu?
Yn 2010, roedd S4C yn wynebu gostyngiadau yn ei chyllid a newidiadau i’r ffordd y darperir y cyllid hwnnw. Tan hynny, daethai’r rhan fwyaf o refeniw S4C yn uniongyrchol DCMS, yn gysylltiedig â chwyddiant, ond er mis Ebrill 2013, mae’r rhan fwyaf o’r cyllid hwnnw wedi dod o ffi’r drwydded drwy law Ymddiriedolaeth y BBC, gyda DCMS yn parhau i ddarparu grant bach (£6.7 miliwn ar hyn o bryd). Mae incwm masnachol S4C yn cyfrif am tua 2 y cant o incwm cyffredinol y darlledwr.
Mae’r graff isod yn dangos y gostyngiad yn incwm cyhoeddus y sianel er 2010:
Rhwng 2010 a 2016-17, gostyngodd arian cyhoeddus S4C o £101.6 miliwn i £81.3 miliwn. Roedd hyn yn doriad o 27 y cant mewn termau real.
Mae adolygiad DCMS yn cynnig symud i ffi’r drwydded ar gyfer y cyfan o arian cyhoeddus S4C o 2022-23, pan fydd y setliad nesaf ar gyfer ffi’r drwydded yn dechrau. Mae’n nodi mai dyma’r unig ffordd o sicrhau sefydlogrwydd o ran cyllido’r sianel.
Mae’r cynnig hwn yn mynd yn groes i farn Pwyllgor y Cynulliad, S4C a’r BBC, gan eu bod ill tri wedi cynnig cadw’r sefyllfa fel y mae. Yn Tu allan i’r Bocs, argymhellodd Pwyllgor y Cynulliad gadw ffrwd gyllido o DCMS “fel bod llinell uniongyrchol o atebolrwydd am wario i gynrychiolwyr etholedig yn parhau”. Dywedodd S4C fod “angen diogelu lluosogrwydd cyllid”.
Dywedodd fod hyn wedi bod yn “hollbwysig i annibyniaeth barhaus S4C ac i’n gallu i gyflawni ein cylch gorchwyl iaith Gymraeg”. Wrth ymateb i adolygiad DCMS, dywedodd y BBC ei bod yn cefnogi S4C o ran dymuniad y sianel i gadw lluosogrwydd yn ei ffynonellau cyllido.
Beth y dylai S4C ei wneud?
Mae cylch gwaith S4C - sy’n nodi’r hyn y dylai’r sianel ei wneud - yn y bôn, heb newid ers i’r sianel gael ei lansio ym 1982. Mae’n nodi y dylai’r sianel ddarparu “gwasanaethau rhaglenni teledu” y “bwriedir iddynt fod ar gael i’w derbyn yn gyfan gwbl neu’n bennaf gan aelodau’r cyhoedd yng Nghymru”.
Clywodd Pwyllgor y Cynulliad nad yw’r cylch gwaith hwn yn addas yn oes y cyfryngau digidol lle mae 45 y cant o wylwyr S4C y tu allan i Gymru. Mae S4C wedi dweud bod “angen uwchraddio cylch gorchwyl S4C, gan symud oddi wrth y cyfyngiadau daearyddol a theledu yn unig i alluogi darpariaeth Gymraeg aml-lwyfan ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt”. Cefnogodd y Pwyllgor y safbwynt hwn.
Mae adolygiad DCMS wedi cymeradwyo’r galwadau hyn, gan alw am i’r cylch gorchwyl gael ei uwchraddio i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein ac i ddileu’r cyfyngiadau darlledu daearyddol cyfredol.
Sut y dylai S4C gael ei threfnu?
Ar hyn o bryd mae S4C yn cael ei llywodraethu gan fwrdd anweithredol, sef Awdurdod S4C. Mae aelodau’r Awdurdod yn cael eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar ôl ymgynghori â Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae Mr Williams yn cynnig: “a new unitary board that includes executives is required to provide the strong leadership needed to steer S4C through the challenges ahead”.
Mae hyn yn ategu barn Pwyllgor y Cynulliad, ond aeth Tu allan i’r Bocs ymhellach trwy argymell y dylai bwrdd unedol newydd gael ei ddiogelu “gan statud neu Siarter, sy’n debyg i fodel presennol y BBC”.
Faint o arian y dylai S4C ei gael?
Gellir dadlau mai’r hyn nad oedd neb am ei drafod yn ystod adolygiad DCMS oedd faint o arian cyhoeddus y dylai S4C ei gael. Dywed Mr Williams “as per the terms of reference, the review does not consider levels of funding for S4C”. Mae’r adroddiad, ac ymateb DCMS, hefyd yn dweud dim ynghylch beth fydd yn digwydd i’r arian y mae DCMS yn ei ddarparu i S4C ar hyn o bryd - dros £6 miliwn y flwyddyn - pan fydd y cyfan o gyllid y sianel yn dod o ffi’r drwydded.
Nid yw S4C wedi pennu ffigur penodol ar gyfer cyfanswm ei chyllideb, ond mae’n nodi bod ei chyllideb bresennol ar gyfer cynnwys yn annigonol, ac mae’n nodi bod angen £6 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i’w galluogi i gyflawni ei gwasanaethau o ran darlledu teledu a llwyfannau digidol ac er mwyn buddsoddi mewn cynnwys newydd ar lwyfannau digidol heb effeithio yn andwyol ar y lefelau ar fuddsoddir mewn cynnwys ar hyn o bryd. Y llynedd, nododd Prif Weithredwr S4C fod toriadau ariannol yn golygu bod 57 y cant o’r hyn a ddarlledir yn ailddarllediadau - y nod pan lansiwyd y sianel oedd 20 y cant - ac roedd o’r farn bod hyn yn rhy uchel.
Nododd Pwyllgor y Cynulliad: “Nid oedd unrhyw anghytuno rhwng y tystion bod cyllid S4C bellach yn annigonol ac mae angen ei gynyddu’n sylweddol”. Galwodd am setliad cyllido yn y dyfodol i’r sianel “yn seiliedig ar ddiffiniad clir o ofynion y gwasanaeth y disgwylir i S4C ei ddarparu a phennu cyllid ar lefel sy’n galluogi S4C i fodloni’r gofynion hyn yn llwyddiannus.”
Mae’r sgwrs anodd ynghylch faint y dylai’r sianel ei gael wedi cael ei gohirio am y tro.
Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell: Ffigurau o Adroddiadau Blynyddol a Chyfrifon S4C. Mae “incwm cyhoeddus” yn cyfeirio at grantiau blynyddol a dderbynnir gan DCMS ac, er 2013, cyllid o ffi’r drwydded.
*Mae’r cyfnod cyllido hwn yn cwmpasu’r pymtheng mis o 1 Ionawr 2013 i 31 Mawrth 2014. Yn flaenorol, adroddai S4C ar sail blwyddyn galendr. Symudodd i flwyddyn ariannol er mwyn i’w threfniadau adrodd gyfateb â rhai’r BBC, yn unol â’r berthynas ariannu newydd rhwng y ddau ddarlledwr. Mae’r ffigur ariannu eleni yn ffigur pro rata a ddarparwyd gan S4C.