O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd rheolau newydd yn dod i rym ar gyfer landlordiaid cymdeithasol sy'n anelu at sicrhau eu bod yn 'cymryd camau prydlon' ar beryglon iechyd. Mae’r gofynion newydd, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn golygu y disgwylir i landlordiaid cymdeithasol ymchwilio i beryglon sy’n peri risg i denantiaid, a’u cyweirio, o fewn amserlenni penodol.
Mae’r newid hwn yn dilyn nifer o flynyddoedd lle mae diogelwch a chyflwr tai cymdeithasol wedi bod o dan y chwyddwydr, a lle mae pryder y cyhoedd am y risgiau sy’n gysylltiedig â lleithder a llwydni wedi bod yn tyfu.
Mae’r erthygl hon yn trafod cyflwr tai cymdeithasol yng Nghymru, y problemau y mae rhai tenantiaid yn eu hwynebu wrth geisio datrys problemau, a sut mae Llywodraeth Cymru a’r sector ehangach wedi ymateb i bryderon diweddar. Mae’n tynnu ar ganfyddiadau o ymchwiliad diweddar gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i gyflwr anniogel tai cymdeithasol.
Mae amodau mewn tai cymdeithasol wedi bod yn gwella
Er bod data diweddar am ansawdd tai yn gyfyngedig, mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu bod cartrefi yn y sector tai cymdeithasol ar y cyfan mewn cyflwr da, yn enwedig o gymharu â mathau eraill o ddeiliadaeth.
Canfu Arolwg Cyflwr Tai Cymru diweddaraf, a gynhaliwyd bron i ddeng mlynedd yn ôl yn 2017-18, fod peryglon difrifol yn bresennol mewn tua 7% o gartrefi cymdeithasol, o gymharu â 24% o dai rhent preifat a 19% o gartrefi sy’n eiddo i berchen-feddianwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer arolwg cyflwr tai newydd a fydd yn darparu darlun mwy cyfoes, er na fydd y canlyniadau cyntaf ar gael tan 2028-29.
Dywedodd Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd wrth y Pwyllgor fod cyflwyno Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn 2002 wedi arwain at welliant sylweddol iawn yn amodau y stoc tai cymdeithasol. Nododd Cartrefi Cymunedol Cymru nad oedd un set ddata genedlaethol awdurdodol ar ansawdd tai, ond tynnodd sylw at y lefelau uchel o gydymffurfiaeth â SATC a’r buddsoddiadau sylweddol mewn cynnal a chadw ac atgyweirio gan gymdeithasau tai.
Er gwaethaf hyn, roedd cytundeb eang ymhlith tystion bod cynnydd wedi bod yn nifer yr adroddiadau am leithder a llwydni yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Roedd y mwyafrif o'r farn mai ymwybyddiaeth gynyddol y cyhoedd a chynnydd yn y nifer o denantiaid sy’n rhoi gwybod am broblemau oedd yn gyfrifol am hyn, yn dilyn nifer o straeon amlwg yn y cyfryngau am leithder a llwydni. Fodd bynnag, ddadleuodd Cartrefi Cymunedol Cymru a Shelter Cymru fod yr argyfwng costau byw hefyd wedi chwarae rhan, gyda mwy o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd cynhesu eu cartrefi’n ddigonol o ganlyniad i gostau gwresogi cynyddol.
Mae tenantiaid yn cael eu heffeithio’n sylweddol iawn pan fydd pethau’n mynd o’i le
Clywodd y Pwyllgor y gall ymateb annigonol i ddiffyg atgyweirio achosi niwed sylweddol i iechyd a llesiant tenantiaid. Cyfeiriodd Iechyd Cyhoeddus Cymru at dystiolaeth sy’n dangos y gall tai o ansawdd gwael gyfrannu at glefydau anadladol, salwch cardiofasgwlaidd, anafiadau ac iechyd meddwl gwael. Tynnodd TPAS Cymru sylw hefyd at effaith negyddol amodau tai gwael, gan nodi bod tenantiaid wedi sôn am fyw gyda llwydni ers misoedd, teimlo’n sâl, osgoi defnyddio rhannau o’u cartrefi, a theimlo cywilydd oherwydd eu hamodau byw.
Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) wrth y Pwyllgor fod ansawdd bywyd tenantiaid yn cael ei effeithio’n sylweddol iawn pan fydd pethau’n mynd o’i le. Tynnodd sylw at ddigwyddiadau o’i gwaith achos lle mae tenantiaid wedi gorfod codi materion dro ar ôl tro, naill ai oherwydd nad yw eu landlord wedi cymryd unrhyw gamau neu oherwydd bod y gwaith atgyweirio wedi methu â mynd i’r afael â’r problemau sylfaenol.
Ategwyd hyn gan un o’r tenantiaid a rannodd ei brofiadau o ddiffyg atgyweirio gyda’r Pwyllgor. Disgrifiodd gorfod gofyn i’w landlord am atgyweiriadau dro ar ôl tro, gan ddweud:
“The first time I contacted them, they came out straight away, but as the months went on – half the time they wouldn’t turn up. I had to report it multiple times…Towards the end they were coming out every month to wash and paint the walls.”
Awgrymodd yr Ombwdsmon ei bod yn gweld problemau penodol mewn achosion lle mae’r materion diffyg atgyweirio yn fwy cymhleth, ac mewn sefyllfaoedd lle mae gan denant anabledd neu gyflwr iechyd.
Mae landlordiaid cymdeithasol wedi gweithio i gryfhau polisïau ac arferion
Clywodd y Pwyllgor gan ystod eang o dystion fod landlordiaid cymdeithasol wedi newid eu hymagwedd at beryglon a diffyg atgyweirio yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru fod digwyddiadau gan gynnwys trychineb Tŵr Grenfell a marwolaeth Awaab Ishak wedi anfon tonnau sioc drwy’r sector ac wedi arwain at gryfhau polisïau ac arferion o ran diogelwch tenantiaid. Amlinellodd dadansoddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2023 y ffyrdd yr oedd landlordiaid cymdeithasol wedi newid eu hymagwedd at leithder a llwydni, gan nodi rhai meysydd i ddysgu ohonynt.
Cytunodd sefydliadau’r trydydd sector a chynrychiolwyr tenantiaid fod gwelliant wedi bod yn ymagwedd a diwylliant landlordiaid cymdeithasol. Fodd bynnag, awgrymon nhw y byddai angen gwaith parhaus i sicrhau cysondeb ar draws y sector ac i ailadeiladu ymddiriedaeth gyda thenantiaid. Dywedodd Llais Tenantiaid Annibynnol Cenedlaethol Cymru fod pryderon ymysg tenantiaid bod rhai landlordiaid cymdeithasol yn ymateb drwy roi plastr dros y craciau, yn hytrach na thrwsio’r problemau sylfaenol. Dadleuodd sawl tyst, gan gynnwys yr Ombwdsmon a Shelter Cymru, fod angen gweithredu mwy rhagweithiol gan landlordiaid i nodi problemau diffyg atgyweirio, yn enwedig mewn achosion lle gallai tenantiaid fod yn amharod neu’n methu â rhoi gwybod am broblemau.
Rheolau newydd â’r nod o sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol yn ‘gweithredu’n brydlon’
Ym mis Rhagfyr 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n cyflwyno rheol newydd drwy SATC a fyddai’n gofyn i landlordiaid cymdeithasol ymchwilio i beryglon penodol a’u cyweirio o fewn amserlenni penodol.
Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai’r rheol newydd yn creu mwy o atebolrwydd a thryloywder, ac y bydd yn rhoi mwy o hyder i denantiaid y caiff eu problemau eu datrys mewn ffordd amserol.
Mae’r rheol newydd wedi’i chreu drwy atodiad i Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Mae’n ofynnol i bob cartref cymdeithasol fodloni a chynnal SATC.
Yn ôl y rheol, rhaid i landlordiaid cymdeithasol ymchwilio i beryglon penodol a’u cyweirio o fewn amserlenni penodol, gan amrywio yn ôl difrifoldeb y risg. Bydd yr amserlenni canlynol yn gymwys:
- Peryglon gyda thebygolrwydd a aseswyd o niwed uniongyrchol – ymchwilio iddynt o fewn 24 awr a’u cyweirio o fewn 24 awr arall.
- Peryglon heb unrhyw debygolrwydd a aseswyd o niwed uniongyrchol – ymchwilio iddynt o fewn 10 diwrnod gwaith, a’u cyweirio o fewn 5 diwrnod gwaith arall.
Mewn achosion lle nad yw'n bosibl cyweirio perygl o fewn yr amserlenni hyn, rhaid i landlordiaid cymdeithasol ddarparu cynllun cryno ysgrifenedig i'r tenant o fewn 5 diwrnod gwaith.
Mae'r rheol newydd yn berthnasol i bob perygl y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (yr HHSRS), ac eithrio gorlenwi, sy’n:
- cyflwyno risg sylweddol bosibl i'r tenant neu'r meddiannydd;
- deillio o ddiffygion neu gyflwr gwael cydrannau adeilad o fewn rheolaeth y landlord.
Bydd gofyn hefyd i landlordiaid cymdeithasol ystyried amgylchiadau’r tenantiaid, gan gynnwys unrhyw wendidau, wrth asesu’r risg a gyflwynir gan berygl y rhoddwyd gwybod amdano.
Croesawyd y newid gan dystion o bob rhan o'r sector. Fodd bynnag, roedd rhai pryderon ymysg landlordiaid cymdeithasol am yr amserlen gymharol fyr i weithredu’r rheol, ac am ddiffyg canllawiau ar rai agweddau ohoni. Dywedodd swyddogion Llywodraeth Cymru y byddent yn gweithio i gasglu adborth o’r sector er mwyn archwilio a fyddai angen newidiadau neu ganllawiau pellach.
Rhybuddiodd rhai tystion hefyd rhag canolbwyntio gormod ar dargedau, gan ddweud fod angen sicrhau bod y rheol yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol i denantiaid. Dadleuodd Shelter Cymru y byddai rôl sylweddol i reoleiddio rhagweithiol unwaith y bydd y gofynion newydd ar waith.
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad bod y rheol SATC newydd yn newid i’w groesawu, ond y byddai angen monitro’n ofalus sut mae’n cael ei gweithredu er mwyn asesu a yw’n cyflawni dros denantiaid. Mae’n debygol y bydd angen gwaith parhaus gan ddarparwyr tai cymdeithasol a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i sicrhau bod y rheol newydd yn gwella’r ffordd y caiff problemau diffyg atgyweirio eu datrys i denantiaid yn wirioneddol.
Erthygl gan Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru