Cyhoeddwyd 24/06/2016
  |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021
  |  
Amser darllen
munudau
24 Mehefin 2016
Erthygl gan Sian Thomas, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg
[caption id="attachment_4925" align="alignnone" width="288"]
Llun: o Pixabay. Dan drwydded Creative Commons.[/caption]
Ddydd Mercher nesaf (29 Mehefin 2016), bydd Aelodau'r Cynulliad yn
trafod cynnig y dylai Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd o gryfhau dulliau gweithio rhwng adrannau i wella canlyniadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
Daw'r ddadl hon yn dilyn galwad diweddar mewn adroddiad gan yr
Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai (PDF 308KB) ar gyfer ffurfio is-bwyllgor y cabinet i roi arweiniad cenedlaethol o ran diogelu plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal rhag cael eu troseddoli'n ddiangen. Roedd yr adroddiad hefyd yn galw am gydweithio da, rheoleiddio priodol a datblygu polisi ar draws Llywodraeth Cymru fel esiampl i wasanaethau llywodraeth leol. Roedd yn gwneud yr un galwadau ar Loegr.
Yn un o sesiynau cyntaf
y Cyfarfod Llawn yn y Pumed Cynulliad hwn, galwodd David Melding AC am 'arfer gorau rhagorol er mwyn gwneud cynnydd dros blant sy'n derbyn gofal' Ymatebodd y Prif Weinidog drwy ddweud:
[Rwyf] wedi cymryd diddordeb yn y mater hwn ers rhai blynyddoedd o ystyried y tanberfformiad y gwyddom amdano o ran plant sy’n derbyn gofal o fewn y system addysg. Yr anhawster yw, wrth gwrs, fod plant sy'n derbyn gofal angen sawl gwahanol fath o gefnogaeth, boed hynny drwy'r gwasanaethau cymdeithasol, trwy'r system addysg, neu trwy’r gwasanaethau iechyd. Mae plant sy'n derbyn gofal yn rhan o bortffolio Carl Sargeant. Gwnaed hynny yn fwriadol fel y gellir dilyn ymagwedd gyfannol er mwyn gwella canlyniadau ar eu cyfer. Gwyddom, yn anecdotaidd o leiaf, ei bod yn fwy tebygol i blentyn sy’n derbyn gofal fynd i’r carchar yn hytrach nag i brifysgol.
Mae dyletswydd eisoes ar awdurdodau lleol i ddiogelu a hyrwyddo lles plant sy'n derbyn gofal, rôl a elwir yn 'rhianta corfforaethol'. Mae'r ddadl ddydd Mercher yn debygol o ganolbwyntio ar y graddau y mae awdurdodau lleol wedi cyflawni'r rôl hon, ynghyd â beth arall y gall Llywodraeth newydd Cymru ei wneud i wella canlyniadau ar gyfer y grŵp hwn o blant.
Pa blant a faint ohonynt?
Term cyfreithiol yw 'derbyn gofal' a ddefnyddir i
ddisgrifio (PDF 1.16MB) unrhyw blentyn sydd yng ngofal yr awdurdod lleol neu sy'n cael llety gan adran gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol am gyfnod parhaus o fwy na 24 awr. Mae'n cynnwys plant y gwneir gorchymyn llys gorfodol mewn perthynas â hwy a phlant sy'n cael eu lletya'n wirfoddol. Yn fwy diweddar, defnyddir y term 'Plant sy'n Derbyn Gofal'.
Mae
ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod 5617 o blant yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar 31 Mawrth 2015, sef gostyngiad o 2.2% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Maent hefyd yn dangos cynnydd o 9% yn nifer y plant sy'n derbyn gofal dros y pum mlynedd diwethaf, ond bod hyn wedi aros yn gymharol sefydlog dros y tair blynedd diwethaf.
Siart 1: Nifer y plant yn derbyn gofal yng Nghymru, ym mis Mawrth 2015
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
Mabwysiadau, canlyniadau a lleoliadau ar gyfer plant sy'n derbyn gofal awdurdod lleol (Medi 2015)
Mae
Cyfrifiad Plant mewn Angen Cymru 2015 (PDF 1.16MB) yn dangos mai 'cam-drin neu esgeulustod' oedd y prif reswm pam mae plant yn derbyn gofal (66%); roedd y rhesymau sylfaenol eraill yn cynnwys 'salwch/anabledd neu absenoldeb rhiant' (7%) a 'straen neu broblemau teuluol aciwt' (7%).
Roedd bron 75% o'r plant sy'n derbyn gofal yn byw mewn lleoliadau gofal maeth. Cafodd 9% o'r plant sy'n derbyn gofal dri lleoliad neu fwy yn 2014-15, (512 o'r 5617 o blant yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2015). Cafodd 20% o'r plant ddau leoliad yn ystod y flwyddyn. Yn 2010, amlinellodd adroddiad Pwyllgor y Cynulliad ynghylch
'Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant mewn Gofal' (PDF 1.09MB) bryderon ynghylch yr amryw ffactorau sy'n dylanwadu ar lwyddiant a sefydlogrwydd lleoliadau o'r fath.
Nodweddion a chanlyniadau
Mae
Cyfrifiad Plant mewn Angen Cymru 2015 (PDF 1.16MB) yn cynnwys amrywiaeth eang o ddata am blant sy'n derbyn gofal. Er enghraifft, mae'n dangos:
- Bod mwy nag 8% o blant sy'n derbyn gofal wedi cael diagnosis o fod â 'phroblem iechyd meddwl', yn defnyddio Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed, neu ar restr aros am wasanaethau;
- Bod gan bron 6% o'r plant sy'n derbyn gofal 'broblemau camddefnyddio sylweddau' (a ddiffinnir yn fras fel 'meddwi drwy gyffuriau neu alcohol neu ddefnydd gormodol rheolaidd a/neu ddibyniaeth arnynt');
- Roedd gan bron 13% o'r plant sy'n derbyn gofal anabledd;
- Roedd adroddiad diweddar yr Ymddiriedolaeth Diwygio Carchardai (PDF 308KB) yn nodi, er nad oedd 94% o'r plant sy'n derbyn gofal wedi bod yn rhan o'r system cyfiawnder troseddol, bod y grŵp hwn o blant yn cael ei orgynrychioli'n sylweddol yn y system cyfiawnder troseddol ac yn y ddalfa.
Canlyniadau addysgol
Caiff pa mor dda y mae plant sy'n derbyn gofal yn ei wneud yn yr ysgol ac a ydynt yn symud ymlaen i hyfforddiant pellach neu gyflogaeth ei ystyried yn aml yn fesur pwysig o ba mor dda y mae'r grŵp hwn o blant wedi cael eu cefnogi gan eu rhiant corfforaethol. Mae eu cyrhaeddiad yn gyffredinol isel o'i gymharu â'r boblogaeth ysgol yn ei chyfanrwydd.
Mae
ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru (PDF 1.16MB) yn dangos bod bwlch mawr rhwng cyrhaeddiad plant sy'n derbyn gofal a chyrhaeddiad pob disgybl. Fel ym mis Mawrth 2015.
- Y bwlch yw 23 pwynt canran yn y Cyfnod Sylfaen;
- Y bwlch yw 24 pwynt canran yng Nghyfnod Allweddol 2;
- Y bwlch yw 36 pwynt canran yng Nghyfnod Allweddol 3;
- Roedd y bwlch mwyaf i'w weld yng Nghyfnod Allweddol 4, gyda gwahaniaeth o 40 pwynt canran, sy'n fwy na'r bwlch o 38 pwynt canran yn 2014.
- Dim ond 18 y cant o'r plant sy'n derbyn gofal a enillodd 5 TGAU A*-C, gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg a mathemateg.
Mae'r
ystadegau diweddaraf hefyd yn dangos nad oedd 45% o'r rhai sy'n gadael gofal yn 19 oed mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth yn 2015 (y ganran isaf yn y 9 mlynedd diwethaf). Mae
adroddiad gan Ymddiriedolaeth Buttle yn nodi mai dim ond 7% o'r rhai a oedd yn gadael gofal yn 19 oed yn 2011 oedd mewn addysg uwch, sef 24 o fyfyrwyr. Fodd bynnag, roedd adroddiad yr Ymddiriedolaeth hefyd yn nodi yr enillodd holl sefydliadau addysg uwch Cymru
Nod Ansawdd Ymddiriedolaeth Buttle ar gyfer Pobl sy'n Gadael Gofal, sy'n dangos eu bod yn darparu'r lefel ofynnol o gefnogaeth i bobl sy'n gadael gofal ac wedi dangos ymrwymiad i wella eu darpariaeth ymhellach.
Siart 2: Y bwlch yn y Cyfnod Sylfaen a'r Cyfnodau Allweddol rhwng deilliannau addysgol plant mewn angen, plant sy'n derbyn gofal, a phob disgybl ar 31 Mawrth 2015 (a) [Saesneg un unig]
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru
Cyfrifiad Plant Mewn Angen 2015
Ystod o strategaethau Llywodraeth Cymru
Cyhoeddwyd nifer o strategaethau a chanllawiau ers 1999 pan gafodd lles a diogelwch plant sy'n derbyn gofal le pendant ar yr agenda wleidyddol gan ganfyddiadau
Ymchwiliad Waterhouse.
- Ym 1999, lansiodd Jane Hutt, y Gweinidog ar y pryd, raglen dair blynedd, Plant yn Gyntaf, gyda'r bwriad o drawsnewid y gwaith o reoli a darparu gwasanaethau cymdeithasol i blant mewn angen, gan gynnwys y rhai sy'n derbyn gofal. Roedd disgwyl i bob awdurdod lleol gryfhau eu systemau a dangos gwelliant cyson mewn canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc.
- Yn 2007, aeth Llywodraeth Cymru ati i gyhoeddi canllawiau Tuag at Fywyd Sefydlog a Dyfodol Gwell, a hynny â'r nod o gryfhau iechyd, addysg, lles a'r broses o leoli plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.
- Nod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yw mynd i'r afael â'r ffyrdd y caiff gwasanaethau eu darparu a gwella cyfleoedd bywyd plant yn y system ofal. O ganlyniad i weithredu'r Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar hyn o bryd ar Ddull Cenedlaethol o Ymdrin â Phlant sy'n Derbyn Gofal (PDF 384KB) sy'n ceisio canolbwyntio ar hyrwyddo a gwella gweithio ar y cyd ar draws asiantaethau, nodi a rhannu arfer da a gwneud gwelliannau lle y mae eu hangen.
- Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth ar gyfer codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal, sef strategaeth ar y cyd rhwng y Gweinidogion perthnasol ar gyfer Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r strategaeth hon yn nodi mai cam-drin neu esgeulustod yw'r rhesymau mwyaf cyffredin dros roi plentyn mewn i ofal ac mae'n nodi:
Yn aml, mae bywyd plentyn sy’n derbyn gofal yn cynnwys trawma a straen yn ei fywyd cartref. Yn aml, mae newidiadau i leoliad maeth ac amser i ffwrdd o’r ysgol yn tarfu ar ei gontinwwm dysgu. Mae’n anochel bod y pethau hyn yn effeithio ar ei hunan-barch a’i hyder.
- Mae hefyd yn cyfeirio at y ffaith y gall y system ofal ei hun gyfrannu at ganlyniadau gwael, er enghraifft diffyg uchelgais y plant sydd i'w weld yn y system gofal cyhoeddus, lleoliadau ansefydlog a gadael gofal maeth yn rhy ifanc.
Mae mathau eraill o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys y
Grant Amddifadedd Disgyblion i blant sy'n derbyn gofal (PDF 49.9KB), ac mae'r consortia addysg rhanbarthol yn derbyn £1,150 am bob plentyn sy'n derbyn gofal yn 2016-17.
Hefyd, yn ddiweddar lansiodd Llywodraeth Cymru y
Cynllun Pan Fydda i'n Barod sy'n cefnogi pobl sy'n gadael gofal ac eisiau parhau i fyw gyda'u gofalwyr maeth ar ôl iddynt droi'n 18 oed.
Mae plant sy’n derbyn gofal mewn
mwy o berygl o ddioddef camfanteisio rhywiol. Mae’r
Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Fynd i’r Afael â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant (Cymru) a luniwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i Fyrddau Diogelu Plant ac asiantaethau partner ddatblygu arfer gorau o ran lleoli plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal, er enghraifft ystyried y posibilrwydd o risg uwch o gamfanteisio wrth eu lleoli y tu allan i’w hardal leol.
Darparu eiriolaeth
Ers i
Ymchwiliad Waterhouse ganfod nad oedd unrhyw un wedi credu na gwrando ar blant a ddioddefodd gam-drin rhywiol a chorfforol yn y Gogledd am ddegawdau, rhoddwyd y pwys mwyaf ar alluogi plant sy'n derbyn gofal i ddefnyddio eiriolwyr annibynnol. Argymhellir y dylai pob plentyn sy'n derbyn gofal allu defnyddio eiriolwr annibynnol. Soniodd y cyn-Gomisiynydd Plant am ei rwystredigaeth ynghylch yr ymateb araf cychwynnol i'w argymhellion am ddarparu eiriolaeth anibynnol yn ei adroddiad
Lleisiau Coll (PDF 285KB) yn 2012 a’r adroddiad dilynol yn 2013,
Lleisiau Coll, Cynnydd Coll (PDF 375KB). Nid oes cadarnhad wedi bod hyd yn hyn ynghylch a fydd awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithredu model cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth statudol i gyd-fynd â gofynion
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol yn Lloegr
Byddai'r
Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol sydd gerbron Senedd y DU ar hyn o bryd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol yn Lloegr i gyhoeddi gwybodaeth am y gwasanaethau y maent yn eu cynnig i bobl sy'n gadael gofal (mae David Cameron yn cyfeirio at hyn fel
cyfamod 'pobl sy'n gadael gofal'). Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, gwasanaethau yn ymwneud ag iechyd a llesiant; addysg a hyfforddiant; cyflogaeth a llety. Fodd bynnag, mae Children England, y corff ymbarél ar gyfer mudiadau plant,
wedi dweud bod y Bil yn colli cyfle. Mae'n dweud nad yw'n amlinellu gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant sy'n derbyn gofal, eu diben, eu hadnoddau na'u strwythur, nac ar gyfer y profiadau a'r canlyniadau y dylai'r gwasanaethau hynny eu rhoi i blant. Yn lle hynny, mae'n canolbwyntio ar dwtio deddfwriaeth flaenorol a gofyn i awdurdodau lleol gyfathrebu'n fwy, yn hytrach na darparu mwy.
I gael rhagor o wybodaeth