Dwy fenyw yn eistedd wrth fwrdd gyda phot o de, yn cael sgwrs drwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

Dwy fenyw yn eistedd wrth fwrdd gyda phot o de, yn cael sgwrs drwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain.

A fydd Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yn arwain at newidiadau ystyrlon ar gyfer cymunedau Byddar?

Cyhoeddwyd 15/12/2025

Ar 17 Rhagfyr, bydd y Senedd yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru).

Cafodd y Bil ei gyflwyno gan Mark Isherwood AS drwy’r broses ar gyfer Biliau Aelod. Yn dilyn hynny, mae wedi cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a phleidiau eraill yn y Senedd. Ei amcanion allweddol yw:

  • sicrhau bod llunwyr polisi a darparwyr gwasanaethau yn ystyried anghenion arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain (IAP) Byddar wrth gynllunio a darparu gwasanaethau;
  • cydnabod anghenion ieithyddol y gymuned IAP a'i hunaniaeth a’i threftadaeth ddiwylliannol; a
  • sicrhau cydraddoldeb deddfwriaethol â Senedd y DU, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Mae rhagor o wybodaeth am y ddeddfwriaeth arfaethedig ar Dudalen Adnoddau Ymchwil y Senedd ar gyfer y Bil.

Mae sefydliadau fel Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain a Chyngor Cymru i Bobl Fyddar wedi croesawu'r Bil. Fodd bynnag, awgrymodd nifer y byddai'n anodd sicrhau gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau arwyddwyr IAP Byddar o ganlyniad i’r gyfraith newydd heb ragor o gymorth o ran ei gweithredu. Fel y dywedodd un cyfranogwr mewn grŵp ffocws:

“Byddai'r Bil yn gwneud inni deimlo ein bod yn cael ein parchu a'n gwerthfawrogi.  Ond heb gyllid, cynllunio ac arweinyddiaeth briodol a hynny wedi ei arwain gan y gymuned Fyddar, ni fydd yn mynd yn ddigon pell”.

Mae'r erthygl hon yn archwilio’r themâu allweddol a ddaeth i'r amlwg yn ystod gwaith craffu'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar y Bil.

Mae crynodeb IAP o adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor ar gael    ar Blog y Senedd.

Manteision a risgiau Biliau “fframwaith”

Mae Mark Isherwood AS wedi disgrifio'r ddeddfwriaeth arfaethedig fel “Bil fframwaith”. Er bod y Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o IAP, nid yw'n nodi'r camau y bydd yn rhaid iddynt eu cymryd i gyflawni hyn.

Yn hytrach, mae’r Bil yn cyflwyno gofynion cynllunio ac adrodd ar gyfer Gweinidogion Cymru a rhai cyrff cyhoeddus (gan gynnwys awdurdodau lleol a byrddau iechyd). Mae’r gofynion hyn yn cynnwys cyhoeddi strategaeth IAP genedlaethol, a datblygu cynlluniau IAP ar gyfer pob corff cyhoeddus rhestredig.

Felly, bydd llawer o fanylion ymarferol ynghylch sut y disgwylir i sefydliadau gefnogi IAP yn cael eu nodi mewn strategaethau, cynlluniau a chanllawiau yn y dyfodol. Mae hyn, i raddau helaeth, yn adlewyrchu’r ddeddfwriaeth iaith arwyddion sydd ar waith yn yr Alban.

Dywedodd Mark Isherwood AS wrth y Pwyllgor y byddai'r dull arfaethedig yn rhoi disgresiwn a hyblygrwydd i Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus o ran sut y maent yn datblygu ac yn gweithredu cynlluniau. Dywedodd hefyd y byddai'n caniatáu iddynt weithio ochr yn ochr â chymunedau Byddar wrth benderfynu ar y meysydd blaenoriaeth i gymryd camau gweithredu yn eu cylch.

Er y cafodd y Bil ei groesawu gan ymgyrchwyr, dywedodd rhai fod risg na fyddai'n arwain at newidiadau pendant. Roedd Cymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru yn pryderu y byddai’r dyletswyddau'n dod yn rhai ‘perfformiadol’ eu natur. Dywedodd Dr Rob Wilks, arbenigwr mewn cyfraith cydraddoldeb a gwrth-wahaniaethu, fod risg y byddai’r strategaethau a’r cynlluniau yn dod yn ymarferion disgrifiadol yn hytrach na sbardunau ar gyfer newid systemig.

Derbyniodd y Pwyllgor y rhesymeg dros ddefnyddio’r dull fframwaith. Fodd bynnag, nododd y pryderon a godwyd gan randdeiliaid, a daeth i'r casgliad ei bod yn hanfodol sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn arwain at newidiadau gwirioneddol a phendant i arwyddwyr IAP Byddar.

Sicrhau bod lleisiau arwyddwyr IAP Byddar wrth galon y Bil

Roedd Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain yn dadlau bod angen sicrhau bod strategaethau a chynlluniau'r dyfodol wedi’u seilio ar brofiadau a dyheadau arwyddwyr IAP Byddar. Dywedodd:

We do not believe that it is appropriate, possible or efficient for non-signers to lead on determining the path of our future lives. Instead, we wish to see genuinely deaf-led solutions.

Dywedodd Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, wrth y Pwyllgor fod pwyslais wedi cael ei roi ar gyd-gynhyrchu, ymgysylltu â rhanddeiliaid, a phrofiad byw drwy gydol y broses o drafod y Bil. Tynnodd sylw at waith Llywodraeth Cymru o ran sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid Iaith Arwyddion Prydain, gan nodi bod gwersi eisoes wedi'u dysgu drwy'r broses honno.

Tynnodd Mark Isherwood AS sylw at y darpariaethau yn y Bil a fyddai’n gosod gofyniad ar Lywodraeth Cymru i benodi Cynghorydd IAP, gan ddatgan y dylai hyn sicrhau bod lleisiau pobl fyddar yn cael eu clywed  yn ganolog gan y Llywodraeth a chan y cyrff cyhoeddus hynny. Mae'r rôl wedi’i modelu ar rôl y Cynghorydd Cenedlaethol ar Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, ac mae'r Bil yn cynnwys gofyniad bod y person sy’n cael ei benodi yn gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn IAP. Dywedodd nifer o randdeiliaid wrth y Pwyllgor y dylai'r Cynghorydd IAP hefyd fod yn rhywun sydd â chysylltiadau cryf â diwylliant a chymunedau Byddar, gan ychwanegu y dylai’r cynghorydd, yn ddelfrydol, fod yn berson byddar ei hun.

Nododd y Pwyllgor fod disgwyliad y byddai’r cynlluniau a’r canllawiau yn cael eu cyd-gynhyrchu gyda'r gymuned Fyddar. Fodd bynnag, dywedodd nad yw'r Bil, fel y'i drafftiwyd, yn sicrhau y bydd hyn yn digwydd. Argymhellodd y Pwyllgor y camau a ganlyn:

  • gosod gofyniad ar Weinidogion Cymru i ymgynghori ag arwyddwyr IAP Byddar wrth ddatblygu'r strategaeth a'r canllawiau IAP cenedlaethol; a
  • rhoi ystyriaeth bellach i sut y gellid adlewyrchu anghenion y gymuned Fyddar yn y broses o benodi’r Cynghorydd IAP.

Pryderon ynghylch cyllid a chapasiti’r gweithlu

Roedd gan gyrff cyhoeddus bryderon sylweddol hefyd ynghylch goblygiadau ariannol y broses o weithredu cynlluniau IAP ar lefel leol. Nid yw’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer y Bil yn cynnwys unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â’r mesurau y gallai cyrff cyhoeddus rhestredig fod am eu cymryd fel rhan o'u cynlluniau IAP, gan y bydd y costau hynny’n cael eu pennu yn ddiweddarach.

Awgrymodd academyddion o Brifysgol Caeredin y dylid dysgu gwersi o’r Ddeddf IAP sydd ar waith yn yr Alban, gan nodi bod diffyg cyllid pwrpasol ar gyfer y broses weithredu wedi cymell cyrff cyhoeddus i ddatblygu cynlluniau rhagofalus tu hwnt. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei bod yn hanfodol sicrhau bod cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu ar gyfer cefnogi’r cynlluniau IAP, a hynny er mwyn eu hatal rhag dod yn ymarfer ‘ticio blychau’.

Un her allweddol a godwyd yn ystod y gwaith craffu yw’r prinder dehonglwyr a chyfieithwyr IAP yng Nghymru. Yn ôl y Cofrestrau Cenedlaethol o Weithwyr Proffesiynol Cyfathrebu sy'n gweithio gyda Phobl Fyddar a Phobl Fyddar a Dall, yn absenoldeb camau gweithredu a chyllid i ehangu’r gweithlu proffesiynol, mae risg wirioneddol y bydd y dyletswyddau statudol yn anodd neu’n amhosibl i’w cyflawni yn ymarferol. Dywedodd sawl corff cyhoeddus wrth y Pwyllgor y byddai rhoi pwysau ychwanegol ar wasanaethau proffesiynol ym maes IAP, sydd eisoes o dan bwysau, yn gallu arwain at oedi, gwasanaethau o ansawdd is, a chostau uwch.

Nododd y Pwyllgor mai’r prinder hwn yw’r bygythiad unigol mwyaf i’r broses o weithredu’r Bil hwn yn effeithiol. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu ei hymdrechion i ehangu'r gweithlu ym maes dehongli a chyfieithu IAP, gan gynnwys gosod targedau clir ac uchelgeisiol.

Beth nesaf?

Bydd y Senedd yn pleidleisio ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar 17 Rhagfyr. Os yw’r Aelodau’n cytuno ar yr egwyddorion hyn, bydd y Bil yn symud ymlaen at Gyfnod 2, lle bydd yn destun gwelliannau, o bosibl.

Gallwch wylio'r ddadl yn fyw ar Senedd.tv neu ddarllen y trawsgrifiad yn fuan wedyn.

Erthygl gan Gwennan Hardy, Ymchwil y Senedd, Senedd Cymru